Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2026/2027 Cofnod: PENDERFYNWYD ethol Osian Richards yn Gadeirydd
y Bwrdd ar gyfer 2026/27 |
|
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2026/2027 Cofnod: PENDERFYNWYD ethol Roland Thomas yn Is-gadeirydd y Bwrdd ar gyfer 2026/27 Cymerodd Sioned Parry, y Cyn-gadeirydd, y cyfle i longyfarch
y penodiadau newydd ac i ddiolch i’w
chyd-aelodau a’r swyddogion am eu cefnogaeth yn ystod
ei chyfnod fel Cadeirydd. Diolchwyd i Sioned Parry am ei
hagwedd gydwybodol wrth gynrychioli'r Bwrdd ac am y gwaith roedd yn ei
wneud oedd ynghlwm a chyfarfodydd Ymgysylltu Cadeiryddion Byrddau Pensiwn, Partneriaeth Pensiwn
Cymru. |
|
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Osian
Richards a Ned Michael, y Cyng. Elin Hywel (Cadeirydd
y Pwyllgor Pensiynau) a Dewi
Morgan (Pennaeth Cyllid). |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
|
Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 20fed Ebrill
2026 fel rhai cywir. |
|
|
CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2026 I dderbyn a nodi Datganiad Cyfrifon
y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar
archwiliad) ar gyfer 2025/26. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth,
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion
gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn
a ddaeth i ben Mawrth 31ain
2026 Adroddwyd bod y cyfrifon yn dilyn ffurf statudol
CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth
sydd i’w gyflwyno yn y cyfrifon.
Ategwyd bod y cyfrifon drafft yn destun
archwiliad gan Archwilio Cymru gyda bwriad cyflwyno’r fersiwn derfynol i'r’ Pwyllgor yn
Hydref 2026. Nodwyd bod y flwyddyn
wedi bod yn un brysur i’r Gronfa
wrth barhau i fuddsoddi yn
ehangach gyda Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). Tynnwyd sylw at Gyfrif y Gronfa gan nodi bod ychydig o amrywiadau yn y cyfraniadau a’r buddion. Ategwyd
bod lleihad yn y costau rheoli wrth
gyflwyno mathau gwahanol o fuddsoddiadau i’r portffolio a lleihau buddsoddiadau gyda grŵp Partners sydd yn hanesyddol
wedi cael ffioedd rheoli uwch. Ategwyd bod yr incwm buddsoddi wedi cynyddu a’r
Gronfa wedi derbyn incwm rheolaidd
gan y buddsoddiadau newydd megis isadeiledd
ac ecwiti preifat o fewn PPC. Nodwyd bod cynnydd o oddeutu £280 miliwn yng ngwerth
marchnad y Gronfa sydd yn unol
â’r cynnydd graddol blynyddol. Cyfeiriwyd at nodiadau statudol
yr adroddiad oedd yn rhoi manylion
tu ôl i’r
ffigyrau ynghyd a manylion pellach am weithgareddau’r Gronfa a PPC. Diolchwyd am yr adroddiad Sylwadau yn
codi o’r drafodaeth ddilynol: ·
Y
sefyllfa ariannol yn parhau yn
gryf ·
Yn diolch
i’r tîm am eu gwaith cydwybodol
- y sefyllfa yn un iach iawn ·
Bod y gwaith
o ymateb i’r gofyn yn cynyddu
bob blwyddyn a’r tîm yn cwblhau
hynny yn effeithiol ac amserol Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chefndir Nodyn 7: Cyfraniadau Derbyniaday a chyfeiriad at ‘Eraill’ (trafodion credyd ymadael) £5,129, nodwyd bod y swm yn gyfanswm
a drosglwyddwyd yn dilyn dod a gwasanaeth
addysg GwE i ben. Adroddwyd bod y chwe Awdurdod ar draws y Gogledd wedi derbyn
swm oedd yn ymwneud ar
hyn oedd yn weddill ac wedi
cael ei weithredu
yn unol â pholisi chredyd ychwanegol. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â Nodyn 15b Cysoniad Mesuriadau Gwerth Teg o Fewn lefel 3 (Cyfanswm
Gwerth y Farchnad 31-03-26
= £636,228) ac, os oedd gwerth y buddsoddiadau yn amcangyfrifiad, sut felly oedd cael sicrwydd i'r
gwerth, nodwyd bod eiddo yn cael
eu prisio drwy dderbyn prisiau
gan y Rheolwr Buddsoddi a’r sefyllfa
ac unrhyw symudiadau yn cael eu
monitro yn ddyddiol. Ategwyd, oherwydd y ganran uchel mewn ecwiti
bod bwriad lleihau buddsoddiadau mewn ecwiti i feysydd
sydd yn llai
agored i newid – yn feysydd
mwy sefydlog fyddai’n wynebu llai o risg yn
y farchnad agored. Ynglŷn â Nodyn 21 - Ymrwymiadau
Cyfredol a beth oedd wedi arwain
at y newid rhwng £4,012,000
ym Mawrth 2025 a £8,387,000 ym
Mawrth 2026, nodwyd eto mai taliad yn
ymwneud a GwE oedd yma - un oedd heb
ei dalu hyd
y flwyddyn ddyledus - GwE wedi dod i
ben 31ain o Fai 2025. PENDERFYNWYD derbyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
SYMPOSIWM PWLIO CPLlL I ystyried a derbyn y
wybodaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adborth gan Mr
Anthony Deakin oedd wedi mynychu Symposiwm Pwlio CPLlL ym
mis Mai ar ran y Bwrdd. Roedd rhaglen y gynhadledd yn adlewyrchu
cyflymder a graddfa'r newid ar draws tirwedd CPLlL ac wedi ei threfnu’n
ofalus i ddarparu mewnwelediad ymarferol, cyd-destun strategol a safbwyntiau blaengar ar rôl
esblygol y pwlio. Roedd y gynhadledd yn cynnig cyfleoedd
rhwydweithio helaeth, gan alluogi cynrychiolwyr
i gysylltu â chyfoedion, cyfnewid profiadau ac adeiladu perthnasoedd gwerthfawr ar amser tyngedfennol
i'r sector. Cyfeiriodd at ddau fater oedd yn achosi
pryder iddo; a) Nad oedd Llywodraeth
y DU yn cynnwys CPLlL ar drafodaethau
ynghylch Dyletswydd Ymddiriedolwyr b) Bod angen adeiladu goruchwyliaeth rheoli contractau ar gyfer Pwyllgorau
Pensiwn ar gyfer y pwls ynghyd
a threfniadau datrys anghydfodau os bydd pethau'n mynd
o'i le – pryder mai’r Pwyllgorau Pensiynau fydd yn cymryd y baich. Diolchwyd am y wybodaeth Mewn ymateb i’r sylwadau nododd y Rheolwr Buddsoddi bod y sefyllfa lle nad
oedd CPLlL yn cael eu
cynnwys yn nhrafodaethau Dyletswydd Ymddiriedolwyr yn cael ei fonitro,
gan ategu mai hawdd fyddai
colli golwg ar faterion ynghanol yr holl newidiadau. Nodwyd bod IMCo wedi derbyn y sylw
a bod trafodaethau yn cael eu cynnal
ynglŷn â gosod balans rhwng y Dyletswydd Ymddiriedolwyr a symudiadau eraill. Ynglŷn â phryder am rôl y Pwyllgor nodwyd bod y rôl yn newid
yn sgil dyfodiad
IMCo ond yn sicr, un o brif
flaenoriaethau’r Pwyllgor fydd sicrhau bod y cwmnïau buddsoddi yn perfformio ar
lefel llywodraethant. Ategwyd y bydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr gyda chyswllt rhwng
y Pwyllgor ac IMCo ac felly
yn cynnig adnodd defnyddiol a phwysig o rannu a derbyn gwybodaeth. Nodwyd y bydd sesiwn
hyfforddiant yn cael ei gynnal
i amlygu cyfrifoldebau’r Pwyllgor maes o law. Wrth dderbyn yr ymateb, nodwyd pryder ei
bod yn ymddangos bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Caerdydd yn llygadu
arian Cronfeydd Awdurdodau Lleol, a hynny mae'n debyg
oherwydd prinder arian yn eu
cyllideb i fuddsoddi arian mewn gwasanaethau, e.e., yn y maes
tai. O ganlyniad, bydd angen i Gronfa
Gwynedd sicrhau bod buddsoddiadau
doeth yn cael eu gweithredu ar
eu rhan, ac er yn derbyn bod angen
gwariant yn lleol, bod hefyd angen sicrhau gwerth
i aelodau’r Gronfa. Derbyniwyd y wybodaeth |
|
|
ADRODDIAD DRAFFT CADEIRYDD Y BWRDD PENSIWN AR GYFER ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GRONFA I ystyried cynnwys yr adroddiad drafft er mwyn trafod ei gynnwys a chynnig gwelliannau yn y cyfarfod. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad (drafft) gan y Rheolwr Buddsoddi
yn manylu ar weithgareddau'r Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn
a ddaeth i ben 31 Mawrth
2026. Amlygwyd bod yr adroddiad
wedi ei ysgrifennu
yn unol â gosodiad adroddiad 2024 gan gymryd i
ystyriaeth y pynciau a drafodwyd yn ystod
y flwyddyn. Y bwriad yw
cyflwyno’r adroddiad terfynol i’r Rheolwr
Buddsoddi erbyn 31/07/2026 i’w gynnwys fel
rhan o adroddiad blynyddol y Gronfa ac fel rhan o gyfarfod
blynyddol y Gronfa fydd yn cael
ei gynnal 23ain o Dachwedd 2026. Diolchodd y Cyn-gadeirydd i’w
chyd-aelodau am wirfoddoli eu hamser i’r
swyddogaethau ac am adolygu’r
ddogfen, ac i’r swyddogion perthnasol oedd yn gysylltiedig
â pharatoi’r gwaith. Diolchwyd i Sioned Parry, y Cyn-gadeirydd
am ei gwaith. Nodwyd bod gwybodaeth ar
yr hyfforddiant perthnasol angen ei gwblhau
a’i gynnwys yn y fersiwn derfynol. PENDERFYNWYD derbyn cynnwys yr adroddiad drafft |
|
|
GWEINYDDU PENSIYNAU I ystyried
yr adroddiad a nodi’r wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad cynhwysfawr
gan y Rheolwr Pensiynau yn rhoi
trosolwg cyffredinol o weinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol dros y flwyddyn
ddiwethaf ynghyd a’r gweithgareddau sy’n cael eu
cynnal gan Gronfa Bensiwn Gwynedd i ymateb i
ddatblygiadau cyfredol, cynnal safonau gwasanaeth a gwybodaeth am y gwaith a gyflawnwyd dros y cyfnod, a diweddariadau amrywiol brosiectau: ·
Diweddariad Rheoleiddiol
- Addas ar Gyfer y Dyfodol - pwyslais ar atebolrwydd, safonau proffesiynol a gwneud penderfyniadau effeithiol. Bydd gofyn i bob Cronfa CPLlL benodi Uwch
Swyddog CPLlL dynodedig i reoli
a gweinyddu’r Gronfa Bensiwn yn effeithiol
a phenodi Person Annibynnol
i gael ei
gynnwys ar y Pwyllgor Pensiynau i ddarparu her allanol, cefnogi penderfyniadau cadarn a chryfhau goruchwyliaeth llywodraethu - penodiadau yn eu lle
erbyn 31 Rhagfyr 2026 ·
Cynnal Adolygiad
Llywodraethu i asesu effeithiolrwydd strwythurau llywodraethu presennol - y gwaith i’w gwblhau erbyn
31 Ragfyr 2026 ·
Diwygiadau Mynediad
a Thegwch CPllL i wella cydraddoldeb,
hygyrchedd a thegwch ar draws y CPLlL. Y gwaith yn amlygu
sialens o gysoni ac adnabod achosion perthnasol i’r diwygiadau ·
Effaith ar
weinyddiaeth - cais i’r Gronfa adolygu
gweithdrefnau, asesu achosion hanesyddol, diweddaru prosesau gweinyddu a chyfathrebu Aelodau,
a pharatoi ar gyfer gofynion adrodd newydd ·
Diweddariad staffio
- croesawu penodiad Prentis
a Swyddog Pensiwn dan Hyfforddiant ·
Cyfraniadau Gwirfoddol
Ychwanegol - oherwydd heriau sy’n deillio
o drefniadau presennol y Gronfa, comisiynwyd Hymans
Robertson i adolygu’r farchnad i ganfod
gwell darparwr. Penodwyd Legal & General, sydd
â phrofiad a buddion da, i ddarparu trefniadau
cyfraniadau gwirfoddol ar gyfer aelodau’r
Gronfa a bod trafodaethau yn cael eu
cynnal i osod amserlen trosglwyddiadau. ·
System Gyflogres
Newydd - cynlluniau presennol
ar gyfer profi'r system newydd i ddechrau yn
ystod tymor yr Hydref 2026,
gyda disgwyliad i’r system newydd fod yn weithredol
yn gynnar yn 2027 ·
Datrysiad McCloud - cynnydd yn parhau
i fod yn
gadarnhaol a gwaith ar y trywydd iawn
i gwblhau’r gwaith prosiect sydd yn weddill
(yn unol â’r amserlen a gytunwyd). Cyfeiriwyd at lwyddiant parhaus
‘Fy Mhensiwn Ar-lein’ gan
nodi bod aelodaeth y porth yn parhau i
dyfu’n gyson gyda 8,200 o Aelodau wedi cofrestru i’r porth
newydd. Adroddwyd bod
Cronfa Bensiwn Gwynedd yn archwilio cyfleoedd i ehangu ymarferoldeb
y porth ymhellach sydd yn cynnwys
cyflwyno ffurflenni digidol. Ategwyd, yn dilyn llwyddiant
fideos AI bod bwriad gwneud mwy o ddefnydd
o fideos fel bod modd i Aelodau gael mynediad at bynciau pensiwn penodol. Tynnwyd sylw at yr Arolwg Boddhad Gwasanaeth sy’n cael ei anfon
at Aelodau ar ddiwedd prosesau allweddol, megis ymddeoliadau a thaliadau ad-dalu, i gasglu barn ar
ansawdd y gwasanaeth a dderbyniwyd. Adroddwyd bod 89 o aelodau wedi cymryd
rhan yn yr arolwg gyda’r canlyniad
yn galonogol iawn (95% o’r defnyddwyr
yn cytuno’n gryf neu gytuno bod yr ansawdd o safon uchel a 97% yn cytuno’n gryf neu gytuno bod y gwasanaeth a ddarparir gan staff yn bodloni safon
uchel). Diolchwyd am yr adroddiad. Yn ystod y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
|
POLISÏAU GWEINYDDOL Y GRONFA BENSIWN I ystyried yr adroddiad a chynnig adborth am gynnwys
y polisi gweinyddol newydd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd y Rheolwr Pensiynau
adroddiad oedd yn cyflwyno dau
bolisi gweinyddol allweddol i’r Bwrdd
eu harchwilio. Nodwyd bod y polisïau yn hanfodol ar
gyfer rheoli a gweinyddu’r Gronfa Bensiwn yn effeithiol
ac yn gam sylweddol tuag at wella llywodraethu
da. Ategwyd, yn dilyn adolygiad y Bwrdd, bydd y polisïau
yn cael eu
cymeradwyo gan y Pwyllgor Pensiynau yn Medi 2026. Trafodwyd y Polisïau yn unigol gan roi
cefndir a chyd-destun y polisïau i’r Aelodau ·
Darparu Amcangyfrifon
Ymddeol ·
Meincnodi
a Thegwch Diolchwyd am yr adroddiad ac am y gwaith o ffurfioli’r polisïau. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol: ·
Darparu Amcanion
Ymddeol - er yn derbyn yr angen i newid ac yn
cefnogi’r bwriad, bod angen cymryd pwyll
i beidio torri gormod ar
wasanaethau Aelodau’r Gronfa. Ategwyd bod angen sicrhau gwasanaeth
da a pheidio rhoi cyfle i Aelodau gwyno am y gwasanaeth - angen sicrhau balans
mewn gwariant. Mewn ymateb i gwestiwn os oedd
asesiad effaith cydraddoldeb wedi ei weithredu yn
unol â rheolaeth y Cyngor i bolisïau i
sicrhau nad oes neb o dan anfantais, ac i fod yn
ystyriol o’r gofynion, nodwyd canran isel o’r
Aelodau fydd yn cael eu heffeithio
gan y polisïau hyn, ond mewn
achosion penodol, byddai’r swyddogion yn barod iawn
i edrych ar sefyllfaoedd penodol. Ategwyd y byddai cynnal asesiad
effaith cydraddoldeb yn gynnig derbyniol. PENDERFYNWYD: · Derbyn a nodi’r
wybodaeth · Cynnal Asesiad Effaith Cydraddoldeb o bolisïau’r Gronfa i’r dyfodol. |
|
|
POLISI DISGRESIWN GWEINYDDOL 1.
Adolygu a chraffu ar y Polisi Disgresiwn
Gweinyddol sydd ynghlwm yn Atodiad 1. 2.
Ystyried a yw'r polisi yn darparu digon o
eglurder, cysondeb a rheolaethau llywodraethu mewn perthynas ag arfer pwerau yn
ôl disgresiwn o dan y Rheoliadau CPLlL. 3.
Nodi’r newidiadau arfaethedig i ddull y Gronfa
o leihau pensiwn. 4.
Darparu sylwadau ac argymhellion i'r Pwyllgor
Pensiynau i'w hystyried cyn mabwysiadu'r polisi. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd y Rheolwr Pensiynau
Polisi Disgresiwn Gweinyddol
i’r Bwrdd ei adolygu. Nodwyd
bod angen i’r polisi arfaethedig ddangos cydymffurfiaeth gyda gofynion Rheoliadau
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gan sicrhau bod y trefniadau yn cefnogi
gweinyddiaeth effeithiol, gyson a thryloyw. Eglurwyd nad oedd
Polisïau Disgresiwn Gweinyddol y Gronfa wedi eu hadolygu
na’u diweddaru’n gynhwysfawr ers nifer o flynyddoedd, gyda’r polisi blaenorol
wedi ei gymeradwyo
yn 2009. Adroddwyd bod nifer o newidiadau a chanllawiau CPLlL wedi cyflwyno disgresiwn
ychwanegol ers 2009 ac
felly yn ofynnol i’r awdurdodau gweinyddol ddiweddaru eu polisïau. Y bwriad yw adolygu’r
ddogfen yn flynyddol i sicrhau
bod y polisi yn parhau’n gyfredol, yn adlewyrchu unrhyw
newidiadau deddfwriaethol
neu weithredol ac yn bodloni gofynion rheoleiddio. Cyfeiriwyd at saith newid arfaethedig
i’r disgresiwn gan roi ychydig
o gefndir i’r Aelodau ar y newidiadau a sut roeddynt yn
cael eu ffurfioli. Diolchwyd am yr adroddiad Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol: ·
Yn croesawu’r
swmp gwaith oedd wedi ei
wneud i ddiweddaru’r
newidiadau ·
Yn derbyn
y cynnig i ddileu opsiwn o atal pensiwn (pan oedd aelod yn
derbyn pensiwn salwch Haen 1 neu Haen 2 neu wedi
cael blynyddoedd ychwanegol gan y cyflogwr) oherwydd nad oedd blynyddoedd
ychwanegol wedi eu dyfarnu a bod ymddeoliadau salwch Haen 1 a Haen
2 yn achosion salwch eithriadol. Y newid yn cyd-fynd
a gweinyddiaeth cronfeydd eraill. Mewn ymateb i sylw nad oedd
y polisïau wedi eu hadolygu ers
2009 ac os oedd trefniadau / adnoddau newydd wedi ei
hymgorffori i adolygu a diweddaru yn fwy prydlon
o hyn ymlaen, nodwyd bod rheoliadau newydd yn ei
wneud yn ofynol i Gronfa
gynnal adolygiad annibynol o’i drefniadau
llywodraethu, gan gynnwys adolygu ei bolisiau bob tair blynedd ac felly bydd angen ceisio
trefn newydd. Ategwyd mai un o gyfrifoldebau’r swyddog sydd newydd gael
ei benodi fydd sicrhau cydymffurfiaeth
a chywirdeb i’r polisïau i osgoi
llithriad yn y gwaith i’r dyfodol. PENDERFYNWYD ·
Derbyn bod y polisi yn darparu digon
o eglurder, cysondeb a rheolaethau llywodraethu mewn perthynas ag arfer pwerau yn
ôl disgresiwn o dan y Rheoliadau CPLlL. ·
Nodi’r wybodaeth a’r newidiadau arfaethedig i ddull
y Gronfa o leihau pensiwn. ·
Argymell i'r
Pwyllgor Pensiynau gymeradwyo’r polisi. |