Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679256
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriad am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan y Cynghorwyr Kim Jones, Robert Glyn Daniels, Stephen
Churchman, Beca Roberts a Rob Triggs. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL. I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw faterion o frys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim
i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27.10.2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2022,
fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD BLYNYDDOLGAN Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL (GWYNEDD A MÔN). PDF 515 KB I roi trosolwg i Aelodau o
weithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) Gwynedd a Môn, Ionawr 2023
am y cyfnod 2020-21, a'r datblygiadau ar gyfer 2022-23. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Oedolion, Iechyd a Llesiant, Uwch Reolwr Diogelu, Sicrwydd Ansawdd a Iechyd
Meddwl ac Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a
Môn. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol: -
Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn manylu ar y cyfnod
2021-22. -
Eglurwyd bod y
bartneriaeth wedi cael ei sefydlu ar ddyletswydd statudol Awdurdodau Lleol i
weithio mewn partneriaeth gyda’r heddlu, Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth Prawf
a'r Gwasanaeth Tan ac Achub yn unol â Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 a Deddfau
Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2002 a 2006. -
Esboniwyd bod y bartneriaeth yn edrych ar drosedd
ac anrhefn, camddefnyddio sylweddau a lleihau aildroseddu. -
Adroddwyd mai
blaenoriaethau’r bartneriaeth ar gyfer y flwyddyn 2023-24 oedd atal troseddau
ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, mynd i’r afael â throseddau treisgar a
chyfundrefnau difrifol a hefyd i ddiogelu ac adeiladu cymunedau gwydn a chynnal
diogelwch y cyhoedd. -
Datganwyd bod y
bartneriaeth wedi wynebu heriau dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn benodol, y
bartneriaeth wedi colli ei holl grantiau gan eu bod wedi dod i ben neu wedi
symud i lefel rhanbarthol (Gogledd Cymru gyfan). Yn ogystal, golygai
datblygiadau technolegol bod mathau newydd o droseddau bellach wedi cyrraedd
ardal Gwynedd a Môn. Er bod y siroedd hyn yn rhai o’r llefydd mwyaf diogel i
fyw, roedd achosion o Gangiau Trosedd Cyfundrefnol (Organized
Crime Groups) a
llinellau cyffuriau (county lines) yn yr ardal gyda’r bartneriaeth yn ymwybodol
ohonynt. -
Manylwyd bod siopladradau wedi cynyddu 53.8% yng
Ngwynedd o’i gymharu â 2021/22. Credid bod hyn yn deillio o’r cynnydd
cyffredinol mewn costau byw a disgwylid i’r math yma o droseddu gynyddu yn y
misoedd i ddod. -
Darparwyd crynodeb o
waith y bartneriaeth dros y flwyddyn ddiwethaf: o Cynhaliwyd sesiynau hyfforddiant gan Uned Troseddau Economaidd yr Heddlu
ar gyfer staff Awdurdodau Lleol sy’n gweithio
gyda phobl fregus i dynnu sylw at sgamiau â defnyddwyr gan dwyllwyr o Cwblhawyd prosiect Strydoedd Mwy Diogel 2 ym Mangor gan osod 42 o
gamerâu cylch cyfyng ychwanegol a mwy o oleuadau yn ardal Hirael/Deiniol o’r
ddinas. o Cyflwynwyd Grŵp SOC
(Troseddau Cyfundrefnol Difrifol) ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn. o Mynychwyd y grŵp
rhanbarthol yn rheolaidd i ddatblygu Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol yn y
ddau Gyngor. o Sefydlwyd grŵp VAWG (Trais yn erbyn Menywod a Merched) ym mis
Mawrth. Roedd y bartneriaeth yn mynychu cyfarfodydd yn gyson er mwyn rhoi
mewnbwn i’r gwaith o feithrin hyder rhwng menywod a’r heddlu. o Datblygwyd Grŵp Cyflawni Atal Rhanbarthol. o Derbyniodd Cyngor Gwynedd Achrediad Rhuban Gwyn yn dilyn gwaith yr Adran
Cefnogaeth Gorfforaethol. o Ymgynghorwyd gyda’r
heddlu i archwilio’r posibilrwydd o ymestyn darpariaeth bresennol y Cynllun
Mannau Diogel. - Cadarnhawyd bod y prosiectau hyn oll yn parhau i redeg dros y flwyddyn nesaf a’r bartneriaeth am barhau i gefnogi holl gyfarfodydd a phrosiectau rhanbarthol. Roedd y bartneriaeth yn ymwybodol o argyfwng costau byw sy’n effeithio trigolion Gwynedd a Môn ac edrych i weld sut gall y bartneriaeth leihau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CRAFFU Y CYNLLUN LLESIANT DRAFFT PDF 267 KB Rhoi cyfle i aelodau’r Pwyllgor graffu cynnwys y Cynllun Llesiant Drafft Gwynedd a Môn a chyflwyno unrhyw sylwadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (i)
Derbyn yr
adroddiad. (iii) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r amcan llesiant ‘Rydym am weithio
gyda’n gilydd i liniaru effaith tlodi ar lesiant ein cymunedau’ gan ei fod yn
holl bwysig. (iv) Bod angen sicrhau bod ein plant a phobl ifanc yn cael bob
tegwch. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Arweinydd y Cyngor a Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwynedd ac Ynys Môn. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol: -
Esboniwyd byddai’r
Cynllun Llesiant yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai, gyda’r ymgynghoriad yn cael ei
gynnal nes 6 Mawrth 2023. -
Ymhelaethwyd bod y
gwaith i wneud y Cynllun Llesiant drafft wedi cael ei ddatblygu dros yr 18 mis
diwethaf. Cynhaliwyd gweithdai dros yr haf gydag aelodau’r bwrdd er mwyn dysgu
gwersi o’r cynllun llesiant blaenorol a gosod meini prawf er mwyn cytuno ar
amcanion newydd. Nodwyd bod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn yn
awyddus i sicrhau eu bod yn ychwanegu gwerth drwy weithio gyda'i gilydd heb
ddyblygu gwaith byddai’n cael ei gyflawni beth bynnag. -
Cadarnhawyd bod y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus wedi llunio tri Amcan Llesiant ar gyfer y cyfnod
2023-2028. Roedd y rhain yn feysydd lle’r oedd y Bwrdd yn credu fod modd i’w
aelodau gydweithio’n well er mwyn sicrhau canlyniad gorau posib i bobl Gwynedd
a Môn. Yr amcanion drafft oedd: o Rydym am weithio gyda'n gilydd i liniaru effaith tlodi ar lesiant ein
cymunedau. o Rydym am weithio gyda'n gilydd i flaenoriaethu lles a llwyddiant ein
plant a phobl ifanc. o Rydym am weithio gyda'n gilydd i gefnogi ein cymunedau i symud tuag at
Sero Net Carbon. -
Pwysleisiwyd bod yr
Iaith Gymraeg yn llinyn euraidd a fyddai’n cael ei hyrwyddo ym mhob maes yng
nghynllun y Bwrdd. -
Eglurwyd bod y Bwrdd yn
parhau i ymgynghori drwy rannu’r Cynllun Llesiant Drafft gyda chynghorau tref a
chymuned, y trydydd sector, fforymau pobl hŷn, plant mewn gofal a myfyrwyr
colegau a chweched dosbarth. -
Cadarnhawyd byddai’r
Bwrdd yn addasu’r cynllun llesiant ddrafft yn dilyn y cyfnod ymgynghori pe
byddai angen cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn a’i gyhoeddi ym mis Mai. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Atgoffwyd
yr aelodau bod y Pwyllgor yn ymgynghorai statudol. Yn ystod y drafodaeth,
codwyd y materion canlynol: Rhannwyd pryder am warchodaeth yr iaith
Gymraeg yn y Cynllun, yn enwedig yn dilyn canlyniadau’r Cyfrifiad diweddar.
Nodwyd er bod yr adroddiad yn nodi fod yr iaith yn llinyn euraidd, nid oedd
wedi ei gynnwys fel amcan penodol yn y Cynllun newydd. Holwyd os byddai’r Bwrdd
yn ystyried newid un o’r amcanion i gynnwys yr iaith Gymraeg neu ychwanegu
amcan ychwanegol. Mewn ymateb i’r sylwadau uchod: -
sicrhaodd y Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwynedd ac Ynys Môn bod yr
iaith wedi ei wreiddio yn holl waith y Bwrdd. Nid oedd yr iaith wedi ei nodi
fel amcan oherwydd bod holl aelodau’r Bwrdd yn gweithredu’n Gymraeg yn barod ac
felly ddim yn darged newydd. Nodwyd y byddai’r Bwrdd yn ystyried diwygio’r
cynllun er mwyn amlygu statws y Gymraeg o fewn y Cynllun. -
nododd Arweinydd y Cyngor
bod yr is-grŵp iaith hefyd yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod yr iaith
Gymraeg yn cael ei ddefnyddio gan holl aelodau’r Bwrdd. Ystyriwyd sut fyddai’r amcanion yn cael eu hariannu a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
TORRI GWAIR A CHYNNAL TIROEDD. PDF 243 KB I adolygu
trefniadau cynnal ymylon ffordd Sirol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (i)
Derbyn yr adroddiad,
gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth. (ii)
Gofyn i’r Adran
gyflwyno canlyniadau’r treialon a’r polisi torri gwair newydd i’r Pwyllgor pan
yn amserol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth
Gwynedd a Phennaeth Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol: -
Eglurwyd bod yr adroddiad
yn ddiweddariad ar drefniant torri gwair arfaethedig a gyflwynwyd i’r Pwyllgor
ym mis Ionawr 2022. -
Adroddwyd bod treialon
torri a chasglu gwair yn y broses o gael eu cynnal er mwyn hybu anghenion bywyd
gwyllt a bioamrywiaeth. Ymhelaethwyd bod y gwaith o hadu’r ardaloedd yn y
treialon wedi ei gwblhau ym mis Hydref a byddai modd gweld os byddent wedi bod
yn llwyddiannus neu beidio o fis Ebrill 2023 ymlaen. -
Datganwyd bod y treialon
wedi eu hariannu drwy dderbyn grantiau. Roedd y Cyngor wedi llwyddo i brynu
peiriannau torri a chasglu gwair gyda’r arian yma a gellir eu defnyddio yn y
dyfodol. -
Cadarnhawyd byddai’r
treialon yn cael eu hyrwyddo o fewn stondin y Cyngor yn Eisteddfod Genedlaethol
Llŷn ac Eifionydd 2023 ym Moduan. Rhannwyd bod
ymwelwyr yr eisteddfod yn debygol o basio ardaloedd y treialon a gobeithid
byddai’r blodau gwyllt wedi tyfu erbyn hynny er mwyn iddynt sylweddoli ar y
gwahaniaeth. Gobeithir rhannu neges bositif a chadarnhaol am y treialon i’r
cyhoedd a bod y system newydd am arbed arian. -
Pwysleisiwyd fod iechyd
a diogelwch yn ystyriaeth bwysig iawn o fewn y treialon a ni fyddai ystyriaeth
i ychwanegu unrhyw ardal i’r treialon os byddai’n amharu’n negyddol ar iechyd a
diogelwch. -
Diolchwyd i’r Adran Amgylchedd
am gydweithio mor agos gyda’r Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol ar y treialon
hyn. -
Mynegwyd bod cytundeb
newydd gyda’r gwasanaeth torri gwair yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ar
gyfer y tymor tyfu nesaf. Cadarnhawyd fod modd i’w ddiwygio yn dilyn canlyniad
y treialon pan fyddai’r polisi newydd wedi cael ei ddatblygu. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol: Gofynnwyd a oedd problemau yn debygol o godi
yn deillio o’r ffaith ni fyddai’r polisi
yn barod cyn i’r cytundeb fod yn ei le. -
Mewn ymateb i’r ymholiad,
nododd Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol na fyddai hyn yn broblem gan
fod darpariaeth yn cael ei rhoi o fewn y cytundebau er mwyn caniatáu newidiadau
o’r fath. Nodwyd bod y Pwyllgor wedi ystyried adroddiad
ar y mater yma yng nghyfarfod 13 Ionawr 2022. Holwyd am yr amserlen o ran
mabwysiadu polisi newydd. Mewn ymateb i’r
ymholiad, nododd Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol nad oedd y polisi
wedi ei ddatblygu hyd yma oherwydd y tymhorau llawn oedd eu hangen ar gyfer y
treialon. Eglurodd bod paratoadau ar gyfer y treialon wedi cael eu gwneud ar
ddiwedd y cyfnod tyfu diwethaf. Cadarnhaodd ei fod yn bwysig i’r adran asesu
sut roedd y treialon yn mynd yn eu blaen cyn creu polisi. Nododd o ganlyniad
byddai modd datblygu’r polisi erbyn Medi/Hydref 2023. Yn dilyn yr ymateb, ystyriwyd gwahodd yr Adran
yn ôl i gyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Cymunedau tua mis Rhagfyr 2023. Holwyd os byddai trafferthion i’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
AMLINELLIAD O RAGLEN WAITH ADOLYGU GWASANAETHAU GWASTRAFF AC AILGYLCHU PDF 305 KB 1. I
amlinellu’r materion sydd angen sylw yn y meysydd Gwastraff ac Ailgylchu. 2. I
gyflwyno rhaglen waith i adolygu materion sydd angen sylw ym meysydd Gwastraff
ac Ailgylchu. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd
yn ystod y drafodaeth. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Amgylchedd, Pennaeth Adran Amgylchedd a Phennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd.
Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol: -
Cadarnhawyd bod y
gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu wedi ei drosglwyddo i’r Adran
Amgylchedd ers Hydref 2022. Roedd y Pennaeth Adran wedi bod yn dysgu mwy am y
gwasanaeth ac yn ymgyfarwyddo gyda’r gwaith drwy fynd ar gylchdeithiau gyda
rhai o’r gweithlu. -
Eglurwyd bod gweithlu’r
gwasanaeth yn ymroddgar iawn gan eu bod yn darparu gwasanaeth wythnosol i tua
63,400 o anheddau ar draws y sir. -
Datganwyd bod canrannau
ailgylchu Cymru yn dda iawn o’i gymharu â gwledydd eraill. Eglurwyd bod targed
wedi ei osod gan Lywodraeth Cymru i ailgylchu 70% o holl wastraff domestig
erbyn 2025. Roedd yn her i bob awdurdod lleol. -
Diolchwyd i’r adran
Priffyrdd a Bwrdeistrefol am ddatblygu systemau i sicrhau fod canran ailgylchu
domestig Gwynedd yn sefydlog o gwmpas 64%. Er hyn, cydnabuwyd yr angen i wneud
rhywbeth mawr er mwyn cyrraedd y targed o 70% erbyn 2025. Nododd ni fyddai’n
bosibl ei gyrraedd drwy wneud man newidiadau i weithdrefnau presennol. -
Eglurwyd bod trefniadau
gweithio’r gwasanaeth wedi newid o shifftiau 12 awr (tri diwrnod ymlaen, tri
diwrnod i ffwrdd) i fod yn gweithio'r un oriau dros 5 niwrnod yr wythnos. Roedd
hyn yn heriol dros gyfnod Covid-19 ond bellach roedd y gweithlu wedi addasu
iddo ac yn gweithio ar sylfaen Tasg a Gorffen. Gobeithiwyd bod hyn yn mynd i
arwain at arbedion o fewn y gwasanaeth ond yn anffodus roedd y costau yn fwy
na ragwelwyd. Byddai’r adran yn ail edrych
ar y trefniant hwn er mwyn asesu os oedd yn optimeiddio’r gwasanaeth i’w llawn
botensial. -
Adroddwyd bod casglu
gwastraff yn costio £232 yr annedd. Eglurwyd mai hwn oedd yr ail swm uchaf yng
Nghymru. Cysidrwyd bod hyn gan fod Gwynedd yn sir eang iawn. Er hyn, roedd
perfformiad y gwasanaeth yn dda iawn o ran canran ailgylchu. -
Cadarnhawyd bod
gorwariant sylweddol yn y maes casglu a thrin gwastraff. Oherwydd natur
gorfforol y gwaith, roedd lefelau salwch staff yn uchel. Cydnabuwyd bod y lefel
hwn yn uwch na rhai o awdurdodau eraill Cymru. Golygai bod rhai aelodau o’r
gweithlu yn gorfod gweithio oriau ychwanegol. Tybir i’r ffigyrau gorwariant fod
o gwmpas £1.4 miliwn eleni ar gyllideb o oddeutu £5 miliwn. -
Pwysleisiwyd bod iechyd a
diogelwch y gweithlu yn ganolog i’r gwasanaeth. Nid oedd strategaeth gwastraff
ac ailgylchu amlwg gan y Cyngor. Roedd yr adran yn gobeithio datblygu hyn yn y
dyfodol er mwyn sicrhau bod iechyd a diogelwch staff yn cael ei warchod. - Dywedwyd bod yr adran yn derbyn cwynion cyson bod bocsys a biniau ailgylchu wedi torri a bod gwastraff yn chwythu ar hyd y ffordd gan nad oedd wedi cael ei gasglu. Tybir fod hyn hefyd yn effaith o salwch staff ac roedd yr adran yn ail asesu sut i ddarparu’r gwasanaeth yn y dull mwyaf effeithiol. Roedd y Llywodraeth yn obeithiol byddai awdurdodau lleol yn gallu didoli gwastraff ar ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2022/23 PDF 397 KB I fabwysiadu rhaglen waith diwygiedig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadu’r rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2022/23.
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd
Craffu a thynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol: -
Adroddwyd bod y
Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd yn mynychu cyfarfodydd rheolaidd gydag Aelodau Cabinet
a Phenaethiaid Adran perthnasol. Mewn cyfarfod diweddar gydag Aelod Cabinet
Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd,
cyfeiriwyd at yr eitem ‘Strategaeth Llifogydd Lleol’ a graffwyd yng nghyfarfod
y Pwyllgor ar 27 Hydref 2022. Roedd y Pennaeth Adran a’r Aelod Cabinet yn
awyddus iawn i’r pwyllgor graffu ‘Asesiad Risg Llifogydd’ yng nghyfarfod y
pwyllgor craffu ym mis Mawrth gan ei fod yn amserol wrth ddatblygu Strategaeth
Llifogydd Lleol. -
Gofynnwyd i’r aelodau gymeradwyo’r addasiad yma i’r
rhaglen waith. PENDERFYNWYD Mabwysiadu’r rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2022/23. |
|
CYFARFODYDD HERIO PERFFORMIAD. PDF 184 KB I enwebu
cynrychiolwyr i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol
y Cynghorwyr Rhys Tudur a Llio Elenid Owen i fynychu cyfarfodydd herio
perfformiad maes gwaith Amgylchedd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd
Craffu a thynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol: -
Adroddwyd mai un
cyfarfod herio perfformiad a gynhelir ar gyfer meysydd gwaith Priffyrdd a
Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd (YGC) yn
dilyn trosglwyddiad YGC i’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol. -
Atgoffwyd bod sedd wag i
gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yng nghyfarfod herio perfformiad
Amgylchedd. -
Cadarnhawyd yn dilyn
cyfarfod anffurfiol y Pwyllgor a gynhaliwyd 27 Hydref, 2022, rhoddwyd y cyfle
i’r pedwar cynrychiolydd presennol i ddatgan diddordeb. Yn dilyn derbyn
ymatebion, argymhellwyd: o Bod y Cynghorydd Llio Elenid Owen yn llenwi’r sedd wag ar gyfarfod Herio
Perfformiad Amgylchedd. o Y Cynghorwyr Stephen Churchman a Rob Triggs i gynrychioli’r pwyllgor yng
nghyfarfodydd herio perfformiad Priffyrdd a Ymgynghoriaeth
Gwynedd, gyda’r Cynghorydd Arwyn Herald Roberts yn aelod wrth gefn. PENDERFYNWYD Ethol
y Cynghorwyr Rhys Tudur a Llio Elenid Owen i fynychu cyfarfodydd herio
perfformiad maes gwaith Amgylchedd. |