Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Einir Rh Davies  01286 679868

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2023/24

Penderfyniad:

Etholwyd y Cynghorydd Hefin Underwood fel Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli ar gyfer y flwyddyn 2023/24.

Cofnod:

Etholwyd Y Cynghorydd Hefin Underwood yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y cyfnod 2023-24

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2023/24

 

Penderfyniad:

Etholwyd Y Cynghorydd Elin Hywel fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli ar gyfer y flwyddyn 2023/24.

 

Cofnod:

Etholwyd Y Cynghorydd Elin Hywel yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y cyfnod 2023-24

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriad am absenoldeb

Cofnod:

Y  Cynghorydd Michael Sol Owen (Cynrychioli Plas Heli Pwllheli), Alwyn Roberts ac Andy Vowell (Cynrychioli Sefydliad y Bad Achub Pwllheli)

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw eitemau sydd yn fater brys ym marn y Cadeirydd.

 

Cofnod:

Cymerodd y Cadeirydd y cyfle i holi beth oedd y posibilrwydd o gynnal y cyfarfod o amgylch y Bwrdd ar gyfer Mawrth 2024?  Nododd bod llawer o’r Aelodau yn dymuno ei gynnal wyneb yn wyneb a llawer o’r cyhoedd yn holi paham nad oedd wyneb i wyneb?  Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu llythyr ar ran y Pwyllgor i’r perwyl hwn.  Yn ychwanegol, gofynnwyd a fyddai posib ystyried cyfarfod yn ystod y dydd yn hytrach na gyda’r nos?  Cwestiynodd yr Aelod Cabinet ai cyfarfod hybrid oedd dan sylw, a nodwyd y mwyaf fyddai o gwmpas y bwrdd y gorau fyddai hyn.

 

6.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 216 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Mawrth, 2023, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Mawrth, 2023 fel rhai cywir. 

 

7.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 396 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad

 

Cofnod:

Cyfeiriwyd at yr adroddiad oedd wedi ei chreu gan Reolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli gan adrodd fel a ganlyn :

 

1.1           Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd

 

Cadarnhawyd ei bod yn parhau i fod yn flaenoriaeth gan yr Uwch Swyddog Harbwr, ynghyd â'r Rheolwr Gwasanaeth Morwrol newydd, Bryn Pritchard Jones, i ddiweddaru'r Côd Diogelwch ar gyfer pob harbwr yng Ngwynedd.  Atgoffwyd pawb eto, i gysylltu os oedd unrhyw drafferth.

 

1.2           Carthu’r Sianel

 

Adroddwyd bod carthu’r sianel yn parhau i fod yn her er bod gwaith cydweithio gyda YGC wedi ei wneud i gynnal gwerthusiad.  Yr opsiwn llawn fyddai i gynnal y basn, sianel a cheg yr Harbwr.  Nodwyd bod YGC wedi bod yn aflwyddiannus yn cael eu grant eleni a maethu Cerrig y Defaid.

 

Nodwyd mai un opsiwn fyddai gwagio y ‘stilling lagoon’ ond fod y gost o £1miliwn wedi ei rhoi trwy dendr ar y gwaith. Mae trafodaethau yn parhau gyda y cwmni i weld a oes datrysiad gwell.  Cadarnhawyd y bydd y tendr i garthu basn y marina allan yn fuan, ond mai y prif fater oedd ble i roi y gwaddod.  Er gwybodaeth, adroddwyd bod yr Arweinydd a’r Aelod Cabinet wedi gofyn am adroddiad ar y sefyllfa.

 

Codwyd pryder na lwyddodd YGC i gael y grant eleni i faethu traeth Cerrig y Defaid, sydd yn meddwl fod y tywod ar geg yr harbwr i’w werthu yn ei gyfanrwydd.  Cadarnhawyd mai ar gyfer y flwyddyn hon maent wedi bod yn aflwyddiannus a’u bod yn edrych ar y Cynllun Llifogydd tymor hir, gan gadarnhau bod gwagio ceg yr Harbwr yn fater blynyddol ac yn gost niwtral i’r Hafan ar hyn o bryd.

 

Cwestiynwyd ymhellach y pryder o ran ceg yr Harbwr gan holi tybed a oes unrhyw un wedi edrych ar y sefyllfa yn greadigol?  Megis ei chwythu gyda phwmp ar hyd traeth megis Traeth Glandon? Mantais hyn fyddai y gost gan mai unwaith yn unig fyddai angen ei symud.

Atgoffodd y Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli fod Traeth Glandon o dan reolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’u bod wedi gwrthod y tywod oherwydd nid oedd yn cyrraedd y safonau bioamrywiaeth, a bod eisoes cyd-weithio ar y Cynllun Risg Llifogydd.

 

Atgoffodd y Cadeirydd bawb bod cyfarfod wedi ei drefnu yn Siambr y Cyngor Tref gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac estynnwyd gwahoddiad i Reolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli ac unrhyw aelod o’r Pwyllgor fynychu y cyfarfod ar 22/11/23.

 

Nodwyd bod y sefyllfa carthu yn rhwystredig a bod y basn mewn angen dirfawr o’i garthu a holiwyd beth yw y rhagolygon o ran gwneud y gwaith carthu?

 

Adroddodd y Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli bod y Gwasanaeth yn gweithio mor galed â phosib ac yn ceisio gwneud gwaith.  Adroddodd bod lle bychan yn y lagwnau ac mae’r bwriad fyddai defnyddio y lagwnau tra bod y trafodaethau ar y gweill.

 

Roedd un Aelod yn teimlo bod llwyddiant yr Hafan a’r Harbwr yn dibynnu ar y gwaith carthu, gydag incwm o £1.8 miliwn, ac yn wirioneddol nad oedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL

Materion i’w hystyried ar gais aelodau’r Pwllgor Ymgynghorol

Cofnod:

Hysbyswyd y Pwyllgor, er gwybodaeth, bod saith digwyddiad wedi cymryd lle eisoes o Blas Heli a bod rhestr lawn o ddigwyddiadau wedi eu cynllunio ar gyfer y dyfodol.

 

9.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Nodi y cynhelir y cyfarfod nesaf 5ed Mawrth, 2024

Cofnod:

Nodwyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 5 Mawrth, 2024 am 6.00 pm

 

Dechreuodd y cyfarfod am 6.00 pm a daeth i ben am 7.10 pm.

 

Diolchwyd i bawb am eu cyfraniadau gwerthfawr.

 

 

 

 

CADEIRYDD.