Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301
Rhif | eitem |
---|---|
GWEDDI Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd Selwyn Grifiths. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cyng. Jean Forsyth, Cathryn Davey
(Undeb Athrawon), Mr Cynrig Hughes (Yr Annibynwyr), Mrs Elizabeth Roberts
(Undeb Bedyddwyr Cymru). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y Cynghorydd Selwyn Griffiths
fuddiant personol mewn perthynas ag Eitem 6 (b) (ii)
Hunan Arfarniad Ysgol Borth y Gest oherwydd ei fod yn llywodraethwr yn yr Ysgol
honno. ‘Roedd o’r farn nad
oedd y buddiant yn rhagfarnu ac ni adawodd y Siambr
yn ystod y drafodaeth ar yr
eitem hon. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn
y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys. |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd
2016. (Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2017 fel rhai cywir. |
|
HUNAN ARFARNU YSGOLION PDF 273 KB (a) I dderbyn, er gwybodaeth, ffurflen monitro
adroddiadau Hunan Arfarniadau ysgolion ar gyfer Haf 2016. (Copi’n amgaeedig) (b) I gyflwyno
crynodeb o Hunan Arfarniad yr ysgolion canlynol: (i) Ysgol Bodfeurig (ii) Ysgol Borthygest (iii) Ysgol Bro Cynfal (iv) Ysgol Cae Top (v) Ysgol Llanbedr (vi) Ysgol Maenofferen (vii) Ysgol Penybryn (Tywyn) (viii) Ysgol Rhiwlas (ix) Ysgol Waunfawr (Copïau’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: (a)
Tywysodd y Swyddog
Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol yr Aelodau drwy daflen a gyflwynwyd yn nodi crynodeb
o ganfyddiadau ysgolion gan dynnu sylw
mai 3 ysgol gynradd a oedd wedi eu harolygu
gan ESTYN yn ystod tymor
yr Haf 2016 ynghyd ag 6 ysgol gynradd yn
ystod cyfnod tymor yr Hydref 2016. (b)
Mewn ymateb
i sylw wnaed gan Aelod ynglŷn
â therminoleg ESTYN o’r farn “digonol” yn hunan arfarniad
Ysgol Maenofferen, nododd Ymgynghorydd Her GwE bod y frawddeg
“gofal, cymorth ac arweiniad” yn rhan
o faes ehangach a thynnwyd sylw bod y geiriau “effeithiol, llwyddiannus, cadarn, buddiol” yn cyfeirio
at “da” a oedd yn berthnasol i Addysg Grefyddol. (c)
Cyfeiriwyd at Hunan Arfarniadau'r ysgolion unigol canlynol (i)
Ysgol
Bodfeurig (ii)
Ysgol Borth-y-gest (iii)
Ysgol
Bro Cynfal (iv)
Ysgol
Cae Top (v)
Ysgol
Llanbedr (vi)
Ysgol
Maenofferen (vii)
Ysgol
Penybryn Tywyn (viii)
Ysgol
Rhiwlas (ix)
Ysgol
Waunfawr Nododd Ymgynghorydd Her GwE bod ansawdd
yr Hunan Arfarniadau wedi gwella ond
bod rhai gwendidau yn parhau, oherwydd
nad oedd ysgolion wedi craffu’r
canllawiau yn ddigonol a’r angen
i dderbyn canllawiau cliriach. Yng nghyd-destun Ysgol Maenofferen,
tynnwyd sylw penodol at y cyfeiriad o lefelau disgyblion ar ddiwedd Blynyddoedd
3, 4, a 5. Nodwyd bod Hunan Arfarniad Ysgol Cae Top wedi ei lunio
ar ddull gwahanol ac wedi derbyn arolygiad ardderchog yn ddiweddar. Cyfeiriwyd at Hunan Arfarniad Ysgol Penybryn
Tywyn a oedd yn rhoi blas
o’r gwersi. PENDERFYNWYD: Derbyn a nodi cynnwys yr
arolygiadau a’r hunan arfarniadau a gofyn, yn unol
â’r drefn, llongyfarch yr ysgolion uchod am eu hymdrechion i gyrraedd y graddau. |
|
DIWEDDARIAD GAN YR YMGYNHGORYDD HER (MISS BETHAN JAMES) I dderbyn diweddariad gan yr Ymgynghorydd
Her ar yr isod: (i)
Safonau Addysg Grefyddol (ii)
Adnoddau Addysg Grefyddol (iii)
Addysg Grefyddol a’r Cwricwlwm am Oes (iv)
Astudiaethau Crefyddol a TGAU /Safon Uwch Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Addysg Grefyddol a’r Cwricwlwm am Oes Atgoffwyd yr Aelodau o brif argymhellion Yr Athro Graham Donaldson fel
rhan o’r cwricwlwm “Dyfodol Llwyddiannus” neu Gwricwlwm am Oes, Cwricwlwm i
Gymru. Un o’r egwyddorion hynny ydoedd i’r cwricwlwm gael ei weithredu o’r
gwaelod i fyny a’i fod yn addas i’r ardal leol.
I’r perwyl hwn, roedd CYSAGau lleol yn enghraifft dda i allu dylanwadu
ar gwricwlwm lleol. Ymhelaethwyd ymhellach o’r
pedwar diben wrth wraidd y cwricwlwm newydd arfaethedig sef cefnogi plant a
phobl ifanc i fod yn: ·
Ddysgwyr
uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes ·
Cyfranwyr
mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith ·
Dinasyddion
egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd ·
Unigolion
iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau
gwerthfawr o gymdeithas Un o’r tasgau i’w
wynebu ydoedd sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei ddatblygu i ymateb i’r
dibenion uchod. Ymhelaethodd Ymgynghorydd
Her GwE ei bod yn rhan o Banel Ymgynghorol a’u bod wedi cwrdd i geisio llunio
arweiniad ar “beth yw addysg grefyddol”.
Yn sgil y gwaith hwn, cyflwynwyd i’r Aelodau ddatganiadau ar “beth yw
Addysg Grefyddol dda” a gofynnwyd iddynt mewn parau drafod os oedd y
datganiadau yn cyfrannu at y pedwar diben a chonsensws yr Aelodau ar y cyfan
ydoedd bod y datganiadau yn ddigon clir ac yn gymwys i’r pedwar diben. O ran y camau
nesaf, anogwyd yr athrawon a oedd yn bresennol i brofi’r uchod yn eu hysgolion
i weld os ydynt yn gyfforddus gyda’r datganiadau, a.y.b. ac anfon unrhyw
sylwadau o ran adborth yn ôl i Ymgynghorydd Her GwE. (b)
TGAU / Safon Uwch Esboniodd yr
Ymgynghorydd Her bod dirprwyaeth o’r Panel Ymgynghorol Cenedlaethol Addysg
Grefyddol wedi cwrdd gyda Mr Gareth Pierce, CBAC, a oedd wedi derbyn neges glir
bod pryder ynglyn a chyflwyno manyleb TGAU Medi diwethaf a rhoddwyd pwysau
arnynt i’w ohirio am flwyddyn. Erbyn hyn
nodwyd bod y fanyleb wedi cyrraedd.
Nodwyd bod athrawes arweiniol GwE (Mefys Jones) yn gweithredu’n
effeithiol mewn ymgynghoriad gydag athrawon Gwynedd a Môn ac y byddai deunydd
ar gael erbyn Mehefin / Gorffennaf. Mewn ymateb i’r uchod
mynegwyd bryder ymhlith yr athrawon ynglyn a’r newidiadau i’r fanyleb TGAU a’r
ffaith bod ysgolion angen dechrau’r gwaith cwrs yn fuan a ddim deunyddiau
Cymraeg ar gael, ac y byddai canlyniadau ysgolion yn dioddef.
Deallir bod llawer
o ysgolion yn Ne Cymru yn cynnig Manyleb A fel cwrs dewisol, a Manyleb B fel un
statudol. Pwysleisiwyd bod Addysg
Grefyddol yn ofyniad statudol ar gyfer pob disgybl a bod angen i ysgolion ddehongli’r gofynion yn
drylwyr yn unol â’r ddeddf. Yn ogystal,
gellir darparu rhaglen astudio sy’n cyfeirio at y gofynion ac yn cynnig
gymwysterau priodol eraill e.e. Bagloriaeth Cymru. (c)
Adnoddau Addysg Grefyddol Cyfeiriwyd at y
cyhoeddiadau canlynol ar gyfer adnoddau: ·
Dau
rifyn o E-gylchgrawn Addysg Grefyddol wedi eu cyhoeddi ar gyfer Cyfnod
Allweddol 3 ·
Podlediadau
– pytiau o raglenni’r BBC “Bwrw Golwg” · Erthyglau gan dri awdur (Noel Dyer, Huw Dylan a Catrin ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CYNLLUN GWEITHREDU CYSAG GWYNEDD PDF 252 KB I ystyried y cynllun gweithredu. (Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd cynllun
gweithredu am y flwyddyn
2016-17. Cyfeiriwyd, yn ei
absenoldeb, at sylw anfonwyd gan Mr Cynrig Hughes ynglyn
ag arsylwi arfer dda yn yr ysgolion ac roedd o’r farn
y dylid gwneud ymgais yn weddol fuan i wneud hyn gan fod y mater wedi ei drafod
ers sawl blwyddyn bellach gan CYSAG Gwynedd a dim gweithrediad ar y mater hyd
yma. Mewn ymateb
i’r uchod, awgrymodd Ymgynghorydd Her GwE i gynnal cyfarfod CYSAG tymor yr haf
ar ffurf wahanol ac i roi gwahoddiad i oddeutu 4 o athrawon i’r cyfarfod
i roi cyflwyniad ar eu harferion
gorau a / neu bryderon. Awgrymwyd ymhellach er mwyn hwyluso’r
trefniadau i ofyn i’r Swyddog Gwella
Ansawdd Addysg Cynorthwyol
: ·
Anfon at ysgolion i ganfod a fyddai Penaethiaid yn fodlon rhyddhau athrawon i fynychu ·
Ymchwilio a fyddai modd digolledu ysgolion am
ryddhau athrawon ·
Canfod a fyddai ysgolion yn fodlon
gwahodd Aelodau CYSAG i arsylwi
arferion da yng nghyswllt addoli ar y cyd Addawodd Ymgynghorydd
Her GwE y byddai’n darparu briff eithaf clir
i ysgolion ar gyfer yr uchod. Penderfynwyd: (a) Derbyn a nodi’r cynllun gweithredu ar gyfer
2016-17. (b) Gofyn i’r Swyddog
Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol weithredu yn unol â’r
pwyntiau bwled uchod yn dilyn
derbyn briff gan Ymgynghorydd Her GwE. |
|
CYMDEITHAS CYSAGAU CYMRU PDF 702 KB (a) I dderbyn
cofnodion drafft cyfarfod diwethaf Cymdeithas CYSAGau
Cymru a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2016 yng Nghaerfyrddin. (Copi’n amgaeedig) (b) I ystyried enwebiadau
ar gyfer Pwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru. (Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: (a) Cofnodion cyfarfod diwethaf Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod diwethaf o’r Gymdeithas
a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2016 yn Sir Gaerfyrddin. Nododd Ymgynghorydd
Her GwE bod y cyfarfod yn
un buddiol a chyfeiriodd at
eitem o fewn y cofnodion at ymarfer da a weithredir yn Ysgol Gymraeg Bro Myrddin sy’n rhoi cyfle
i bob disgybl gymryd rhan a chyflwyno gweithred ddyddiol o addoli ar y cyd. Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r
uchod. |