Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr Kim Jones, Arwyn Herald Roberts a Rob Triggs.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 168 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 05.10.2023 fel rhai cywir. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 05 Hydref 2023, fel rhai cywir.

 

5.

CYNLLUN ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR: ADRODDIAD BLYNYDDOL 2022/23 pdf eicon PDF 116 KB

Diweddariad ar y cynnydd wnaed wrth weithredu’r Cynllun ers Mawrth 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Derbyn yr adroddiad gan argymell:

(i)      Dylid ychwanegu gwybodaeth am ‘Teithio Llesol’ o dan Adran 3 yr Adroddiad: ‘Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016’.

(ii)     Dylid ystyried addasu ffurf arddangos y wybodaeth o dan y teitlau ‘Beth y wnaethom ddweud y byddem yn ei wneud yn 2022/23’ a ‘Be wnaethom ni’ yn Adrannau 5-11 yr Adroddiad er mwyn eglurder i’r darllenydd.

 

2.    Argymell i’r Cabinet y dylid ystyried yr adnodd staff i gyflawni gweledigaeth y Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Weithredwr. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur yn un o flaenoriaethau Cynllun y Cyngor, gyda Bwrdd wedi ei sefydlu i’w gefnogi.

Tynnwyd sylw bod y cynllun yn cynnwys dau gam. Manylwyd mai’r cam cyntaf oedd gweithredu prosiectau’r Cyngor er mwyn lleihau’r defnydd o ynni a lleihau allyriadau carbon y Cyngor ac mai’r ail gam fyddai edrych ar yr effaith ehangach ar y sir gan ystyried sut gall y Cyngor helpu cymunedau a sut gellir ymateb fel sir i effaith newid hinsawdd.

 

Eglurwyd bod delio gydag argyfwng hinsawdd a natur yn rhan o waith y Cyngor ers 2005/06 a nodwyd bod llwyddiant mawr i’w gweld erbyn hyn. Manylwyd bod 51% yn llai o allyriadau carbon yn y maes Adeiladau rhwng 2005/06 a 2019 a bod 23% o allyriadau carbon yn y maes Fflyd o fewn yr un cyfnod. Adroddwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i leihau allyriadau carbon y Cyngor 43% o fewn y cyfnod hwn.

 

Nodwyd bod y Cyngor yn gweld buddion ariannol wrth daclo argyfwng hinsawdd a natur, gan arbed £15miliwn ers 2010. Pwysleisiwyd y golygai hyn y buasai angen gwneud mwy o doriadau yn sgil sefyllfa ariannol bresennol y Cyngor os na fuasai’r gwaith ar yr argyfwng newid hinsawdd a natur wedi cael ei gyflawni. Cydnabuwyd bod ystyriaethau newydd i’w hystyried erbyn hyn megis heriau maes caffael yn ogystal â’r ffaith bod mwy o weithlu’r cyngor yn gweithio o adref.

 

Mynegwyd pryder am y dull o gyfrifo allyriadau carbon yn deillio o gaffael yn genedlaethol. Esboniwyd bod prynu nwyddau lleol yn cael ei gyfrifo yn yr un modd a phrynu nwyddau o’r cyfandir, er bod gwahaniaethau mawr yn y gwir allyriadau carbon. Nodwyd bod modd i hyn effeithio ar economi leol mewn ardaloedd gan nad oes anogaeth i brynu’n lleol. Eglurwyd bod y drefn wedi ei mireinio dros y ddwy flynedd diwethaf gan arwain at ostyngiad yn allyriadau carbon y Cyngor. Nodwyd y trosglwyddir neges gyson i Lywodraeth Cymru nad yw’r dull cyfrifo yn y maes caffael yn adlewyrchu’r gwir sefyllfa. Pryderwyd na fydd modd cyrraedd targedau o fod yn garbon niwtral erbyn 2030 os na fydd y dull cyfrifo hwn yn cael ei ddiwygio.

 

Cadarnhawyd bod y Cyngor yn barod i edrych ar gam dau'r Cynllun, sef i edrych ar gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Soniwyd mai cam cyntaf y cynllun oedd lleihau’r allyriadau carbon, ac felly rhaid sicrhau trefniadau hir dymor er mwyn i’r ffigyrau allyriadau hyn aros yn isel. Eglurwyd bod y datblygiadau hyn yn cael eu gweithredu o fewn y prif themâu canlynol:

 

·       Adeiladau ac ynni

·       Symud a thrafnidiaeth

·       Gwastraff

·       Llywodraethu

·       Caffael

·       Defnydd tir

·       Ecoleg

 

Manylwyd ar rhai o’r themâu gan roi enghreifftiau o brosiectau cysylltiedig. Cyfeiriwyd at brosiect paneli solar o fewn y maes adeiladau ac ynni gan nodi bod hyn yn faes mae’r Cyngor wedi buddsoddi ynddo eisoes a bod £500k o arbedion wedi eu creu yn sgil y prosiect. Nodwyd bod £2.8miliwn pellach  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

STRATEGAETH LLIFOGYDD LLEOL pdf eicon PDF 125 KB

Mae’n ofynnol i’r Cyngor lunio Strategaeth Llifogydd Lleol erbyn Hydref 2023. Mae’r gwaith wedi ei ddyrannu fel risgiau llifogydd mewndirol ac arfordirol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Derbyn yr adroddiad gan argymell:

(i)             dylid cynnwys gwybodaeth am y risg o ran ffyrdd yn llifogi yn ogystal a’r risg i eiddo yn y Strategaeth Llifogydd Lleol;

(ii)            dylid codi ymwybyddiaeth holl drigolion o sut i baratoi ar gyfer llifogydd.

2.    Bod y Pwyllgor yn craffu’r Strategaeth Llifogydd Lleol yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus yn ei gyfarfod ar 22 Chwefror 2024.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol yn un o ofynion y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2021 a bod rhaid iddo fod yn gyson â’r Strategaeth Genedlaethol a gyhoeddwyd y llynedd. Adroddwyd ar yr angen i ddiwygio’r Strategaeth er mwyn iddo gyd-fynd â gofynion statudol erbyn gwanwyn 2024.

 

Cadarnhawyd mai’r 5 prif Amcan o’r Strategaeth ddiwygiedig hon yw:

1.    Anelu at leihau lefel y perygl o lifogydd ac erydu arfordirol i drigolion Gwynedd.

2.    Datblygu dealltwriaeth bellach o’r perygl llifogydd i Wynedd ac effeithiau newid hinsawdd.

3.    Parhau i weithio gyda’r holl gyrff perthnasol i sicrhau datblygiad priodo a chynaliadwy yng Ngwynedd.

4.    Codi ymwybyddiaeth o berygl llifogydd ac erydi arfordirol lleol

5.    Gweithio ar y cyd â’r holl Awdurdodau Rheoli Perygl eraill a grwpiau/cyrff perthnasol i sicrhau ymateb cyd-gysylltiedig i ddigwyddiadau llifogydd ac erydu arfordirol.

 

Esboniwyd nad yw’r Strategaeth wedi ei lunio yn ei gyfanrwydd ar hyn o bryd ond bod yr Adroddiad a’r Atodiadau yn dangos y math o wybodaeth bydd y cynllun yn ei gynnwys. Cadarnhawyd bod yr Amcanion wedi cael eu llunio mewn ymateb i heriau sydd i’w gweld yng Ngwynedd. Gwnaed cais i’r Pwyllgor ystyried craffu’r Strategaeth lawn yn dilyn cyfnod o ymgynghori statudol arno.

 

Nododd aelod ei gefnogaeth i ymgynghori gyda chymunedau sydd mewn ardaloedd ble mae risgiau o lifogydd yn uchel ond bod angen cynnwys cymunedau mewn ardaloedd gyda risg llifogydd eilradd yn ogystal. Cydnabuwyd bod angen i holl drigolion fod yn ymwybodol o’r Strategaeth a sut i ymateb pan fydd llifogydd oherwydd bod rhai ardaloedd yn gallu cael eu hynysu wrth i lifogydd gau lonydd, gan arwain at drafferthion i ofal meddygol, mynediad at siopau a nifer o broblemau eraill. Pwysleisiwyd bod gwahoddiad i bawb gymryd rhan yn yr ymgynghoriad statudol er mwyn sicrhau bod gymaint o wybodaeth a phosibl yn bwydo mewn i’r ddogfen derfynol, a bod systemau mewn lle i rannu gwybodaeth a diogelu trigolion Gwynedd.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar y defnydd o derminoleg feddal megis ‘anelu’ o fewn dogfennaeth yr adroddiad, cadarnhawyd bod yr iaith hon wedi cael ei ddefnyddio oherwydd cyfyngiadau ar y Cyngor. Cadarnhawyd bod rhai elfennau o fewn y maes yn gyfrifoldeb ar gyrff y tu hwnt i’r Cyngor, ac o dan reolaeth y Llywodraeth ac felly mae’n anodd gosod geirfa gadarn ar hyn o bryd heb ddeall mwy am ddyheadau’r Llywodraeth.

 

Cydnabuwyd bod pennu cyfrifoldebau ymysg partneriaid wedi bod yn heriol yn y gorffennol ond bod dealltwriaeth wedi ei gyrraedd erbyn hyn wrth i berthynas rhyngddynt ddatblygu. Pwysleisiwyd bydd y strategaeth lawn yn mynd i amlygu cyfrifoldebau'r holl bartneriaid i’r dyfodol. Eglurwyd bod y partneriaid yn mynd tu hwnt i’w cyfrifoldebau mewn sefyllfaoedd argyfyngus.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nodwyd y cynhelir cyfarfodydd cynllunio argyfwng yn rheolaidd a bod bwriad i gynnal ymarferiad er mwyn sicrhau gwytnwch trefniadau i ymateb i ddigwyddiad llifogydd.

 

Holodd aelod o ran trefniadau cyllido gwaith  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2023/24 pdf eicon PDF 191 KB

Mabwysiadu rhaglen waith ddiwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2023/24.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod Blaenraglen diwygiedig y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer 2023/24 wedi’i fabwysiadu yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 5 Hydref 2023.

 

Eglurwyd yr angen i ddiwygio’r blaenraglen ar gyfer 2023/24 ymhellach. Tynnwyd sylw bod yr eitem ‘Strwythur Llywodraethant a Threfniadau Cyflawni Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn’ wedi ei raglennu ar gyfer y cyfarfod yma ond nid oedd yn amserol i’w ystyried. Nodwyd y derbyniwyd cadarnhad gan Reolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn y byddai’n amserol i gyflwyno’r eitem yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 18 Ebrill 2024. Sicrhawyd byddai hyn yn diwallu’r gofyniad i graffu gwaith y Bwrdd dwywaith o fewn blwyddyn Cyngor.

 

 

Adroddwyd bod eitem ‘Gwasanaethau Casglu Gwastraff ac Ailgylchu’ wedi cael ei raglennu i gyfarfod 18 Ebrill 2024 yn ystod y gweithdy blynyddol eleni. Diweddarwyd mewn cyfarfod rhwng Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, Aelod Cabinet Amgylchedd a Phennaeth Adran Amgylchedd na fyddai’n amserol i graffu’r eitem hon yn ystod y cyfarfod hwnnw. Ystyriwyd byddai craffu’r eitem yn hwyrach yn y flwyddyn yn caniatáu i ffrydiau gwaith yn y maes hwn ddatblygu ymhellach. Awgrymwyd byddai ail-raglennu’r eitem gan ystyried ei flaenoriaethu yng Ngweithdy Blynyddol 2024/25 ar gyfer cyfarfod cyntaf 2024/25 yn caniatáu’r Pwyllgor i ychwanegu gwerth drwy graffu yn amserol.

 

Atgoffwyd yr aelodau bod y Pwyllgor yn yr eitem flaenorol wedi penderfynu craffu’r ‘Strategaeth Llifogydd Lleol’ yng nghyfarfod 22 Chwefror 2024.

 

Nodwyd y derbyniwyd cadarnhad yn dilyn cyhoeddi rhaglen y cyfarfod, ni fyddai’n bosib cyflwyno adroddiad ‘Cyfarwyddyd Erthygl 4 - Ymgynghoriad Cyhoeddus’ i gyfarfod y Pwyllgor ar 22 Chwefror 2024. Eglurwyd bod hyn oherwydd bod gwaith sylweddol i’w wneud yn dilyn derbyn 3,900 o ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Rhagwelwyd y byddai’n bosib adrodd i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 18 Ebrill 2024. Awgrymwyd er mwyn hwyluso hyn, y byddai’n opsiwn i dynnu’r eitem ‘Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd’ o’r blaenraglen ar gyfer 2023/24 gan nad oedd pryder penodol am berfformiad yn y maes hwn. Ychwanegwyd y gellid rhoi ystyriaeth i flaenoriaethu’r eitem ar gyfer 2024/25 yn y Gweithdy Blynyddol.

 

Nodwyd cefnogaeth i’r bwriad i flaenoriaethu eitemau yn unol â’r uchod.

 

PENDERFYNWYD

 

Mabwysiadu rhaglen waith  diwygiedig ar gyfer 2023/24.