Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

COFNODION:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr Gwynfor Owen, Hefin Underwood, Wendy Cleaver a Beca Brown. Derbyniwyd ymddiheuriad hefyd gan Llywela Haf Owain (Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu) a Llio Mai Dafydd (Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

COFNODION:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy/n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

COFNODION:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 150 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 09 Chwefror fel rhai cywir.

COFNODION:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 09 Chwefror 2026 fel rhai cywir.

 

5.

ADRODDIAD ADRAN ECONOMI A CHYMUNED AR WEITHREDIAD Y POLISI IAITH A CHYFRANIAD TUAG AT WIREDDU STRATEGAETH IAITH GYMRAEG 2023-2033 pdf eicon PDF 405 KB

I ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.

 

COFNODION:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr Adran Economi a Chymuned. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Adroddwyd bod holl bolisïau a chynlluniau strategol yr Adran yn cyfrannu at amcanion y Strategaeth Iaith, megis Strategaeth Datblygu Economaidd Gwynedd sydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Tynnwyd sylw penodol at bolisïau eraill megis Fframwaith Adfywio Ardal Ni, Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy, Cynllun Rheoli Safle Treftadaeth y Byd: Tirlun Llechi Cymru yn ogystal â Chynllun Diwylliant Gwynedd sydd ar ffurf drafft ar hyn o bryd.

 

Atgoffwyd bod yr Adran yn arwain ar nifer o brosiectau sydd yn rhan o Gynllun y Cyngor gan bwysleisio bod ystyriaeth i’r iaith Gymraeg yn ganolog iddynt oll. Amlygwyd mai’r prosiectau hynny yw:

 

·       Gwynedd Llewyrchus

o   Hyrwyddo ein diwylliant ac economi ymweld gynaliadwy

o   Adfywio cymunedau a chanol trefi

o   Creu’r amgylchiadau gorau posibl yng Ngwynedd i fusnesau a mentrau cymunedol ffynnu, a chefnogi pobl Gwynedd mewn i waith.

·       Gwynedd Ofalgar

o   Cefnogi Llesiant Pobl

 

Cadarnhawyd bod asesiadau ieithyddol yn cael eu cyflawni pan mae’r adran yn gweithredu ar gynlluniau a gweithdrefnau mawr, gan gydnabod bod lle i wella er mwyn asesu i ba raddau maent yn llwyddo i wneud hynny gyda phrosiectau llai. Pwysleisiwyd bod hyn yn drafodaeth reolaidd o fewn tîm rheoli’r Adran er mwyn sicrhau bod mwy o asesiadau ieithyddol yn cael eu cyflawni ar brosiectau llai i’r dyfodol.

 

Yn sgil natur amrywiol ac eang yr Adran, eglurwyd bod pob rheolwr oddi fewn i’r Adran wedi cyflwyno diweddariad ar sut mae eu gwasanaethau yn gweithredu i gyfrannu tuag at amcanion y strategaeth iaith. Tynnwyd sylw at rai meysydd penodol megis Gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd a Neuadd Dwyfor sydd yn chwarae rhan allweddol i gefnogi pobl i ddysgu Cymraeg, cael mynediad at adnoddau a gwybodaeth Cymraeg tra hefyd yn dysgu am ddiwylliant, treftadaeth a chynnig gweithgareddau. Yn yr un modd, eglurwyd bod prosiect ‘LleCHI Lle Ni: Ein Safle Treftadaeth y Byd, Ein Balchder, Ein Dyfodol’ yn hybu’r Gymraeg yn gymunedol tra hefyd yn ffocysu ar bedair egwyddor gref i hyrwyddo’r Gymraeg.

 

Ymhelaethwyd drwy gyfeirio at y Gwasanaeth Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau sydd wedi bod yn cyhoeddi erthyglau sydd yn hyrwyddo rhinweddau arbennig ein hardal, yr iaith Gymraeg a diwylliant lleol, fel rhan o brosiect Diwyllesiant. Yn debyg, cadarnhawyd bod cyllideb ar gyfer rhaglen ARFOR bellach wedi dod i ben ond mae’r Adran yn gweithio i ddosbarthu pecynnau a grëwyd yn ystod cyfnod y rhaglen, a’u hyrwyddo er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i dderbyn anogaeth i ddychwelyd i’r rhanbarth i weithio tra hefyd yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.

 

Eglurwyd bod gwasanaethau’r Adran wedi amlygu cyfleoedd i  godi statws y Gymraeg a sicrhau ei bod yn cael ei ddefnyddio. Rhannwyd enghraifft benodol o hyn drwy gyfeirio at gynlluniau’r Gwasanaeth Morwrol i: Annog a chefnogi staff i siarad a gohebu yn y Gymraeg; darparu cyfleoedd hyffordd i staff wella dysgu’r iaith gan hefyd sicrhau bod llwyddiannau yn cael eu dathlu; a gwella cynnwys dwyieithog yr harbyrau a thraethau’r Sir.

 

Amlygwyd bod heriau wedi’i  ...  view the full COFNODION text for item 5.

6.

ADRODDIAD TIM ARWEINYDDIAETH A GWASANAETHAU CYFREITHIOL AR WEITHREDIAD Y POLISI IAITH A CHYFRANIAD TUAG AT WIREDDU STRATEGAETH IAITH GYMRAEG 2023-2033 pdf eicon PDF 295 KB

I ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.

 

COFNODION:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Adroddwyd bod y Gwasanaethau Cyfreithiol yn gyfrifol am briodoldeb (gan gynnwys rôl Swyddog Monitro, gwasanaethau cyfreithiol, Tîm Etholiadau a Chofrestru Etholiadol yn ogystal â Chefnogaeth Crwner.) Tynnwyd sylw at waith rhanbarthol mae’r Gwasanaeth wedi bod yn ei gyflawni yn y blynyddoedd diwethaf, drwy ddarparu cefnogaeth i GwE, y Cynllun Twf a Chyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (CBC). 

 

Cydnabuwyd bod gofynion cyfreithiol ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd wedi cynyddu yn sylweddol, ac er mwyn ymdopi gyda’r gwaith hynny mae’r CBC wedi ffurfio tîm cyfreithiol annibynnol, gyda Gwasanaethau Cyfreithiol Cyngor Gwynedd bellach wedi tynnu’n ôl o’r bartneriaeth. Pwysleisiwyd bod Gwasanaethau Democratiaeth a Chyllid yn parhau i gefnogi’r CBC. Ymfalchïwyd bod presenoldeb yn y broses o ddatblygu gweithdrefnau a systemau CBC wrth iddo gael ei ffurfio, yn hanfodol er mwyn sicrhau dwyieithrwydd a bod y Gymraeg yn derbyn sylw cyfartal, gan fod arferion da wedi cael eu harddangos a’u gweithredu.

 

Eglurwyd bod y Tîm Etholiadol yn hyrwyddo’r Gymraeg ac yn mynnu bod dwyieithrwydd yn cael ei sicrhau ar bob achlysur. Rhannwyd enghreifftiau o bwysigrwydd dwyieithrwydd megis ar ddogfennaeth, hyfforddiant, a pan mae canlyniadau etholiadol yn cael eu cyhoeddi ar lafar. Mynegwyd balchder bod y Tîm Etholiadol yn llwyddo i hyrwyddo’r iaith yn llwyddiannus a bod y gwaith yn treiddio i sicrhau bod systemau dwyieithog y Comisiwn Etholiadol bellach yn safonol. Pwysleisiwyd bod lle i wella gan amlygu bod y Tîm Etholiadol yn pwysleisio nad yw darpariaeth uniaith Saesneg o ddogfennaeth na hyfforddiant yn dderbyniol.

 

Diolchwyd i’r Crwner, sydd yn gweithio ar lefel genedlaethol a hefyd yn hyrwyddo’r Gymraeg drwy ei gwaith. Eglurwyd nad yw Gwasanaeth Crwneriaid Gwynedd a Môn wedi cael ei ymgorffori i gorff rhanbarthol ar draws Gogledd Cymru oherwydd y pwyslais ieithyddol sydd yn cael ei roi gan y Crwner yn yr ardal hon, gan nodi bod hyn yn adlewyrchiad o bwysigrwydd yr iaith i’r Gwasanaeth.  Mynegwyd balchder bod y gwaith hwn yn gallu dylanwadu ar ardaloedd Crwneriaid eraill drwy sicrhau bod dogfennaeth ar gael i’w defnyddio yn y Gymraeg a’r Saesneg.

 

Mynegwyd balchder bod y Gwasanaethau Cyfreithiol bellach yn gallu cyflawni holl elfennau o’i ddyletswyddau yn ddwyieithog, megis agweddau mwyaf technegol o’r gwaith, darparu cytundebau a thrawsgrifiadau achosion llys ar gyfer gwaith yng Ngwynedd ac yn rhanbarthol ar draws Gogledd Cymru. Atgoffwyd nad oedd hyn yn bosib yn y blynyddoedd diwethaf oherwydd bod cyfreithwyr dros dro (locum) wedi bod yn cael eu penodi er mwyn cynorthwyo gyda gwaith rhanbarthol, ble roedd yr angen am arbenigedd penodol yn trechu’r angen am sicrhau bod yr unigolion hynny yn medru’r Gymraeg. Cydnabuwyd bod y Gwasanaeth Cyfreithiol wedi profi heriau recriwtio yn y blynyddoedd diwethaf, ond pwysleisiwyd bod anghenion recriwtio bellach  wedi lleddfu a bod y Gwasanaeth yn llwyddo i ddenu staff profiadol ac sydd yn meddu â sgiliau’r Gymraeg pan mae unrhyw drosiant staff yn codi, gan ymfalchïo fod y gweithlu yn frwdfrydig a gweithgar iawn.

 

Ystyriwyd bod yr heriau ieithyddol sydd yn wynebu’r gwasanaeth yn gyffelyb  ...  view the full COFNODION text for item 6.