Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Einir Rh Davies 01286 679868
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Llyr Beaumont Jones (Pennaeth Cynorthwyol Adran Economi a
Chymuned), Y Cynghorydd Gwilym Jones (Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog) a
Stephen Tudor (Clwb Hwylio Pwllheli). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau
o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi
unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10
Hydref, 2023 fel rhai cywir. Cofnod: Cafwyd diweddariad
o drafodaethau’r Cadeirydd gyda Chyngor Gwynedd yn dilyn sylwadau a gafwyd o
fewn eitem Materion Brys cyfarfod 10 Hydref 2023. Eglurwyd bod y Cyngor Llawn
wedi cymeradwyo polisi sy’n caniatáu i gyfarfodydd y Cyngor Llawn, Cabinet,
Craffu a Chynllunio i gael eu cynnal yn hybrid, gyda gwahoddiad i’r cyhoedd fynychu
neu wylio gwe-ddarllediad. Adroddwyd bydd pob cyfarfod arall yn cael ei gynnal
yn rhithiol yn unig. Sicrhawyd bod modd i’r cyhoedd fynychu cyfarfodydd eraill
sy’n cael eu cynnal yn rhithiol yn unig er na fuasai modd iddynt gyfrannu i’r
trafodaethau, drwy gysylltu gyda’r Gwasanaeth Democratiaeth. Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10
Hydref, 2023 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 198 KB Cyflwyno adroddiad Rheolwr
Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli. Penderfyniad: Cofnod: Cyfeiriwyd at yr adroddiad oedd wedi ei
chreu gan Reolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli
gan adrodd fel a ganlyn : Adroddwyd bod rhybudd i forwyr wedi cael ei
gyflwyno er mwyn rhagrybuddio bod gwaith o garthu’r sianel yn parhau ar 8fed
Mawrth gam gyfnod o wythnos. Cydnabuwyd bod y gwaith hwn yn parhau i fod yn her
i’r gwasanaeth a bod swyddogion yn cydweithio gydag Ymgynghoriaeth Gwynedd i
ganfod datrysiad i’r sefyllfa. Eglurwyd bod tua 12,000 o dunelli yn mynd i gael
ei dynnu o geg yr harbwr yn ystod y cyfnod hwn. Sicrhawyd bod arolwg
hydrograffig wedi cael ei gwblhau ar yr ardal briodol a bydd contractwyr yn
defnyddio teclynnau arbenigol er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio yn y lleoliad
cywir ac yn tynnu’r swm cywir o dywod o’r safle. Eglurwyd bod gwaith wedi cael ei gwneud ar
yr hen ynys, yn dilyn oediad yn sgil cytuno ar gostau contractwyr. Diolchwyd i
Gynghorwyr lleol am gynorthwyo i ymgysylltu gyda thrigolion lleol Bron y De a
Morfa Garreg am y gwaith a gwblhawyd gan swyddogion. Nodwyd bydd y lagŵn
distyllu yn cael ei wagio’n rhannol. Eglurwyd bod swyddogion wedi torri’r gwair
ar yr ynys yn ddiweddar ac wedi canfod bod y tir yn rhy wlyb i osod y gwaddod
gwlyb arno i’w sychu. O ganlyniad, cadarnhawyd mai oddeutu 10,000 tunnell bydd
yn cael ei wagio o’r lagŵn distyllu yn lle ei wagio’n gyfan gwbl. Cadarnhawyd y dymunir cwblhau’r gwaith ar yr
ynys yn ystod mis Mawrth cyn symud ymlaen i garthu tywod o rhai adrannau.
Adroddwyd bydd modd carthu oddeutu 10,000 tunnell o fasn y marina yn cael ei
wneud unwaith bydd gwaith ar yr hen ynys wedi’i gwblhau. Ymhelaethwyd bydd
arolwg hydrograffig yn cael ei wneud ar y safle er mwyn sicrhau bod y gwaith
cywir yn cael ei gwblhau. Cydnabuwyd bod gwaith cyfathrebu gyda cymdogion am y
gwaith hwn wedi bod yn ddiffygiol ar ddechrau’r broses ond mae pob ymdrech yn
cael ei wneud i’w wella i’r dyfodol. Mewn ymateb i ymholiad ar dderbyn trwydded
gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer pwmpio’r gwaddod i ‘r traeth agosaf (traeth
Glandon) yn hytrach na’i gludo ymhellach, cadarnhaodd y Rheolwr Masnachol bod y
tywod wedi cael ei asesu a'i fod yn glir ac y bydd yn cael ei ddefnyddio ar
draeth Carreg y Defaid oherwydd ei fod o dan reolaeth y Cyngor. Nid oes modd ei gludo i draeth
Glandon oherwydd mae’r traeth dan reolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ac nid yw’r
tywod yn pasio eu profion yn ddigonol i gael ei bwmpio yno. Eglurwyd bod y
gwasanaeth wedi datblygu cynllun ar y cyd gydag Ymgynghoriaeth Gwynedd er mwyn
llunio 4 opsiwn i’r dyfodol. Cadarnhawyd mai un o’r opsiynau cryfaf yw gwaredu
gwaddod y basn i’r môr gan dderbyn trwydded forol gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Ymhelaethwyd bod y gwasanaeth wedi derbyn cyfarfodydd cychwynnol gyda Chyfoeth
Naturiol Cymru ac maent yn gadarnhaol iawn. Sicrhawyd bod swyddogion yn cydweithio gyda Ymgynghoriaeth Gwynedd ar nifer o opsiynau er mwyn penderfynu ar ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Nodi y cynhelir cyfarfod
nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli ar 08 Hydref, 2024 (yn ddarostyngedig
i’w gadarnhau gan y Cyngor Llawn). Cofnod: Nodwyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei
gynnal ar 08 Hydref, 2024, yn ddarostyngedig i Gyngor Llawn gymeradwyo’r
calendr pwyllgorau yn ei gyfarfod ar 07 Mawrth, 2024. |