Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Einir Rh Davies 01286 679868
Rhif | eitem | |||
---|---|---|---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd ar gyfer 2023/24 Penderfyniad: Etholwyd
y Cynghorydd Hefin Underwood fel Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr
Pwllheli ar gyfer y flwyddyn 2023/24. Cofnod: Etholwyd Y Cynghorydd Hefin Underwood yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y
cyfnod 2023-24 |
||||
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2023/24 Penderfyniad: Etholwyd
Y Cynghorydd Elin Hywel fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli
ar gyfer y flwyddyn 2023/24. Cofnod: Etholwyd Y Cynghorydd Elin Hywel yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y
cyfnod 2023-24 |
||||
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriad am absenoldeb Cofnod: Y
Cynghorydd Michael Sol Owen (Cynrychioli Plas Heli Pwllheli), Alwyn
Roberts ac Andy Vowell
(Cynrychioli Sefydliad y Bad Achub Pwllheli) |
||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
||||
MATERION BRYS Ystyried unrhyw eitemau sydd yn fater brys ym
marn y Cadeirydd. Cofnod: Cymerodd y Cadeirydd y cyfle i holi beth
oedd y posibilrwydd o gynnal y cyfarfod o amgylch y Bwrdd ar gyfer Mawrth
2024? Nododd bod llawer o’r Aelodau yn
dymuno ei gynnal wyneb yn wyneb a llawer o’r cyhoedd yn holi paham nad oedd
wyneb i wyneb? Cytunodd y Cadeirydd i
ysgrifennu llythyr ar ran y Pwyllgor i’r perwyl hwn. Yn ychwanegol, gofynnwyd a fyddai posib
ystyried cyfarfod yn ystod y dydd yn hytrach na gyda’r nos? Cwestiynodd yr Aelod Cabinet ai cyfarfod
hybrid oedd dan sylw, a nodwyd y mwyaf fyddai o gwmpas y bwrdd y gorau fyddai
hyn. |
||||
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 216 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y
cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Mawrth, 2023, fel
rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Mawrth, 2023 fel rhai cywir. |
||||
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 396 KB Cyflwyno adroddiad Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli Penderfyniad: Nodi a derbyn yr adroddiad Cofnod: Cyfeiriwyd at yr adroddiad oedd wedi ei
chreu gan Reolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli
gan adrodd fel a ganlyn : 1.1
Cod
Diogelwch Morol Porthladdoedd Cadarnhawyd ei bod yn parhau i fod yn
flaenoriaeth gan yr Uwch Swyddog Harbwr, ynghyd â'r Rheolwr Gwasanaeth Morwrol
newydd, Bryn Pritchard Jones, i ddiweddaru'r Côd
Diogelwch ar gyfer pob harbwr yng Ngwynedd.
Atgoffwyd pawb eto, i gysylltu os oedd unrhyw drafferth. 1.2
Carthu’r
Sianel Adroddwyd bod carthu’r sianel yn parhau i
fod yn her er bod gwaith cydweithio gyda YGC wedi ei wneud i gynnal
gwerthusiad. Yr opsiwn llawn fyddai i
gynnal y basn, sianel a cheg yr Harbwr.
Nodwyd bod YGC wedi bod yn aflwyddiannus yn cael eu grant eleni a maethu
Cerrig y Defaid. Nodwyd mai un opsiwn fyddai gwagio y ‘stilling lagoon’ ond fod y gost o
£1miliwn wedi ei rhoi trwy dendr ar y gwaith. Mae trafodaethau yn parhau gyda y
cwmni i weld a oes datrysiad gwell.
Cadarnhawyd y bydd y tendr i garthu basn y marina allan yn fuan, ond mai
y prif fater oedd ble i roi y gwaddod.
Er gwybodaeth, adroddwyd bod yr Arweinydd a’r Aelod Cabinet wedi gofyn
am adroddiad ar y sefyllfa. Codwyd pryder na lwyddodd YGC i gael y grant
eleni i faethu traeth Cerrig y Defaid, sydd yn meddwl fod y tywod ar geg yr
harbwr i’w werthu yn ei gyfanrwydd.
Cadarnhawyd mai ar gyfer y flwyddyn hon maent wedi bod yn aflwyddiannus
a’u bod yn edrych ar y Cynllun Llifogydd tymor hir, gan gadarnhau bod gwagio
ceg yr Harbwr yn fater blynyddol ac yn gost niwtral i’r Hafan ar hyn o bryd. Cwestiynwyd ymhellach y pryder o ran ceg yr
Harbwr gan holi tybed a oes unrhyw un wedi edrych ar y sefyllfa yn
greadigol? Megis ei chwythu gyda phwmp
ar hyd traeth megis Traeth Glandon? Mantais hyn
fyddai y gost gan mai unwaith yn unig fyddai angen ei symud. Atgoffodd y Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr
Pwllheli fod Traeth Glandon o dan reolaeth Cyfoeth
Naturiol Cymru (CNC) a’u bod wedi gwrthod y tywod oherwydd nid oedd yn cyrraedd
y safonau bioamrywiaeth, a bod eisoes cyd-weithio ar y Cynllun Risg Llifogydd. Atgoffodd y Cadeirydd bawb bod cyfarfod wedi
ei drefnu yn Siambr y Cyngor Tref gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac estynnwyd
gwahoddiad i Reolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli ac unrhyw aelod o’r
Pwyllgor fynychu y cyfarfod ar 22/11/23. Nodwyd bod y sefyllfa carthu yn rhwystredig
a bod y basn mewn angen dirfawr o’i garthu a holiwyd beth yw y rhagolygon o ran
gwneud y gwaith carthu? Adroddodd y Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr
Pwllheli bod y Gwasanaeth yn gweithio mor galed â phosib ac yn ceisio gwneud gwaith. Adroddodd bod lle bychan yn y lagwnau ac
mae’r bwriad fyddai defnyddio y lagwnau tra bod y trafodaethau ar y gweill. Roedd un Aelod yn teimlo bod llwyddiant yr Hafan a’r Harbwr yn dibynnu ar y gwaith carthu, gydag incwm o £1.8 miliwn, ac yn wirioneddol nad oedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
||||
MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL Materion i’w
hystyried ar gais aelodau’r Pwllgor Ymgynghorol Cofnod: Hysbyswyd y Pwyllgor, er gwybodaeth, bod
saith digwyddiad wedi cymryd lle eisoes o Blas Heli a bod rhestr lawn o
ddigwyddiadau wedi eu cynllunio ar gyfer y dyfodol. |
||||
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Nodi y cynhelir y cyfarfod nesaf 5ed Mawrth, 2024 Cofnod: Nodwyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei
gynnal ar 5 Mawrth, 2024 am 6.00 pm
|