Lleoliad: Plas Heli, Pwllheli, LL53 5YQ. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Y Cynghorwyr Anwen Davies, Simon Glyn, John Brynmor Hughes a Aled Wyn Jones (Cyngor Gwynedd) ynghyd â Gillian Walker (Cyfeillion Llŷn). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. COFNODION: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. COFNODION: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2018, fel rhai cywir. COFNODION: Llofnododd
y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Cyd-Bwyllgor hwn a gynhaliwyd ar
17 Gorffennaf 2018, fel rhai cywir, yn ddarostyngedig i gywiro paragraff 5 ar
dudalen 5 ar y rhaglen i ddarllen: “Holodd aelod faint oedd cyfanswm hyd gwifrau danddaear yn yr AHNE. Mewn ymateb, nododd cynrychiolydd SP Energy Networks mai cyfran fechan o’r rhwydwaith cyflawn oedd danddaear. Ychwanegodd y canolbwyntir ar yr ardaloedd mwyaf ymarferol o ran tanddaearu gwifrau trydan.” |
|
LLWYBR ARFORDIR CYMRU I dderbyn
cyflwyniad gan Swyddog Prosiect Llwybr Arfordir. COFNODION: Derbyniwyd cyflwyniad gan Swyddog Prosiect
Llwybr Arfordir. Manylodd ar brosiect Llwybr yr Arfordir, gan nodi bod tair
elfen i’r prosiect, sef cynnal a chadw, uwchraddio a datblygu. Nododd yn dilyn
derbyn cyllid gan Gronfa Cymunedau’r Arfordir sefydlwyd 18 cylchdaith o’r
Llwybr Arfordir. Eglurodd bod cyllid ar gyfer y prosiect dan o leiaf 2021 ac os
oedd gan unrhyw aelod sylw neu awgrym y dylent anfon e-bost at LlwybrArfordir@gwynedd.llyw.cymru.
Nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn bod y
Gwasanaeth AHNE wedi cynnal sawl taith gerdded ar y cylchdeithiau. Tynnodd sylw
bod taflen wybodaeth am y cylchdeithiau ar gael. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau roi sylwadau a gofyn
cwestiynau, nodwyd y prif bwyntiau canlynol gan aelodau: ·
Balch bod arian ar gael i gynnal a chadw'r
Llwybr Arfordir; ·
Oedd yr arian grant ar gyfer y
cylchdeithiau yn ogystal? ·
A
oedd mwy o waith i wneud yn ardal Bwlch Mawr; ·
Llongyfarch y swyddog am ei waith. Roedd O Ddrws i
Ddrws yn chwarae eu rhan hefyd o ran llwyddiant y Llwybr Arfordir gyda’r Bws
Arfordir yn rhedeg yn ystod yr haf. Faint o ddefnydd y gwneir o’r Llwybr
Arfordir? ·
A oedd ychwanegu darnau newydd o dir at Lwybr yr
Arfordir yn anodd? ·
Nad oedd rhai darnau o dir yn ardal Clynnog a
Trefor wedi eu cynnwys fel rhan o’r Llwybr Arfordir. Roedd deddf yn Lloegr a
oedd yn gorfodi bod tir yn mynd yn rhan o’r Llwybr Arfordir ond fe negodir yng
Nghymru. Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y
swyddogion: ·
Derbyniwyd grant gan Lywodraeth Cymru o oddeutu
£100,000 yn flynyddol ers 2015 ar gyfer datblygu Llwybr yr Arfordir a chostau
staffio; ·
Cyfrifoldeb y Cyngor oedd ariannu'r
cylchdeithiau; ·
Bod y mân waith ym Mwlch Mawr wedi’i gwblhau yn
bennaf gyda mwyafrif y gwaith o ran arwyddion; ·
Bod
cownteri wedi’u claddu yn y tir yn cyfri’r nifer o bobl oedd yn defnyddio’r
llwybr. Gellir anfon y ffigyrau defnyddwyr diweddaraf at Reolwr Gwasanaeth AHNE
Llŷn i’w rhannu efo’r aelodau; ·
Bod ychwanegu darnau newydd o dir at y Llwybr
Arfordir yn bwnc llosg. Roedd tirfeddianwyr a oedd yn ymrwymo darnau o dir i’r
Llwybr Arfordir yn derbyn iawndal a thelir am eu costau cyfreithiol a chostau
asiant tir. Gwneir y gwaith ffurfio’r llwybr ac mewn rhai achlysuron fe roddir
ffens yn ogystal i gadw cŵn allan o’r caeau. Roedd tirfeddianwyr ar y
cyfan yn cyd-weithredu; ·
Bod trafodaeth wedi ei gynnal rhwng yr Awdurdod
Lleol a Llywodraeth Cymru cyn mabwysiadu Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy
2000, lle nodwyd y byddai gorfodaeth yn hwyluso’r broses o gwblhau Llwybr yr
Arfordir. Nid oedd Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r darn yma o’r ddeddf, fel
y gwnaed yn Lloegr, gyda’r ymagwedd o gael tirfeddianwyr i brynu i mewn i’r
syniad yn hytrach na gorfodi; ·
Bod
negodi efo tirfeddianwyr yn gallu cymryd amser. Roedd cwblhau’r gwaith papur yn
hawdd ond os oedd tirfeddiannwr yn gwrthod roedd rhaid mynd am orchymyn. Gyda’r
broses gorchymyn yn cymryd cyfnod o oddeutu blwyddyn; · Bod 35 tirfeddiannwr a 7 tenant yn yr ardal o Bontllyfni i Trefor, ... view the full COFNODION text for item 5. |
|
DIWEDDARIAD PROSIECTAU GWASANAETH AHNE LLŶN PDF 78 KB Cyflwyno adroddiad
Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn. COFNODION: Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE
Llŷn ar brosiectau’r Gwasanaeth AHNE. Eglurwyd nad oedd y Swyddog
Prosiectau yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd salwch. Rhoddwyd diweddariad ar
y prosiectau canlynol: ·
Hyfforddiant Sgiliau Gwledig ·
Gwella Mynediad ·
Teithiau Cerdded. Cyfeiriodd at y Gronfa Datblygu Cynaliadwy gan nodi mai ymysg y prosiectau
a gefnogwyd yn ystod 2018/19, oedd: ·
Bws Arfordir Llŷn ·
Taith Tridiau Llŷn ·
Eglwys Llandegwnning ·
Amgueddfa Forwrol Llŷn ·
Tafarn yr Heliwr ·
Arddangosfa Hen Luniau –
Neuadd Sarn ·
Cynllun Adnewyddu Neuadd
Mynytho ·
Gŵyl Fwyd Pwllheli. Mewn ymateb i sylw gan aelod yng nghyswllt rhododendron ger y rhaeadr yn
Gyrn Goch, eglurodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn bod y tir dan sylw mewn
perchnogaeth breifat, roedd gwaith wedi ei gwblhau gan y tirfeddiannwr ond
roedd mwy o waith i’w wneud. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth. |
|
ADOLYGIAD O'R TIRWEDDAU DYNODEDIG PDF 79 KB Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. COFNODION: Cyflwynodd
Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yr adroddiad, a oedd yn rhoi diweddariad o
ran yr adolygiad mewn perthynas â’r tirweddau dynodedig (Parciau Cenedlaethol
a’r AHNE) yng Nghymru. Nododd
bod Hannah Blythyn AC (Gweinidog dros yr Amgylchedd), wedi cyhoeddi datganiad
yng Ngorffennaf 2018, gyda’r teitl “Gwerthfawr a Chydnerth – Blaenoriaethau
Llywodraeth Cymru ar gyfer Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau
Cenedlaethol”. Eglurodd,
fel dilyniant i’r datganiad, ysgrifennodd y Gweinidog at y Partneriaethau AHNE,
Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Gymdeithas Genedlaethol dros AHNE. Nododd ei bod yn
y llythyr yn gofyn i’r sefydliadau baratoi papur ar y cyd gyda chynigion o ran
cael mwy o gyfartaledd rhwng Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a’r
Parciau Cenedlaethol gan ganolbwyntio ar statws, proffil ac adnoddau gan
bwysleisio bod angen bod yn ymarferol a realistig o ran y cynigion. Nododd
y bu i’r sefydliadau gyfarfod, gynnal trafodaethau a pharatowyd ymateb ar y
cyd. Manylodd ar y 12 cynnig a nodwyd yn yr ymateb o ran cynyddu cydraddoldeb
rhwng yr AHNE a’r Parciau o ran statws, proffil ac adnoddau. Adroddodd
y bu cyfarfod efo’r Gweinidog yn yr wythnos cyn y cyfarfod yma a’i fod yn bosib
y byddai cyfarfod arall i drafod ymhellach. Nododd
aelod bod trafodaethau niferus ers cyfnod cyhoeddi adroddiad yr Athro Terry
Marsden a’i fod yn ymddangos bod diffyg ewyllys i ariannu. Mewn
ymateb, nododd y Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn nad oedd yn or-hyderus y
byddai ychwaneg o adnoddau ariannol. Ychwanegodd bod y toriadau i’r Gwasanaeth
AHNE fel rhan o ymgynghoriad Her Gwynedd wedi eu hatal er mwyn aros am
adroddiad Marsden. Nododd ddiolch i’r aelodau am eu cefnogaeth ar y pryd. Mewn
ymateb i gwestiwn gan aelod o ran y cynnig i ddynodi Partneriaethau AHNE yn
ymgynghorydd statudol ar faterion cynllunio, eglurodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE
Llŷn nad oedd Gwasanaethau AHNE yn ymgynghorydd statudol ar hyn o bryd ac
mai trefn drwy gytundeb oedd mewn lle, gyda’r Gwasanaeth yn cyflwyno sylwadau
ar geisiadau cynllunio. Ymhelaethodd os byddai’r cynnig yn dod yn weithredol y
byddai’n debygol y byddai’r Cyd-Bwyllgor yn ystyried rhai ceisiadau gydag
eraill wedi eu dirprwyo i swyddogion. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth. |
|
DATBLYGIAD TWRISTIAETH YM MHISTYLL PDF 104 KB Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. COFNODION: Cyflwynwyd
adroddiad gan Reolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn a oedd yn nodi cefndir a hanes
cynllunio safle Plas Pistyll a Fferm Pistyll, Pistyll. Nodwyd bod yr eitem ar
raglen y cyfarfod ar gais y Cadeirydd yn dilyn derbyn cais gan aelod. Nododd
aelod bod y mater yn derbyn ystyriaeth yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu
Cymunedau ar 13 Rhagfyr 2018. Amlygodd ei bryder bod y datblygiadau a
ganiatawyd ar y safle yn wreiddiol gan y Pwyllgor Cynllunio yn 2012, wedi eu
newid drwy nifer o ganiatadau cynllunio o dan hawliau
dirprwyedig swyddogion gan droi yn ddatblygiadau tai haf gyda newidiadau
sylweddol i’r cynllun gwreiddiol. Eglurodd bod asesiadau o ran y dirwedd ac
effaith gweledol y datblygiadau wedi eu cyflwyno gan yr ymgeisydd fel rhan o’r
cais yn 2012 a bod yr hyn a ganiatawyd gan swyddogion drwy ddefnyddio eu
hawliau dirprwyedig yn diystyru’r hyn a nodwyd yn yr asesiadau. Nododd bod yr
hyn a ganiatawyd gan y Pwyllgor Cynllunio yn ddatblygiadau eco a oedd yn gweddu
i’r dirwedd. Nododd bod dyletswydd i warchod yr AHNE. Eglurodd ei fod wedi
gwneud cais drwy Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio i gael barn bargyfreithiwr ar y
mater gan ei fod yn fater cymhleth. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y prif
bwyntiau canlynol gan aelodau: ·
Bod
Cyngor Cymuned Pistyll wedi gwneud cais i Brif Weithredwr y Cyngor i gael barn
bargyfreithiwr ar y mater. Derbyniwyd cydnabyddiaeth o’r cais ond ni
dderbyniwyd ymateb hyd yn hyn; ·
Bod diffyg ymgynghori ar y ceisiadau cynllunio
efallai wedi arwain at yr aelod lleol ar y pryd i fethu rhoi sylw i’r ceisiadau
cynllunio; ·
Bod dyletswydd ar y Cyd-Bwyllgor i edrych i mewn
i’r mater a bod angen adroddiad i sicrhau bod gwersi wedi eu dysgu a ni fyddai
sefyllfa o’r fath yn digwydd eto; ·
Dylai aelodau’r Cyngor herio’r swyddogion, fe
ddylai’r ceisiadau cynllunio fod wedi eu cyflwyno er penderfyniad y Pwyllgor
Cynllunio. Rhwystredigaeth nad oedd sylwadau’r Uned AHNE ac aelodau’r
Cyd-Bwyllgor yn derbyn sylw digonol; ·
Ei
fod yn bwysig i’r cyhoedd wybod y ffeithiau; ·
Bod
Cyngor Cymuned Pistyll wedi cefnogi’r cais gwreiddiol yn 2012 ond bod y
datblygiadau ar y safle wedi dwysau heb i’r Cyngor Cymuned fod yn ymwybodol o’r
ceisiadau; ·
Bod
yr aelod lleol yn gallu cyfeirio cais cynllunio i’r Pwyllgor Cynllunio er
penderfyniad ond efallai nad oedd ganddynt y capasiti
i wneud; ·
Bod
y drefn arferol o osod hysbyseb o gais cynllunio ger safle’r cais yn annigonol
ac o ganlyniad bod problemau o’r fath yn codi; ·
Bod
y sefyllfa yn dwyn anfri ar yr AHNE a bod angen gweithredu er mwyn atal hyn
rhag digwydd eto. Holodd
aelod os oedd modd defnyddio adnoddau’r Cyd-Bwyllgor neu’r Gwasanaeth AHNE i
gael barn bargyfreithiwr ar y mater. Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth
AHNE Llŷn nad oedd gan y Cydbwyllgor adnoddau a bod adnoddau’r Gwasanaeth
AHNE wedi ei glustnodi mewn rhaglen waith a oedd wedi ei chytuno gyda Cyfoeth
Naturiol Cymru. Cynigwyd ac eiliwyd i anfon llythyr gan y Cadeirydd ar ran y Cyd-Bwyllgor at Brif Weithredwr y Cyngor ... view the full COFNODION text for item 8. |