Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Rhys Tudur ac
Elfed Wyn ap Elwyn. Croesawyd y Cynghorydd Beca Brown i’w chyfarfod cyntaf o’r
Pwyllgor ac estyn diolchiadau i’r Cynghorydd Llio Elenid Owen am ei chyfraniad
i’r Pwyllgor dros y blynyddoedd diwethaf gan egluro nad yw hi’n Aelod o’r
Pwyllgor mwyach oherwydd ei phenodiad diweddar i Gabinet Cyngor Gwynedd. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 22 Hydref 2024 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2024 fel rhai cywir. |
|
I ystyried
yr Adroddiad. Penderfyniad: 1.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd. 2.
Gofyn i Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi
os oes modd i Aelodau’r Pwyllgor Iaith fynychu cyfarfod 13 Chwefror 2025 i wrando ar y drafodaeth wrth i ‘Bolisi Iaith Addysg’ gael ei graffu gan yr
Aelodau. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Bennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd a’r Pennaeth Addysg.
Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol: Adroddwyd ar
brosiect sydd yn cael ei gynnal ar y cyd rhwng Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd a’r
Urdd sy’ anelu i gynyddu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau
drwy gyfrwng y Gymraeg. Eglurwyd mai nod y prosiect yw darparu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc defnyddio’r Gymraeg
y tu allan i’r ysgol gan gynyddu eu hyder yn yr iaith. Manylwyd bod 5 Aelwyd
Gymunedol wedi cael eu datblygu yn ardaloedd y Felinheli, Bangor, Caernarfon,
Ardudwy a’r Bala, sydd yn cynnig amrywiol weithgareddau y tu allan i oriau
ysgol. Cadarnhawyd mai mewn 6 ysgol uwchradd yn y sir mae’r gweithgareddau hyn
yn cael eu cynnal ar hyn o bryd, ond pwysleisiwyd y gobeithir ehangu ar y
cynllun cydweithredol hwn i fwy o ysgolion uwchradd yn y dyfodol drwy
gydweithio ymhellach gyda’r Urdd, Cell B, Gisda a
Menter Iaith Gwynedd. Eglurwyd bod
Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd yn derbyn grant gwerth £20,000 yn flynyddol gan
Lywodraeth Cymru er mwyn mynd ceisio cynyddu hyder pobl ifanc yn yr iaith
Gymraeg. Nodwyd bod ffocws y Gwasanaeth ar yr ardaloedd sy’n profi heriau
gyda’r iaith Gymraeg megis Bangor a Dolgellau. Cydnabuwyd bod y grant hwn yn
dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol ac felly bydd angen sicrhau
bod y gwaith yn cael ei ariannu drwy ddulliau amgen i’r dyfodol. Cyfeiriwyd at
gynlluniau moderneiddio ac ehangu’r darpariaeth drochi ar gyfer dysgu Cymraeg i
blant gan gadarnhau bod gwaith adeiladu a moderneiddio Gwedd 1 wedi cael ei
gwblhau. Manylwyd bod y wedd hwn yn brosiect gwerth £1.1 miliwn er mwyn creu
unedau trochi sy’n pontio addysg Gynradd ac Uwchradd. Cadarnhawyd bod Uned
Drochi newydd wedi cael ei adeiladu yn Nhywyn ac ei fod wedi agor yn swyddogol
ar 20 Ionawr 2025. Cydnabuwyd bod llithriad byr wedi bod yn amserlen y
datblygiad hwn ond bod yr Uned yn barod i dderbyn dysgwyr Cymraeg newydd erbyn
hyn. Yn yr un modd, cadarnhawyd bod Gwedd 2 y datblygiadau moderneiddio’r
ddarpariaeth drochi ar y gweill gyda unedau newydd yn cael eu datblygu yn
Nolgellau a Maesincla. Cadarnhawyd bod yr uned bresennol yn Llangybi yn symud i
fod ar safle Ysgol Cymerau, Pwllheli. Gobeithiwyd bydd y dair uned newydd yn
weithredol o dymor yr haf 2025. Cadarnhawyd fod
prosiect TGCh rhithiol ‘Aberwla’ wedi ei gwblhau
erbyn hyn. Eglurwyd bod y prosiect yn rhoi cyfle i ddysgwyr Cymraeg fagu hyder
i ddefnyddio’r iaith yn gymdeithasol mewn lleoliadau rhithiol cyn mynd ati i
gyfathrebu’n Gymraeg yn eu cymunedau. Esboniwyd bod y lleoliadau rhithiol hyn
yn cynnwys cae glampio, archfarchnad, garej, caffi, canolfan hamdden a
llyfrgell. Pwysleisiwyd bod y prosiect hwn yn un arloesol a bod gwaith yn cael
ei wneud er mwyn ei dreialu mewn ardaloedd eraill yng Nghymru gan gynnwys
Wrecsam, Ynys Môn, Rhondda Cynon Taf, Sir Gâr, Bro Morgannwg a
Cheredigion. Cadarnhawyd bod Prifysgol Bangor wedi cael eu comisiynu i gynnal gwerthusiad o’r Gyfundrefn Addysg Drochi yng Ngwynedd. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
I ystyried
yr Adroddiad. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Eglurwyd bod enw’r Adran wedi cael ei newid
o ‘Cefnogaeth Gorfforaethol’ i ‘Gwasanaethau Corfforaethol’ yn ddiweddar er
mwyn cyfleu’r ystod o wasanaethau sy’n rhan o’r Adran. Cadarnhawyd bod yr Adran yn arwain ar chwe
prosiect blaenoriaeth o fewn Cynllun y Cyngor 2023 -2028 ac yn hyrwyddo’r iaith
Gymraeg ar pob cyfle. Ychwanegwyd bod yr Adran hefyd yn cefnogi nifer o
brosiectau eraill y Cynllun megis Blaenoriaethau Cynllun Ffordd Gwynedd 2023
-2028. Manylwyd bod yr Adran yn arwain a chyfrannu’n helaeth at wireddu
blaenoriaethau megis: ·
Gweithlu
Bodlon ac Iach ·
Cynllunio’r
Gweithlu a Datblygu Talent ·
Cynllun
Digidol y Cyngor Adroddwyd bod y Gwasanaeth Ymchwil a
gwybodaeth mewn trafodaethau rheolaidd gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Eglurwyd bod y Swyddfa ystadegau Gwladol yn cysidro peidio cynnal Cyfrifiadau
yn y dyfodol ac yn ystyried casglu data mewn ffyrdd eraill i gasglu gwybodaeth
debyg. Nodwyd ystyrir y Gwasanaeth a’r Adran bod parhau gyda’r Cyfrifiad yn ei
ffurf bresennol yn arferiad pwysig i’w barhau. Tynnwyd sylw bod y Gwasanaeth Cefnogol yn
parhau i ddatblygu modiwlau hyfforddiant staff yn ddwyieithog drwy’r system
Hunanwasanaeth mewnol. Ychwanegwyd eu bod wedi bod mewn cyswllt gyda swyddfa’r Disclosure and Barring Service
(DBS) yn Lerpwl i roi pwysau arnynt ddatblygu ffurflen gais ar-lein Cymraeg,
gan ofyn am ddiweddariad at ba bryd bydd y ffurflen honno ar gael i’w
defnyddio. Cyfeiriwyd at waith y Gwasanaeth
Democratiaeth ac Iaith gan sôn am sesiynau Ymwybyddiaeth Iaith, Fforwm Iaith
Gwynedd, Y Gymraeg mewn busnes, Byrddau partneriaethau, Prosiect Enwau Lleoedd
ac Ymwelwyr Gwlad y Basg. Mynegwyd balchder bod Cyngor Gwynedd wedi
cael ei enwebu ar gyfer gwobr ‘Cyflogwr y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Dysgu
Seiliedig ar Waith Gogledd Cymru 2025, yn dilyn gwaith yr Adran i hyrwyddo’r
iaith Gymraeg a dylanwadu ar ddarparwyr i ddarparu cyrsiau cyfrwng Cymraeg i
hyfforddeion a phrentisiaid sy’n gyflogedig gan Cyngor Gwynedd. Cadarnhawyd bod gwaith dylanwadol yn cael ei
wneud yn y maes Caffael wrth i reoliadau Caffael newydd gael eu datblygu ar
gyfer y dyfodol. Pwysleisiwyd bod y Gwasanaeth Caffael yn dylanwadu ar y
trafodaethau hynny er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i’r broses Caffael
i’r dyfodol. Llongyfarchwyd swyddogion Menter Iaith
Gwynedd am ddod i’r brig yng ngwobrau Mentrau Iaith Cymru yn ddiweddar.
Eglurwyd bod y wobr yn ymwneud a’u gwaith ar ddatblygu Croeso Cymraeg. Eglurwyd bod Deallusrwydd Artiffisial (AI)
yn ddatblygiad mae’r Adran yn ymwybodol ohono gan wneud defnydd pan yn briodol
gan fod yn wyliadwrus o’r heriau o’i ddefnyddio. Nodwyd bydd y maes hwn yn cael
ystyriaeth barhaus gan yr Adran wrth iddo ddatblygu dros y blynyddoedd nesaf. Adroddwyd bod 166 o’r 176 aelod o staff o fewn yr Adran wedi cwblhau’r hunanasesiad ieithyddol. Cadarnhawyd bod 119 o unigolion sydd wedi ei gyflawni yn cyrraedd Lefel Hyfedredd, 39 o unigolion ar Lefel Uwch ac 8 unigolyn yn cyrraedd Lefel Canolradd. Eglurwyd bod y 10 aelod o staff sydd heb gyflawni’r holiadur hyd yma yn newydd a bydd yn cwblhau’r holiadur cyn gynted a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |