Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Rhonwen Jones 01286 679780
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Aled Evans. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd
yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni
dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 9fed o Orffennaf 2019 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar y 9fed o Orffennaf 2019 fel rhai cywir
yn ddarostyngedig i gywiro penderfyniad
ar eitem 6 (cofnodion cyfarfod 1 Mai 2019) ‘Hunaniaith - Menter Iaith Gwynedd - (Targedu Pobl Ifanc
oedran 15+’, ynglŷn
â llythyr i gymryd camau pellach
i ennyn diddordeb
ac ymrwymiad tiwtoriaid Grŵp Llandrillo Menai Ymatebodd y Swyddog Datblygu Iaith yn y Gweithle,
ei bod wedi gyrru llythyr i’r
Grŵp, ond nad oedd adborth
wedi ei dderbyn.
Penderfynwyd yn y pwyllgor diwethaf bod aelod o’r pwyllgor
am ysgrifennu hefyd, nid yw hyn
wedi ei gyflawni’
Nodwyd y dylai’r cofnod nodi mai'r
Pwyllgor fel endid a ddylai fod hefyd yn
ysgrifennu llythyr ac nid un aelod
o’r Pwyllgor. Awgrymwyd y dylai’r llythyr a anfonwyd gael ei adolygu yn y cyfarfod
nesaf. Cadarnhawyd bod y Comisiynydd
Iaith wedi derbyn gwahoddiad i fynychu’r Pwyllgor. |
|
I ystyried yr
adroddiad Cofnod: Derbyniwyd adroddiad a chyflwyniad ar lafar gan Rheolwr
Rhaglen Datblygu Gwynedd Wledig yn rhoi
diweddariad ar raglen Arfor. Yn dilyn cytundeb cyllidebol rhwng Llywodraeth Cymru a Plaid Cymru, yn Chwefror
2019 cadarnhaodd Gweinidog
yr Economi, Ken Skates AC, fod £2 filiwn o gyllideb ar
gael i Gynghorau
Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gâr i dreialu dulliau
arloesol o gefnogi’r economi yng nghadarnleoedd
y Gymraeg. Nodwyd fod yr arian ar gael hyd at ddiwedd
2020/21 gyda £466,250 i’w fuddsoddi yng Ngwynedd
ar weithgareddau fyddai yn arwain
at greu swyddi fyddai’n cynnal yr iaith yn
ein cymunedau. Adroddwyd bod dau
brosiect trawsffiniol wedi eu sefydlu;
Cynllun Strategol / Gwerthuso a Phrosiect Bwrlwm Busnes. Ategwyd bod y Cynllun Strategol yn edrych
ar brosiectau unigol ar draws y Sir ac wrthi yn
sefydlu cynllun busnes i’w gyflwyno.
Mynegwyd bod Bwrlwm Busnes wedi dylunio
pecyn croeso yn annog busnesau
i weithio drwy’r Gymraeg. Nodwyd bod bwriad comisiynu cwmni i edrych ar
ddeunydd digidol ar draws y pedair Sir i geisio gwybodaeth
ac adnabod a rhannu ymarfer da. Cyfeiriwyd at Grŵp
Llywio Arfor sydd yn arwain
y gwaith yng Ngwynedd ac sydd wedi adnabod pecyn
o brosiectau arloesol i’w treialu dros
y cyfnod sydd yn cyd-fynd a meini
prawf y rhaglen. Ategwyd bod yr Uned Iaith wedi
bod yn rhan o’r grŵp ers
y dechrau. Nodwyd bod nifer o brosiectau cyffrous wedi eu
sefydlu gyda holiadur ieithyddol wedi ei lunio
i gofnodi safon defnyddwyr / cefnogwyr prosiectau fel bod modd mesur
effaith Arfor. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol
gan aelodau: ·
Bod
cyfnod o ddwy flynedd yn gyfnod
rhy fyr i
hyrwyddo a datblygu mentrau busnes. Angen pwyso ar
y Llywodraeth am gyfnod hirach ·
Nid yw’r arian sydd yn cael ei dderbyn yn ddigonol ·
Angen ymgynghori gyda Menter Busnes i osgoi dyblygu
gwaith ·
Bydd
angen mesur yr effaith er
mwyn sicrhau Arfor 2 ·
Angen
targedu a chefnogi pobl ifanc sydd
yn llai tebygol
o ddefnyddio’r Gymraeg mewn busnes ·
Bod
angen sicrhau cadw enwau Cymraeg
ar y tiroedd ·
Arfor
yn syniad arloesol ar y dechrau
ond bellach y deilliant yn llawer
llai ·
Dim sicrwydd i ddyfodol Arfor.
Cynigiwyd bod y Pwyllgor yn ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn sut mae Rhaglen Arfor yn gweithio gyda chynlluniau ehangach y Llywodraeth
megis cynlluniau iaith a’r strategaeth Economaidd. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â sut bydd y cynllun
yn parhau ar ôl dwy
flynedd, amlygwyd mai bwriad y Cynllun
Strategol sydd yn cael ei
ddatblygu yw edrych ar sut
mae’r prosiectau yn gweithio a mesur
yr effaith. Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn â chyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru, amlygwyd bod pob cynllun yn
cael ei drafod
gyda’r Llywodraeth PENDERFYNWYD bod y pwyllgor yn ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yn gofyn am ymrwymiad y Llywodraeth i’r cynllun a sut mae cynllun Arfor yn gweithio gyda chynlluniau ehangach y Llywodraeth megis cynlluniau iaith ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
BYW'N IACH I dderbyn
trosolwg o sut mae’r gwasanaeth yn parhau i roi blaenoriaeth i’r Gymraeg Cofnod: Derbyniwyd adroddiad ar lafar gan
Reolwr Gyfarwyddwr Byw’n Iach ar
y gwaith sydd wedi ei wneud
gan y cwmni i warchod yr
iaith wrth i adrannau o’r
Cyngor gael eu hallanoli. Eglurwyd
bod Byw’n Iach wedi ei
sefydlu yn Ebrill 2019 fel cwmni cyfyngedig trwy warant o dan
reolaeth Cyngor Gwynedd yn gweithredu cytundeb ar ran y Cyngor i reoli Canolfannau Hamdden yn y Sir a darparu ystod o wasanaethau Chwaraeon, Iechyd a Ffitrwydd. Fel rhan o’r
cytundeb, nodwyd bod cyfrifoldeb dros yr iaith wedi
ei gynnwys a bod cydweithio gyda swyddogion datblygu’r iaith wedi sicrhau
bod y broses o drosglwyddo wedi
ei ffurfioli. Adroddwyd
bod 250 o staff wedi trosglwyddo
a bod yr ymateb cychwynnol wedi bod yn un cadarnhaol
gyda chanmoliaeth at ymddygiad y staff tuag at newid. Cafwyd lansiad
meddal i’r trosglwyddiad gan nad oedd
newidiadau amlwg i wasanaethau cwsmer.
Amlygwyd mai’r bwriad yw ceisio
diwylliant o berchnogaeth i’r holl staff.
Yng nghyd-destun
iaith, adroddwyd bod y cwmni wedi creu
polisi Iaith gyfatebol i bolisi
Cyngor Gwynedd sydd yn berthnasol ac ymarferol i’r maes
Hamdden. Amlygwyd bod rhai o amcanion y polisi wedi cadw
run fath ond cymalau ychwanegol ar gyfer creu
dylanwad o fewn y sector Hamdden. Nodwyd bod gwaith yn cael
ei wneud i ddatblygu’r gweithle
gyda bwriad o greu swyddi arbenigol
i ymgymryd â dyletswyddau penodol. Ategwyd bod y dynodiadau iaith mewn swydd ddisgrifiadau
wedi cael eu herio i
fod yn uchelgeisiol
wrth fapio’r angen a bod asesiad sgiliau wedi ei
gwblhau fel sylfaen i flaenoriaethu
rhaglen waith i’r timau. Ategodd Swyddog Dysgu a Datblygu Iaith Gymraeg y Cyngor bod pob aelod o staff y gwasanaeth Hamdden sydd wedi
derbyn hyfforddiant yn cael ei
asesu a bod yr aelod staff a’r rheolwr yn sicrhau
bod yr hyfforddiant yn gwreiddio. Mynegwyd
bod adborth cychwynnol y
staff wedi bod yn bositif a chanmolwyd eu hymdrechion a’u parodrwydd i ymateb i’r
her. Diolchwyd am y wybodaeth Mewn ymateb i sylw ynglŷn
â’r defnydd o gerddoriaeth Gymraeg mewn dosbarthiadau ffitrwydd nodwyd bod y gerddoriaeth wedi ei baratoi gan
gwmnïau penodol ac mai cerddoriaeth heb eiriau sydd
i’w chwarae. Anodd fyddai creu
adnodd Byw’n Iach, ond derbyniwyd
bod modd ystyried y sylw. Mewn ymateb i sylw ynglŷn
â datblygu llwybr gyrfa, amlygwyd bod bwriad creu swyddi
penodol fydd yn cynnig arbenigedd
mewn meysydd priodol. Bydd hyfforddiant
a chefnogaeth yn cael ei gyflwyno
gyda’r bwriad o greu mwy o amrywiaeth
a chyfleoedd i staff ddatblygu. Nodwyd yr angen i
fuddsoddi mewn staff er mwyn sicrhau
datblygiad a diwallu’r syniad mai swyddi
achlysurol yn unig sydd yn
cael eu cynnig
yn y maes
Hamdden. Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag ystyried cynllun rhannu enillion gyda’r staff nodwyd nad oedd hyn yn bosib ar hyn o bryd ond yn gynllun y gellid ei ystyried i’r dyfodol. Ategwyd bod Cyngor Fflint wedi mabwysiadau cynllun o’r fath, ond ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
I ystyried yr
adroddiad Cofnod: Derbyniwyd diweddariad ar gynnydd y prosiect
Dynodiadau Iaith gan roi cyfle
i’r Aelodau ofyn cwestiynau neu gynnig argymhellion ar gyfer unrhyw
gamau pellach. Adroddwyd ar gefndir y prosiect gan amlygu bod y Pwyllgor Iaith (yn 2015) wedi penderfynu
edrych ar drefn gofnodi sgiliau
iaith staff mewn paratoad ar gyfer
dyfodiad Safonau Iaith 2016. Yn mis Ionawr 2016 gwnaed penderfyniad pellach i adolygu
gofynion ac amodau iaith swyddi’r Cyngor er mwyn gosod
gofynion realistig ochr yn ochr
â dyletswyddau’r swydd. Yn 2017 dechreuwyd ail ran y prosiect o sicrhau cefnogaeth i aelodau
cyfredol o staff naill ai gadw safon
eu sgiliau Cymraeg neu gyrraedd
gofynion iaith eu swydd os
oedd bwlch yn bodoli. Tynnwyd sylw at rai gwasanaethau nodedig a weithiwyd a hwy ynghyd â phrif datblygiadau gwaith e.e., holiadur hunanasesu lefel, hyfforddiant, ôl ofal- cyfeillion Cymraeg a llwyddiannau’r
prosiect. Y gobaith yw parhau i
ymweld â Gwasanaethau, gweithio’n agos gyda chwmni Byw’n
Iach a staff cartrefi gofal. Diolchwyd am y wybodaeth ysbrydoledig a chalonogol. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn
â sicrhau parhad i’r prosiect, amlygwyd
bod gobaith i benaethiaid a rheolwyr gwasanethau ymgymryd â’r gwaith o ddatblygu
a chefnogi eu staff. Ategwyd bod trosiant staff yn amlygu heriau
ac nad oedd
diweddglo i’r prosiect mewn gwirionedd. |
|
ADRODDIAD SICRWYDD COMISIYNYDD GYMRAEG 2018-19 PDF 79 KB I ystyried
adroddiad yr Ymgynghorydd Iaith Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan yr Ymgynghorydd Iaith yn adrodd
yn gryno ar ganfyddiadau Adroddiad Sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg. Nodwyd bod
yr adroddiad yn ganlyniad o waith monitro cwynion, gwaith ymchwil, arsylwi a
holi grwpiau ffocws, ac sy’n dangos
canfyddiadau am lwyddiant sefydliadau i weithredu a chydymffurfio gyda’r
Safonau. Cyhoeddwyd adroddiad sicrwydd diweddaraf y Comisiynydd
dan y teitl Hawlio Cyfleoedd yn ystod haf 2019. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio rhwng gallu sefydliadau i warantu
bod hawl unigolyn i wasanaethau Cymraeg yn cael ei fodloni a defnydd y cyhoedd
o’r gwasanaethau hynny. Tynnwyd sylw at y materion perthnasol yn yr adroddiad; -
Bod angen codi ymwybyddiaeth o ofynion y Safonau -
Angen
sicrhau bod pawb ar draws y Cyngor yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau
a’u dyletswyddau o safbwynt y Safonau -
Bod angen ystyried mwy o weithgarwch i wirio gwasanaethau
ar hap -
Bod
angen defnyddio ffurflen hunan-fonitro fel ffordd o gasglu
gwybodaeth reolaidd gan adrannau am gydymffurfiaeth -
Bod amser ac adnoddau staff digonol yn cael ei neilltuo
ar gyfer cyflawni’r rôl o gadw golwg ar weithrediad y Safonau. -
Bod
swyddogion gweithredol ac arbenigol yn cael
eu cynnwys yn ddigon buan
wrth gynllunio a gweithredu prosiectau er mwyn sicrhau
gwneud y gorau o bob cyfle i hybu
a hyrwyddo’r Gymraeg. -
Bod angen cymell pobl i ddefnyddio’r Gymraeg a chasglu
gwybodaeth ystyrlon o ddefnydd iaith unigolyn. Diolchwyd am yr adroddiad a chroesawyd y camau gweithredu Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol
gan aelodau: -
Bod
angen i’r Cyngor gyfathrebu eu disgwyliad
i bobl gysylltu
â'r Cyngor yn y Gymraeg -
Angen amlygu mai iaith weinyddol y Cyngor yw’r Gymraeg -
Angen hyrwyddo bod canran uchel iawn o staff yn siarad
Cymraeg -
Bod angen uchafu defnydd o’r Gymraeg mewn technoleg
gwybodaeth -
Gwahodd
penaethiaid adrannau yn eu tro
i rannu profiadau
/ arferion da ar sut y maent yn
ymateb i ofynion y Safonau. Awgrym i adrodd
ar sefyllfa'r Gymraeg yn eu
hadrannau gan gynnig enghreifftiau o lwyddiannau a heriau fel bod y Pwyllgor yn ymwybodol o’r
sefyllfa. -
Cais i’r Aelod Cabinet gyflwyno adroddiad cryno i
gyfarfodydd o’r Pwyllgor fyddai’n rhoi
trosolwg strategol ar waith y Cyngor -
Cais i adroddiad cwynion / canmoliaethau gael ei gynnwys
fel eitem sefydlog ar y rhaglen Penderfynwyd, ·
gwahodd
Penaethiaid Adrannau i’r Pwyllgor yn eu tro i roi diweddariad ar y sefyllfa o
fewn eu hadrannau. ·
Adfer
yr ymarferiad o gynnwys adroddiad
cwynion fel eitem fer, sefydlog ar y rhaglen fyddai hefyd yn cynnwys
canmoliaethau ·
Bod yr Aelod
Cabinet yn cyflwyno adroddiad byr fyddai’n rhoi trosolwg strategol ar
ddatblygiadau ym maes Y Gymraeg o fewn y Cyngor. |