Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301 E-bost: glyndaobrien@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
GWEDDI Cofnod: Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan Mr Cynrig
Hughes.
|
|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18. Cofnod: Penderfynwyd: Ethol y Cynghorydd Paul J. Rowlinson yn
Gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd am y flwyddyn 2017/18. Cofnod: Penderfynwyd: Ethol y Cynghorydd Elin Walker Jones yn Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cyng. Mike Stevens, Dr. Gwyn
Lewis (Eglwys Bresbyteraidd Cymru), Eirian
Bradley-Roberts (Yr Eglwys Gatholig), Alwen Watkin, Heledd Jones (Undebau
Athrawon) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw gysylltiad personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym
marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi
cofnodion y cyfarfod o CYSAG a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2017. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2017 fel rhai cywir. |
|
HUNAN ARFARNU YSGOLION PDF 258 KB (a) I dderbyn, er gwybodaeth, ffurflen
monitro adroddiadau Hunan Arfarniadau ysgolion ar gyfer cyfnod y Gwanwyn i Haf
2017. (Copi’n amgaeedig) (b) I gyflwyno crynodeb o Hunan Arfarniad yr
ysgolion canlynol: (i) Ysgol Glanymor, Pwllheli (ii) Ysgol Talysarn (iii) Ysgol Bro Hedd Wyn (iv) Ysgol Llanllyfni (v) Ysgol Bro Tegid (Copïau’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: (a)
Tywysodd y Swyddog Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol yr Aelodau drwy daflen a gyflwynwyd yn nodi crynodeb
o ganfyddiadau ysgolion gan dynnu sylw
bod 5 ysgol gynradd, ac 1 ysgol uwchradd wedi eu harolygu
gan ESTYN yn ystod tymor
y Gwanwyn 2017. (b)
Tywyswyd yr Aelodau drwy hunan arfarniadau Ysgolion Glanymôr, Talysarn, Bro Hedd Wyn, Llanllyfni a Bro Tegid. Canmolodd Ymgynghorydd Her Gwe ysgolion Gwynedd am ei parodrwydd i rannu eu hunan
arfarniadau o addysg grefyddol ac addoli ar y cyd gan
bwysleisio mai un o gyfrifoldebau CYSAG ydoedd monitro safonau addysg grefyddol. Eglurwyd y ceisir derbyn yr hunan
arfarniadau gan ysgolion yn ystod
y tymor arolygiad neu yn fuan
ar ôl hynny. Gan nad yw addysg
grefyddol yn bwnc cwricwlwm cenedlaethol, gwelir o’r hunan arfarniadau
bod yr ysgolion yn cyflawni gofynion
maes llafur Cytûn sydd yn
cael ei lunio
yn lleol gan CYSAG. O’r hunan arfarniadau
a gyflwynwyd gwelwyd bod ysgolion wedi barnu
bod y safonau, y ddarpariaeth
addysg yn dda a’r addoli
ar y cyd yn bodloni’r gofynion
statudol. Cyflwynwyd hunan arfarniad Ysgol Llanllyfni yn seiliedig ar
waith dros gyfnod hir ond
cyfeiriwyd at adroddiad arolygiad diweddar ESTYN oedd yn nodi nad
oedd y ddarpariaeth yng nghyfnod allweddol 2 yn bodloni gofynion
y maes llafur cytun yn llawn. Bydd yr ysgol yn
llunio camau gweithredu er mwyn mynd i ‘rafael â’r gwaith
a hyderir y gwelir CYSAG gynnydd ac engreifftiau o waith ym mis
Hydref. Cyfeirwyd at y materion gwella a nodwyd gan yr ysgolion: ·
Ysgol Glan y Môr yn
awyddus i helpu bechgyn gyflawni gwell safonau mewn
addysg grefyddol drwy ddatblygu llythrennedd, darllen ac ysgrifennu. ·
Ysgol Talysarn yn awyddus
i sicrhau bod y disgyblion yn gallu dangos
cynnydd wrth astudio crefyddau amrywiol; sicrhau bod addysg grefyddol yn cael ei
graffu gan Banel Cwricwlwm yr Ysgol yn rheolaidd
·
Ysgol Bro Hedd Wyn yn awyddus
i sicrhau bod y Cyfnod
Sylfaen yn cael profiadau mwy eang
a chyfoethog Mewn
ymateb i ymholiad ynglyn â threfniadau monitro CYSAG, eglurodd yr Ymgynghorydd Her y gwneir hynny fel
a ganlyn: ·
Craffu
ar ganlyniadau allanol ym mis
Hydref neu yng nghyfarfod y Gwanwyn ·
Pori trwy adroddiadau arolygiadau ·
Gwahodd ysgolion i gyflwyno hunan arfarniadau gan sicrhau bod y cynnwys yn arfarnol ac yn feintiol ·
Gwahodd ysgolion i roi cyflwyniadau ar y gwaith a wneir
ar lawr y dosbarth O safbwynt gofynion addoli ar y cyd, esboniwyd ei fod i’w gynnal yn ddyddiol, ond nad oes rheidrwydd i’r Gwasanaeth fod dorfol, gall ei gynnal mewn dosbarthiadau ac nad oedd amser penodol ar ei gyfer. Yn unol â’r ddeddf rhaid i’r sesiwn fod yn bennaf gristnogol gyda chais i ysgolion fod yn sensitif i grefyddau eraill. Eglurwyd bod hawl gan rhieni i eithrio plant o addoli ar y cyd fel mae hawl ganddynt i’w heithrio o ddosbarthiadau addysg grefyddol. Mae hawl gan Ysgol i fod yn gristnogol mewn addoli ar y cyd ond o safbwynt ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
CYFLWYNIADAU I dderbyn cyflwyniadau gan gynrychiolwyr ysgolion ar arferion
da / pryderon mewn addysgu Addysg Grefyddol. Cofnod: (a)
Eglurodd yr Ymgynghorydd Her ei bod wedi gwahodd y bedair athrawes ganlynol i roi cyflwyniad i’r Pwyllgor ar waith addysg
grefyddol y cyfnodau allweddol: Nia Hughes, Ysgol Talysarn - Cyfnod Sylfaen Heulwen Jones, Ysgol Bro Hedd
Wyn - CA2 Miriam Amlyn - CA3 Heledd Jones - CA4 ond yn
anffodus, oherwydd anhwylder ac amryfusedd ynglyn á lleoliad, dwy athrawes oedd
yn bresennol. (b)
Croesawyd Nia Hughes o Ysgol Talysarn,
Athrawes Cyfnod Sylfaen a oedd yn gyfrifol
am addysgu addysg grefyddol i ddosbarthiadau Meithrin, Derbyn, Blwyddyn 1 a 2. Derbyniwyd cyflwyniad diddorol ganddi a gwelwyd engreifftiau da o waith a wneir yn
Ysgol Talysarn yn seiliedig ar elfennau
iaith, profiadau, empathi, gwasanaethau boreuol, a.y.b. Nodwyd bod y Cyfnod
Sylfaen yn gofyn am fedrau sylweddol gan athrawon sef
i ddilyn y plentyn, gosod ardaloedd gwahanol yn yr
ystafell ddosbarth ac i gyd yn seiliedig
ar eu profiadau. Mewn ymateb
i ymholiad gan Aelodau unigol, nodwyd mai prin iawn
ydoedd gwybodaeth plant meithrin am storiau beiblaidd ar gyrraedd
yr ysgol ac nad oedd yr
ysgol yn cydweithio hefo’r Eglwys a’r Capel yn Nhalysarn. Ychwanegwyd
ei bod yn her i rai ysgolion sydd yn
awyddus i ddefnyddio adnoddau lleol ond nad oedd
bob tro yn hawdd os nad
oedd cymunedau’n gyfoethog o addoldai a chymunedau ffydd. Nododd Aelod
wrth edrych i’r dyfodol ar
drefniadaeth addysg yn ardal Bangor, y byddai’n syniad i’r Pwyllgor hwn roi mewnbwn i’r
trafodaethau fel bo unrhyw ysgol
newydd yn gynhwysol o safbwynt ystyriaeth i gefndiroedd ffydd poblogaeth Bangor. (c)
Croesawyd Miriam Amlyn o Ysgol Eifionydd (sydd yn aelod
o CYSAG fel cynrychiolydd Undeb NASUWT), i rannu gwybodaeth o gyflwyno’n draws-gwricwlaidd fel Pennaeth Adran Addysg Grefyddol. Nodwyd bod y sefyllfa
ychydig yn wahanol yn y sector uwchradd a’r pwnc
yn cael ei
gyflwyno am awr yr wythnos yn
CA3 ac yn amrywio o ysgol i ysgol gyda
phrofiadau y disgyblion yn wahanol ond
ar y cyfan cyflwynir wers arferol academaidd i’w dysgu am grefydd. Gwelwyd uned o waith wnaethpwyd efo Blwyddyn 7 ar y pwnc Hindwaeth ac o hynny
adeiladu cyfres o wersi am ffyrdd o addoli, addoliad a’r adeiladau. Yn
deillio o’r gwaith, bu i 85 disgybl greu ffilm a dangoswyd engraifft
i’r Pwyllgor. Tynnwyd sylw bod pwyslais
yn y sector uwchradd fel yn y sector ar ddatblygu gwaith sy’n datblygu medrau
trawsgwricwlaidd (llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol) a’r athrawon yn
cydweithio’n llwyddiannus fel bo’r gwaith yn plethu’n gywir ac yn cyfrannu at
addysg grefyddol. Penderfynwyd: Derbyn,
nodi a llongyfarch yr athrawon am y cyflwyniadau diddorol a diolch iddynt am eu gwaith a’u
hymroddiad i’r pwnc. B. DIWEDDARIAD
GAN YMGYNGHORYDD HER GwE (i)
Cyflwynwyd i’r Aelodau ·
Llyfryn o dan y teitl “Rydych yn
ymuno â’ch CYSAG lleol” ·
Maes Llafur Cytun Gwynedd a Môn ·
Dyfodol Llwyddiannus (ii)
Cwrs TGAU Astudiaeth Crefyddol Newydd Cyfeiriwyd at y ffaith bod athrawon Addysg Grefyddol rhanbarth GwE, dan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
CYMDEITHAS CYSAGau CYMRU PDF 412 KB (a)
I dderbyn cofnodion drafft cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2017. (Copi’n amgaeedig) (b) I
ystyried enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau
Cymru. (Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Cofnodion
cyfarfod diwethaf Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod diwethaf o’r Gymdeithas a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2017. Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf y Gymdeithas uchod ar 7 Gorffennaf
2017 yn Wrecsam a bod hawl i CYSAG Gwynedd enwebu un cynrychiolydd o blith yr Aelodau Etholedig, un cynrychiolydd o blith yr enwadau ac un cynrychiolydd o blith yr athrawon i fynychu’r
cyfarfodydd hyn. (b) Cyflwynwyd enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gwaith ac Is-gadeirydd
Cymdeithas CYSAGau Cymru . Penderfynwyd: (a) Derbyn a nodi cynnwys y cofnodion. (b) Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf y Gymdeithas ar 23 Mehefin 2016 yn Rhyl. (c) Gofyn i Ymgynghorydd Her GwE fwrw pleidlais ar ran CYSAG Gwynedd fel a ganlyn: Pwyllgor Gwaith: Gill
Vaisey Alison
Lewis |