Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679326
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriad am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr Annwen
Hughes, Elfed Powell Roberts a Rhys Tudur. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol yn eitem 7
ar y rhaglen gan y Cynghorydd Dafydd Meurig oherwydd ei fod yn Gadeirydd
Partneriaeth Ogwen. Nid oedd o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu,
ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw faterion o frys ym marn y Cadeirydd fel y
gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y
cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 06 Gorffennaf, 2022 fel
rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10
Mawrth 2022 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS GWYNEDD AC YNYS MÔN PDF 202 KB Adolygu Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd
ac Ynys Môn a diweddariad ar waith yr is-grwpiau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn
yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth. COFNODION: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Arweinydd y Cyngor a Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwynedd ac Ynys Môn a tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol: -
Esboniwyd
fod y Bwrdd wedi ei sefydlu o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
(Cymru) 2015 a bod y bwrdd yn gorff statudol ar y cyd gydag Ynys Môn. -
Eglurwyd
fod y gwasanaethau Iechyd a thân, colegau, Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc
Cenedlaethol Eryri a chymdeithasau tai yn cael eu cynrychioli ar y bwrdd. Maent
yn adnabod meysydd pwysig a nodi mannau ble gall cydweithio mewn partneriaeth
gael mwy o effaith ar drigolion. -
Adroddwyd
bod Asesiadau Llesiant yn cael eu cwblhau pob 5 mlynedd dros 13 ardal wahanol.
Nodwyd bod Gwynedd wedi ei rannu yn 8 ardal ac Ynys Môn wedi ei rannu i 5
ardal. Eglurwyd bod y rhaniad yma wedi cael ei greu fel bod y materion pwysicaf
ym mhob ardal yn cael eu cyfarch, gan fod y materion hynny yn amrywio o ardal i
ardal. -
Cadarnhawyd fod Cynllun Llesiant yn cael ei baratoi ar gyfer y cyfnod
2023-2028 yn dilyn yr Asesiadau Llesiant presennol. -
Cyfeiriwyd at dri is-grŵp gweithredol sy’n delio â rhai o agweddau
gweithredu’r Bwrdd a nodwyd eu prif blaenoriaethau: -
Is-grŵp Newid Hinsawdd: yn canolbwyntio ar ddatblygu dulliau atal
llifogydd. -
Is-grŵp yr Iaith Gymraeg: yn canolbwyntio ar wella a hwyluso’r
defnydd o’r iaith Gymraeg. Cynhaliwyd cynllun peilot er mwyn cydweithio â
sefydliadau cyhoeddus i weld pam bod pobl ddim yn defnyddio’r Gymraeg mewn
derbynfeydd a sut gynyddu defnydd o’r iaith. -
Is-grŵp Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig: yn llywodraethu
sefydlu trefn cydweithio yn y sector,
gan gynnwys y Timau Adnoddau Cymunedol. -
Sicrhawyd
y byddai drafft o’r Cynllun Llesiant (2023-2028) yn cael ei gyflwyno i’r
pwyllgor. Diolchwyd
am yr adroddiad. Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y
materion canlynol: Byddai mewnbwn y
pwyllgor hwn yn ddefnyddiol i’r Bwrdd wrth lunio’r Cynllun Llesiant. -
Mewn
ymateb i’r ymholiad, esboniodd Arweinydd y Cyngor bod adroddiad yn mynd i’r
Cabinet yn fuan ar sut roedd y Bwrdd yn mynd ati i gasglu gwybodaeth.
Ymhelaethodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn
bod drafft y Cynllun Llesiant (2023-2028) ar ei ffordd i’r pwyllgor craffu hwn
mor fuan â phosibl. Holwyd os oedd
modd gweld cynllun gweithredu’r is-grŵp newid hinsawdd yn ogystal â derbyn
cadarnhad o aelodaeth yr is-grŵp er mwyn edrych ar ei effeithiolrwydd a
chynllun amser. - Mewn ymateb i’r ymholiad, eglurodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn, bod yr is-grŵp yn cael ei arwain gan Gyfoeth Naturiol Cymru a sicrhawyd yr aelodau fod holl aelodau’r is-grŵp yn cymryd perchnogaeth ohono. Cydnabuwyd bod amcanion yr is-grŵp wedi bod yn rhy eang yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf ac o’r herwydd nid oedd wedi bod mor llwyddiannus a obeithiwyd. Er hyn, ymhelaethodd Arweinydd y Cyngor bod atal llifogydd yn brif ffocws yn ddiweddar ac yn ... view the full COFNODION text for item 5. |
|
BINIAU HALEN - DIWEDDARIAD GWASANAETH CYNNAL GAEAF PDF 136 KB I ddiweddaru’r Pwyllgor ar reolaeth biniau halen fel rhan
o’r Gwasanaeth Cynnal Gaeaf. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd
yn ystod y drafodaeth. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod
Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth
Gwynedd a Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Tynnwyd sylw yn fras at y
prif bwyntiau canlynol: - Eglurodd yr Aelod Cabinet
fod y Cyngor wedi cysylltu â chynghorau tref a chymuned yn y gorffennol er mwyn
eu hysbysu na fydd biniau halen yn cael eu llenwi gan y Cyngor mwyach, ac mai
eu cyfrifoldeb hwy byddai eu ariannu. Yn anffodus, doedd cynghorau tref a
chymuned ddim yn gallu ymdopi â’r costau gan achosi i’r Cyngor dderbyn nifer o
alwadau ar ffyrdd peryglus. Oherwydd hyn, roedd yr adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol wedi ail ymweld a’r sefyllfa. - Datganwyd fod tua 600 o finiau halen
wedi eu lleoli ar draws y Sir a bod y Gwasanaeth yn y broses o’u hail llenwi.
Byddai’r adran yn eu monitro yn rheolaidd dros y gaeaf er mwyn eu llenwi pan fu
angen. - Esboniwyd bod lleoliadau’r
biniau halen yn ogystal a’r ffyrdd sy’n cael eu graeanu gan y Cyngor yn mynd i
ymddangos ar Fap Gwynedd er mwyn i drigolion ac Aelodau eu gweld. - Nododd Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol
bod gwaith yn cael ei wneud i rifo’r biniau halen. Byddai rhif unigryw'r bin
halen yn ei gwneud yn haws i aelodau a chynghorau tref a chymuned adrodd gan
gynorthwyo’r gweithwyr i ddatrys unrhyw broblem yn gynt. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol: Canmolwyd yr adran
am dderbyn fod trafferthion wedi codi yn y gorffennol ynglŷn â biniau
halen, a clodforwyd y syniad o rifo’r biniau a nodi eu lleoliad ar Map Gwynedd. Holwyd lle’r oedd
y cyllid i ail gyflwyno’r gwasanaeth hwn yn deillio. - Mewn ymateb i’r ymholiad, nododdy Pennaeth Adran bod y cyllid wedi cronni ers i gynghorau tref a chymuned gymryd
drosodd y gwasanaeth. Roedd y gost o ail-gyflwyno’r gwasanaeth yn gymharol
debyg ac felly nid oedd angen chwilio am gyllid o unman arall. Gofynnwyd os oedd lleoliad y biniau
halen ar Fap Gwynedd yn barod ac os oedd gan y cyhoedd mynediad at y cyfleuster
hwn. - Mewn ymateb i’r ymholiad,
cadarnhaodd y Pennaeth Adran nad oedd y biniau halen i’w gweld ar Fap Gwynedd
ar hyn o bryd ond roedd y broses o’u ychwanegu wedi cychwyn. Unwaith byddai’r
broses yma wedi ei gwblhau, gall drigolion Gwynedd eu gweld drwy wefan y
Cyngor. Hysbysir aelodau’r Cyngor yn dilyn cwblhau’r gwaith er eu galluogi i
rannu’r wybodaeth gyda trigolion eu ward. Datganwyd pryder
bod y Gwasanaeth Cynnal Gaeaf yn cychwyn o 01.10.2022 ymlaen gan nad oedd yn
rhoi digon o amser i edrych ar gyflwr y biniau halen a’u disodli pe bai angen. - Mewn ymateb i’r datganiad hwn, nododd y Pennaeth bod yr adran yn gweithio yn agos gyda’r Peiriannydd Ardal ac yn hyderus y byddai’r biniau halen mewn cyflwr da erbyn pryd y bydd eu hangen. Cadarnhawyd er bod y y gwasanaeth yn cychwyn o 01.10.2022, nad oedd y gwasanaeth graeanu yn cychwyn nes ... view the full COFNODION text for item 6. |
|
DIWEDDARIAD - DATBLYGIADAU YN Y MAES CLUDIANT CYHOEDDUS PDF 191 KB I ddiweddaru’r Pwyllgor am y gwaith wrth law i’r Pwyllgor eu
hystyried. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn
yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Amgylchedd, Pennaeth Adran Amgylchedd a
Rheolwr Cludiant Integredig a Diogelwch Ffyrdd. Tynnwyd sylw yn fras at
y prif bwyntiau canlynol: - Esboniodd yr Aelod Cabinet
Amgylchedd fod pwerau i lywodraethu cludiant cyhoeddus wedi symud o afael
cwmnïau preifat i’r Llywodraeth ers 2017. - Datganwyd fod yr adran wedi bod yn
llwyddiannus iawn yn y misoedd diwethaf i ddiwygio amserlen y gwasanaeth SHERPA
yn ardal Llanberis. Roedd yr incwm a
gynilwyd dros yr haf yn cael ei sybsideiddio ar gyfer
gweddill y flwyddyn. Golyga hyn fod yr arian yn cael ei wario i gynorthwyo
trigolion yr ardal yn ogystal ag ymwelwyr tymhorol. - Gwahoddwyd ceisiadau am
unrhyw adroddiad manwl am unrhyw agwedd o waith yr adran. - Adroddodd Pennaeth Adran Amgylchedd bod
cludiant ysgolion ar gyfer yr adran addysg yn flaenoriaeth fawr. Nid oedd y
Cyngor eisiau bod yn ddibynnol ar gwmnïau mawr i weithredu gwasanaethau o’r
fath. - Eglurwyd er mwyn sicrhau
fod y gwasanaeth oraf yn cael ei ddarparu i bobl Gwynedd, bod yr adran yn
cydweithio gyda’r Llywodraeth. Nodwyd bod swyddogaethau’r Cyd-Bwyllgor
Corfforedig yn rhoi gofyniad statudol ar y Cyd-Bwyllgor i gynhyrchu Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol erbyn Gorffennaf 2023 a datblygu cynlluniau newydd pob
5 mlynedd wedi hynny. - Esboniwyd fod cyd-weithio gyda TrawsCymru yn effeithiol iawn gan alluogi gweithredu
gwasanaeth a oedd yn ymweld â sawl ardal wledig er mwyn cyrraedd anghenion
trigolion lleol. - Cydnabuwyd fod y gwasanaeth
cludiant wedi gorwario £300,000.00 eleni a nodwyd fod yr adran yn ymwybodol
iawn o’r angen i sicrhau fod costau’r gyllideb yn cael ei lynu ato yn y
dyfodol. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol: Holwyd os oedd
cynlluniau i ail-gyflwyno gwasanaeth bws 10yh fel roedd yr angen yn codi mewn
ardaloedd gwledig, gan fod pris y gwasanaeth yn rhatach i ddefnyddwyr na
dulliau eraill o deithio megis archebu tacsi. - Mewn ymateb i’r ymholiad hwn, nododd
Pennaeth Adran Amgylchedd bod diffyg gyrwyr yn her fawr i’w oresgyn. Os byddai
sefyllfa niferoedd gyrwyr yn gwella yn y dyfodol, gobeithir y byddai mwy o’r
gwasanaethau hwyr yma yn gallu rhedeg unwaith eto gan fod gwerth cymdeithasol
i’r teithiau Eglurodd oherwydd y sefyllfa bresennol roedd rhaid i gwmnïau
flaenoriaethu adnoddau. Cwestiynwyd os
oedd cydweithio yn digwydd rhwng adrannau’r Cyngor er mwyn hyrwyddo’r swyddi
hyn sydd ar gael gan y cwmnïau bysiau. - Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd y
Rheolwr Cludiant Integredig a Diogelwch Ffyrdd bod hyn yn digwydd. Yn ogystal,
roedd gan Lywodraeth Cymru syniadau ar sut i ddenu mwy o yrwyr bysiau. Er hyn ,
yn anffodus, roedd llawer o weithwyr hŷn wedi ymddeol ers y cyfnodau clo
ac yn anodd sbarduno diddordeb ym mhobl ifanc i fod yn yrwyr bysiau. Cydnabuwyd fod TrawsCymru yn ymweld a mwy o ardaloedd gwledig nad oedd yn derbyn gwasanaethau bysiau yn rheolaidd yn y gorffennol, ond bod rhai ardaloedd yn parhau i golli allan o’r llwybr teithio presennol. Holwyd os oes modd newid y llwybrau ... view the full COFNODION text for item 7. |
|
BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2022/23 PDF 230 KB Cyflwyno rhaglen waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2022/23
i’w mabwysiadu. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadu’r
rhaglen waith ar gyfer 2022/23. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu
a thynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol: - Cadarnhawyd yr eitemau a
flaenoriaethwyd ar gyfer pwyllgorau’r flwyddyn yn y gweithdy blynyddol ar
06.07.2022 a nodwyd bod dwy eitem ar ôl i’w amserlennu ar gyfer y flwyddyn, sef
‘Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur’ a ‘Chynllun Gwella Hawliau Tramwy’. - Eglurwyd bod adroddiad Cynllun Gwella
Hawliau Tramwy wedi ei amserlennu i’w drafod yn y Cabinet ar 22.11.2022 ac
felly byddai’n amserol i drafod y mater hwn yng nghyfarfod 27.10.2022 o’r
pwyllgor hwn. Cadarnhawyd y byddai angen cadarnhau hyn gyda’r adran berthnasol
er mwyn sicrhau ei fod yn bosibl iddynt gynhyrchu adroddiad cynhwysfawr o fewn
y cyfyngiadau amser hyn. Mewn ymateb i ymholiad yng nghyswllt
amserlennu’r eitem ‘Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur’. Nodwyd y ceir
trafodaeth yng nghyfarfod anffurfiol y pwyllgor, ble byddai adborth yn cael ei
rannu o gyfarfod y Bwrdd Hinsawdd a Natur. PENDERFYNWYD Mabwysiadu’r rhaglen waith
ar gyfer 2022/23. |