Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldebau. Cofnod: Derbyniwyd datganiadau o ymddiheuriad gan: · T Victor Jones (Cyngor Cymuned Llanbedrog)
(Cadeirydd). · Einir Wyn (Cyngor Cymuned Llanengan) · Y Cynghorydd Angela Russell (Pencampwr Cefn Gwlad Cyngor
Gwynedd) · Y Cynghorydd John Brynmor Hughes · Euros Jones (FWAG Cymru) · Jenny Emmett (Archaeoleg Gwynedd) · Rhydian Owen (Undeb Amaethwyr Cymru) · Morus Llwyd Dafydd (Swyddog Prosiect AHNE
Llŷn) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol. |
|
MATERION BRYS I ystyried
unrhyw eitem sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd
ar 10 Medi 2024, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y
cyfarfod diwethaf o’r Cyd-bwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Medi, 2024, fel rhai
cywir. Cadarnhawyd bod Swyddogion wedi
llythyru Llywodraeth Cymru yn cyfleu anogaeth y Cyd-bwyllgor iddynt weithredu
ar argymhellion Comisiwn Cymunedau Cymraeg fel mater o frys. Gofynnodd yr
Is-gadeirydd am gopi o’r llythyr. |
|
ADOLYGU CYNLLUN RHEOLI'R AHNE I gyflwyno gwybodaeth am rôl y Cydbwyllgor Ymgynghorol yn y broses o baratoi ac adolygu’r Cynllun Rheoli ar gyfer yr AHNE. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn a Prif
Ymgynghorydd Tirweddau Dynodedig, Cyfoeth Naturiol Cymru. Atgoffwyd yr
Aelodau mai cyfrifoldeb Cyngor Gwynedd yw paratoi ac adolygu Cynllun Rheoli ar
gyfer yr AHNE yn unol â Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Er hyn,
pwysleisiwyd bod gan y Cyd-bwyllgor rôl ymgynghorol bwysig yn y broses o
baratoi ac adolygu’r Cynllun Rheoli gan gynnwys: · Rhoi cyngor ar
baratoi a gweithredu Cynllun Rheoli ar gyfer yr AHNE · Monitro a gwerthuso
cynnydd o fewn rhaglen weithredol y Cynllun Rheoli yn flynyddol ac adolygu’r
Cynllun ei hun yn rheolaidd. Eglurwyd bod
rhaid i’r Awdurdod ddilyn canllawiau wrth baratoi ac adolygu’r Cynllun Rheoli.
Tynnwyd sylw at ganllawiau a gyhoeddwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ond
eglurwyd eu bod wedi dyddio erbyn hyn. Eglurwyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn
ymgynghorydd statudol i Lywodraeth Cymru ar ddynodiadau tirwedd (AHNEau a’r
Parciau Cenedlaethol).. Sicrhawyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi comisiynu
cwmni ‘Land Use Conultants’ er mwyn adolygu a diweddaru’r canllawiau hyn er
mwyn iddynt fod yn addas ar gyfer ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a’r
Parciau Cenedlaethol yng Nghymru. Tynnwyd sylw mai nod y canllawiau yw sicrhau
bod Cynlluniau Rheoli yn: · Arwain, cynllunio a
rheoli newid trawsnewidiol · Cydredeg gyda
pholisïau a deddfwriaethau perthnasol · Ymgysylltu gyda
rhanddeiliaid trwy gydol y broses Cadarnhawyd
bydd y canllawiau newydd ar gyfer y Cynllun Rheoli yn cydblethu gofynion
cenedlaethol a blaenoriaethau’r ardal leol. Sicrhawyd bod
Cyfoeth Naturiol Cymru yn awyddus i gynorthwyo Swyddogion a’r Cyd-bwyllgor
drwy’r broses o adolygu’r Cynllun Rheoli. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn: Mynegwyd
pryder bod cwmni Land Use Consultants wedi ei leoli yn Llundain gan ofyn pa
sicrwydd a geir bod blaenoriaethau lleol yn cael eu cyfarch o fewn y
canllawiau. Eglurwyd gan y Prif Ymgynghorydd Tirweddau Dynodedig bod y cwmni
wedi cael eu comisiynu drwy dendr i ddatblygu’r canllawiau oherwydd diffyg
capasiti o fewn y tîm yng Nghyfoeth Naturiol Cymru. Sicrhawyd bod gan y cwmni
brofiad eang o gwblhau gwaith polisi ym maes tirweddau dynodedig yng Nghymru a
thu hwnt. Pwysleisiwyd eu bod yn gwmni addas ar gyfer y gwaith a'u bod wedi
cael arweiniad clir gan Gyfoeth Naturiol Cymru
ar faterion rheolaethol, partneriaethol a lleol drwy gydol y broses.
Eglurwyd bod gan y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol a Swyddogion AHNE Llŷn rôl i
sicrhau bod y Cynllun Rheoli yn cydblethu’r canllawiau gyda blaenoriaethau ac
anghenion Llŷn. Trafodwyd y
pwysau cynyddol ar faterion newid hinsawdd gan nodi bod Llywodraeth Cymru wedi
ail ystyried cynlluniau coedwigaeth a bioamrywiaeth yn y Cynllun Ffermio
Cynaliadwy yn ddiweddar. Ystyriwyd ar ba sail bod y materion hyn yn cael
pwyslais mawr o fewn y cynllunio. Mewn ymateb i’r sylwadau, pwysleisiodd y Prif
Ymgynghorydd Tirweddau Dynodedig bod
newid hinsawdd yn arwain at heriau cyson ar draws Cymru. Eglurwyd bod
ymdrechu i ddatrys yr heriau hyn yn flaenoriaeth gan ei fod hefyd yn gwarchod
ac adfer natur wrth wneud hynny. Holiwyd am Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig – nododd Y Prif Ymgynghorydd Tirweddau Dynodedig nad oedd yn delio gyda’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CYNLLUN RHEOLI'R AHNE I gyflwyno gwybodaeth am y camau cychwynnol yn y broses o adolygu’r Cynllun Rheoli. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn. Eglurwyd bod
nifer o gamau angen eu dilyn wrth adolygu’r Cynllun Rheoli. Manylwyd bod y
broses hon yn cynnwys: ·
Ystyried effeithlonrwydd y Cynllun presennol ·
Ystyried yr wybodaeth ddiweddaraf am nodweddion yr
ardal ·
Cymryd ystyriaeth ac ymgorffori gwybodaeth o
gynlluniau a strategaethau perthnasol ·
Adolygu gweledigaeth, nodau, amcanion a pholisïau’r cynllun ·
Creu Cynllun gweithredu newydd ar gyfer cyfnod y
Cynllun Rheoli ·
Adolygu'r Asesiad Amgylcheddol Strategaeth a
Rheoliadau Cynefinoedd. Ymhelaethwyd
bydd Cynllun Rheoli Drafft yn cael ei rannu gyda thrigolion yr AHNE yn ogystal
ag asiantaethau gyda’r cyfle i roi sylwadau ar ei gynnwys. Pwysleisiwyd bod gan
y Cyd-bwyllgor rôl ymgynghorol drwy gydol y broses a bydd sylwadau trigolion yn
cael eu cynnwys mewn adroddiad er ystyriaeth y Cyd-bwyllgor. Atgoffwyd mai un
o gamau cychwynnol adolygu’r Cynlluniau Rheoli yw asesu cyflwr nodweddion
amrywiol er mwyn deall os oes newidiadau wedi digwydd yn ystod y cyfnod
blaenorol. Manylwyd bod Adroddiad o Gyflwr yr AHNE wedi cael ei gomisiynu yn
2021 a bod gwaith yn mynd rhagddo er mwyn casglu gwybodaeth leol fwy diweddar
er mwyn ychwanegu at yr adroddiad hwn er mwyn cynorthwyo gyda’r broses o
ddatblygu Cynllun Rheoli. Tynnwyd sylw at
rinweddau AHNE Llŷn fel diffiniwyd wrth greu’r Cynllun Rheoli blaenorol,
gan nodi nad yw'r rhain yn agweddau sydd yn debygol o newid gan eu bod yn greiddiol i’r ardal. Manylwyd
na fydd y rhinweddau yn cael eu haddasu ar gyfer y Cynllun Rheoli newydd, gan
nodi eu bod yn cynnwys: ·
Tirlun ac Arfordir Hardd ·
Tawelwch ac Amgylchedd glân ·
Cyfoeth o fywyd gwyllt a chynefinoedd ·
Yr Amgylchedd Hanesyddol ·
Yr iaith Gymraeg a’r diwylliant ·
Pobl a chymunedau clos ·
Cynnyrch a busnesau lleol ·
Mynediad a hawliau tramwy Adroddwyd bod
gweledigaeth hir dymor yr AHNE wedi dyddio erbyn hyn a bod gweledigaeth
addasedig wedi cael ei lunio i lywio'r AHNE hyd at 2050. Manylwyd mai’r
weledigaeth ddiwygiedig hon yw: “Ardal o dirlun
ac arfordir hardd gyda bywyd gwyllt cynhenid yn ffynnu, lefel isel o lygredd
amgylcheddol ac amrywiaeth o gyfleon mynediad a chyhoeddus. Adeiladau a
nodweddion hanesyddol mewn cyflwr da, busnesau lleol yn llwyddo a chymunedau
Llŷn yn cynnal yr iaith a’r diwylliant Cymreig”. Cadarnhawyd ei
fod yn bwysig adolygu polisïau’r Cynllun Rheoli gan nodi bydd rhai o’r polisïau
hyn yn cael eu cyflwyno i’r Cyd-bwyllgor er mwyn ystyried addasiadau priodol.
Nodwyd hefyd gall polisïau newydd gael eu creu a bydd y rhain hefyd yn cael eu
cyflwyno i’r Cyd-bwyllgor. Adroddwyd bydd
amserlen ddrafft o’r broses o ddatblygu Cynllun Rheoli yn cael ei gyflwyno i’r
Cyd-bwyllgor mewn cyfarfod ym mis Ebrill 2025. Gofynnwyd i’r
Aelodau i ddod i gyswllt gyda’r swyddogion os ydynt yn ymwybodol o unrhyw fater
sydd yn effeithio ar rinweddau AHNE Llŷn a chynnig syniadau am brosiectau
a all fynd i’r afael o’r heriau hynny. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn: Trafodwyd y
weledigaeth ddiwygiedig hyd at 2050 gan awgrymu'r geiriad canlynol ar ei gyfer: “...Adeiladau a nodweddion hanesyddol mewn cyflwr da, busnesau lleol yn llwyddo a chymunedau AHNE ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |