Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2023-2024.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ail-ethol y Cyngorydd Elin Hywel yn Gadeirydd Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer 2023/2024.

 

Cofnod:

Ethol y Cynghorydd Elin Hywel yn Gadeirydd Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer 2023/2024.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2023-2024.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Annwen Hughes yn Is-gadeirydd Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer 2023/2024.

 

Cofnod:

Ethol y Cynghorydd Annwen Hughes yn Is-gadeirydd Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer 2023/2024.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr Kim Jones, Linda Morgan a Rob Triggs.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 357 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 09 Mawrth 2023 fel rhai cywir. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 09 Mawrth 2023, fel rhai cywir.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS GWYNEDD AC YNYS MÔN 2022-23 pdf eicon PDF 519 KB

Adolygu Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn 2022-23.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

2.    Bod Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn yn cylchredeg cofnodion cyfarfodydd diweddaraf y Bwrdd i Aelodau’r Pwyllgor mor fuan â phosib.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Ddirprwy Arweinydd Y Cyngor a Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor oherwydd bod gan Bwyllgorau Craffu Gwynedd ac Ynys Môn ddyletswydd i fonitro cynnydd ymdrechion y Bwrdd wrth weithredu’r cynllun llesiant, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Esboniwyd mai 2022-2023 oedd flwyddyn olaf y cynllun llesiant a fabwysiadwyd yn 2018. Nodwyd bod y Bwrdd wedi cynnal ymgynghoriadau trylwyr gan ymgysylltu gyda grwpiau o rhanddeiliaid er mwyn datblygu Cynllun Llesiant ar gyfer 2023-2028. Nodwyd byddai’r cynllun hwn yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod a gynhelir ym Moduan yn Awst 2023.

 

Nodwyd bod y cynllun llesiant newydd yn adlewyrchu gwersi a ddysgwyd gan y Bwrdd wrth weithredu’r Cynllun Llesiant diweddaraf er mwyn ymgorffori gweithdrefnau newydd i fod yn fwy llwyddiannus.

 

Atgoffwyd bod aelodau’r Bwrdd yn arbenigwyr yn eu meysydd unigol ac yn cydweithio gyda’r rhanddeiliaid er mwyn sicrhau eu bod yn gallu ychwanegu gwerthi amcanion y Bwrdd oddi fewn y Cynllun Llesiant. Rhannwyd rhai enghreifftiau ble roedd y trefniant hwn wedi bod yn llwyddiannus megis Siarter Teithio Llesol, tywys Aelodau Llywodraeth Cymru o amgylch ardaloedd Gwynedd a Môn er mwyn pwysleisio pwysigrwydd mentrau cymdeithasol o fewn cymunedau a chydlynu newidiadau i faes iechyd a gofal

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

Mewn ymateb i sylwad ar sicrhau fod trigolion yn ymwybodol o beth yw ystyr sero net carbon a sut i’w gyrraedd, cadarnhaodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn, bod gweithdai yn cael eu cynnal ar hyn o bryd er mwyn canfod y ffordd orau o gyflwyno’r Amcan hwn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod am yr Iaith Gymraeg, sicrhaodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn bod yr Iaith Gymraeg yn flaenoriaeth barhaol i’r Bwrdd ac ni fyddai’n cael ei newid pob 5 mlynedd fel Amcanion Llesiant y Bwrdd a nodwyd bod Is-grŵp wedi ei ffurfio’n barhaol er mwyn trafod materion ieithyddol. Ymhelaethwyd bod Comisiynydd y Gymraeg yn cyfarfod gyda Chadeirydd y Bwrdd yn chwarterol ac yn hapus gyda’u gwaith. Pwysleisiwyd bod geiriad y cynllun gorffenedig wedi cael ei ddiwygio er mwyn amlygu pwysigrwydd yr iaith i’r Bwrdd.

 

Nododd yr aelod ei fod yn cydnabod y gwaith a gyflawnwyd gan y Bwrdd o ran yr Iaith Gymraeg ond ei fod o’r farn bod peidio cynnwys Amcan Llesiant penodol yn y Cynllun Llesiant newydd yn gam gwag. Ymhelaethodd pe byddid wedi cynnwys Amcan Llesiant penodol mi fyddai wedi gwneud datganiad cryf bod yr Iaith yn ganolog i waith y Bwrdd ac yn uwch na phopeth.

 

Nodwyd nad oedd cofnodion cyfarfodydd diweddaraf y Bwrdd wedi cael eu uwchlwytho ar eu gwefan ac felly cynigiwyd i ohirio’r drafodaeth nes i’r wybodaeth gael eu rhannu’n gyhoeddus er mwyn sicrhau bod y mater yn cael ei graffu’n llawn gyda holl wybodaeth berthnasol wrth law. Eiliwyd y cynnig.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DIWEDDARIAD - DATBLYGIADAU YN Y MAES CLUDIANT CYHOEDDUS pdf eicon PDF 275 KB

Diweddaru’r Pwyllgor am y gwaith wrth law er ystyriaeth yr aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Adran Amgylchedd a Rheolwr Cludiant Integredig a Diogelwch Ffyrdd. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod y maes cludiant cyhoeddus yn profi cyfnod heriol yn dilyn Covid-19.  Nodwyd bod pobl wedi symud oddi wrth ddefnyddio cludiant cyhoeddus yng nghyfnod y Pandemig ac nad oedd y ffigyrau wedi cynyddu i’r lefel a welwyd cyn Covid-19. Eglurwyd bod pecyn ariannol wedi ei ddarparu gan y Llywodraeth er mwyn cynorthwyo costau cynnal cludiant cyhoeddus dros y cyfnod hwnnw ond bod y cynllun brys wedi dod i ben. Nodwyd y derbyniwyd cadarnhad y byddai’r Llywodraeth trwy’r Gronfa Bontio ar gyfer bysiau yn darparu cymorth ariannol tan Ebrill 2024.

 

Adroddwyd bod newid yn nhechnoleg yn golygu bod y Cyngor yn ceisio defnyddio bysiau trydan. Nodwyd bod  bysiau trydan cyntaf Gwynedd yn mynd i gael eu gwefru ym Mhorthmadog. Esboniwyd bod hyn yn newid mawr i gwmnïau bysiau a bod risgiau sylweddol ynghlwm a’r newidiadau hyn.

 

Cydnabuwyd bod ceir personol yn mynd i fod yn angenrheidiol mewn rhai ardaloedd gwledig er gobeithiwyd i’r ddibyniaeth hwn ar geir personol gael ei leihau yn y dyfodol. Er hyn, adroddwyd bod cynnydd o dros 30% yn nefnydd y SHERPA o gwmpas ardal Yr Wyddfa dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

Atgoffwyd bod nifer o sefydliadau yn gyfrifol am y maes cludiant cyhoeddus ar y cyd gyda’r Cyngor megis Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru a Chyd-Bwyllgor Corfforedig Rhanbarth y Gogledd.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

Mewn ymateb i ymholiad ar bwyntiau gwefru bysiau trydan ym Mhorthmadog, cadarnhaodd Pennaeth Adran Amgylchedd y gobeithir i’r pwyntiau gwefru gael eu cysylltu’n drydanol erbyn mis Awst, gyda’r gwasanaethau ar gael i’r cyhoedd erbyn mis Medi yn ddibynnol ar dendr. Er hyn, nodwyd bod ymddygiad gwrthgymdeithasol ar fysiau yn dilyn 6yh yn peri pryder i gwmnïau a chynhelir trafodaethau gyda’r heddlu i ddatrys y broblem. Eglurwyd y parheir i ddarbwyllo gweithredwyr i barhau gyda gwasanaethau ond ei fod yn her oherwydd prisiau rhedeg gwasanaethau.

 

Nododd aelod ei fod yn croesawu’r cydweithio gyda Thrafnidiaeth i Gymru gan nodi pwysigrwydd bod y gwasanaethau lleol yn cysylltu gyda’r gwasanaethau strategol. Cyfeiriodd at wasanaeth yn ei ward nad oedd yn mynd trwy Dolan, er y credai y dylai oherwydd y nifer o deithwyr posib a fyddai’n cynyddu niferoedd defnyddwyr y gwasanaeth.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar gyllideb, cadarnhaodd Pennaeth Adran Amgylchedd bod y Cyngor yn ffodus i dderbyn cefnogaeth gan Trafnidiaeth i Gymru yn flynyddol. Er hyn, pwysleisiwyd nad oes corff arall fyddai’n gallu helpu’r Cyngor i ariannu’r gwasanaethau hyn petai’r gefnogaeth yn dod i ben. Eglurwyd byddai angen chwilio am arian refeniw i ariannu’r gost petai’r sefyllfa hyn yn codi.

 

Eglurwyd bod y bysiau trydan wedi eu prynu gan Lywodraeth Cymru a bod eu perchnogaeth yn symud i Gyngor Gwynedd. Esboniwyd bod y broses o gael trwyddedau a hawliau ar gyfer meddu â thrwydded bysiau yn un anodd, cymhleth a chostus iawn ac ni fyddai hyn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2023/24 pdf eicon PDF 502 KB

Cyflwyno rhaglen waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2023/24 i’w mabwysiadu.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd rhaglen waith y Pwyllgor ar gyfer 2023/24 gan nodi’r addasiadau isod:

·       Symud yr eitem Toiledau Cyhoeddus o gyfarfod 22.02.2024 i gyfarfod 05.10.2023

·       Ychwanegu’r eitem Llawlyfr Cynnal Priffyrdd i gyfarfod 22.02.2024

·       Rhaglennu diweddariad o Ddatblygiadau yn y maes Cludiant Cyhoeddus pan yn amserol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:

 

Nodwyd bod y blaenraglen ddrafft wedi ei lunio yng ngweithdy blynyddol y pwyllgor ar 10 Mai 2023. Ymhelaethwyd y gofynnwyd i aelodau’r Pwyllgor ymateb i gwestiwn ar-lein o ran eu pum prif flaenoriaeth o’r rhestr o eitemau posib a ddarparwyd ymlaen llaw cyn y gweithdy. Tynnwyd sylw at y pum prif flaenoriaeth a ddaeth i’r amlwg o’r ymatebion i’r cwestiwn, sef:

 

·       Datblygiadau yn y maes Cludiant Cyhoeddus

·       Torri Gwair a Chynnal Tiroedd

·       Gwasanaethau Casglu Gwastraff ac Ailgylchu

·       Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd

·       Toiledau Cyhoeddus

 

Nodwyd bod yr Aelodau wedi ymgeisio i sicrhau nad oedd mwy na 3 eitem i’w drafod ym mhob cyfarfod o’r Pwyllgor er mwyn sicrhau bod pob eitem sy’n cael ei graffu yn derbyn sylw teilwng. Er hyn, nodwyd nad oedd hyn yn bosib ar bob achlysur.

 

Esboniwyd bod blaenraglen y pwyllgor yn ddogfen fyw, sy’n cael ei adolygu’n gyson ar hyd y flwyddyn er mwyn sicrhau fod y materion cywir yn cael sylw amserol.

 

Eglurwyd bod cais wedi ei dderbyn gan yr Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC (Ymgynghoriaeth Gwynedd) yn dilyn y gweithdy i symud eitem. Nodwyd bod y Llawlyfr Priffyrdd wedi ei ystyried a’i gymeradwyo gan Y Cabinet ar 11 Gorffennaf 2023 ac felly ni fuasai’n amserol i’w graffu yn y cyfarfod hwn. Roedd y Pennaeth a’r Aelod Cabinet wedi awgrymu byddai’n amserol i’w graffu yng nghyfarfod 22 Chwefror 2024 gan symud yr eitem Toiledau Cyhoeddus i gyfarfod 5 Hydref 2023. Golyga hyn byddai dau gyfarfod yn ystod y flwyddyn yn cynnwys 4 eitem i’w graffu.

 

Ystyriwyd dyddiad i gael diweddariad pellach ar ddatblygiadau yn y maes cludiant cyhoeddus. Eglurwyd byddai modd i Gadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor yn eu cyfarfodydd cyswllt gyda’r Pennaeth a’r Aelod Cabinet drafod yr adeg fwyaf addas i’r eitem ddychwelyd i’r pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD

 

Mabwysiadwyd rhaglen waith y Pwyllgor ar gyfer 2023/24 gan nodi’r addasiadau isod:

·       Symud yr eitem Toiledau Cyhoeddus o gyfarfod 22.02.2024 i gyfarfod 05.10.2023

·       Ychwanegu’r eitem Llawlyfr Cynnal Priffyrdd i gyfarfod 22.02.2024

·       Rhaglennu diweddariad o Ddatblygiadau yn y maes Cludiant Cyhoeddus pan yn amserol.