Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan:

 

  • Y Cynghorydd Elin Hywel.
  • Alwyn Roberts (Sefydliad y Bad Achub Pwllheli) gydag Andy Vowell yn dirprwyo.
  • Y Cynghorydd Gwilym Jones (Sylwedydd Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Cyflwynwyd cais i drafod dyfais ‘dingy-rack’ gan gynrychiolydd o Gymdeithas Masnachwyr Morwrol Pwllheli. Mynegwyd pryder fod y sefyllfa hon yn arwain at broblemau economaidd i fusnes Partington Marine Ltd. Eglurwyd bod y teclun wedi cael ei osod y tu allan i hen swyddfa’r Harbwr-feistr, gyda cynlluniau i’w symud i fwlch rhwng cyn-adeilad Sefydliad y Bad Achub ar yr harbwr allanol a Partington Marine Ltd. Tynnwyd bod y ffordd yma yn rhoi mynediad i flaen busnes Partington Marine yn ogystal a’u llithrfa a’u siop. Pryderwyd nad oes modd i’r cwmni gludo teclun codi (hoist) o gwmpas yr ardal yno, gan ei fod eisoes yn her i wneud hynny,  yn ogystal â chreu trafferthion i gerbydau mawr sydd yn danfon cychod yno, er bod modd i geir a cherbydau eraill ddreifio heibio. Pwysleisiwyd er nad yw Sefydliad y Bad Achub yn defnyddio’r ardal hon mwyach, mae cadw’r teclun rhwng yr adeiladau yn bygwth dyfodol cwmni Partington Marine Ltd.

 

Mynegwyd bod cadw’r teclyn yn ei safle presennol yn achosi heriau os byddai cerbydau gwasanaethau brys angen mynediad i’r harbwr allanol ar unrhyw achlysur.

 

Ystyriwyd bod y sefyllfa hon yn ymyrryd â hawliau tramwyo sydd ar y safle ers cryn dipyn o amser ac byddai modd ystyried cyngor cyfreithiol os oes unrhyw un yn credu ei fod yn briodol i wneud hynny.

 

Nodwyd nad oedd yr holl aelodau yn ymwybodol o’r sefyllfa hon yn flaenorol i’r cyfarfod hwn a heb gael amser i baratoir ar gyfer y drafodaeth. Derbyniwyd crynhoad o heriau’r sefyllfa bresennol gan Reolwr Hafan a Harbwr Pwllheli, gan nodi y gobeithiwyd bod symud y teclyn i’r safle presennol o’i safle blaenorol tu hwnt i lithrfa gerllaw'r hen swyddfa ar gyfer yr Harbwr-feistr yn datrys y gwrthdaro sydd wedi codi yno yn ddiweddar. Pwysleisiwyd bod ardal yr harbwr allanol yn brysur iawn gan fod pobl yn defnyddio’r ardal honno i lawnsio cychod ar eu pen eu hunain, cerddwyr a nifer o unigolion eraill yn defnyddio’r llithrfa. Credir bod cadw’r teclyn yn eu safle blaenorol yn creu trafferthion iechyd a diogelwch, gan ofni bydd cerbydau yn taro defnyddwyr yr harbwr wrth fynd heibio, a dylid mynd i’r afael â chanfod datrysiad iddo cyn gynted â phosib. Nodwyd hefyd bod symud y teclun yn creu mwy o fannau parcio ar gyfer defnyddwyr yr harbwr. Pwysleisiwyd nad oes unrhyw fwriad i amharu ar y fynedfa i Partington Marine Ltd.

 

Dangoswyd lluniau o’r teclun er mwyn amlygu’r sefyllfa bresennol a’r heriau posib sydd yn codi o’i ddefnydd a’i leoliad.

 

Mewn ymateb i’r drafodaeth, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol Adran Economi a Chymuned bod nifer o sylwadau a phryderon wedi cael eu codi ynglŷn â’r sefyllfa bresennol. Sicrhawyd bod gwaith yn mynd rhagddo i ganfod opsiynau eraill fel datrysiad i’r sefyllfa.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, cadarnhawyd bydd Rheolwr Hafan a Harbwr Pwllheli a cynrychiolydd Gymdeithas Masnachwyr Morwrol Pwllheli i ysgrifennu adroddiadau ar y mater hwn, i’w gyflwyno i’r cyfarfod nesaf.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 107 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 07 Hydref 2025 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 07 Hydref, 2025 fel rhai cywir. 

 

5.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 240 KB

I gyflwyno adroddiad Rheolwr Hafan a Harbwr Pwllheli.

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a godwyd yn ystod y drafodaeth, gan eithrio materion carthu’r Harbwr, oherwydd bydd y materion hynny yn cael eu trafod mewn cyfarfod anffurfiol ar 18 Mawrth 2026.

 

Cofnod:

Derbyniwyd diweddariad ar faterion rheolaethol yr harbwr gan Reolwr Hafan a Harbwr Pwllheli.

 

Manylwyd ar ddata perfformiad yr harbwr gan gadarnhau bod niferoedd Cytundebau Angori wedi aros yn gymharol gyson gyda’r blynyddoedd diwethaf. Eglurwyd bod rhai angorfeydd wedi cael eu colli ar ddechrau’r flwyddyn ariannol gyfredol oherwydd bod mwd a llaid wedi adeiladu yn yr harbwr, gan gadarnhau ei fod yn debygol bydd rhai angorfeydd yn cael eu colli yn fuan. Nodwyd y bwriedir agor ardaloedd gwahanol ar gyfer angorfeydd er mwyn ymateb i’r sefyllfa ddatblygol hon, a sicrhau bod swyddogion yn parhau i fonitro’r sefyllfa.

 

Diolchwyd i gwsmeriaid angorfeydd am gwblhau holiadur boddhad yn ddiweddar. Tynnwyd sylw bod swyddogion yn ymwybodol bod trafferthion ar hyn o bryd gyda dyfnder y sianel ac yr angen i gynllunio a cyflawni gwaith carthu yn yr harbwr, gan nodi bod yr holiadur boddhad hwn yn adlewyrchu’r angen hwnnw gan bod y lefel boddhad yn îs na’r blynyddoedd diwethaf. Nodwyd hefyd bod lefel boddhad cwsmeriaid angorfeydd gyda’r pontwns hefyd wedi gostwng eleni. Diweddarwyd bod pontwns allanol newydd wedi cael eu gosod ers cyflwyno’r adroddiad hwn. Eglurwyd bod rhai agweddau o’r holiadur yn disgyn i gyfrifoldebau’r swyddogion megis ffactorau staff, ar gynnydd, gan ymfalchïo fod y cwsmeriaid yn fodlon gyda’r gwaith a gyflawnwyd gan staff yr harbwr.

 

Adroddwyd bod yr harbwr wedi derbyn archwiliad gan Tŷ’r Drindod (Trinity House) er mwyn archwilio cymhorthion mordwyo a chofnodion. Mynegwyd balchder bod yr archwiliad yn dangos bod trefniadau’r harbwr yn foddhaol ac effeithlon.

 

Tynnwyd sylw bod diweddariad ysgrifenedig wedi cael ei gyflwyno o fewn yr adroddiad ar faterion carthu’r harbwr, a chytunwyd i drafod y materion hynny mewn cyfarfod anffurfiol o’r Pwyllgor Ymgynghorol hwn, sydd wedi ei drefnu ar brynhawn 18 Mawrth 2026.

 

Diweddarwyd bod gwaith yn cael ei wneud i ddiweddaru ystafell Erch yn yr Hafan i’w drawsnewid yn lolfa i rai sydd ag angorfa ar yr harbwr. Cydnabuwyd bod y gwaith yn fwy helaeth na rhagwelwyd ond cadarnhawyd bod gwaith yn cael ei gyflawni’n gyflym er mwyn osod gwres canolog, gosod drysau a ffenestri newydd yn ogystal â lloriau newydd er mwyn diweddaru’r adeilad.

 

Cadarnhawyd y gwahoddwyd tendrau yn ddiweddar ar gyfer y ddarpariaeth lanhau, yn unol â’r gofynion caffael. Rhannwyd bod cwmni Mynydd Cleaning & Maintenance Ltd o Borthmadog wedi eu penodi gan obeithio iddynt gymryd drosodd y ddarpariaeth lanhau o 23 Mawrth ymlaen. Ymhelaethwyd bod swyddogion wedi cael cyfarfod cychwynnol gyda’r cwmni yn ddiweddar gan ymfalchïo bod y trefniant yn un cadarnhaol iawn.

 

Manylwyd ar faterion staffio gan egluro bod adolygiad o strwythur staffio Hafan wedi cael ei gyflawni yn ddiweddar mewn ymgynghorid gyda’r gwasanaeth Adnoddau Dynol a’r undebau llafur. Pwysleisiwyd nad oes unrhyw unigolyn wedi colli eu swydd, bod codiad cyflog wedi cael ei nodi ar gyfer rhai rolau ac bod rhai aelodau’r tîm wedi symud yn fewnol i rolau newydd. Tynnwyd sylw bod y gobeithir penodi ar gyfer dwy swydd ychwanegol yn fuan iawn, sef Rheolwr Prosiect a Chynorthwyydd Gweithrediadau. Nodwyd bod staff presennol wedi cael gwybod am y swyddi hyn a’u  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

PLAS HELI

I dderbyn diweddariad llafar gan y cynrychiolydd perthnasol ar gaterion sy’n ymwneud â Phlas Heli.

Cofnod:

Derbyniwyd diweddariad llafar ar faterion Plas Heli gan gynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli. Tynnwyd sylw at y materion canlynol:

 

Edrychwyd ymlaen at dymor prysur yn yr harbwr gydag wyth digwyddiad mawr yn cael ei gynnal ym Mhlas Heli. Ymfalchïwyd bod grwpiau yn ymarfer ar gyfer y digwyddiadau hynny ar benwythnosau ym Mhlas Heli, gan nodi balchder bod y safle yn brysur pob diwrnod.

 

Cadarnhawyd bod gwaith paratoi, cynnal a chadw yn parhau, gan nod bod y safle wedi derbyn archwiliad ac adroddiad gan Walcon Marine ar gyflwr yr angorfeydd. Nodwyd bod yr archwiliad hwnnw wedi arwain at restr o argymhellion a fydd yn cael ei gyflawni gan Walcon Marine. Ymhelaethwyd bod costau rhai o’r gweithrediadau hyn oddeutu £5,000. Yn debyg, eglurwyd bod tystysgrif trydanol wedi cael ei gyflawni ar gyfer pob pontŵn, am gost o oddeutu £5,000.

 

Cyfeiriwyd at ddigwyddiadau cymunedol gan nodi y derbyniwyd cais i ddefnyddio’r safle ar gyfer sesiynau cofrestru y ‘She Ultra’ yn ogystal â defnyddio’r safle ar gyfer dechrau a gorffen y digwyddiad. Eglurwyd bod y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ym mis Ebrill a disgwylir oddeutu 3,500 o bobl fod ynghlwm ag o ar y safle. Yn debyg, nodwyd bod y safle yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cychwyn a gorffen Rali Llŷn ym Mhlas Heli ym mis Mawrth, gan gadarnhau y disgwylir i’r safle fod yn wag ac wedi ei glirio erbyn 8yb yn dilyn y digwyddiad. Soniwyd hefyd am ddigwyddiad sydd yn cael ei gynnal ar gyfer pysgotwyr masnachol ar y safle, ble fydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal a stondinau addysgol a meddygol ar gael yno. Tynnwyd sylw bod amryw o gyfarfodydd eraill yn cael eu cynnal ar y safle gan mynegi balchder bod staff Plas Heli wedi cael yr amser i adnewyddu rhai ystafelloedd a throsi swyddfa i fod yn ystafell gyfarfod ychwanegol er defnydd cyhoeddus.

 

Adroddwyd y bwriedir gosod parapet newydd ar falconïau’r adeilad. Nodwyd bod y gwaith hwn yn angenrheidiol gan fod y pren gwreiddiol wedi prydu. Ymhelaethwyd bod gwaith yn cael ei wneud i godi’r balconi er mwyn adnewyddu ei seiliau i gyd fynd gyda gweddill yr adeilad, tra mae’r gwaith hwn yn cael ei gwblhau. Cadarnhawyd bod y gwaith hwn bron a’i gwblhau.

 

Sicrhawyd bod gwaith tirlunio yn parhau er mwyn sicrhau bod edrychiad y safle yn gwella yn flynyddol.

 

Mynegwyd pryder bod tractorau yn cludo cychod i’r traeth heibio prif fynedfa a maes parcio'r safle gan greu problemau iechyd a diogelwch, rhag ofn byddai pobl yn defnyddio’r un llwybr ar gyfer lawnsio badau cwch personol a’r defnydd o drelars modur (motorised Trailers) yn yr un modd. Cadarnhawyd bod carreg fawr wedi cael ei osod ger y fynedfa hon i’r traeth er mwyn delio gyda hyn.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:

 

Eglurwyd bod treial wedi cael ei gynnal yn ddiweddar gyda threlars modur, ble roeddent yn cael eu rheoli o bell, gan gwmni a oedd wedi bod mewn cyswllt gyda’r Tîm Traethau am ganiatâd. Cydnabuwyd y dylid cynnwys Plas Heli  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli ar  03 Tachwedd 2026 (yn ddarostyngedig i’w gadarnau gan y Cyngor Llawn).

 

 

Aelodau i nodi: bydd cyfarfod anffurfiol yn cael ei gynnal ar 18 Mawrth 2026 i drafod materion yn ymwneud â charthu’r Harbwr.

 

Cofnod:

Nodwyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 03 Tachwedd 2026.

 

Atgoffwyd yr aelodau bod cyfarfod anffurfiol yn cael ei gynnal ar 18 Mawrth 2026 i drafod materion yn ymwneud â charthu’r Harbwr.