Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y
Cynghorwyr
Stephen Churchman, Kevin Morris Jones, Linda Morgan, Mike Stevens a Gethin Glyn
Williams |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 4ydd o
Orffennaf 2019 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 4.07.2019 fel
cofnod cywir o’r cyfarfod. |
|
ADOLYGIAD STRATEGOL O'R GWASANAETH CLUDIANT CYHOEDDUS PDF 76 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Gareth Griffith I ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad cynnydd gan Pennaeth yr
Amgylchedd ar y gwaith o adolygu darpariaeth cludiant cyhoeddus yng Ngwynedd
ynghyd a’r camau nesaf bydd yr Adran yn gweithredu arnynt. Nodwyd bod yr
adolygiad yn rhoi cyfle i’r Cyngor dreialu ffyrdd amgen o ddiwallu anghenion
trafnidiaeth. Ategwyd nad oedd y rhwydwaith presennol wedi ei datblygu ers
degawdau ac nad oedd unrhyw dystiolaeth bod y gwasanaeth wedi ei adolygu’n
gynhwysfawr yn ystod y cyfnod yma. Nodwyd bod cymorth gan Trafnidiaeth Cymru i
gyflawni’r ddarpariaeth gyda’r weledigaeth bod Traws Cymru yn darparu’r prif
goridor teithio gyda dibyniaeth ar y gwasanaethau lleol i gysylltu. Amlygwyd bod buddsoddiad amser ac ymdrech
wedi ei neilltuo ar gyfer casglu gwybodaeth er mwyn sicrhau bod penderfyniadau
yn cael eu selio ar yr angen ac yn cael eu blaenoriaethu ar sail gwerth
cymdeithasol. Casglwyd gwybodaeth drwy ffurf holiadur ac fe dderbyniwyd 2021 o
ymatebion. Adroddwyd bod gwaith cychwynnol wedi ei wneud ar ddadansoddi’r
ymatebion fydd yn sail i’r camau nesaf - adolygu addasrwydd
y rhwydwaith cludiant presennol - sicrhau bod y
gwasanaeth yn cwrdd ar angen yn y modd mwyaf cost effeithiol - blaenoriaethu’r
siwrneiau / llwybr ar sail gwerth cymdeithasol (gwaith wedi ei gomisiynau gan
Prifysgol Bangor) Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Gruffydd
Williams bod Cynghorwyr Dwyfor, mewn ymateb i adolygiad blaenorol, wedi gwneud
cais i warchod y gwasanaeth rhag toriadau a sicrhau cadw pobl yng nghefn gwlad,
nododd Pennaeth yr Amgylchedd nad oedd bwriad torri cyllideb cludiant cyhoeddus.
Ategodd, er yr heriau i gynnal y gwasanaeth, y prif nod yw cwrdd ar angen yn y
modd mwyaf cost effeithiol. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y
pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: · Croesawu’r
adolygiad strategol a’r weledigaeth o wella’r defnydd yn y gobaith o weld
gwelliant yn y gwasanaeth cludiant cyhoeddus · Bod y dulliau
casglu gwybodaeth wedi bod yn briodol a’r ymateb i’r holiaduron wedi bod yn
galonogol - angen adeiladu ar hyn a dadansoddi’r data i gwrdd ar angen · Croesawu
ystyriaeth defnyddio llai o fysiau mawr - hyn yn gam adeiladol ymlaen · Angen sicrhau bod
trefniadau galw am wasanaeth yn hyblyg; bod datrysiadau i bob sefyllfa. Awgrym
i dreialu’r trefniadau er mwyn sicrhau llwyddiant · Bod angen egluro a
thrafod unrhyw ystyriaethau o newid gyda thrigolion yn eu cymunedau - awgrym i rannu’r wybodaeth yn y papurau bro · Bod angen
trefniadau marchnata effeithiol · Bod angen
cydweithio a chefnogi gwasanaethau lleol, e.e., O Ddrws i Ddrws, a oes modd
defnyddio tocyn mantais ar gyfer gwasanaethau lleol? · Bod angen ystyried
effaith ôl troed carbon - hybu pobl i ddefnyddio bysiau · Rhaid sicrhau
mai’r daith sydd yn flaenoriaeth ac nid y cerbyd / adnodd · Os defnyddio
cerbydau llai, bydd angen ystyried yr effaith ar gwmnïau bysiau mawr · Angen sicrhau bod
pob cefnogaeth ar gael i ddeiliaid tocyn mantais adnewyddu eu cardiau erbyn
1/1/2020 Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r effaith
ar gwmnïau bysiau, amlygwyd mai’r bysiau mawr fydd asgwrn cefn y gwasanaeth
gyda cherbydau llai yn bwydo i mewn i’r gwasanaeth hwnnw. Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag adnewyddu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
SEFYDLU GRWP TASG RHEOLI PARCIO PDF 71 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Gareth Griffith I ystyried
adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan Pennaeth yr Amgylchedd yn cynnwys cylch gorchwyl a rhaglen waith
amlinellol ar gyfer Grŵp Tasg o’r Pwyllgor Craffu Cymunedau i gynorthwyo’r
Gwasanaeth gyda’r gwaith o ddadansoddi amrediad opsiynau ar gyfer rheoli parcio
yng Ngwynedd. Amlygwyd mai’r bwriad yw asesu’r opsiynau posib ar gyfer
cynyddu’r incwm o feysydd parcio gan ystyried a fuasai modd gwneud hynny heb
gynyddu’r gost i drigolion Gwynedd. Atgoffwyd
yr aelodau bod pedwar aelod wedi eu hethol ar gyfer y Grŵp Tasg yng
nghyfarfod o’r Pwyllgor 4ydd Gorffennaf 2019 - y Cynghorwyr Kevin Morris Jones
(Arfon), Angela Russell (Dwyfor), Annwen Hughes a Gethin Glyn Williams
(Meirionnydd). CYMERADWYWYD y cylch gorchwyl a’r rhaglen waith amlinellol ar gyfer y
Grŵp Tasg |
|
CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL AWST 2017 - MAWRTH 2019 PDF 130 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Gareth Griffith I ystyried
adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd yn gofyn i’r
Aelodau gynnig sylwadau ar gasgliadau allweddol yr Adroddiad Monitro Blynyddol
(Drafft) cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd, Y Cabinet ac
yna Llywodraeth Cymru. Eglurwyd
bod yr adroddiad monitro yn sail dystiolaeth bwysig ar gyfer adolygu’r
Cynllun Datblygu Lleol. Dros amser
gall yr adroddiad monitro ddangos tueddiadau, adnabod unrhyw bolisïau sydd yn cyflawni
ai peidio, ac amlygu unrhyw wagle
neu ddiffyg o ran polisi. Nodwyd bod gan y Cynllun Datblygu
Lleol fframwaith fonitro sydd wedi
ei chytuno gyda’r Arolygydd yn ystod yr
Archwiliad - ategwyd bod y fframwaith yn cynnwys
69 o ddangosyddion sydd yn adrodd ar
5 thema sydd yn y Cynllun. Cyfeiriwyd
at gasgliadau allweddol yr adroddiad monitro ac adroddwyd, o’u hystyried, nid
oedd tystiolaeth yn dangos bod angen adolygiad cynnar o’r Cynllun. Byddai
adolygiad o’r Cynllun yn cael ei gynnal yn 2021 oni bai bod adroddiad monitro
blynyddol yn nodi yn wahanol. Diolchwyd
am y wybodaeth Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: ·
Awgrym i gyflwyno cyfanswm y nifer tai sydd wedi ei hadeiladu
fesul blwyddyn er mwyn rhoi
cyd-destun i’r adroddiad ·
Bod angen
adroddiad blaen, dealladwy yn crynhoi a symleiddio rhywfaint o’r wybodaeth
dechnegol, ffeithiol ·
Bod
angen rheolaeth o gynnydd mewn tai haf o ganlyniad i dai newydd yn cael eu
hadeiladu. Er yn ymwybodol bod y Cabinet wedi cymeradwyo gwaith ymchwil all
arwain at newidiadau i ddeddfwriaeth, awgrymwyd sicrhau bod cyswllt rhwng yr
adolygiad monitro blynyddol a’r gwaith ymchwil ·
Bod yr
adolygiad yn monitro adeiladau newydd ac nid y stoc tai ·
Bod
angen adolygu niferoedd tai yn sgil penderfyniad Wylfa B. Nifer o’r dynodiadau
bellach yn ‘ddi angen’ ·
Angen
cydlynu datblygiadau economaidd gyda datblygiadau tai yn well ·
Angen
ystyried y term, ‘pobl leol’. Gwledydd eraill megis yr Eidal yn datblygu tai ar
gyfer pobl leol yn unig – awgrym i edrych yn fanylach i gynlluniau tebyg ·
Rhaid
rhoi ystyriaeth i’r Gymraeg ar gyfer pob datblygiad ac nid ar gyfer adeiladu
tai yn unig. ·
Bod angen ystyried sut i
fesur effaith ar yr iaith
Gymraeg ·
Cynnig
bod datganiadau iaith yn cael eu cwblhau gan arbenigwyr cydnabyddedig priodol –
awgrym i’r Cyngor roi arweiniad ar y rhai sydd yn gymwys i gwblhau datganiadau
iaith ·
Awgrym
i sefydlu gweithgor ymhen blwyddyn fel bod modd herio ymhellach a chael
dadansoddi’n fanylach ·
Pwy fydd yn ymateb ar
ran y Cyngor i’r ymgynghoriad ar y Fframwaith Cenedlaethol erbyn Tachwedd 1af 2019? Mewn ymateb i sylw ynglŷn ar awgrym y dylai datganiadau iaith gael eu cwblhau gan arbenigwyr cydnabyddedig priodol, mynegodd Rheolwr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd bod y Canllaw Cynllunio Atodol, Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy, sydd y cynnwys arweiniad ar gynllunio a’r iaith Gymraeg, yn cyfeirio at yr angen i’r datganiadau gael ei gwneud gan unigolyn cymwys. Cydnabuwyd bod y canllaw yn cynnwys gwybodaeth newydd i bawb a bod bwriad cynnal sesiynau gydag Aelodau a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |