Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer 2025-2026. Penderfyniad: Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Menna Baines yn Gadeirydd
y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2025-26. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2025-2026. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Meryl Roberts yn Is-gadeirydd y
Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2025-26. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Meryl Roberts yn
Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2025-26. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Beca Brown a Rhys
Tudur. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2025 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2025 fel rhai cywir. |
|
I ystyried
yr adroddiad. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn
ystod y drafodaeth. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Uwch Swyddog Gweithredol, Adran
Plant a Chefnogi Teuluoedd, Pennaeth Adran Plant Adnoddau Dros Dro, Arweinydd
Tim Cefnogi’r Gweithlu, Tim Arweinyddiaeth Corfforaethol a Phennaeth
Cynorthwyol Gwasanaethau Oedolion, Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Tynnwyd
sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol: Adroddwyd bod yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd ac yr
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg ym mhob agwedd
o’u gwaith. Tynnwyd sylw at gynllun ‘Mwy na Geiriau’, sef Fframwaith
Strategol a gyhoeddwyd yn 2016 ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg yn y meysydd
Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol. Pwysleisiwyd bod y
fframwaith hwn yn ganolog i waith yr Adrannau er mwyn sicrhau bod cynnig
gweithredol o ofal Gymraeg ar waith yn ymarferol o fewn y gwasanaethau. Mynegwyd balchder bod datblygiad ap ‘Niwro’ yn adnodd
arloesol ar gyfer cefnogi unigolion niwro-wahanol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Nodwyd bod defnydd o’r ap hwn yn codi statws yr iaith Gymraeg mewn maes ble nad
yw’n derbyn ystyriaeth briodol yn hanesyddol. Cyfeiriwyd at ddatblygiad cynllun Cartrefi Grŵp Bychan
ar gyfer plant mewn gofal, gan adrodd bod y cynllun hwn yn caniatáu i blant
mewn gofal aros o fewn eu cymunedau Cymraeg a pharhau i deimlo’n perthyn i’r
iaith a’r diwylliant lleol. Nodwyd bod cynlluniau o fewn y gwasanaeth Blynyddoedd
Cynnar, i ymestyn cyfleoedd chwarae a chynnig gweithgareddau drwy gyfrwng y
Gymraeg yn cyfrannu at greu amgylchedd naturiol ble all plant defnyddio’r iaith
heb ymdrech. Ymhelaethwyd bod cynlluniau i ddatblygu sgiliau iaith y gweithlu
hefyd yn hanfodol i sicrhau gwasanaethau cyraeddadwy a dwyieithog. Rhannwyd enghraifft o brosiect cydweithredol trawsadrannol
‘Croesi’r Bont’. Manylwyd bod y prosiect hwn yn cadarnhau bod cyfathrebu
esmwyth yn y Gymraeg rhwng gwasanaethau. Ymhelaethwyd bod hyn yn caniatáu i’r
defnyddiwr fod yn ganolog i’r prosesau. Atgoffwyd bod yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn
canolbwyntio’n gryf ar brosiectau sydd ynghlwm â phrosiect Gwynedd Ofalgar o
fewn Cynllun Cyngor Gwynedd. Ymhelaethwyd bod moderneiddio cartrefi gofal,
adnoddau cymunedol a llety i drigolion Gwynedd. Pwysleisiwyd bod defnyddio
technoleg ar gyfer dod i adnabod anghenion lleol yn hanfodol i’r gwaith, gan
gadarnhau bod cydweithio clos parhaus ar waith gyda’r Gwasanaeth Iechyd er mwyn
hyrwyddo iechyd oedolion. Tynnwyd sylw bod yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn
ymdrechu i newid diwylliant yn barhaus er mwyn sicrhau gwasanaethau i’r
dyfodol. Nodwyd hefyd bod cynlluniau hyfforddi yn cael eu cynnal er mwyn
sicrhau bod y gweithlu yn gymwys i fynd i’r afael ag anghenion trigolion
Gwynedd i’r dyfodol. Eglurwyd hefyd bod system gofal cynaliadwy yn weithredol
er mwyn hyrwyddo lles oedolion, gan gadarnhau bod cynnal y system hon yn
flaenoriaeth i’r adran. Adroddwyd bod gwaith parhaus yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod technoleg addas i bwrpas yn weithredol o fewn y maes gofal, ac bod modd ei ddefnyddio yn y Gymraeg. Rhannwyd enghraifft o holiadur ‘Percy’ sy’n mesur ansawdd gofal o bersbectif yr unigolyn sydd yn ei dderbyn. Pwysleisiwyd bod yr holiadur hwn wedi cael ei gyd-gynllunio gan bobl sydd gyda profiad o dderbyn gofal. Mynegwyd balchder bod fersiwn Cymraeg o’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD AR WEITHREDIAD Y SAFONAU IAITH Cyflwyno’r
Adroddiad Blynyddol draffft i’r aelodau er mwyn iddynt armell i’r Aelod Cabinet
gymeradwyo cyhoeddi’r Adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth. 2.
Argymell i’r Aelod Cabinet Gwasanaethau
Corfforaethol a Chyfreithiol a dros y Gymraeg i gyhoeddi’r adroddiad erbyn 30
Mehefin 2025. Cofnod: Atgoffwyd bod
gofynion y Safonau Iaith yn ei wneud yn ofynnol i’r Cyngor lunio a chyhoeddi
adroddiad blynyddol erbyn 30 Mehefin, yn unol ag Adran 44 Mesur y Gymraeg
(Cymru) 2011. Ymhelaethwyd bod gofyn i’r adroddiad blynyddol rannu gwybodaeth
megis Safonau 151, 152, 154, 158, 164 ac 170. Adroddwyd bod 99.1%
o staff y Cyngor yn meddu ar ryw fath o sgiliau yn y Gymraeg gan fanylu bod 90%
o holl staff y Cyngor yn cyrraedd dynodiad iaith eu swyddi. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- Mewn ymateb i gais
am fanylder pellach i ddata sgiliau iaith y gweithlu, cadarnhaodd Swyddog Dysgu
a Datblygu’r Iaith Gymraeg bod unrhyw aelod o staff sydd yn meddu a sgiliau’r
Gymraeg, boed yn allu i gyfathrebu ychydig eiriau neu frawddegau yn Gymraeg
neu’n cyrraedd lefel sgiliau Cymraeg hyfedredd yn gynwysedig. Mewn ymateb i
ymholiad ar sut mae dynodiadau iaith ar gyfer swyddi yn cael eu pennu,
cadarnhaodd Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg bod rhain yn cael eu
penderfynu gan y rheolwr llinell. Ymhelaethwyd byddai’r rheolwr yn ystyried
ffactorau megis cyswllt gyda’r cyhoedd, gweithio mewn rhan o dim a’r angen i
gyfathrebu’n ysgrifenedig cyn penderfynu ar dynodiad iaith addas ar gyfer
swyddi. Nodwyd hefyd bod y rheolwr llinell yn nodi os bydd aelodau staff yn
cyrraedd dynodiad iaith y swydd. Atgoffwyd bod yr hunanasesiad iaith hefyd yn
rhoi cyfle i aelodau staff rannu eu barn eu hunain am eu sgiliau ieithyddol. Ystyriwyd bod
sylwadau cyson gan Adrannau’r Cyngor yn nodi bod hyder yn amharu ar ganlyniadau
staff wrth iddynt gwblhau’r hunanasesiad ieithyddol. Mewn ymateb i gwestiwn os
ai gorhyderus neu ddihyder yw’r swyddogion yn eu gallu, pwysleisiodd Swyddog
Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg mai dihyder yn eu sgiliau yw aelodau staff.
Manylwyd bod hyn yn enwedig yn wir ar gyfer agweddau sydd yn delio â sgiliau
Cymraeg ffurfiol neu broffesiynol. Cadarnhawyd bod trefniadau mewn lle fel bod
y Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg yn cysylltu gyda’r rheolwr llinell
berthnasol mewn achosion ble mae aelod o staff yn agos i gyrraedd dynodiad
iaith y swydd, ond bod yr hunanasesiad yn nodi nad ydynt yn hyderus, gan nodi
bod y rheolwr yn nodi bod yr aelod staff yn cyrraedd y dynodiad iaith yn y
mwyafrif o achosion. Pwysleisiwyd bod cymorth ar gael i unrhyw un sydd ei angen
er mwyn cyrraedd dynodiad iaith eu swydd. Ychwanegwyd bod y gwaith sydd yn cael
ei wneud ar y cyd gyda Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i chwalu mythoedd am anghenion
sgiliau iaith yn gymorth i gynyddu lefelau hyder staff y Cyngor. Tynnwyd sylw bod yr
adroddiad yn nodi bod 97% o holl osodiadau tai Gwynedd a osodwyd o fewn y
Polisi Gosod Tai yn mynd i unigolion gyda chysylltiad â Gwynedd. Ymholwyd beth
oedd diffiniad y gosodiad hwn ond penderfynwyd nad oedd swyddog priodol yn
bresennol ar gael i fynd i’r afael a’r pwnc hwn. Nodwyd bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |