Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

 

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2024/25

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol Sioned Parry yn Gadeirydd y Bwrdd ar gyfer 2024/25

 

Diolchwyd i Eifion Jones am ei waith a’i gefnogaeth fel Cadeirydd y Bwrdd dros y ddwy flynedd diwethaf. Croesawyd y Cyng. R Medwyn Hughes i’r cyfarfod ac fe’i llongyfarchwyd ar ei benodiad fel Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

 

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol Osian Richards yn Is-gadeirydd y Bwrdd ar gyfer 2022/25

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

MATERION BRYS

Cofnod:

Yn dilyn llwyddiant ysgubol y Blaid Lafur yn yr Etholiad Cyffredinol a gynhaliwyd 4ydd o Orffennaf 2024, tynnwyd sylw at araith agoriadol Rachel Reeves (Canghellor y Trysorlys). Pwysleisiodd yr angen am 'dwf' yn yr economi gan fynegi ei haddewid i fynd i’r afael â’r system bensiynau er mwyn sbarduno buddsoddiadau mewn busnesau lleol a rhoi mwy o elw i gronfeydd pensiwn.

 

Nodwyd yr angen i ychwanegu’r datganiad i’r gofrestr risg gan mai Partneriaeth Pensiwn Cymru a Chronfa Gwynedd sydd â’r hawl i benderfynu defnydd y Gronfa.

 

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 134 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 23 Ebrill 2024 fel rhai cywir.

 

7.

COFNODION PWYLLGOR PENSIYNAU pdf eicon PDF 137 KB

 

Cyflwyno, er gwybodaaeth gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 17 Mehefin 2024

 

Ystyried materion a gofwyd o’r Pwyllgor Pensiynau ar 17 Mehefin 2024

 

 

Nodi'r wybodaeth a'r penderfyniadau a wnaed

 

 

 

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth gofnodion Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 17 Mehefin 2024. Roedd Anthony Deakin wedi mynychu’r cyfarfod ar ran y Bwrdd.

 

8.

CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2024 pdf eicon PDF 53 KB

 

I dderbyn a nodi’r Datganiad o’r Cyfrifon Drafft

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2024.

 

Adroddwyd bod y cyfrifon yn dilyn ffurf statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth sydd i’w gyflwyno yn y cyfrifon. Nodwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un brysur i’r gronfa wrth roi’r dyraniad asedau strategol ar waith a buddsoddi yn ehangach gyda Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC)

 

Tynnwyd sylw at Gyfrif y Gronfa gan nodi bod ychydig o amrywiadau wrth i’r cyfraniadau a’r buddion gynyddu wedi i weithwyr dderbyn codiadau cyflog ac wrth i’r pensiwn gynyddu gyda CPI. Ategwyd bod cynnydd yn y costau rheoli wrth i werth asedau’r Gronfa gynyddu a chyflwyniad mathau gwahanol o fuddsoddiadau i’r portffolio e.e. credyd preifat.

 

Amlygwyd bod incwm buddsoddi'r gronfa wedi codi yn sylweddol a’r buddsoddiadau ecwiti wedi perfformio yn gryf ac felly wedi cynhyrchu incwm sylweddol. Nodwyd, fel rhan o’r dyraniad asedau strategol newydd, bod mwy o fuddsoddi wedi ei wneud yn y cronfeydd incwm sefydlog, ac mewn un gronfa incwm sefydlog newydd sef y Global Credit Fund. Adroddwyd bod y buddsoddiadau yma wedi creu incwm llog sylweddol a’r buddsoddiadau yma ar y cyd, yn cael eu defnyddio i leihau risg y gronfa i gymharu â buddsoddiadau ecwiti. Eglurwyd bod yr incwm, fwy neu lai, yn dilyn patrwm cyfraddau llog ac felly’n rhesymol bod y lefel incwm wedi cynyddu yn sylweddol.

 

Yn ychwanegol, nodwyd bod cynnydd o oddeutu £300 miliwn yng ngwerth marchnad y Gronfa wedi i’r marchnadoedd ecwiti adfer yn dilyn effaith rhyfel Wcráin a chwyddiant uchel. Cyfeiriwyd hefyd at y nodiadau statudol oedd yn yr adroddiad oedd yn rhoi manylion tu ôl i’r ffigyrau ynghyd a manylion pellach am weithgareddau’r Gronfa a’r PPC.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â nifer y cyflogwyr a pwy oedd y cyflogwr oedd wedi gadael erbyn 31/3/24 (nifer 31/3/24 un yn llai na 31/3/23) nodwyd mai Cynnal, cwmni dan berchnogaeth ar y cyd rhwng Gwynedd a Môn oedd wedi dirwyn i ben gyda’r gwasanaeth yn cael ei gynnwys yng ngwasanaethau technegol y Siroedd unigol. Wedi i’r cwmni ddirwyn i ben, fe welwyd credyd yn y pensiwn ond yn unol â’r polisi, nid oedd angen talu allan – ni ystyriwyd bod risg yma gan fod pensiynau'r staff, oedd yn gyflogedig gan Cyngor Gwynedd a Chyngor Môn yn aros o fewn y gronfa.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r cronfeydd caeedig (gwerth £12,854,000 wedi ei dalu allan) ac os oedd y taliad yn berthnasol i gyfnod cyn sefydlu Cyngor Gwynedd yn 1996 yn dilyn ad-drefnu cynghorau sir yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, cadarnhawyd mai dyma oedd y gronfa gaeedig.

 

Mewn ymateb i sylw am yr angen i gynnwys risg seibr / neu gyfeiriad at risg seibr yn yr adroddiad, nodwyd mai dogfen am y cyfrifon statudol oedd yma ac y byddai gwybodaeth am risg seibr yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad blynyddol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

PERFFORMIAD BUDDSODDI'R GRONFA BENSIWN 2023/24 pdf eicon PDF 183 KB

 

I ystyried yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn egluro perfformiad buddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn am y flwyddyn ariannol 2023/24. Adroddwyd bod y rheolwyr buddsoddi yn cael eu monitro yn chwarterol gan y Panel Buddsoddi gyda chyflwyniad o’r perfformiad yn cael ei adrodd i’r Aelodau gan yr ymgynghorwyr ynghyd a gwahoddiadau i reolwyr buddsoddi yn eu tro fynychu ac egluro’r perfformiad ymhellach.

 

Amlygwyd bod gwerth y gronfa ar y 31ain o Fawrth (dros y 10 mlynedd diwethaf) wedi cynyddu i £3.1 biliwn sydd yn dilyn patrwm o gynnydd graddol dros amser. Nodwyd bod perfformiad y gronfa wedi bod yn gryf gyda dychweliadau o 11.2% dros y flwyddyn, ac er bod hyn yn is na’r meincnod, roedd yn uwch na chyfartaledd Cronfeydd Pensiwn Llywodraeth Leol Prydain, oedd yn 9.2%. Ategwyd bod y meincnod a osodir yn heriol ynghyd ag amodau heriol y farchnad, yn enwedig o fewn ecwiti gweithredol (active equities).

 

Wrth drafod perfformiad Rheolwyr Buddsoddi Ecwiti, cyfeiriwyd at ddwy gronfa BlackRock sydd wedi perfformio’n dda dros y chwarter a’r flwyddyn ac yn unol a’r meincnod. Nodwyd bod y rheolwyr actif, sydd yn ceisio ennill y meincnod, wedi tanberfformio gan fod tanbwysau (underweights) i’r Unol Daleithiau ac amlygiad i ecwitïau o arddull gwerth yn amharu ar enillion cyffredinol y Gronfa. Ategwyd bod perfformiad y cronfeydd yn gallu bod yn gylchol ac felly’n rhesymol a disgwyliedig bod tan berfformio yn digwydd, ond bod Cronfa Global Growth, sydd yn cynnwys y rheolwyr buddsoddi Baillie Gifford, Pzena a Veritas, wedi bod yn tan berfformio ers peth amser bellach ac PPC yn edrych ar strwythur y gronfa yma i weld be all newid.

 

Wrth drafod perfformiad y Rheolwyr Incwm Sefydlog, eglurwyd bod y cronfeydd yma wedi cael cyfnodau heriol gydag ansefydlogrwydd yn y farchnad oherwydd rhyfel Rwsia a Wcráin, a chyfnod lle'r oedd chwyddiant a chyfraddau llog uchel. Er hynny, adroddwyd bod y farchnad yma wedi sefydlogi bellach a’r cronfeydd wedi perfformio yn agos at y meincnod dros y flwyddyn.

 

Wrth drafod Rheolwyr Eiddo, amlygwyd bod perfformiad y sector yn gyffredinol wan a thu ôl i’r meincnod a hynny oherwydd heriau yn y marchnadoedd eiddo lle gwelwyd bod y cronfeydd yma wedi buddsoddi e.e. mewn swyddfeydd a’r stryd fawr. Eglurwyd y bydd cryn dipyn o newid i’r portffolio eiddo dros y blynyddoedd nesaf gyda Chronfa Eiddo Lothbury yn dod i ben a’r arian i’w ddychwelyd. Nodwyd y bydd hyn yn golygu y bydd cronfeydd eiddo PPC gydag opsiynau posib i fuddsoddi arian Lothbury i dair cronfa wahanol - eiddo’r Deyrnas Unedig, eiddo Rhyngwladol ac eiddo Effaith (impact). Ategwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal ynglŷn â’r dull gorau o ail fuddsoddi’r arian yma.

 

Yng nghyd-destun Grwp Partners (sydd yn gyfrifol am reoli buddsoddiadau ecwiti preifat ac isadeiledd y Gronfa), nodwyd ei bod yn anodd mesur eu perfformiad mewn cyfnod penodol oherwydd oediad amser (time lag) ac felly nid yw’r gwir berfformiad yn cael ei fesur hyd nes bydd y gronfa wedi cau yn derfynol. Er hynny  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.