Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr
Anwen J. Davies, John Brynmor Hughes, Aled Wyn Jones ac Angela Russell (Pencampwr
Cefn Gwlad Cyngor Gwynedd) ynghyd ag Andrew Davidson (Ymddiriedolaeth
Archeolegol Gwynedd), Gillian Walker (Cyfeillion Llŷn) ac Wyn Williams
(Rheolwr Cefn Gwlad). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2021, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
diwethaf o’r Cydbwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2021, fel rhai cywir. Gofynnwyd am ddiweddariad ynglŷn â’r
penderfyniad i’r Swyddog Gwasanaeth AHNE drefnu cyfarfod rhithiol efo’r
Cynghorau Cymuned a Thref o fewn yr AHNE i ddarparu mwy o wybodaeth am gais yr
IDA i ddynodi statws Parc Awyr Dywyll i’r ardal. Adroddwyd fod y Swyddog AHNE wedi anfon
e-bost at y Cynghorau Cymuned a Thref i ddarparu gwybodaeth bellach ac am
gysylltu dros yr wythnosau nesaf i drefnu’r cyfarfod; gobeithir gallu ei drefnu
at ddiwedd Ebrill neu fis Mai. |
|
CYNLLUN GWEITHREDU ADFER NATUR PDF 190 KB I ddarparu gwybodaeth am y Cynllun Gweithredu Adfer
Natur. Penderfyniad: Derbyn y wybodaeth am y Cynllun
Gweithredu Adfer Natur a dderbyniwyd gan y Swyddog Bioamrywiaeth. Cofnod: Croesawyd y Swyddog Bioamrywiaeth Ann
Williams i’r cyfarfod. Cyflwynwyd yr adroddiad ble nodwyd fod y blynyddoedd
diwethaf wedi bod yn drobwynt ar gyfer cydnabod yr argyfwng natur a chynyddu
camau gweithredu. Darparwyd cefndir ar y Cynllun Gweithredu
Adfer Natur Genedlaethol sy’n manylu ar sut y dylai pob ardal fynd i’r afael ag
adfer natur a chynhyrchu Cynllun Gweithredu eu hunain. Eglurwyd mai’r Swyddog
Bioamrywiaeth fydd yn arwain ar y cynllun hwn fydd yn gynllun ar y cyd rhwng
Gwynedd a Llŷn. Bwriad y cynllun fydd mynd i’r afael â’r chwe amcan cenedlaethol
tra hefyd yn cyfarch heriau, pryderon a’r gofynion amgylcheddol yn lleol. Cydnabyddwyd fod yr amgylchedd yn bwysig
ofnadwy i drigolion Gwynedd a Llŷn; bydd y cynllun yn sicrhau fod y
cymunedau hyn yn gallu parhau i elwa a mwynhau byd natur. Fydd y ddogfen a’i
amcanion yn cael ei anelu at amrywiaeth eang o bobol. Bwriedir i’r Cynllun Gweithredu Adfer Natur Gwynedd a
Llŷn fod yn ddogfen bolisi statudol efo fydd â phedwar rhan. Adroddwyd y bydd ymgynghoriadau yn cael eu
cynnal cyn yr Haf fel rhan o broses creu'r ddogfen; bydd y Cydbwyllgor hwn yn
cael eu cynnwys yn y sesiynau ymgynghori hyn. Nodwyd yn y cyfamser fod drafft o
ran gyntaf y Cynllun Gweithredu wedi ei baratoi, gofynnwyd am adborth a
sylwadau’r Cydbwyllgor ar y drafft hwn. Bydd mwy o wybodaeth i ddilyn ar sut i
gyflwyno sylwadau a bydd y Swyddog Bioamrywiaeth yn anfon y drafft i aelodau’r
Cydbwyllgor. Yn ogystal, byddai’r Swyddog Bioamrywiaeth yn gwerthfawrogi pe
bai’r Cydbwyllgor yn cymryd rhan a chyfrannu yn yr ymgynghoriadau cyn iddynt
fynd ati i ffurfio gweddill y ddogfen. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn gan aelodau:- -
Gofynnwyd am eglurhad pellach ynglŷn â pha ran o’r
ddogfen fydd yn destun i’r ymgynghoriad. -
Holiwyd beth
fydd yn digwydd ar ôl i’r ddogfen gael ei chynhyrchu a pwy fydd yn gweithredu
cynnwys y ddogfen. -
Cwestiynwyd pam
fod y Cydbwyllgor heb gael copi o gynllun drafft rhan un ymlaen llaw. Pryderwyd
nad yw aelodau’r Cydbwyllgor yn ymwybodol beth fydd cynnwys y drafft hwn. Mewn ymateb, nodwyd: -
Y bydd yr ymgynghoriadau ynghylch ffurfio ail a trydedd
rhan y cynllun fydd yn amlygu sut gall y boblogaeth gyffredinol helpu adferiad
byd natur yn ogystal â’r camau gweithredu a’r blaenoriaethau lleol. Rhain fydd
rhannau pwysicaf y cynllun ac yn destun i’r ymgynghoriadau ble bydd cyfle i
gyfrannu. . -
Nodwyd mai cefndir y cynllun yn unig oedd rhan un sydd
wedi ei baratoi ar ffurf drafft ble gofynnwyd am sylwadau. -
Bod bwriad i’r
ddogfen fod yn ddogfen fyw ble gellir ychwanegu ati. Ychwanegwyd fod Llywodraeth
Cymru wedi blaenoriaethu adfer natur a bioamrywiaeth dros y blynyddoedd
diwethaf, golyga hyn fod cronfeydd o arian yn dod ar gael yn fwy aml. Eglurwyd
y bydd y ddogfen ar gael pe bai prosiectau eraill eisiau cyfeirio at y cynllun
a’i ddefnyddio fel adnodd i gefnogi ceisiadau am arian. - Ychwanegwyd y bydd y cynllun hwn yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
PROSIECTAU CYFALAF AHNE LLŶN PDF 120 KB I ddarparu gwybodaeth am Brosiectau Cyfalaf
AHNE Llŷn. Penderfyniad: Derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad ar Brosiectau Cyfalaf AHNE Llŷn. Cofnod: Darparwyd gwybodaeth am brosiectau cyfalaf AHNE Llŷn gan roi
diweddariad ar Brosiectau Cyfalaf TCLC ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol
(2021/22). Nodwyd y bydd mwy o wybodaeth am brosiectau AHNE Llŷn dros y
flwyddyn ddiwethaf i’w weld yn y rhifyn diweddaraf o Lygaid Llŷn fydd ar
gael diwedd mis Ebrill. Adroddwyd fod y prosiect Atgyweirio Trac Porth Meudwy
wedi ei gwblhau a gwaith bron a gorffen ar y tri phrosiect arall. Nodwyd nad oes cadarnhad wedi ei dderbyn hyd yn hyn am gyfanswm y grant
yn y dyfodol na’r nifer o flynyddoedd; adroddwyd fod siawns y bydd dros gyfnod
o dair blynedd. Cadarnhawyd y bydd y themâu ar gyfer y prosiectau cyfalaf yn
parhau fel y flwyddyn gyfredol. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion â
ganlyn gan aelodau:- -
Holwyd erbyn pryd rhaid i’r arian gael
ei wario ar brosiectau 2021/22. Roedd y gwaith ar y prosiect o adnewyddu
toiledau Lôn Gam, Nefyn ychydig ar ôl yr amserlen wreiddiol oherwydd y
tirlithriad diweddar. -
Cwestiynwyd os yw’r themâu Twristiaeth
Gynaliadwy yn cyfeirio at y llwybrau troed ac os yw’r Swyddog AHNE yn rhagweld
y bydd ceisiadau pellach dan y themâu yma'r flwyddyn nesaf. -
Awgrymwyd y gall y themâu Twristiaeth
Gynaliadwy gyfeirio at beilot prosiect i dreialu rhywbeth newydd fydd yn cael
defnydd gan dwristiaid. Mewn ymateb nodwyd: - Bod
estyniad wedi ei dderbyn tan ddiwedd mis Ebrill neu ddechrau Mai 2022 pe bai
rhaid ar gyfer gwario arian y grant blwyddyn ariannol 2021/22. - Nad
yw’r Swyddog Gwasanaeth AHNE yn sicr os bydd gymaint o bwyslais ar grantiau i
wella llwybrau troed y flwyddyn nesaf o’r gronfa hon. Ychwanegwyd fod grant
arall ar gael i wella’r llwybrau, roedd awydd i’r grant hwnnw gael ei
ddefnyddio yn hytrach. Eglurwyd fod y themâu Twristiaeth Gynaliadwy yn ymdrin â
phrosiectau eang e.e. gwella cyfleusterau i ymwelwyr fel toiledau cyhoeddus. - Fod
y themâu yn weddol hyblyg a bod arian ar gael i brosiectau eraill o dan themâu
tebyg i’r rhai a nodwyd. Derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad ar Brosiectau Cyfalaf AHNE Llŷn. |
|
AELODAETH Y CYDBWYLLGOR YMGYNGHOROL PDF 214 KB Bleddyn Jones, Swyddog AHNE i
roi adroddiad ar aelodaeth y Cydbwyllgor Ymgynghorol a’r trefniadau sydd ar y
gweill i newid Aelodau Cyngor Gwynedd. Penderfyniad: a)
Derbyn yr adroddiad ar Aelodaeth y Cydbwyllgor Ymgynghorol
a’r trefniadau sydd ar y gweill i newid Aelodau Cyngor Gwynedd. b)
Cytunwyd i’r Swyddog AHNE Llŷn ddarparu data ar bresenoldeb holl aelodau’r
Cydbwyllgor yn y cyfarfod nesaf. Cofnod: Darparwyd gwybodaeth am aelodaeth y
Cydbwyllgor Ymgynghorol a’r trefniadau sydd ar y gweill yn unol â Chyfansoddiad
y Cydbwyllgor i newid Aelodau Cyngor Gwynedd. Manylwyd ar y cefndir ac
ystyriaethau perthnasol sydd i’w gweld yn yr adroddiad gan gynnwys yr adolygiad
ffiniau. Cymerwyd y cyfle i ddiolch i Aelodau am yr
amser a’r ymdrech sydd wedi ei roi i gefnogi’r AHNE dros y pum mlynedd
diwethaf. Adroddwyd y bydd tymor rhai yn dod i ben a bydd gwahoddiad i
Gynghorwr Sir o ardaloedd eraill o fewn yr AHNE i fynychu’r Cydbwyllgor yn
dilyn yr etholiad. Soniwyd hefyd am y sefydliadu eraill sydd â lle ar y
Cydbwyllgor ymgynghorol, ni fydd newid yma. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn gan aelodau:- -
Tynnwyd
sylw fod rhai Cynghorau Cymuned / Tref ddim yn anfon cynrychiolydd i’r
cyfarfodydd. -
Holiwyd
os oedd modd newid y drefn o enwebu Aelodau o wardiau penodol i eistedd ar y
Cydbwyllgor am y cyfnod nesaf ac yn hytrach holi pa Aelodau sydd eisiau bod yn
rhan o’r Cydbwyllgor ac efo diddordeb mynychu.
-
Holiwyd
ynglŷn â’r posibilrwydd o dderbyn data ar bwy sydd wedi bod yn mynychu
cyfarfodydd y Cydbwyllgor Ymgynghorol. Ychwanegwyd ei bod yn bwysig fod y
cynrychiolwyr yn mynychu a bod cyswllt yn cael ei wneud efo’r sawl sydd heb fod
yn mynychu ers tro. Mewn ymateb, nodwyd: -
Na fydd yr awgrym o wahodd Aelodau sydd efo
diddordeb i fynychu yn bosib. Nodwyd fod barn gyfreithiol wedi ei dderbyn yn y
gorffennol oedd yn nodi nad oedd hyn yn bosib oherwydd y Cyfansoddiad a
materion ynghylch cydbwysedd gwleidyddol. -
Na fydd
yn bosib newid y cyfansoddiad fel bod Cynghorwyr yr 8 ward o fewn yr AHNE (sydd
wedi lleihau o 11 yn dilyn yr adolygiad ffiniau) yn derbyn gwahoddiad. Credwyd
y bydd hyn yn arwain at ormod o bwyslais ar Gyngor Gwynedd o fewn y Cydbwyllgor
yn ogystal â materion Cyfansoddiadol fyddai yn arbed hyn. -
Y byddai’n bosib darparu gwybodaeth ar bresenoldeb
holl aelodau’r Cydbwyllgor erbyn y cyfarfod nesaf. -
Bod y
Swyddog Gwasanaeth AHNE yn mynd i lythyru’r Sefydliadau a Mudiadau sydd â lle
ar y Cydbwyllgor i adael iddyn nhw wybod am y tymor newydd ac i geisio cael
cynrychiolwyr i lenwi seddi gwag neu pan nad oes neb wedi mynychu ers amser. PENDERFYNIAD a) Derbyn yr adroddiad ar
Aelodaeth y Cydbwyllgor Ymgynghorol a’r trefniadau sydd ar y gweill i newid
Aelodau Cyngor Gwynedd. b) Cytunwyd i’r Swyddog AHNE Llŷn ddarparu data ar
bresenoldeb holl aelodau’r Cydbwyllgor yn y cyfarfod nesaf. |
|
CYNLLUN RHEOLI’R AHNE PDF 151 KB Bleddyn Jones,
Swyddog AHNE i roi adroddiad ar Gynllun Rheoli’r AHNE. Penderfyniad: Derbyn y wybodaeth a nodwyd yn yr adroddiad ar Gynllun Rheoli’r AHNE. Cofnod: Tywyswyd y Cydbwyllgor drwy Adroddiad y
Swyddog AHNE oedd yn nodi bod angen adolygu Cynllun Rheoli’r AHNE bob pum
mlynedd. Nodwyd fod y Cynllun Rheoli presennol oedd yn cael ei weithredu o
2015-2020 bellach wedi ei ddyddio a dylai adolygiad wedi cael ei gynnal eisoes.
Eglurwyd bod amryw o resymau wedi amharu ar yr amserlen e.e. y pandemig a materion capasiti. Adroddwyd bod ychydig o waith cefndirol wedi
ei gwblhau a bod bwriad i ddod ag adroddiad gerbron y cyfarfod nesaf o’r
Cydbwyllgor gyda mwy o wybodaeth a thaflen amser ar gyfer adolygu’r Cynllun
Rheoli mor fuan â phosib. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn gan aelodau:- -
Soniwyd am yr adroddiadau sydd wedi eu darparu gan
gwmnïau allanol a holwyd os oes posib eu rhannu efo aelodau’r cydbwyllgor.
Nododd y Swyddog AHNE fod yr adroddiadau
hyn yn Saesneg ar hyn o bryd ond gallai drefnu i’w cyfieithu a’u dosbarthu -
Gofynnwyd â oes modd cryfhau’r polisïau sy’n gwarchod yr
AHNE a’r adeiladau traddodiadol sydd o fewn y ffin wrth adolygu’r Cynllun. -
Mynegwyd pryder am y cyfnod adolygu gan nodi fod y cyfnod
yn fyrrach y tro hwn o’i gymharu â’r cynllun blaenorol a chwestiynwyd sut y
bydd hyn yn gweithio. -
Nodwyd fod llawer o adolygiadau ac ymgynghoriadau wedi eu
cynnal yn ddiweddar ynglŷn â thai a mynegwyd y dylem fod yn barod i fedru
gweithredu yn sydyn fel y gallwn gynorthwyo a chefnogi unrhyw gynlluniau pe bai
newidiadau yn deillio o’r Llywodraeth. Mewn ymateb, nodwyd: -
Bydd yr adolygiad o’r Cynllun rheoli yn rhoi cyfle i ail
edrych ar y polisïau a chyfle i weld os oes angen eu haddasu a’u
diweddaru. Nodwyd fod canllawiau gan
Gyngor Cefn Gwlad Cymru y bydd angen eu dilyn yn fras a bod angen dilyn y
strwythur presennol i ryw raddau. Ni ellir newid y cynllun yn llwyr ond yn sicr
mae lle i addasu pe bai angen. -
Fod gobaith gall llawer o waith gael ei gwblhau ar y
Cynllun mewn blwyddyn. Gobeithir gallu adolygu'r cynllun yn gynt na’r tair
blynedd oedd wedi ei gymryd yn y cyfnod diwethaf. Nodwyd ei bod yn anodd
rhagdybio pryd fydd y cynllun wedi ei gwblhau yn derfynol am fod llawer o
ystyriaethau eraill e.e. dogfennau a chynnwys polisïau cynllunio Cenedlaethol
a’r cynllun datblygu lleol Gwynedd a Môn. Bydd adroddiad arall yn dod gerbron y
pwyllgor yn fuan. -
Bod swyddogion
yn y broses o gael eu penodi yn yr ardal yma i ymwneud a gwaith ar y Cynllun
Peilot Dwyfor; awgrymwyd y gall y Swyddog AHNE gysylltu â nhw i weld os oes yna
unrhyw beth fedr y Cydbwyllgor ei wneud i hwyluso eu gwaith. PENDERFYNIAD Derbyn y wybodaeth a nodwyd yn yr adroddiad ar Gynllun Rheoli’r AHNE. Ar ddiwedd y cyfarfod
nodwyd y bydd Cadeirydd newydd yn cael ei ethol yn y cyfarfod nesaf a chymerwyd
y cyfle i ddiolch i Aelodau am eu gwasanaeth ar y Cydbwyllgor. Dechreuodd y cyfarfod am 4.05yh a daeth i ben ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |