Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Einir Rh Davies 01286 679878
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorydd Elin Hywel (Aelod
Lleol), Y Cynghorydd Gwilym Jones (Sylwedydd, Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr
Porthmadog), Jenny Moss (Cymdeithas Deiliaid Angorfeydd Marina Pwllheli), Y
Cynghorydd Richard G Roberts (Aelod Lleol) a Stephen Tudor (Cynrychioli Clwb
Hwylio Pwllheli) |
|||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|||
MATERION BRYS I ystyried unrhyw eitemau sydd yn fater brys ym marn y
Cadeirydd. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|||
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 223 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y
cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Hydref, 2022 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Hydref, 2022 fel rhai cywir. Yn y cyfarfod blaenorol, codwyd mater brys
ynglŷn â safle Ambiwlans Awyr Dinas Dinlle, a chytunwyd i ddanfon llythyr
o bryder yn enw y Pwyllgor. Derbyniwyd ymateb yn cadarnhau bod trafodaethau mewn lle, ond
erbyn hyn wedi derbyn cadarnhad fod ymestyniad o dair blynedd wedi ei
ganiatáu. Gofynnwyd i’r Pwyllgor
ysgrifennu pan ddaw ymgynghoriad eto yn erfu arnynt i
gadw y trefniant presennol, gan y byddai unrhyw drefniant gwahanol yn niweidiol
i’r Ardal. Cytunwyd i gadw y Pwyllgor yn
y darlun gydag unrhyw ddatblygiadau neu gyfathrebu pellach. |
|||
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL A GWEITHREDOL YR HARBWR PDF 326 KB Cyflwyno adroddiad Rheolwr
Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi
a derbyn yr adroddiad a chytuno i’r Aelod Cabinet godi mater y Ddeddfwriaeth
Newydd o Amgylch Badau Dwr Personol gyda y Gymdeithas Llywodraeth Leol. Cofnod: Cyfeiriwyd at yr adroddiad oedd wedi ei
chreu gan Reolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli
gan adrodd fel a ganlyn : 1.1
Cod
Diogelwch Morol Porthladdoedd Atgoffwyd y Pwyllgor bod Barry Davies
(Rheolwr Gwasanaeth Morwrol) yn ymddeol 31/3/23 a’i fod wedi bod yn greiddiol
yn y gwaith morwrol a’r Hafan am dros 27mlynedd. Nododd y Pwyllgor ei ddymuniad
i ysgrifennu ato i ddiolch am ei holl waith ar achlysur ei ymddeoliad. 1.2
Carthu’r
Sianel Cadarnhawyd bod y gwaith yn mynd rhagddo i
gael gwared a hanner y carthion, ac nad oes effaith andwyol ar y Parc Gwyliau o
wneud hyn. Cadarnhawyd y bydd y gwaith
yn parhau hyd ddiwedd y mis a bod arolwg hydrograffeg wedi ei gynnal. Mewn ymateb i gwestiwn a yw y grwyn yn gweithio, cadarnhawyd ei bod yn parhau i fod yn
sefyllfa heriol iawn, ond bod ymgais i dynnu 20,000 o dunelli erbyn diwedd y mis,
ac y byddai hyn yn rhywbeth i’w wneud yn flynyddol. Atgoffwyd y Pwyllgor o’r trefniant blaenorol
i fynd a’r tywod ar draethau megis Grugan, a holiwyd a yw y drefn hon wedi dod
i ben? Cadarnhawyd mai Cyfoeth Naturiol
Cymru (CNC) sydd â chyfrifoldeb am draeth Glandon. Mae hanner wedi ei werth a hanner wrth gefn,
ac mae YGC wedi rhoi cais i symud y tywod i Grugan yn yr Hydref. Dŵr Cymru sydd yn berchen ar y tir, ac
mae yr her i gadw y tywod i lawr yng ngheg yr Harbwr yn parhau. Cadarnhawyd bod y Gwasanaeth mewn lle cryf i
werthu y tywod nawr, a'r gobaith fyddai ei werthu. Mae carthu basn y marina yn sialens, yn
enwedig gan fod y lagwnau yn llawn, a chyfeiriwyd at y Rhaglen Waith ble mae
trafodaethau ar y gweill gyda CNC i edrych ar roi y llaid yn y môr, ond bod
angen gwneud y gwaith carthu yn Hydref 2023. Cadarnhawyd bod gwerthu y tywod ar £5.17 y
dunnell, yn cyfrannu tua £130,000 ond bod £50,000 ohono yn mynd i Stad y Goron
a chytunwyd bod angen llythyru Stad y Goron.
Nodwyd bod ymgais i’w gael yn gost niwtral, gan gofio bod carthu ceg yr
Harbwr yn £100,000 ar ei ben ei hun, ac yn her enfawr. Mae angen datrysiad ynglŷn â beth i’w
wneud gyda y carthu, gan fod angen carthu yn rheolaidd heb amharu ar ddefnydd
o’r Harbwr. Cwestiynwyd yr hyn sydd yn y lagŵn, a’r pryder nad oes modd iddo fynd i’r chwarel? Cadarnhawyd bod y rheolau/safonau wedi newid, a’i fod yn cael ei brofi yn aml, a bod Jones Brothers yn edrych ar ei gywasgu, ond bod gwaith ar ddatrysiad yn parhau. Yn sgil hyn, cadarnhawyd bod y tywod 2% rhy uchel i’w roi ar Draeth Berch. Nodwyd pryder am y sefyllfa a nodwyd bod lle ar Domen Tŷ Towyn. Holiwyd oni fyddai modd trafod gyda CNC a chadarnhawyd bod sgwrs fuddiol wedi bod rhwng YGC a CNC. Yn ychwanegol nodwyd bod Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli wedi amlinellu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|||
TREFNIADAU Y DYFODOL I drafod Trefniadau y Pwyllgor i’r Dyfodol Penderfyniad: Derbyn
safbwynt y Cyngor Llawn (yn ei gyfarfod 2/12/21) ynglŷn â threfniadau y
dyfodol ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau ffurfiol. Cofnod: Trafodwyd
trefniadau y dyfodol, gan nodi dymuniad rhai i gyfarfod wyneb yn wyneb. Cyfeiriwyd at safbwynt
y Cyngor Llawn (yn ei gyfarfod 2/12/21) ynglŷn â threfniadau y dyfodol ar
gyfer cyfarfodydd pwyllgorau ffurfiol a derbyniwyd y safbwynt. Atgoffwyd
pawb gan Reolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli petaent angen sgwrs bod ei
ddrws wastad yn agored neu fod modd cysylltu ag o ar y ffon neu drwy e-bost. |
|||
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr
Pwllheli ar 10 Hydref 2023 (yn ddarostynedig ar gymeradwyaeth y Cyngor
Llawn). Cofnod: Nodwyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei
gynnal ar 10 Hydref, 2023 am 6.00 pm
|