Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2026/2027

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol Osian Richards yn Gadeirydd y Bwrdd ar gyfer 2026/27

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2026/2027

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol Roland Thomas yn Is-gadeirydd y Bwrdd ar gyfer 2026/27

 

Cymerodd Sioned Parry, y Cyn-gadeirydd, y cyfle i longyfarch y penodiadau newydd ac i ddiolch i’w chyd-aelodau a’r swyddogion am eu cefnogaeth yn ystod ei chyfnod fel Cadeirydd.

 

Diolchwyd i Sioned Parry am ei hagwedd gydwybodol wrth gynrychioli'r Bwrdd ac am y gwaith roedd yn ei wneud oedd ynghlwm a chyfarfodydd Ymgysylltu Cadeiryddion Byrddau Pensiwn, Partneriaeth  Pensiwn Cymru.

 

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Osian Richards a Ned Michael, y Cyng. Elin Hywel (Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau) a Dewi Morgan (Pennaeth Cyllid).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 138 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 20fed Ebrill 2026 fel rhai cywir.

 

 

7.

CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2026 pdf eicon PDF 52 KB

I dderbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2025/26.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2026

 

Adroddwyd bod y cyfrifon yn dilyn ffurf statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth sydd i’w gyflwyno yn y cyfrifon. Ategwyd bod y cyfrifon drafft yn destun archwiliad gan Archwilio Cymru gyda bwriad cyflwyno’r fersiwn derfynol i'rPwyllgor yn Hydref 2026. Nodwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un brysur i’r Gronfa wrth barhau i fuddsoddi yn ehangach gyda Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC).

 

Tynnwyd sylw at Gyfrif y Gronfa gan nodi bod ychydig o amrywiadau yn y cyfraniadau a’r buddion. Ategwyd bod lleihad yn y costau rheoli wrth gyflwyno mathau gwahanol o fuddsoddiadau i’r portffolio a lleihau buddsoddiadau gyda grŵp Partners sydd yn hanesyddol wedi cael ffioedd rheoli uwch. Ategwyd bod yr incwm buddsoddi wedi cynyddu a’r Gronfa wedi derbyn incwm rheolaidd gan y buddsoddiadau newydd megis isadeiledd ac ecwiti preifat o fewn PPC. Nodwyd bod cynnydd o oddeutu £280 miliwn yng ngwerth marchnad y Gronfa sydd yn unol â’r cynnydd graddol blynyddol.

 

Cyfeiriwyd at nodiadau statudol yr adroddiad oedd yn rhoi manylion tu ôl i’r ffigyrau ynghyd a manylion pellach am weithgareddau’r Gronfa a PPC.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

                                                                                                            

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Y sefyllfa ariannol yn parhau yn gryf

·        Yn diolch i’r tîm am eu gwaith cydwybodol - y sefyllfa yn un iach iawn

·        Bod y gwaith o ymateb i’r gofyn yn cynyddu bob blwyddyn a’r tîm yn cwblhau hynny yn effeithiol ac amserol

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chefndir Nodyn 7: Cyfraniadau Derbyniaday a chyfeiriad at ‘Eraill’ (trafodion credyd ymadael) £5,129, nodwyd bod y swm yn gyfanswm a drosglwyddwyd yn dilyn dod a gwasanaeth addysg GwE i ben. Adroddwyd bod y chwe Awdurdod ar draws y Gogledd wedi derbyn swm oedd yn ymwneud ar hyn oedd yn weddill ac wedi cael ei weithredu yn unol â pholisi chredyd ychwanegol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â Nodyn 15b Cysoniad Mesuriadau Gwerth Teg o Fewn lefel 3 (Cyfanswm Gwerth y Farchnad 31-03-26 = £636,228) ac, os oedd gwerth y buddsoddiadau yn amcangyfrifiad, sut felly oedd cael sicrwydd i'r gwerth, nodwyd bod eiddo yn cael eu prisio drwy dderbyn prisiau gan y Rheolwr Buddsoddi a’r sefyllfa ac unrhyw symudiadau yn cael eu monitro yn ddyddiol. Ategwyd, oherwydd y ganran uchel mewn ecwiti bod bwriad lleihau buddsoddiadau mewn ecwiti i feysydd sydd yn llai agored i newidyn feysydd mwy sefydlog fyddai’n wynebu llai o risg yn y farchnad agored.

 

Ynglŷn â Nodyn 21 - Ymrwymiadau Cyfredol a beth oedd wedi arwain at y newid rhwng £4,012,000 ym Mawrth 2025 a £8,387,000 ym Mawrth 2026, nodwyd eto mai taliad yn ymwneud a GwE oedd yma - un oedd heb ei dalu hyd y flwyddyn ddyledus - GwE wedi dod i ben 31ain o Fai 2025.

 

PENDERFYNWYD derbyn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

SYMPOSIWM PWLIO CPLlL pdf eicon PDF 12 KB

I ystyried a derbyn y wybodaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adborth gan Mr Anthony Deakin oedd wedi mynychu Symposiwm Pwlio CPLlL ym mis Mai ar ran y Bwrdd. Roedd rhaglen y gynhadledd yn adlewyrchu cyflymder a graddfa'r newid ar draws tirwedd CPLlL ac wedi ei threfnu’n ofalus i ddarparu mewnwelediad ymarferol, cyd-destun strategol a safbwyntiau blaengar ar rôl esblygol y pwlio. Roedd y gynhadledd yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio helaeth, gan alluogi cynrychiolwyr i gysylltu â chyfoedion, cyfnewid profiadau ac adeiladu perthnasoedd gwerthfawr ar amser tyngedfennol i'r sector.

 

Cyfeiriodd at ddau fater oedd yn achosi pryder iddo;

a)       Nad oedd Llywodraeth y DU yn cynnwys CPLlL ar drafodaethau ynghylch Dyletswydd Ymddiriedolwyr

b)       Bod angen adeiladu goruchwyliaeth rheoli contractau ar gyfer Pwyllgorau Pensiwn ar gyfer y pwls ynghyd a threfniadau datrys anghydfodau os bydd pethau'n mynd o'i le – pryder mai’r Pwyllgorau Pensiynau fydd yn cymryd y baich.

 

Diolchwyd am y wybodaeth

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd y Rheolwr Buddsoddi bod y sefyllfa lle nad oedd CPLlL yn cael eu cynnwys yn nhrafodaethau Dyletswydd Ymddiriedolwyr yn cael ei fonitro, gan ategu mai hawdd fyddai colli golwg ar faterion ynghanol yr holl newidiadau. Nodwyd bod IMCo wedi derbyn y sylw a bod trafodaethau yn cael eu cynnal ynglŷn â gosod balans rhwng y Dyletswydd Ymddiriedolwyr a symudiadau eraill.

 

Ynglŷn â phryder am rôl y Pwyllgor nodwyd bod y rôl yn newid yn sgil dyfodiad IMCo ond yn sicr, un o brif flaenoriaethau’r Pwyllgor fydd sicrhau bod y cwmnïau buddsoddi yn perfformio ar lefel llywodraethant. Ategwyd y bydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr gyda chyswllt rhwng y Pwyllgor ac IMCo ac felly yn cynnig adnodd defnyddiol a phwysig o rannu a derbyn gwybodaeth. Nodwyd y bydd sesiwn hyfforddiant yn cael ei gynnal i amlygu cyfrifoldebau’r Pwyllgor maes o law.

 

Wrth dderbyn yr ymateb, nodwyd pryder ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Caerdydd yn llygadu arian Cronfeydd Awdurdodau Lleol, a hynny mae'n debyg oherwydd prinder arian yn eu cyllideb i fuddsoddi arian mewn gwasanaethau, e.e., yn y maes tai. O ganlyniad, bydd angen i Gronfa Gwynedd sicrhau bod buddsoddiadau doeth yn cael eu gweithredu ar eu rhan, ac er yn derbyn bod angen gwariant yn lleol, bod hefyd angen sicrhau gwerth i aelodau’r Gronfa.

 

Derbyniwyd y wybodaeth

 

9.

ADRODDIAD DRAFFT CADEIRYDD Y BWRDD PENSIWN AR GYFER ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GRONFA pdf eicon PDF 141 KB

I ystyried cynnwys yr adroddiad drafft er mwyn trafod ei gynnwys a chynnig gwelliannau yn y cyfarfod. 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad (drafft) gan y Rheolwr Buddsoddi yn manylu ar weithgareddau'r Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2026. Amlygwyd bod yr adroddiad wedi ei ysgrifennu yn unol â gosodiad adroddiad 2024 gan gymryd i ystyriaeth y pynciau a drafodwyd yn ystod y flwyddyn.

 

Y bwriad yw cyflwyno’r adroddiad terfynol i’r Rheolwr Buddsoddi erbyn 31/07/2026 i’w gynnwys fel rhan o adroddiad blynyddol y Gronfa ac fel rhan o gyfarfod blynyddol y Gronfa fydd yn cael ei gynnal 23ain o Dachwedd 2026.

 

Diolchodd y Cyn-gadeirydd i’w chyd-aelodau am wirfoddoli eu hamser i’r swyddogaethau ac am adolygu’r ddogfen, ac i’r swyddogion perthnasol oedd yn gysylltiedig â pharatoi’r gwaith.

 

Diolchwyd i Sioned Parry, y Cyn-gadeirydd am ei gwaith.

 

Nodwyd bod gwybodaeth ar yr hyfforddiant perthnasol angen ei gwblhau a’i gynnwys yn y fersiwn derfynol.

 

PENDERFYNWYD derbyn cynnwys yr adroddiad drafft

 

10.

GWEINYDDU PENSIYNAU pdf eicon PDF 138 KB

I ystyried yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad cynhwysfawr gan y Rheolwr Pensiynau yn rhoi trosolwg cyffredinol o weinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol dros y flwyddyn ddiwethaf ynghyd a’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal gan Gronfa Bensiwn Gwynedd i ymateb i ddatblygiadau cyfredol, cynnal safonau gwasanaeth a gwybodaeth am y gwaith a gyflawnwyd dros y cyfnod, a diweddariadau amrywiol brosiectau:

           

·          Diweddariad Rheoleiddiol - Addas ar Gyfer y Dyfodol - pwyslais ar atebolrwydd, safonau proffesiynol a gwneud penderfyniadau effeithiol. Bydd gofyn i bob Cronfa CPLlL benodi Uwch Swyddog CPLlL dynodedig i reoli a gweinyddu’r Gronfa Bensiwn yn effeithiol a phenodi Person Annibynnol i gael ei gynnwys ar y Pwyllgor Pensiynau i ddarparu her allanol, cefnogi penderfyniadau cadarn a chryfhau goruchwyliaeth llywodraethu - penodiadau yn eu lle erbyn 31 Rhagfyr 2026

·          Cynnal Adolygiad Llywodraethu i asesu effeithiolrwydd strwythurau llywodraethu presennol - y gwaith i’w gwblhau erbyn 31 Ragfyr 2026

·          Diwygiadau Mynediad a Thegwch CPllL i wella cydraddoldeb, hygyrchedd a thegwch ar draws y CPLlL. Y gwaith yn amlygu sialens o gysoni ac adnabod achosion perthnasol i’r diwygiadau

·          Effaith ar weinyddiaeth - cais i’r Gronfa adolygu gweithdrefnau, asesu achosion hanesyddol, diweddaru prosesau gweinyddu a chyfathrebu Aelodau, a pharatoi ar gyfer gofynion adrodd newydd

·          Diweddariad staffio - croesawu penodiad Prentis a Swyddog Pensiwn dan Hyfforddiant

·          Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol - oherwydd heriau sy’n deillio o drefniadau presennol y Gronfa, comisiynwyd Hymans Robertson i adolygu’r farchnad i ganfod gwell darparwr. Penodwyd Legal & General, sydd â phrofiad a buddion da, i ddarparu trefniadau cyfraniadau gwirfoddol ar gyfer aelodau’r Gronfa a bod trafodaethau yn cael eu cynnal i osod amserlen trosglwyddiadau.

·          System Gyflogres Newydd - cynlluniau presennol ar gyfer profi'r system newydd i ddechrau yn ystod tymor yr Hydref 2026, gyda disgwyliad i’r system newydd fod yn weithredol yn gynnar yn 2027

·          Datrysiad McCloud - cynnydd yn parhau i fod yn gadarnhaol a gwaith ar y trywydd iawn i gwblhau’r gwaith prosiect sydd yn weddill (yn unol â’r amserlen a gytunwyd).

 

Cyfeiriwyd at lwyddiant parhaus ‘Fy Mhensiwn Ar-lein’ gan nodi bod aelodaeth y porth yn parhau i dyfu’n gyson gyda 8,200 o Aelodau wedi cofrestru i’r porth newydd. Adroddwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd yn archwilio cyfleoedd i ehangu ymarferoldeb y porth ymhellach sydd yn cynnwys cyflwyno ffurflenni digidol. Ategwyd, yn dilyn llwyddiant fideos AI bod bwriad gwneud mwy o ddefnydd o fideos fel bod modd i Aelodau gael mynediad at bynciau pensiwn penodol.

 

Tynnwyd sylw at yr Arolwg Boddhad Gwasanaeth sy’n cael ei anfon at Aelodau ar ddiwedd prosesau allweddol, megis ymddeoliadau a thaliadau ad-dalu, i gasglu barn ar ansawdd y gwasanaeth a dderbyniwyd. Adroddwyd bod 89 o aelodau wedi cymryd rhan yn yr arolwg gyda’r canlyniad yn galonogol iawn (95% o’r defnyddwyr yn cytuno’n gryf neu gytuno bod yr ansawdd o safon uchel a 97% yn cytuno’n gryf neu gytuno bod y gwasanaeth a ddarparir gan staff yn bodloni safon uchel).

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

POLISÏAU GWEINYDDOL Y GRONFA BENSIWN pdf eicon PDF 48 KB

I ystyried yr adroddiad a chynnig adborth am gynnwys y polisi gweinyddol newydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Pensiynau adroddiad oedd yn cyflwyno dau bolisi gweinyddol allweddol i’r Bwrdd eu harchwilio. Nodwyd bod y polisïau yn hanfodol ar gyfer rheoli a gweinyddu’r Gronfa Bensiwn yn effeithiol ac yn gam sylweddol tuag at wella llywodraethu da. Ategwyd, yn dilyn adolygiad y Bwrdd, bydd y polisïau yn cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Pensiynau yn Medi 2026.

 

Trafodwyd y Polisïau yn unigol gan roi cefndir a chyd-destun y polisïau i’r Aelodau

 

·        Darparu Amcangyfrifon Ymddeol

·        Meincnodi a Thegwch

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac am y gwaith o ffurfioli’r polisïau.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Darparu Amcanion Ymddeol - er yn derbyn yr angen i newid ac yn cefnogi’r bwriad, bod angen cymryd pwyll i beidio torri gormod ar wasanaethau Aelodau’r Gronfa. Ategwyd bod angen sicrhau gwasanaeth da a pheidio rhoi cyfle i Aelodau gwyno am y gwasanaeth - angen sicrhau balans mewn gwariant.

 

Mewn ymateb i gwestiwn os oedd asesiad effaith cydraddoldeb wedi ei weithredu yn unol â rheolaeth y Cyngor i bolisïau i sicrhau nad oes neb o dan anfantais, ac i fod yn ystyriol o’r gofynion, nodwyd canran isel o’r Aelodau fydd yn cael eu heffeithio gan y polisïau hyn, ond mewn achosion penodol, byddai’r swyddogion yn barod iawn i edrych ar sefyllfaoedd penodol. Ategwyd y byddai cynnal asesiad effaith cydraddoldeb yn gynnig derbyniol.

 

PENDERFYNWYD:

·     Derbyn a nodi’r wybodaeth

·     Cynnal Asesiad Effaith Cydraddoldeb o bolisïau’r Gronfa i’r dyfodol.

 

 

12.

POLISI DISGRESIWN GWEINYDDOL pdf eicon PDF 72 KB

 

 

1.           Adolygu a chraffu ar y Polisi Disgresiwn Gweinyddol sydd ynghlwm yn Atodiad 1.

2.           Ystyried a yw'r polisi yn darparu digon o eglurder, cysondeb a rheolaethau llywodraethu mewn perthynas ag arfer pwerau yn ôl disgresiwn o dan y Rheoliadau CPLlL.

3.           Nodi’r newidiadau arfaethedig i ddull y Gronfa o leihau pensiwn.

4.           Darparu sylwadau ac argymhellion i'r Pwyllgor Pensiynau i'w hystyried cyn mabwysiadu'r polisi.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Pensiynau Polisi Disgresiwn Gweinyddol i’r Bwrdd ei adolygu. Nodwyd bod angen i’r polisi arfaethedig ddangos cydymffurfiaeth gyda gofynion Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gan sicrhau bod y trefniadau yn cefnogi gweinyddiaeth effeithiol, gyson a thryloyw. Eglurwyd nad oedd Polisïau Disgresiwn Gweinyddol y Gronfa wedi eu hadolygu na’u diweddaru’n gynhwysfawr ers nifer o flynyddoedd, gyda’r polisi blaenorol wedi ei gymeradwyo yn 2009. Adroddwyd bod nifer o newidiadau a chanllawiau CPLlL wedi cyflwyno disgresiwn ychwanegol ers 2009 ac felly yn ofynnol i’r awdurdodau gweinyddol ddiweddaru eu polisïau. Y bwriad yw adolygu’r ddogfen yn flynyddol i sicrhau bod y polisi yn parhau’n gyfredol, yn adlewyrchu unrhyw newidiadau deddfwriaethol neu weithredol ac yn bodloni gofynion rheoleiddio.

 

Cyfeiriwyd at saith newid arfaethedig i’r disgresiwn gan roi ychydig o gefndir i’r Aelodau ar y newidiadau a sut roeddynt yn cael eu ffurfioli.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Yn croesawu’r swmp gwaith oedd wedi ei wneud i ddiweddaru’r newidiadau

·        Yn derbyn y cynnig i ddileu opsiwn o atal pensiwn (pan oedd aelod yn derbyn pensiwn salwch Haen 1 neu Haen 2 neu wedi cael blynyddoedd ychwanegol gan y cyflogwr) oherwydd nad oedd blynyddoedd ychwanegol wedi eu dyfarnu a bod ymddeoliadau salwch Haen 1 a Haen 2 yn achosion salwch eithriadol. Y newid yn cyd-fynd a gweinyddiaeth cronfeydd eraill.

 

Mewn ymateb i sylw nad oedd y polisïau wedi eu hadolygu ers 2009 ac os oedd trefniadau / adnoddau newydd wedi ei hymgorffori i adolygu a diweddaru yn fwy prydlon o hyn ymlaen, nodwyd bod rheoliadau newydd yn ei wneud yn ofynol i Gronfa gynnal adolygiad annibynol o’i drefniadau llywodraethu, gan gynnwys adolygu ei bolisiau bob tair blynedd ac felly bydd angen ceisio trefn newydd. Ategwyd mai un o gyfrifoldebau’r swyddog sydd newydd gael ei benodi fydd sicrhau cydymffurfiaeth a chywirdeb i’r polisïau i osgoi llithriad yn y gwaith i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD

·        Derbyn bod y polisi yn darparu digon o eglurder, cysondeb a rheolaethau llywodraethu mewn perthynas ag arfer pwerau yn ôl disgresiwn o dan y Rheoliadau CPLlL.

·        Nodi’r wybodaeth a’r newidiadau arfaethedig i ddull y Gronfa o leihau pensiwn.

·        Argymell i'r Pwyllgor Pensiynau gymeradwyo’r polisi.