Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
umddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Diolchwyd i’r Cynghorydd Elin Hywel, Cyn-gadeirydd y
Pwyllgor hwn am ei chyfraniad gwerthfawr i waith y Pwyllgor dros y blynyddoedd
diwethaf. Croesawyd y Cynghorwyr Dafydd Davies a Wendy Cleaver i’w
cyfarfod cyntaf. Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Robert Glyn Daniels |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 18 Medi 2025 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18
Medi 2025, fel rhai cywir. |
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET PRIFFYRDD, PEIRIANNEG AC YGC Adrodd i’r
Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn
ystod y drafodaeth. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd,
Peirianneg a YGC, ynghyd â Phennaeth a Phennaeth Cynorthwyol yr Adran
Priffyrdd, Peirianneg a YGC. Atgoffwyd bod yr Adran yn gyfrifol am dri o gynlluniau
Cynllun y Cyngor 2023-28 a bod yr adroddiad hwn yn ddiweddariad ar eu
datblygiad hyd at ddiwedd Medi 2025. Cadarnhawyd bod yr Adran wedi derbyn cefnogaeth grant
Cyfleoedd Chwarae drwy Lywodraeth Cymru i wella ansawdd a hygyrchedd meysydd
chwarae. Eglurwyd bod y datblygiad hwn yn ddatblygiad mawr yn y prosiect
‘Ymestyn cyfleoedd chwarae a chymdeithasu ar gyfer plant a phobl ifanc y Sir’ o
fewn Cynllun y Cyngor. Ymhelaethwyd bod cydweithio effeithiol wedi bod ar y
gweill gyda Chyngor Dinas Bangor wrth i’r broses o drosglwyddo maes chwarae
Maes Tryfan iddynt barhau. Darparwyd diweddariad ar y prosiect ‘Gweithredu ar risgiau
llifogydd’ gan nodi bod y Strategaeth Llifogydd Leol wedi ei fabwysiadu ac yn
weithredol. Adroddwyd bod system optimeiddio cylchdeithiau glanhau wedi
cael ei gyflwyno yn ardal Arfon fel rhan o brosiect ‘Cymunedau Glân a Thaclus’.
Eglurwyd bod y system hon yn rhan o gynllun peilot yn ardal Arfon gan nodi y
gobeithir ehangu’r trefniadau i Bwllheli a Porthmadog yn ystod gwanwyn 2026.
Ymhelaethwyd mai diben y system yw lleihau gorwariant presennol y gwasanaeth
drwy sicrhau bod trefn gwaith effeithiol yn cael ei weithredu. Tynnwyd sylw at 29 mesurydd perfformiad sydd yn weithredol o
fewn yr Adran, megis ‘Mesurau corfforaethol/adrannol’, ‘Cynnal Priffyrdd’,
‘Goleuo Stryd’, ‘Edrychiad Stryd’, ‘Toiledau Cyhoeddus’ ac ‘Ymgynghoriaeth
Gwynedd’ gan ymfalchïo bod 62.1% o’r mesuryddion hyn yn cael eu mesur yn wyrdd.
Eglurwyd bod hyn yn gadarnhad o waith cadarnhaol y gwasanaeth a pherfformiad
effeithiol gwasanaethau. Fodd bynnag, nodwyd bod 37.9% o’r mesuryddion wedi eu cofnodi yn ambr, gan sicrhau
bod y mesuryddion hyn yn derbyn sylw pellach fel rhan o’r broses herio
perfformiad. Mynegwyd balchder nad oedd unrhyw fesurydd wedi ei gofnodi yn
goch. Cyfeiriwyd at gynlluniau Arbedion 2025-26 yr Adran, sydd
gyfwerth â £533,500. Cadarnhawyd bod yr adran ar drac i gyflawni £212,500 o’r
cynlluniau Arbedion yma gan gydnabod bod posibilrwydd na fydd £321,000 yn cael
eu gwireddu. Amlygwyd hefyd bod rhai cyllidebau yn cael eu heffeithio gan y
tywydd gan fod angen sicrhau cyllideb ychwanegol er mwyn mynd i’r afael â
unrhyw dywydd garw anrhagweladwy. Diweddarwyd bod niferoedd y gweithlu sydd wedi cyflawni
hyfforddiant mandadol wedi cynyddu, gan fanylu bod 77.4% o’r staff wedi
cyflawni hyfforddiant craidd ‘Camdrin’, 72.4% wedi
cyflawni’r teitl ‘ Diogelu’, gan fynegi balchder bod dros 67% o staff yr adran
wedi cyflawni holl deitlau hyfforddiant mandadol. Cydnabuwyd bod lle i wella er
mwyn cynyddu’r niferoedd hyn i’r dyfodol ond bod heriau wedi dod i’r amlwg gan
nad oes nifer o aelodau staff rheng flaen gyda mynediad i’r modiwlau gan nad
oes ganddyn nhw gyfarpar electroneg. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod yr Adran yn
cydweithio gyda’r gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth i ddod i ganolfannau gwaith
er mwyn rhoi cymorth i aelodau staff i gwblhau’r hyfforddiant yn ystod y
diwrnod gwaith. Cydnabuwyd bod niferoedd salwch staff yr Adran yn uchel, gyda cyfartaledd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET AMGYLCHEDD Adrodd i’r
Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn
ystod y drafodaeth. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Adran Amgylchedd a Phenaethiaid
Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr
Aelodau:- Gwastraff ac Ailgylchu Mynegwyd pryder bod risg ariannol i’r Cyngor os nad yw’r
Adran yn llwyddo i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o ailgylchu 70% o holl
wastraff y Sir. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol
Gwastraff ac Ailgylchu bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn ymrwymo i gyrraedd y
targed hwn, gyda’r Cyngor yn cyrraedd cyfradd ailgylchu o 66.6% yn ystod
2025-26 hyd yma. Ymhelaethwyd bod y Cyngor yn cydweithio gydag cymdeithas dai
ADRA er mwyn hyrwyddo buddion ailgylchu, gan eu bod yn gyfrifol am 7500 o
anheddau yn y Sir a fyddai’n cael
effaith fawr ar y gyfradd ailgylchu. Yn yr un modd, tynnwyd sylw bod gwaith yn
cael ei wneud er mwyn sicrhau bod disgyblion mewn ysgolion yng Ngwynedd yn
derbyn gwersi ar bwysigrwydd ailgylchu a bod taflenni yn cael eu paratoi i’w
dosbarthu i bob tŷ yn y Sir ar gyfer atgoffa o sut i ailgylchu yn gywir.
Cydnabuwyd mai dim ond 4 aelod o staff sydd yn rhan o’r tîm sydd yn addysgu o
ran ailgylchu, sicrhawyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn ymdrechu i
gyrraedd y targed ailgylchu ac i sicrhau bod unrhyw gosb ariannol am fethu
cyrraedd y targed mor fychan â phosib. Mewn ymateb i ymholiad pellach os oedd yr Adran yn hyderus
bod modd i Wynedd ailgylchu 70% o’i wastraff, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol
yr Adran ar faterion Gwastraff ac Ailgylchu, eu bod yn ffyddiog bydd y targed
yn cael ei gyfarch. Manylwyd bod ymarferiad ymgysylltu cyhoeddus ar y
Strategaeth Wastraff ac Ailgylchu ar waith ar hyn o bryd a bod yr ymatebion
sydd wedi dod i law hyd yma yn galonogol iawn. Ymhelaethwyd bod dros 700 o
ymatebion wedi bod i’r ymgynghoriad hyd yma a bod 80% o’r ymatebwyr hynny yn
ystyried ailgylchu i fod yn weithred bwysig ac yn cytuno gyda’r angen i leihau
gwastraff. Atgoffwyd bod y ddyletswydd i ailgylchu yn fater i bawb yng Ngwynedd
ac mae pwysau mawr yn cael ei roi o fewn yr adran ar gyfer hyfforddi swyddogion
a sicrhau bod y weithred o ailgylchu yn gywir yn cael ei hyrwyddo gyda’r
cyhoedd er mwyn sicrhau bod pawb yn ailgylchu cymaint â bod modd. Eglurwyd bod
llawer o bethau a all gael ei ailgylchu yn parhau i gael ei gynnwys yn y biniau
gwastraff gweddilliol a bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn addysgu’r cyhoedd
bod modd ailgylchu’r eitemau hyn. Sicrhawyd byddai cyflawni’r gweithredoedd yma
yn sicrhau byddai’r Cyngor yn ailgylchu 70% o’i wastraff yn unol â tharged
Llywodraeth Cymru. Mewn ymateb i ymholiad os yw’r Adran wedi bod yn rhy hwyr yn datblygu’r Strategaeth Wastraff ac Ailgylchu, anghytunodd y Pennaeth Adran gan nodi mai dim ond ers 3 mlynedd mae’r gwasanaeth wedi bod o dan reolaeth yr Adran ac mae gwaith estynedig wedi cael ei gwblhau er mwyn sicrhau bod y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU Mabwysiadu
rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2025/26. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig y Pwyllgor Craffu
Cymunedau ar gyfer 2025/26. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu. Atgoffwyd bod Blaenraglen y
Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer 2025/26 wedi cael ei fabwysiadu gan y
Pwyllgor yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Medi 2025. Esboniwyd bod eitem ‘Adolygiad o’r Cynllun Argyfwng Hinsawdd
a Natur’ wedi cael ei amserlennu yn wreiddiol ar gyfer y cyfarfod hwn (06
Tachwedd 2025). Nodwyd y derbyniwyd cais i’w ail-raglennu i gyfarfod 22 Ionawr
2026 er mwyn sicrhau bod gwaith pellach yn cael ei gwblhau cyn ei gyflwyno i’r
Pwyllgor hwn. Tynnwyd sylw y derbyniwyd cais gan aelod o’r cyhoedd i’r
Pwyllgor hwn graffu materion yn ymwneud â materion ariannu sy’n gysylltiedig
â’r Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur. Cadarnhawyd bod y Cadeirydd a’r
Is-gadeirydd wedi ystyried y cais hwn ac ystyriwyd ei fod yn amserol i’w
ystyried yng nghyfarfod 22 Ionawr 2026 pan fyddai’r Pwyllgor yn ystyried
Adolygiad o’r Cynllun. Amlygwyd byddai pedwar eitem i’w trafod yn y cyfarfod
hwn petai’r Pwyllgor yn mabwysiadu’r Rhaglen Waith diwygiedig. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr
Aelodau:- Cytunwyd i estyn gwahoddiad i’r aelod o’r cyhoedd i fynychu
cyfarfod y Pwyllgor ar 22 Ionawr 2026. Cadarnhawyd bydd yr aelod o’r cyhoedd yn
cael cyfnod o hyd at 3 munud i ymhelaethu ar ei gais os ydyw’n dymuno gwneud
hynny. PENDERFYNWYD Mabwysiadu rhaglen
waith diwygiedig y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer 2025/26. |