Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan y Cynghorydd Charles Wyn Jones. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni
dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni
dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd, 2019 fel rhai cywir (ynghlwm). Cofnod: Llofnododd
y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y
7fed o Dachwedd, 2019 fel rhai cywir, yn amodol ar gywiro ail frawddeg y
paragraff olaf ond un dan eitem 4 – Cofnodion (9 Gorffennaf, 2019) i ddarllen
fel a ganlyn:- “Penderfynwyd
y dylai’r llythyr* a anfonwyd gael ei adolygu yn y cyfarfod nesaf.” [*llythyr gan y Swyddog Datblygu Iaith
yn y Gweithle at Grŵp Llandrillo Menai ynglŷn ag ennyn diddordeb ac
ymrwymiad tiwtoriaid y Grŵp yn y gynhadledd a drefnwyd ar gyfer pobl ifanc
i drafod gwerth y Gymraeg fel sgil ar gyfer byd gwaith.] Holwyd
hefyd lle ar y rhaglen roedd y llythyr yn ymddangos. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Cadeirydd fod y
llythyr wedi’i anfon, a phetai’r aelodau’n dymuno copi, y gellid trefnu
hynny. Nid oedd yn ymwybodol bod ateb
wedi’i dderbyn i’r llythyr hyd yma. Gan
gyfeirio at eitem 5 o’r cofnodion – Cynllun Arfor, nododd y Cadeirydd fod
llythyr wedi’i anfon at Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, yn unol
â chais y pwyllgor, yn gofyn am ymrwymiad y Llywodraeth i’r cynllun. Derbyniwyd ateb awtomatig i’r llythyr, ond ni
chafwyd ymateb llawn hyd yma. |
|
COMISIYNYDD Y GYMRAEG Derbyn cyflwyniad
gan Gomisiynydd y Gymraeg ar ei waith. Cofnod: Croesawyd
Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg i’r cyfarfod i roi cyflwyniad i’r aelodau
ar ei waith. Rhoddodd
y Comisiynydd amlinelliad o’r hyn roedd yn weld fel pwrpas ei rôl, gan fanylu
ar ei argraffiadau o sefyllfa’r Gymraeg ar draws Cymru. Amlygodd y prif bwyntiau a ganlyn yn ystod ei
gyflwyniad:- ·
Ei
fod yn awyddus iawn i wybod beth oedd yr heriau o safbwynt y Cyngor hwn ac i
weld pa gymorth y gallai ei swyddfa ei gynnig. ·
Yn
dilyn cychwyn yn ei swydd yn Ebrill 2019, iddo fynd o gwmpas Cymru am 6 mis i
geisio deall yn iawn beth oedd gwir sefyllfa’r Gymraeg, a’i fod wedi gweld bod
y sefyllfa’n amrywio’n fawr o un rhan o Gymru i’r llall, gyda rhai mannau’n
gwneud iddo deimlo’n obeithiol ac eraill yn gwneud iddo deimlo’n isel ar
adegau. ·
Bod
gweinyddu mewnol Cymraeg a rhai o bolisïau Cyngor Gwynedd i’w canmol a bod lle
efallai i ledaenu’r ymarfer da yma ar draws Cymru. ·
Er
mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru oedd Strategaeth Iaith Gymraeg 2050, bod lle
iddo yntau, fel Comisiynydd, sicrhau bod y grymoedd oedd ganddo yn
atgyfnerthu’r strategaeth honno. ·
Mai
blaenoriaethau Swyddfa’r Comisiynydd yn y blynyddoedd cyntaf o ran y safonau ac
o ran awdurdodau lleol fu i sicrhau bod dogfennau a gwasanaethau ar gael yn
ddwyieithog, ond erbyn hyn roedd disgwyl i awdurdodau lleol fod yn hunan reoleiddwyr i raddau. ·
Bod
yna safonau llawer pwysicach na hynny o ran dyfodol yr iaith, sef safonau yn
ymwneud â’r angen i Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol asesu effaith amrywiol
bolisïau ar y Gymraeg a safonau’n ymwneud â gweinyddu mewnol. ·
Ei
fod hefyd yn awyddus iawn i wneud mwy o waith o ran y cynlluniau hybu, gan mai’r
unig ofyn ar gynghorau ar hyn o bryd oedd eu bod yn paratoi cynllun bob 5
mlynedd, ac nid oedd unrhyw gyfeiriad at fonitro na herio’r cynlluniau
hynny. Gan hynny, roedd yn awyddus bod y
Swyddfa yn edrych ar yr hyn oedd yng Nghynllun Hybu Gwynedd. ·
Bod
dyletswyddau’r Swyddfa wedi’u rhannu rhwng cyfrifoldebau rheoleiddio a
chyfrifoldebau hybu. Roedd gofyniad o
fewn y ddeddf bod y Swyddfa’n cyflawni’r cyfrifoldebau rheoleiddio, ond wrth
i’r cyfrifoldebau hynny gynyddu, a’r adnoddau brinhau, roedd yn mynd yn fwyfwy
anodd gwneud y gwaith hybu. Gan hynny,
roedd yn rhaid rhywsut sicrhau bod adnoddau yn cael eu rhyddhau yn fewnol i
alluogi i’r Swyddfa wneud mwy o waith hybu. ·
Er y cytunai gyda phob
pwynt yng Nghynllun Hybu Gwynedd, bod lle i ofyn
pa mor lwyddiannus oedd y Cyngor o ran yr hyn yr
anelid ato, e.e. o ran yr asesiad
digonolrwydd gofal plant, roedd tua 40% o’r
lleoliadau o fewn sefyllfaoedd dwyieithog, ond nid oedd
yna unrhyw ddiffiniad o ‘sefyllfa ddwyieithog’. · Bod sefyllfa’r Gymraeg yn amrywio’n fawr ar draws Gwynedd ac nad oedd wedi sylweddoli cynt bod rhai ardaloedd o’r sir mor Seisnigaidd. Cyfeiriodd yn benodol at y gwaith rhagorol oedd yn cael ei wneud gan bennaeth Ysgol Bro Idris o ran Cymreigio’r ysgol mewn amgylchiadau anodd iawn. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ADRODDIAD ADOLYGIAD BLYNYDDOL CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG (CSGA) PDF 56 KB Ystyried adroddiad
y Swyddog Gwasanaethau Corfforaethol Addysg
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
– adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol Addysg yn gwahodd y pwyllgor i
ystyried cynnwys yr adroddiad adolygu blynyddol a chynnig sylwadau. Ymhellach
i gynnwys yr adroddiad ac i gyflwyniad Comisiynydd y Gymraeg (eitem 5 uchod),
nododd y Pennaeth Addysg:- ·
Y cytunai’n llwyr fod y ddarpariaeth mewn ysgolion
mewn perthynas â chategori 2A wedi bod yn wendid yn y gorffennol, ond ers
dyfodiad y Strategaeth Iaith Uwchradd yng Ngwynedd, roedd gan yr awdurdod ddarlun
clir o’r sefyllfa ymhob ysgol bellach.
Roedd y wybodaeth honno’n hanfodol er mwyn llunio cynllun pwrpasol ar
gyfer yr holl sefyllfaoedd ieithyddol gwahanol ym mhob ysgol er mwyn cryfhau,
nid yn unig yr elfen defnydd cymdeithasol, ond hefyd i ddylanwadu ar gwricwlwm
iaith. ·
Na allai orbwysleisio i ba raddau roedd yr Adran yn
ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn gallu darparu'r holl ystod o wasanaethau i’r
dysgwyr mwyaf bregus drwy gyfrwng y Gymraeg (deilliant 6) a bod hyn yn glod i’r
staff ac i weledigaeth y Cyngor a’r buddsoddiad a wnaed yn y maes
yma. ·
Bod
y Gweinidog Addysg wedi llongyfarch Gwynedd ar y ffordd y bu i’r Cyngor sefydlu
system addysg wahanol yn Nolgellau, a olygai bod Cymreictod yr ysgolion cynradd
bellach yn treiddio drwy Ysgol Bro Idris.
Nododd hefyd y dymunai longyfarch y Pennaeth a’r staff a’r
llywodraethwyr ar eu gwaith yn hyrwyddo, yn mynnu ac yn sicrhau bod y Gymraeg
yn dal ei thir yn yr ysgol. ·
Bod
gan Bennaeth Ysgol Uwchradd Tywyn weledigaeth gadarn hefyd. Eto, fel Bro Idris, roedd Tywyn yn dalcen
caled o ran dylanwadu’n gadarnhaol o ran y Gymraeg, ond roedd y modd y bu i’r
ysgol fabwysiadu’r cynllun ar gyfer y Strategaeth Iaith Uwchradd wedi cael sylw
cenedlaethol ac yn ffordd ymlaen i unrhyw sefydliad arall. ·
Y
gwelwyd egin sylweddol o newid yn Ysgol Friars hefyd, gyda’r nifer oedd yn
sefyll Cymraeg Iaith Gyntaf ar gynnydd. ·
Bod
canran y plant oedd yn dod i’r cyfnod sylfaen o aelwydydd di-gymraeg ar
gynnydd. Roedd dirywiad mewn sgiliau
cymdeithasol plant yn ffactor hefyd, gyda phlant yn cychwyn y cyfnod sylfaen
heb sgiliau cyfathrebu mewn unrhyw iaith, ac roedd y ffaith bod bron pob un
ohonynt yn cael eu hasesu drwy’r Gymraeg ar ddiwedd blwyddyn 2 yn dyst i
lwyddiant y cyfnod sylfaen yng Ngwynedd.
·
Y
credid bod camau breision yn digwydd yn yr uwchradd hefyd yn sgil y ffaith bod
gan Wynedd y Strategaeth Iaith Uwchradd gyntaf o ran hyrwyddo’r Gymraeg yng
Nghymru. ·
Bod
llwyddiant y Siarter Iaith Cynradd wedi lledaenu drwy Gymru erbyn hyn a bod
hynny o ganlyniad i weledigaeth ysgolion cynradd Gwynedd yn ei fabwysiadu yn
2011. ·
Bod
Estyn bellach, am y tro cyntaf, yn mesur i ba raddau roedd ysgolion yn mesur
defnydd anffurfiol plant o’r Gymraeg, a bod hynny’n deillio’n uniongyrchol o
gyfarfod yng Nghaerfyrddin yn 2013 lle cyflwynwyd copi o Siarter Iaith Gwynedd
i’r Prif Arolygydd Ysgolion ar y pryd. · Y cytunai â’r Comisiynydd fod angen herio beth oedd cyd-destun ysgol o ran dwyieithrwydd a bod lle i fynd hefyd o ran wynebu a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
ADRODDIAD AELOD CABINET PDF 59 KB Ystyried adroddiad
yr Aelod Cabinet (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd
– adroddiad yr Aelod Cabinet yn rhoi diweddariad ar y prif ddatblygiadau ym
maes y Gymraeg ers cyfarfod diwethaf y pwyllgor. Gan
nad oedd amser yn caniatáu rhoi ystyriaeth lawn i’r adroddiad a bod yr Aelod
Cabinet yn gorfod gadael y cyfarfod ar y pwynt yma, gwahoddwyd yr aelodau i
gysylltu gydag unrhyw gwestiynau ar yr adroddiad. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
IECHYD MEDDWL A'R IAITH GYMRAEG Derbyn cyflwyniad
gan y Swyddog Cefnogi Busnes. Cofnod: Derbyniwyd
cyflwyniad gan y Swyddog Cefnogi Busnes ar y ddarpariaeth iechyd meddwl trwy
gyfrwng y Gymraeg, yn deillio o’i gwaith ymchwil ar gyfer ei gradd meistr. Diolchodd y
Cadeirydd i’r swyddog am y cyflwyniad gan bwysleisio bod casgliadau’r gwaith
ymchwil yn profi’r angen ieithyddol am y ddarpariaeth yma. PENDERFYNWYD cytuno â chasgliadau’r
gwaith ymchwil a gwahodd y Swyddog Cefnogi Busnes i gynnal gweithdy ar y pwnc
yma gyda holl aelodau’r Cyngor gan fod yna gymaint o gyfoeth o wybodaeth yn y
cyflwyniad, a honno’n wybodaeth sy’n berthnasol i bawb, ac oherwydd bod y
swyddog wedi gorfod rhuthro drwy ei chyflwyniad gan fod amser yn brin. |
|
TREFNIADAU GWEITHIO MEWN SEFYLLFA DDWYIEITHOG - TIMAU ADNODDAU CYMUNEDOL PDF 43 KB Ystyried
adroddiad yr Arweinydd Rhaglen Trawsffurfio Iechyd a Gofal Cymunedol (Gwynedd a
Môn)
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNWYD gohirio’r eitem tan y cyfarfod nesaf gan nad oedd amser bellach
yn caniatáu rhoi sylw teg
i’r adroddiad, a hefyd gan nad
oedd awdur yr adroddiad, sef
Arweinydd Rhaglen Trawsffurfio Iechyd a Gofal Cymunedol (Gwynedd a Môn) yn gallu bod yn
bresennol yn y cyfarfod hwn. |
|
ADRODDIAD CANMOLIAETH A CHWYNION PDF 69 KB Ystyried adroddiad
yr Ymgynghorydd Iaith (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Ymgynghorydd Iaith yn cyflwyno’r
wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor am gwynion ac enghreifftiau o lwyddiant wrth hybu defnydd o’r
Gymraeg yng ngwasanaethau’r Cyngor. Eglurodd yr Ymgynghorydd Iaith fod nifer o’r
cwynion yn dyddio o gyfnod cyn y cyfarfod diwethaf, ond na adroddwyd arnynt yn flaenorol
gan nad oeddent
wedi eu datrys
ar y pryd. Nododd aelod ei fod yn
croesawu derbyn y cwynion hyn gan
eu bod yn rhoi darlun o’r
hyn sy’n digwydd ar lawr
gwlad. Gan nad
oedd amser yn caniatáu rhoi
ystyriaeth lawn i’r adroddiad, gwahoddwyd yr aelodau i
gysylltu gydag unrhyw gwestiynau. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad. |