Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Cyng. Beca Roberts (Cynrychiolydd Cyflogwr) a Tony Deakin (Cynrychiolydd
Aelodau) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Cofnod: Llofnododd
y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 29-02-24
fel rhai cywir. |
|
COFNODION Y PWYLLGOR PENSIYNAU PDF 124 KB Cyflwyno,
er gwybodaeth, cofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 19 Mawrth 2024 Cofnod: Cyflwynwyd
er gwybodaeth gofnodion Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 19-03-2024 |
|
DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU PDF 103 KB I ystyried
yr adroddiad a nodi’r wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r aelodau’n ffurfiol o waith
Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). Adroddwyd bod y Pennaeth Cyllid a’r Rheolwr
Buddsoddi yn cynrychioli’r Gronfa yn holl gyfarfodydd y bartneriaeth, a bod y
cydweithio yn parhau i fynd o nerth i nerth ar faterion megis ymateb ceisiadau
rhyddid gwybodaeth, pleidleisio ac ymgysylltu ac yn gyffredinol rhannu ymarfer
da ar draws y cronfeydd. Nodwyd bod 83% o Gronfa Gwynedd wedi ei bwlio gyda PPC
erbyn hyn. Tynnwyd
sylw at y ddwy gronfa ecwiti sydd wedi bod yn weithredol ers dros 5 mlynedd
bellach ac felly’n gyfnod rhesymol i asesu’r perfformiad. Cyfeiriwyd at
berfformiad Cronfa Twf Byd Eang sydd â thri phrif reolwr sy’n gweithredu
arddull gwahanol iawn i’w gilydd - Baillie Gifford, Pzena a Veritas. Amlygwyd
wrth yr Aelodau, bod y gronfa yma, ers ei sefydlu wedi disgyn tu ôl i’r
meincnod a’r Bartneriaeth felly yn edrych ar opsiynau i ail ddatblygu'r gronfa
yma. Yng
nghyd-destun Cronfa Cyfleoedd Byd-Eang adroddwyd bod y gronfa yn cael ei rheoli
drwy arddull dull cyfunol gydag wyth rheolwr gwahanol. Er na fydd pob rheolwr
yn perfformio yn dda ar yr un pryd, bod y dull amrywiol yn golygu sefyllfa
sefydlog a’r gronfa yn perfformio yn uwch na’r meincnod dros y tymor hir. Cyfeiriwyd
at berfformiad y Gronfa Ecwiti Cynaliadwy a gafodd ei sefydlu yn ddiweddar gyda
Gwynedd yn buddsoddi £270 miliwn ynddo; gyda ffocws glir ar yr hinsawdd ac ar
dargedau Sero Net. Amlygwyd bod y perfformiad wedi bod yn is na’r meincnod ers
y dechrau a hynny oherwydd tan bwysau (underweight) stoc y sector ynni sydd
wedi perfformio yn dda, arwahan i’r chwarter olaf. Nodwyd mai dyddiau cynnar yw
hi i’r gronfa yma ac y bydd y perfformiad yn cael ei fonitro yn fanwl. Yng
nghyd-destun Cronfeydd Incwm Sefydlog, cyfeiriwyd ar y Gronfa Gredyd Aml- ased,
Enillion bond absoliwt, a Chredyd Byd Eang adroddwyd bod rhain yn hanesyddol
wedi bod yn tanberfformio a hynny oherwydd ansefydlogrwydd yn y farchnad gyda
rhyfel Wcráin, cyfyngiadau cofid Tsiena, ac effaith codiadau llog cyflym a
chwyddiant uchel. Ategwyd, er pryderon, bod yr amodau yn dechrau gwella a bod
cynnydd i’w weld ym mherfformiad y tri mis diwethaf. Gyda’r ymrwymiad yn un
tymor hir, bod parodrwydd i barhau gyda’r buddsoddiadau yn y gobaith y bydd yr
amodau yn parhau i wella. Adroddwyd
bod y Gronfa Marchnadoedd Datblygol, a lansiwyd Hydref 2021, gyda chwe rheolwr buddsoddi
sylfaenol gan gynnwys Bin Yuan arbenigwr Tsiena. Nodwyd bod yr amodau eto yn
heriol iawn mewn nifer o wledydd a sectorau, ond y gobaith yw bydd gwellhad yn
amodau’r farchnad a gwell dychweliadau. Cyfeiriwyd at ddatblygiadau diweddar y PPC gan dynnu sylw at y gwaith sy’n cael ei wneud yn y maes marchnadoedd preifat gyda chwmnïau wedi eu hapwyntio i redeg y mandadau dyled preifat, isadeiledd ac ecwiti preifat a dechrau buddsoddi yn y cronfeydd hyn. Nodwyd bod Cronfa Gwynedd yn gadael i’r buddsoddiadau isadeiledd ac ecwiti preifat aeddfedu yn naturiol ac yna buddsoddi yn raddol gyda’r pwl. Ategwyd bod y broses ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
GWEINYDDIAETH PENSIYNAU PDF 169 KB I ystyried
yr adroddiad a nodi’r wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r aelodau’n ffurfiol o waith
Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). Adroddwyd bod y Pennaeth Cyllid a’r Rheolwr
Buddsoddi yn cynrychioli’r Gronfa yn holl gyfarfodydd y bartneriaeth, a bod y
cydweithio yn parhau i fynd o nerth i nerth ar faterion megis ymateb ceisiadau
rhyddid gwybodaeth, pleidleisio ac ymgysylltu ac yn gyffredinol rhannu ymarfer
da ar draws y cronfeydd. Nodwyd bod 83% o Gronfa Gwynedd wedi ei bwlio gyda PPC
erbyn hyn. Tynnwyd
sylw at y ddwy gronfa ecwiti sydd wedi bod yn weithredol ers dros 5 mlynedd
bellach ac felly’n gyfnod rhesymol i asesu’r perfformiad. Cyfeiriwyd at
berfformiad Cronfa Twf Byd Eang sydd â thri phrif reolwr sy’n gweithredu
arddull gwahanol iawn i’w gilydd - Baillie Gifford, Pzena a Veritas. Amlygwyd
wrth yr Aelodau, bod y gronfa yma, ers ei sefydlu wedi disgyn tu ôl i’r meincnod
a’r Bartneriaeth felly yn edrych ar opsiynau i ail ddatblygu'r gronfa yma. Yng
nghyd-destun Cronfa Cyfleoedd Byd-Eang adroddwyd bod y gronfa yn cael ei rheoli
drwy arddull dull cyfunol gydag wyth rheolwr gwahanol. Er na fydd pob rheolwr
yn perfformio yn dda ar yr un pryd, bod y dull amrywiol yn golygu sefyllfa
sefydlog a’r gronfa yn perfformio yn uwch na’r meincnod dros y tymor hir. Cyfeiriwyd
at berfformiad y Gronfa Ecwiti Cynaliadwy a gafodd ei sefydlu yn ddiweddar gyda
Gwynedd yn buddsoddi £270 miliwn ynddo; gyda ffocws glir ar yr hinsawdd ac ar
dargedau Sero Net. Amlygwyd bod y perfformiad wedi bod yn is na’r meincnod ers
y dechrau a hynny oherwydd tan bwysau (underweight) stoc y sector ynni sydd
wedi perfformio yn dda, arwahan i’r chwarter olaf. Nodwyd mai dyddiau cynnar yw
hi i’r gronfa yma ac y bydd y perfformiad yn cael ei fonitro yn fanwl. Yng
nghyd-destun Cronfeydd Incwm Sefydlog, cyfeiriwyd ar y Gronfa Gredyd Aml- ased,
Enillion bond absoliwt, a Chredyd Byd Eang adroddwyd bod rhain yn hanesyddol
wedi bod yn tanberfformio a hynny oherwydd ansefydlogrwydd yn y farchnad gyda
rhyfel Wcráin, cyfyngiadau cofid Tsiena, ac effaith codiadau llog cyflym a
chwyddiant uchel. Ategwyd, er pryderon, bod yr amodau yn dechrau gwella a bod
cynnydd i’w weld ym mherfformiad y tri mis diwethaf. Gyda’r ymrwymiad yn un
tymor hir, bod parodrwydd i barhau gyda’r buddsoddiadau yn y gobaith y bydd yr
amodau yn parhau i wella. Adroddwyd
bod y Gronfa Marchnadoedd Datblygol, a lansiwyd Hydref 2021, gyda chwe rheolwr
buddsoddi sylfaenol gan gynnwys Bin Yuan arbenigwr Tsiena. Nodwyd bod yr amodau
eto yn heriol iawn mewn nifer o wledydd a sectorau, ond y gobaith yw bydd
gwellhad yn amodau’r farchnad a gwell dychweliadau. Cyfeiriwyd at ddatblygiadau diweddar y PPC gan dynnu sylw at y gwaith sy’n cael ei wneud yn y maes marchnadoedd preifat gyda chwmnïau wedi eu hapwyntio i redeg y mandadau dyled preifat, isadeiledd ac ecwiti preifat a dechrau buddsoddi yn y cronfeydd hyn. Nodwyd bod Cronfa Gwynedd yn gadael i’r buddsoddiadau isadeiledd ac ecwiti preifat aeddfedu yn naturiol ac yna buddsoddi yn raddol gyda’r pwl. Ategwyd bod y broses ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
COD YMARFER CYFFREDINOL Y RHEOLEIDDIWR PENSIYNAU PDF 126 KB I ystyried
yr adroddiad a nodi’r wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn amlygu bod cod ymarfer cyffredinol y
Rheoleiddiwr Pensiynau wedi dod i rym 28 Mawrth 2024 yn cynnwys gofynion
llywodraethu newydd, disgwyliadau ar sut y dylid rheoli cynlluniau pensiwn
galwedigaethol ynghyd ar arferion a’r gweithdrefnau a ddylai fod yn eu lle. Cyfeiriwyd
at y manylion allweddol gan nodi bod y Cod, ar gyfer Cynlluniau Pensiwn
Gwasanaeth Cyhoeddus yn benodol, yn disodli Codi Ymarfer 14 (Llywodraethau Gweinyddu Cynlluniau Pensiwn Gwasanaeth
Cyhoeddus). Eglurwyd bod nifer o fodiwlau newydd yn y Cod o gymharu â Chod
Ymarfer 14 a bod angen sicrhau cydymffurfiaeth. I helpu
gyda'r gwaith, amlygwyd bod Hymans Robertson wedi datblygu model cydymffurfio i
gefnogi a chynorthwyo CPLlL i asesu cydymffurfiaeth yn erbyn y Cod Cyffredinol
newydd. Bydd hyn yn cynhyrchu gwybodaeth awtomatig ar gyfer adrodd yn barhaus i
Bwyllgorau a Byrddau Pensiwn Lleol - bydd hefyd yn cefnogi cronfeydd i
ddatblygu cynllun gweithredu i feysydd sydd angen sylw pellach. Amlygwyd
y bydd cwblhau’r gwaith yn debygol o gymryd amser ac adnoddau a’r bwriad yn y
tymor byr oedd gweithredu mewn camau. Bydd cynnydd ar y gwaith yn cael ei
adrodd i’r Bwrdd yn y dyfodol. Diolchwyd
am yr adroddiad Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Croesawu bod Hymans yn
cefnogi’r gwaith ·
Cytuno bod angen
cyflwyno diweddariadau ar y gwaith Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn
ag os oedd amserlen wedi ei osod i gwblhau’r gwaith, nododd y Rheolwr Pensiynau
nad oedd amserlen ar gyfer y gwaith gan fod angen clustnodi amser i ddehongli
gofynion y gwaith. Nodwyd hefyd nad oedd son am derfyn amser ar gyfer cwblhau'r
gwaith – y gobaith yw cael pethau mewn lle cyn gynted a bod modd. Ategwyd nad
oedd gwahaniaethau mawr i’r Cynllun - bod mwy o waith mewn cysoni disgrifiadau
a thermau. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth |
|
ADRODDIAD DRAFFT CADEIRYDD Y BWRDD PENSIWN AR GYFER ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GRONFA PDF 94 KB I ystyried cynnwys yr adroddiad drafft er mwyn trafod ei gynnwys
a chynnig gwelliannau yn y cyfarfod. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad (drafft) gan y Rheolwr Buddsoddi
yn manylu ar weithgareddau'r Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31
Mawrth 2024. Amlygwyd bod yr adroddiad wedi ei ysgrifennu yn unol â gosodiad
adroddiad 2023 gan gymryd i ystyriaeth y pynciau a drafodwyd yn ystod y
flwyddyn. Y bwriad yw cyflwyno’r adroddiad
terfynol i’r Rheolwr Buddsoddi erbyn 31/07/2024 i’w gynnwys fel rhan o
adroddiad blynyddol y Gronfa ac fel rhan o gyfarfod blynyddol y Gronfa Tachwedd 2024. Diolchwyd am yr adroddiad ac i’r
staff oedd yn gysylltiedig â pharatoi’r gwaith. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth Cymerodd
y Cadeirydd y cyfle i ddiolch yn fawr i’r Cyng. Stephen Churchman, Cadeirydd y
Pwyllgor Pensiynau am ei gefnogaeth a’i ffyddlondeb i’r Bwrdd Pensiwn dros ei
gyfnod fel Cadeirydd y Pwyllgor. Mewn
ymateb, diolchodd y Cyng. Stephen Churchman am waith gwerthfawr y Bwrdd a’u
cefnogaeth barhaus i’r Pwyllgor a’r Gronfa Bensiwn. |