Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2025-2026.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Annwen Hughes yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2025/26.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2025-2026.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2025/26.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2025/26.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Edgar Wyn Owen.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellr eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 173 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2025 fel rhai cywir.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2025, fel rhai cywir.

 

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 70 KB

Adroddiad i’r Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Amgylchedd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Adran Amgylchedd a Phenaethiaid Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd.

 

Adroddwyd bod yr Adran yn arwain ar bump o brosiectau Cynllun y Cyngor 2023-2028, sef ‘Rheolaeth ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr’ fel rhan o flaenoriaeth Gwynedd Glyd yn ogystal â ‘Cynllun Datblygu Lleol Newydd’, ‘Gwastraff ac Ailgylchu’, ‘Teithiau Llesol’, a ‘Trafnidiaeth Gyhoeddus’ fel rhan o flaenoriaeth Gwynedd Werdd. Ymhelaethwyd bod y wybodaeth a gyflwynwyd ar gyfer y cyfarfod hwn yn nodi cynnydd yr Adran yn erbyn cerrig milltir y prosiectau ar gyfer 2024-2025 yn ogystal â data am fesurau perfformiad gwasanaethau’r Adran.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr Aelodau:-

 

Gwastraff ac Ailgylchu

Tynnwyd sylw nad oedd yr Adran yn cyrraedd targedau cenedlaethol Llywodraeth Cymru  o ailgylchu 70% o holl wastraff y Sir gan nodi mai canran ailgylchu’r Cyngor ar gyfer 2024-25 oedd 65.3%. Gofynnwyd os yw’r Adran wedi ystyried addasu amlder casgliadau gwastraff er mwyn cyrraedd y targed hwn. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol y gobeithir cynnal ymgynghoriad er mwyn sicrhau bod llwybr clir i’r Cyngor bod yn ailgylchu 70% o holl wastraff. Fodd bynnag, pwysleisiwyd nad oes unrhyw benderfyniadau wedi cael eu gwneud ar gyfer addasu amlder casglu gwastraff ar hyn o bryd.

 

Gofynnwyd a fyddai unrhyw ddirwyon ariannol yn cael eu gosod ar y Cyngor gan y Llywodraeth am fethu a chyrraedd y targed hwn. Cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol bod dirwy o £200 yn cael ei roi am bob tunnell o wastraff sydd islaw’r targed o 70% wedi’i ailgylchu. Eglurwyd bod y Cyngor oddeutu 3,000 o dunelli islaw’r targed o fewn y flwyddyn 2024-25. Eglurwyd bod y Cyngor mewn trafodaethau parhaus gyda Llywodraeth Cymru er mwyn dangos bod camau yn cael eu cymryd i gyrraedd y targed ac y byddai hyn yn cael ei adlewyrchu wrth bennu swm unrhyw ddirwy ariannol ar y Cyngor. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach am ddechrau ailgylchu plastigion meddal, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol nad yw hyn yn digwydd ar hyn o bryd oherwydd nad oes marchnad iddo. Fodd bynnag, pwysleisiwyd bod Llywodraeth Cymru yn treialu’r math yma o gasgliadau yn ne Cymru ar hyn o bryd. Ychwanegwyd bod cynlluniau i ailgylchu mwy o nwyddau megis bagiau plastig a theclynnau electronig bychan yn y dyfodol. Ymhelaethodd y Pennaeth Cynorthwyol bod treth yn cael ei osod ar gwmnïau ar raddfa sy’n nodi faint o hawdd yw ailgylchu unrhyw wastraff o’u cynnyrch neu’r pecynnau, gan obeithio bydd hynny yn annog cwmnïau i sicrhau bod modd ailgylchu eu cynnyrch ac annog prynwyr i wneud hynny.

 

Cyfeiriwyd at lefelau salwch ymysg staff y gwasanaeth gan ofyn i’r swyddogion sut maent yn delio gyda’r achosion hyn. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol bod y staff yn fwy tebygol o fod i ffwrdd gyda salwch wrth iddynt fynd yn hŷn oherwydd natur gorfforol y gwaith. Adroddwyd bod lefelau salwch ymysg staff ardal Arfon wedi lleihau yn ddiweddar ond bod cynnydd wedi bod yn ardaloedd Dwyfor a Meirionnydd. Manylwyd bod 9% o holl staff y gwasanaeth  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET PRIFFYRDD, PEIRIANNEG AC YGC pdf eicon PDF 91 KB

Cyfle i Aelodau drafod a chraffu mesurau a blaenoriaethau gwella’r Adran.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg a YGC, ynghyd â Phennaeth a Phennaeth Cynorthwyol yr Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC.

 

Adroddwyd bod yr Adran yn arwain ar dair o brosiectau Cynllun y Cyngor 2023-2028, sef ‘Ymestyn cyfleoedd chwarae a chymdeithasu ar gyfer plant a phobl ifanc y Sir fel rhan o flaenoriaeth Gwynedd Yfory yn ogystal â ‘Gweithredu ar risgiau llifogydd’ a ‘Cymunedau Glân a Thaclus’ fel rhan o flaenoriaeth Gwynedd Werdd. Ymhelaethwyd bod y wybodaeth a gyflwynwyd ar gyfer y cyfarfod hwn yn nodi cynnydd yr Adran yn erbyn cerrig milltir y prosiectau ar gyfer 2024-2025 yn ogystal â data am fesurau perfformiad gwasanaethau’r Adran.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr Aelodau:-

 

Gwasanaeth Cynnal Priffyrdd – Cyflwr Ffyrdd

Diolchwyd i’r Adran am gyflwyno data am ymchwiliadau tyllau mewn ffordd gan ofyn am fwy o wybodaeth ar amseroedd i ymateb i ymholiadau gan y cyhoedd am gyflwr ffyrdd. Mewn ymateb, ymddiheurodd y Pennaeth Adran nad oedd y data hwn ar ystadegau amseroedd i ymateb wedi cael eu cynnwys yn yr Adroddiad gan egluro bod hynny oherwydd problem gyda’r meddalwedd. Eglurwyd bydd y data hyn yn cael ei gynnwys wrth adrodd i’r Pwyllgor hwn yn y dyfodol. Manylwyd bod archwilwyr yn asesu galwadau am gyflwr ffyrdd yn syth gan nodi bod gwaith yn cael ei wneud ar y ffordd o fewn 2 awr os yw wedi cael ei asesu i fod yn broblem gritigol. Adroddwyd bod ymholiadau eraill yn cael eu datrys erbyn diwedd y diwrnod gwaith dilynol er mwyn gallu rhaglennu a phecynnu gwaith yn effeithiol. Mynegwyd hyder gan yr Adran eu bod yn llwyddo i gyrraedd yr amserlenni hyn.

 

Mynegwyd rhwystredigaeth gan rhai Aelodau nad yw’r ailwynebu a wneir ar y ffyrdd yn dilyn adrodd ar dwll yn y ffordd yn goroesi’n hirdymor. Mewn ymateb, eglurodd y Pennaeth Adran bod pob ymdrech yn cael ei wneud i dorri rhan mwy o’r ffordd allan er mwyn gallu llenwi’r twll yn well ac o safon uchel, ond nad yw hyn yn bosib ar bob achlysur, felly bydd staff yn ailwynebu’r ffordd gan ddefnyddio tar o fwcedi. Cydnabuwyd bod hyn yn gallu cael effaith ar ansawdd y ffordd a byddai’r Adran yn ystyried y sylwadau ymhellach. Ymhelaethwyd bod yr Adran wedi derbyn arian grant o £8miliwn dros gyfnod o ddwy flynedd er mwyn delio gyda materion cyflwr ffyrdd gan nodi bod adrodd ar gyfraddau ymateb i adroddiadau tyllau mewn ffyrdd a chanfod dulliau o’u hatal rhag ymddangos yn allweddol ar gyfer y cais.

 

Gwasanaethau Stryd

Tynnwyd sylw mai dim ond 23 Hysbysiad Cosb Benodedig a dalwyd yn ystod 2023-24 am achosion o berchnogion cŵn yn peidio codi baw ci. Mewn ymateb, rhannodd y Pennaeth Adran ei rwystredigaeth gyda’r her hon gan egluro bod y ffigyrau hyn yn isel oherwydd bod rhaid i swyddogion gorfodaeth weld y ci yn baeddu ac nad yw’r perchennog yn ei gasglu. Eglurwyd bod hyn yn heriol iawn gan ychwanegu nad oes yna nifer o swyddogion gorfodaeth yn gyflogedig o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.