Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Ned Michael a’r Cyng. Elin Hywel (Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 141 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 11eg Gorffennaf 2025 fel rhai cywir.

.

 

5.

COFNODION PWYLLGOR PENSIYNAU pdf eicon PDF 145 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 15fed o Fedi 2025

 

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth gofnodion Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 15fed o Fedi 2025.

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2024/25 pdf eicon PDF 51 KB

I ystyried a chynnig adborth ar yr adroddiad

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad blynyddol (drafft) gan y Rheolwr Buddsoddi. Eglurwyd bod yr adroddiad yn darparu manylion am weithgareddau’r Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2025 ac wedi ei gwblhau yn unol â chanllawiau statudol. Tynnwyd sylw at newidiadau yng nghofynion y Bwrdd Cynghori Cynllun (Scheme Advisory Board) i adnabod a chyflwyno'r wybodaeth drwy dri chategori - rhaid (must), dylid (should) ac efallai (may). Sicrhawyd bod popeth sydd yn cael ei adnabod felrhaid’ a ‘dylidwedi cael ei gynnwys, oni bai nad oedd y wybodaeth ar gael. Yn sgil hynny eglurwyd bod yr adroddiad blynyddol wedi cynnyddu mewn maint gan ei fod yn cynnwys adroddiadau blynyddol gan y Bwrdd, y Pwyllgor Pensiynau, gwybodaeth bellach am ystadegau gweinyddu, a gwybodaeth bellach am pwlio.

 

Adroddwyd bod yr adroddiad yn y broses o gael ei adolygu gan Archwilio Cymru gyda bwriad o’i gyflwyno gyda’r cyfrifon terfynol yng nghyfarfod blynyddol y Gronfa Bensiwn ar y 24ain o Dachwedd 2025.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

 

·        Bod y sefyllfa yn un iach

·        Yn llongyfarch y tîm ar eu gwaith da

·        Bod y sefyllfa yn dystiolaeth o’r llywodraethu da mewn hinsawdd economi heriol

·        Bod y sefyllfa wedi gwella yn sylweddol dros y blynyddoedd - angen ceisio osgoi sefyllfa o ostwng a chodi cyfraniadau

·        Bod yr adroddiad yn un trylwyr ac yn hawdd i’w ddarllen

·        Yn derbyn nad oedd angen cynnwys gwybodaeth categori ‘efallai’ (may)

 

Mewn ymateb i sylw bod gostyngiadau i’r cyflogwyr yn sgil prisiad ac os oedd byffer wedi ei osod, nodwyd bod y cyflogwyr mwyaf, o ystyried bod y  gronfa wedi ei gyllido 166%,  wedi gosod mecanwaith sefydlogi a bod cyflogwyr eraill gyda bwriad o wneud rhywbeth tebyg.

Mewn ymateb i gwestiwn bod cyfeiriad y Gronfa at gyrraedd targed sero net yn 2050, ond bod Strategaeth Hinsawdd y Cyngor wedi nodi targed sero net erbyn 2030 a pam y gwrthdaro, nodwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda swyddogion, ond bod targed y Gronfa Bensiwn yn seiliedig ar ddadansoddiad manwl gydag ymrwymiad i gynnal adolygiadau i geisio gostwng y dyddiad. Ategwyd nad oedd 2030 yn opsiwn i’r Gronfa.

Mewn ymateb i gwestiwn ategol os oedd ymrwymiad i gyrraedd y targed 2050 yn gynt ac os oedd ystyriaeth i darged interim, nodwyd bod gwaith pellach yn cael ei wneud ar yr amcanion strategol gyda Hymans yn edrych ar yr asedau i geisio cwrdd â’r targed yn gynharach. Ategwyd y byddai’n debygol y bydd addasiadau pellach yn dilyn sefydlu cwmni IMCo fydd yn cymryd drosodd yr agweddau llywodraethiant, cynghori a sicrhau gwerth am arian. Ategwyd nad oedd gwrthwynebiad i’r awgrym i ystyried targed interim gan fod holl aelodau’r pwl gyda’r un agwedd tuag at gyrraedd at y targed sero net yn gynt.

Mewn ymateb i sylw bod cofnod o ddatblygiad aelodau o’r Pwyllgor Pensiynau wedi ei gynnwys yn yr adroddiad ac os dylid gweithredu cofnod tebyg ar gyfer aelodau’r Bwrdd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYNHADLEDD BUDDSODDI A PHENSIYNAU LGC pdf eicon PDF 12 KB

I ystyried y wybodaeth

 

Cofnod:

 

Cafwyd diweddariad ar lafar gan Mr Anthony Deakin oedd wedi mynychu’r gynhadledd ym mis Medi 2025 ar ran y Bwrdd. Eglurodd bod y gynhadledd yn rhoi cyfle i fynychwyr rwydweithio, ehangu gwybodaeth a chadw i fyny â gwaith y sector.

 

Diolchwyd am y wybodaeth

 

8.

GWEINYDDIAETH PENSIYNAU pdf eicon PDF 217 KB

I ystyried yr adroddiad

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad cynhwysfawr gan y Rheolwr Pensiynau yn rhoi trosolwg cyffredinol o weinyddu pensiwn dros y flwyddyn ddiwethaf ynghyd a gwybodaeth am y gwaith a gyflawnwyd dros y cyfnod a diweddariadau ar amrywiol brosiectau:

·        Gweithredu rhwymedigaeth McCloud yn dilyn dyfarniad yn y Goruchaf Lys

·        Gwaith yn ymwneud â phrisiad actiwaraidd 2025 oedd yn cynnwys cynnal Fforwm Cyflogwyr i rannu canlyniadau prisiad gyda’r cyflogwyr. Nodwyd bydd y cyfraniadau newydd yn cael eu cadarnhau yn ffurfiol ddiwedd mis Mawrth 2026.

·        Gwaith yn ymwneud â chysylltu gydag ecosystem Dashfwrdd Pensiwn Cenedlaethol erbyn 31/10/25

·        Paratoi ymateb (ar sail Cymru gyfan) i ymgynghoriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar welliannau i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol fydd yn moderneiddio’r cynllun, gwella tegwch a chryfhau amddiffyniadau aelodau hirdymor

·        Bod gwaith i sicrhau bod Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi bodloni gofynion statudol drwy gyhoeddi Datganiadau Buddion Blynyddol wedi ei gwblhau ddiwedd Gorffennaf (cyn y diwrnod cau). Cyfeiriwyd hefyd at gyflwyniad  / rhith ffurf ar y porth Fy Mhensiwn ar Lein sydd yn cefnogi aelodau i ddeall y datganiadau yn well.

·        Bod ansawdd data yn parhau yn flaenoriaeth i’r Gronfa a datblygiadau parhaus yn cael eu gweithredu i wella’r ansawdd ymhellach. Cyfeiriwyd at esiampl lle mae'r Gronfa yn cydweithio gyda gwasanaeth olrhain proffesiynol i geisio dod o hyd i fanylion cyswllt teulu aelodau sydd wedi marw neu sydd yn ymddangos fel ‘cyfeiriad sydd wedi mynd i ffwrdd’

·        Bod cyfathrebu gydag aelodau hefyd yn parhau yn flaenoriaeth – cylchlythyr wedi ei ddosbarthu gyda’r Datganiadau Buddion Blynyddol 2025. Nodwyd bod gwaith yn parhau i ail ddylunio gwefan y Gronfa

·        Eglurwyd, yn sgil newidiadau mewnol yn cael ei gweithredu i dasgau nad oedd data perfformiad cynhwysfawr ar gael, bod y Gronfa yn rhoi sicrwydd nad oedd unrhyw arwydd bod perfformiad y gwasanaeth yn dirywio, ond bod bwriad cyflwyno’r wybodaeth pan fydd y gweithdrefnau diwygiedig wedi eu cwblhau.

·        Bod gwaith yn parhau i sicrhau bod polisïau a chydymffurfiaeth yn eu lle mewn ymateb i ofynion Llywodraethu Da

 

Cyfeiriwyd at lwyddiant parhaus ‘Fy Mhensiwn Ar-lein’ gan nodi bod aelodaeth y porth yn parhau i dyfu’n raddol o fis i fis. Adroddwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi Heywood i ddatblygu fersiwn Gymraeg a bod y fersiwn yma i’w chyflwyno i holl gronfeydd CPLlL Cymru erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Tynnwyd sylw at yr Arolwg Boddhad Gwasanaeth sy’n cael ei anfon at Aelodau ar ddiwedd prosesau allweddol, megis ymddeoliadau a thaliadau ad-dalu, i gasglu barn ar ansawdd y gwasanaeth a dderbyniwyd. Adroddwyd bod 58 o aelodau wedi cymryd rhan yn yr arolwg rhwng Ebrill 2025 – Medi 2025  gyda’r canlyniad yn galonogol iawn (95.13% o’r defnyddwyr yn cytuno’n gryf neu gytuno bod yr ansawdd o safon uchel ac a 97.26% yn cytuno’n gryf neu gytuno bod perfformiad staff yn bodloni safon uchel).

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·        Llongyfarch y tîm ar eu gwaith a’u hymrwymiad

·        Bod lot o waith wedi ei gwblhau, a’r targedau yn cael eu cyrraedd

·        Bod cyflwyniad y ‘rhith ffurf’ i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

CYNLLUN GWELLA DATA pdf eicon PDF 179 KB

I ystyried yr adroddiad a darparu adborth neu gymeradwyaeth lle bo hynny'n briodol.

.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn manylu ar y mathau allweddol o ddata a gynhelir gan y Gronfa gan amlygu pwysigrwydd cywirdeb data a dulliau clir a strwythuredig o wella ansawdd data. Tynnwyd sylw at amcanion gwella data’r Gronfa ynghyd a’r mathau o ddata sydd angen eu cwblhau i ddiogelu hawliau Aelodau, cefnogi effeithlonrwydd gweithredol ac atgyfnerthu ymddiriedaeth llywodraethu’r Gronfa.

 

Amlygwyd bod dau gategori data - data cyffredin a data penodol i’r cynllun gyda chamau targedu a dulliau gweithredu wedi eu gosod ar gyfer gwella ansawdd y ddau gategori. Tynnwyd sylw at ddefnydd y Gwasanaeth Olrhain proffesiynol i geisio lleihau achosion o’r nifer sydd yn ymddangoswedi symud’ neu wybodaeth gyswllt wedi dyddio yng nghategori data cyffredin. Adroddwyd bod y gwasanaeth, er yn gostus, wedi cyflwyno canlyniadau da hyd yma a bod y nifer achosion yn lleihau.

 

Ystyriwyd trwy ddilyn y Cynllun Gwella Data byddai’r Gronfa yn anelu at wella’r data yn sylweddol gan sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddiol a gwella profiadau cyffredinol Aelodau a chyflogwyr.

 

Diolchwyd am y wybodaeth

 

Mewn ymateb i sylw bod y Gronfa yn ddibynnol ar Aelodau i ddiweddaru eu manylion cyswllt a pha mor bell o ddefnyddio DA (deallusrwydd artiffisial) fydd yr uned weinyddu o fedru gwneud hyn ac oes enghreifftiau y gellid eu treialu, nodwyd nad oedd ystyriaeth wedi ei roi i hyn a’r un esiampl sydd o’r defnydd posib yw cyfarch llythyrau. Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglyn a chynnydd mewn defnydd DA ac os oedd gan y Gronfa bolisi penodol, nodwyd bod gan Cyngor Gwynedd bolisi DA ond nad oedd gan y Gronfa bolisi penodol ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r wybodaeth