Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Keith Jones, Linda Morgan a Catrin Wager |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd yr
aelod canlynol fuddiant personol, yn yr eitemau
canlynol am y rhesymau a nodir: ·
Y Cynghorydd Annwen
Hughes yn eitemau 8 ar y rhaglen oherwydd bod ei mab yn
denant ar 3 Morfa Mawr, Llanbedr Roedd yr Aelod o’r farn ei
fod yn fuddiant
a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 11eg Hydref
2018 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 10.10.2018
fel cofnod cywir o’r cyfarfod. |
|
DIWEDDARIAD BLYNYDDOL GAN Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL (GWYNEDD A MÔN) PDF 112 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Nia Jeffreys Ystyried adroddiad ar ddatblygiad strategol y
bartneriaeth gan Reolwr Cyflawni Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac
Ynys Môn Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Reolwr Cyflawni Partneriaeth Diogelwch
Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn yn
diweddaru’r Pwyllgor ar faes gwaith y Bartneriaeth. Eglurwyd bod gofyn i’r Bartneriaeth adrodd yn
ffurfiol i’r Pwyllgor yn flynyddol i gyflwyno trosolwg o brif ddatblygiadau
strategol y Bartneriaeth dros y flwyddyn ynghyd a’r gwaith comisiynu sydd yn
gosod fframwaith i’r blaenoriaethau. Ategwyd bod hyn yn sicrhau bod y
Bartneriaeth yn cyflawni ei hymrwymiadau yn unol ag adrannau Deddf Cyfiawnder
Troseddol a’r Heddlu 2006, drwy gydweithio gyda’r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd,
y Gwasanaeth Prawf a’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Tynnwyd sylw at y prif negeseuon oedd yn deillio o weithgarwch 2017/2018
ynghyd a phrif lwyddiannau’r flwyddyn. Cyfeiriwyd at holiadur oedd wedi ei
rannu gyda’r cyhoedd i ddweud eu dweud am drosedd yn eu cymunedau. Dadansoddwyd
y 987 ymateb a dderbyniwyd ac amlygwyd bod Gwynedd yn un o’r Siroedd mwyaf saff
yng Nghymru. Amlygwyd y prif gerrig milltir
ar gyfer 2017 – 2018 a gofynnwyd i’r Pwyllgor Craffu gefnogi’r blaenoriaethau oedd wedi eu rhestru
yn yr adroddiad
ynghyd â chyfeiriad y gwaith i’r dyfodol.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â
chynnydd o 13.3% yn y troseddau sy’n seiliedig ar ddioddefwyr yng Ngwynedd,
dengys y dadansoddiad mai cynnydd yn effeithlonrwydd y broses o gofnodi'r
troseddau yw hyn yn hytrach na chynnydd yn y nifer troseddau. Ategwyd bod y
newidiadau i’r broses o gofnodi rhai achosion, megis stelcio
ac aflonyddu wedi cyfrannu at y cynnydd oherwydd bellach maent yn cael eu cofnodi
fel achosion perthnasol yn hytrach nac fel un achos. Nodwyd hefyd bod cynnydd
yn y nifer o bobl sydd yn dod ymlaen i adrodd ar droseddau. PENDERFYNWYD
·
derbyn yr adroddiad ·
cefnogi blaenoriaethau a chyfeiriad gwaith y Bartneriaeth i’r dyfodol. |
|
TREIAL GORFODAETH STRYD PDF 51 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Gareth Griffith Ystyried adroddiad Pennaeth
Priffyrdd a Bwrdesitrefol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol yn rhoi diweddariad ar y
treial gorfodaeth stryd gan adrodd y byddai’r Gwasanaeth yn cyflwyno argymhelliad
pellach ar y ffordd ymlaen er mwyn ceisio gwella’r ddarpariaeth i bwrpas sicrhau
glendid ac edrychiad strydoedd Gwynedd. Yn dilyn cais gan y Pwyllgor Craffu i’r Gwasanaeth edrych ar opsiynau
posib i newid ymddygiad y cyhoedd fyddai’n arwain at wella ansawdd yr
amgylchedd lleol a glendid strydoedd, rhoddwyd adborth ar 3 opsiwn posib a’r camau
yr oedd y Gwasanaeth wedi ei gymryd i geisio ffordd ymlaen. Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: ·
cosbi
trefol yn llawer haws na chosbi yng nghefn gwlad ·
bod
angen cynnal ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth ac addysgu ·
sbwriel
traethau – creu ardaloedd gorfodaeth ·
ystyried
camerâu cudd ar safleoedd biniau cymunedol Nododd yr Aelod Cabinet ei fod yn derbyn y sylwadau ynglŷn â
phroblemau cosbi yng nghefn gwlad ac ategodd bwysigrwydd addysgu plant ar lefel
cynradd drwy amlygu parch at eu
hamgylchedd. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â bod rhai gweithwyr casgliadau sbwriel
yn frysiog ac yn flêr, amlygwyd bod y Gwasanaeth yn edrych ar gyflwyno trefniadau
casglu sbwriel newydd gyda threfn shifft 37 awr a chael un tîm yn gyfrifol am yr
un cylchdeithiau wythnosol. Disgwylir y byddai’r gweithwyr yn cael mwy o
berchnogaeth o’r gylchdaith ynghyd a gwell dealltwriaeth o anghenion
trigolion. Bydd trafodaethau gyda’r
Undebau yn cael eu cynnal cyn
y Nadolig gyda bwriad o gyflwyno’r trefniadau yn Nwyfor
Chwefror 2019, Meirionnydd Gorffennaf 2019 ac Arfon Chwefror 2020. Cytunwyd
cyflwyno adroddiad / diweddariad ar yr
effaith Hydref 2019 Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut fydd y Gwasanaeth yn monitro
defnydd camerâu gan y staff morwrol, adroddwyd byddai popeth yn cael ei gopïo i
system gefn yn y swyddfa fel bod modd monitro pob sefyllfa pan fyddai’r camerâu
ymlaen. Ategwyd bod canllawiau yn cael eu darparu a pholisi gweithredu ar y
gweill. Nodwyd hefyd bod y camerâu yn
rhoi mwy o hyder i’r swyddogion gyflwyno cosb. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynlluniau’r gwasanaeth am y 6 mis
nesaf, nodwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal am waith y gellid ei wneud ar
y cyd gydag awdurdodau eraill. Ategwyd,
ers i amryw o awdurdodau’r gogledd ddirwyn eu cytundebau gyda chwmnïau allanol
i ben, bod cyfarfodydd rhanbarthol wedi eu cynnal i ystyried sut i gynnal y
math yma o wasanaeth, rhannu adnoddau a chodi ymwybyddiaeth. Nodwyd nad oedd
pob awdurdod yn cytuno gydag un drefn, ond bod y mwyafrif yn ffafrio
darpariaeth fewnol. Eglurwyd bod rhai eisoes gyda chynlluniau i’w cyflwyno i’r Cabinet.
Byddai cydweithio ar draws y Gogledd yn gwella cysondeb yng nghyd-destun dirwyon. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â deddfau gwahanol gan Gymru a Lloegr yn ymwneud a thaflu sbwriel allan drwy ffenest y car, nodwyd bod Lloegr gyda threfniant mai perchennog y cerbyd sydd yn derbyn cosb, ond yng Nghymru rhaid adnabod y person sydd yn taflu’r sbwriel. Ategwyd bod Cymru wedi dechrau ar y broses o gyflwyno ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
MATERION CYNLLUNIO PLAS PISTYLL, PISTYLL, PWLLHELI PDF 84 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig Ystyried adroddiad Pennaeth
yr Amgylchedd Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
gan Pennaeth Adran Amgylchedd yn ymateb i bryderon ynglŷn â’r broses dirprwyo yng nghyd-destun
penderfyniadau oedd yn ymwneud a Phlas Pistyll. Yn gynwysedig yn yr adroddiad cafwyd hanes cynllunio manwl y
cais ynghyd a Chynlluniau Dirprwyo
Cynllunio cyfredol a blaenorol Gwynedd. Nododd yr Aelod Cabinet ei fod wedi comisiynu darn o waith i gasglu
gwybodaeth fyddai’n ymateb i’r anhapusrwydd
lleol a’r diffyg dealltwriaeth o sut cafodd y penderfyniad ei wneud gyda phwrpas mewn darganfod os oedd y drefn
dirprwyo wedi ei dilyn yn briodol. Amlygwyd y pwyntiau cychwynnol gan Aelod
unigol: ·
bod
addasiadau a newidiadau sylweddol i’r hyn a gytunwyd yn 2012 wedi cael ei
gwneud o dan y drefn ddirprwyo. ·
dylai
cais o’r newydd fod wedi ei gyflwyno yn 2016 oherwydd addasiadau i faint,
uchder a dyluniad y cynllun ·
gan fod
natur y newidiadau yn fwy nag sy’n rhesymol, dylai’r penderfyniad fod wedi cael
ei alw i mewn i bwyllgor Cynllunio ·
bod y
safle yn un sensitif ac o fewn tirweddau sydd angen eu gwarchod ·
bod yr
addasiadau wedi cythruddo trigolion ac aelodau lleol ·
Swyddogion
yn unig sydd ddim yn gweld yr effaith ·
Pwy sydd â hawl i addasu a diffinio beth yw ‘minor impact’? Mewn
ymateb, nododd y Cadeirydd nad oedd bwriad ail agor y cais cynllunio ond bod angen ceisio gwersi i’w dysgu o’r
sefyllfa. Ategwyd bod angen i’r adran Cynllunio gyfiawnhau eu bod yn hapus gyda’r drefn gan gadarnhau bod y trywydd cywir wedi ei ddilyn ac os yw’r cynllun dirprwyo yn cyfarch yr heriau. Ategodd y Swyddog Monitro’r sefyllfa gyfansoddiadol i’r aelodau gan
adrodd bod y trefniadau wedi eu dilyn yn unol a’r rhiniogau yn y Cynllun
Dirprwyo oedd yn berthnasol ar y pryd. Nodwyd bod y cais a gyflwynwyd yn 2016
yn gais i ddiwygio amodau oedd yn cynnwys lleihau’r nifer o unedau ac addasu’r
dyluniad - nid oedd egwyddor y datblygiad felly yn cael ei ystyried wrth
benderfynu’r cais ac nid oedd yn cwrdd
â’r rhiniogau perthnasol ar gyfer adrodd ar y math yma o ddatblygiad i’r
Pwyllgor Cynllunio. Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelod Lleol: ·
Derbyn bod y drefn ‘dechnegol’ wedi ei dilyn, ond
yng ngoleuni ardrawiad sylweddol i’r cynllun, oni ddylai ‘clychau fod wedi
canu’? ·
Oni
ddylai moesoldeb y sefyllfa wedi cael ei hystyried? ·
Cyngor
Cymuned wedi derbyn llythyr yn eu cyfeirio at y wefan yn rhoi gwybodaeth am
‘fan newidiadau’ i’r cais ·
Yr
adroddiad yn hunangyfiawn ·
Onid yw
rhiniog megis ‘cais y mae’r Pennaeth Amgylchedd yn ei ystyried y dylid ei
gyfeirio at Bwyllgor’ yn berthnasol yn yr achlysur yma? Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd Pennaeth yr Amgylchedd fod ganddo gydymdeimlad gyda phob barn oedd wedi ei derbyn, yr effaith ar y gymuned a hanes y cais. Ategodd bod yr adroddiad yn cyfeirio at y drefn roedd y swyddogion wedi ei ddilyn i gyrraedd eu penderfyniad. Nododd, oni bai bod negeseuon lleol yn cael eu rhannu gyda swyddogion nad oedd modd deall ‘teimladau’ a barn trigolion lleol. Nodwyd bod cynllunio ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
STAD MANDDALIADAU CYNGOR GWYNEDD PDF 79 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd
Dafydd Meurig Ystyried adroddiad Uwch Reolwr Eiddo Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan yr Uwch Reolwr Eiddo yn manylu ar egwyddorion rheoli stad man
ddaliadau y Cyngor. Nodwyd, yn 2008, bod adolygiad cynhwysfawr wedi ei gynnal i edrych ar bwrpas y stad, ei
pherfformiad ariannol a‘r trefniadau rheoli. Gyda degawd wedi mynd heibio ers yr adolygiad, ystyriwyd mai amserol
fyddai ail ymweld a’r maes a
chadarnhau’r rhesymeg sydd yn cefnogi pwysigrwydd parhau i ddarparu man ddaliadau yn y Sir. Adroddwyd bod
swyddog o fewn yr Uned Stadau wedi ei rhyddhau i gynorthwyo gyda gwaith rheoli man ddaliadau’r Cyngor sydd
wedi galluogi’r uned i roi mwy o sylw i faterion
ynglŷn a chynyddu incwm rent a delio gyda nifer o faterion cytundebol
oedd yn
disgwyl sylw. Ategwyd mai trefniant dros dro yn unig oedd yr adnodd a’i fod ar
draul perfformiad ym meysydd
gwaith eraill yr Uned Stadau. Atgoffwyd yr
aelodau mai Aelod Cabinet Amgylchedd sydd ar cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau
gweithredol rheoli man ddaliadau gyda phaneli ymgynghori wedi eu sefydlu i gynorthwyo gyda materion
megis gosod daliadau gwag neu ddirwyn tenantiaethau
i ben. Amlygwyd bod panel ar gyfer Meirionnydd a phanel ar gyfer Dwyfor. Nodwyd bod sefyllfa
ariannol y stad wedi newid yn sylweddol dros y ddegawd ddiwethaf a bellach bod y stâd yn hunangynhaliol - yn creu
incwm i’r Cyngor uwchlaw costau rhedeg.
Ategwyd pe byddai dymuniad i ail fuddsoddi yn y stad byddai hynny yn arwain at yr angen i ddarganfod arbediad cyfwerth
mewn maes arall. Pe byddai’r incwm yn cynyddu
yn y dyfodol (drwy adolygiadau rhent neu drosglwyddo i delerau newydd o dan y cytundebau modern) gellid ystyried
clustnodi’r swm ychwanegol i’w ail fuddsoddi yn y stad. Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelodau unigol: ·
Bod yr
adroddiad / diweddariad hir ddisgwyliedig i’w groesawu ·
Bod man
ddaliadau yn cyfrannu at gadw pobl ifanc yn ein cymunedau gwledig gan roi cyfle
iddynt weithio yn y byd amaeth ·
Awgrym
i gadw yr adnodd staff a chadw’r elw fel bod gwariant yn cael ei ail fuddsoddi
ar welliannau. Rhai o’r tai mewn cyflwr difrifol. ·
Ystyried
targedu rhai o’r tai sydd angen llawer o waith gwella ·
Awgrym
i sefydlu un panel ar draws y Sir gan sicrhau arbenigedd amaethyddol ·
Os oes
cais i’r tenant fuddsoddi yn yr adeiladau rhaid rhoi mwy o sicrwydd na 5
mlynedd i’r tenant ·
Awgrym
i osod y tiroedd ·
Bod
angen cytuno cylch gorchwyl a chynnal trafodaethau i flaenoriaethu gwariant ·
Awgrym
i sefydlu cwmni hyd braich i ddenu arian cyfalaf / grant fel ffordd ymlaen i
wella a moderneiddio safonau. Nid yw rheoli man ddaliadau yn ofyn statudol ac
felly mae sicrhau bod y stad yn hunangynhaliol yn hanfodol. ·
Gyda
gosod ymddeoliad oed pendant o 65 rhaid adolygu’r cymal yma fel bod modd
sicrhau bod y tenant yn cael cyfle i wneud cynllun busnes a chyd-fynd gyda
gofynion cyfreithiol. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a chanllawiau caeth ar gyfer gofynion statudol safonau tai, nodwyd bod cyfrifoldeb statudol ar yr adran eiddo i gwrdd âr gofynion hyn. Ategwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |