Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Caderiydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/2021 Penderfyniad: Etholwyd y Cynghorydd Elin Walker Jones yn
Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2020/21 Cofnod: PENDERFYNWYD ail
ethol y Cynghorydd Elin Walker Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y
cyfnod 2020/21 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/2021 Penderfyniad: Etholwyd y
Cynghorydd Cai Larsen yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2020/21 Cofnod: PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Cai
Larsen yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2020/21 |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd John Pughe Roberts |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 16 o Ionawr 2020 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod
blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 20fed o Hydref 2020 fel rhai cywir. |
|
TROSOLWG O EFFAITH COVID 19 AR WASANAETHAU A GWEITHGAREDDAU A GYNHELIR TRWY'R GYMRAEG PDF 472 KB I ystyried yr
adroddiad Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: -
Derbyn yr adroddiad gan ddatgan
diolch i’r Swyddogion Iaith am eu holl waith dros y cyfnod -
Ysgrifennu llythyr at y Comisiynydd Iaith yn
datgan pryder nad oes modd i staff Cyngor Gwynedd gyfrannu trwy’r Gymraeg bob
amser mewn cyfarfodydd rhithiol a drefnir gan sefydliadau allanol oherwydd nad
ydynt yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd rhithiol. -
Ysgrifennu llythyr
at Gwmni Microsoft yn eu hannog i ddarparu cyfieithu ar y pryd i gyfrwng Teams -
Derbyn diweddariad ar waith yr Is grŵp Cenedlaethol
sydd yn trafod materion technoleg gwybodaeth yn y cyfarfod nesaf Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Ymarferydd Iaith a Chraffu yn crynhoi'r
cyfleoedd a’r heriau mae adrannau amrywiol wedi eu hwynebu o ran parhau i
weithredu'r polisi iaith yn sgil Covid 19. Cyflwynwyd
hefyd ddiweddariad ar brosiectau amrywiol sydd wedi eu cyflawni er gwaetha’r
sefyllfa, er mwyn hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yng Ngwynedd. Adroddwyd, yn gyffredinol bod pawb yn nodi nad oedd y feirws wedi amharu ar eu gallu i ddarparu gwasanaeth
cyfrwng Cymraeg gan eu bod wedi addasu eu ffordd o ddarparu gwasanaeth a
pharhau i gynnig gwasanaethau trwy’r Gymraeg. Fodd bynnag, amlygwyd rhai bod
posibilrwydd o ddiffyg cyfle anffurfiol i sgwrsio yn y Gymraeg mewn swyddfa, ar
y coridor neu yn y gegin, yn arbennig y rhai sydd ddim yn cael cyfle i siarad Cymraeg
llawer tu allan i’r gwaith.
Mewn ymateb, nodwyd bod y Cynllun
Cyfeillion Cymraeg yn cynnig y cyfleoedd anffurfiol hynny i ddysgwyr allu
cadw’r momentwm wrth weithio gartref ynghyd a sesiynau ychwanegol o
hyfforddiant ar-lein sydd wedi bod yn gadarnhaol. Amlygwyd mai un pryder a ddaeth i’r amlwg yn yr arolwg oedd nad oedd
posib i staff gyfrannu trwy’r Gymraeg bob amser mewn cyfarfodydd allanol
rhithiol a oedd wedi eu trefnu gan sefydliadau eraill oherwydd diffyg defnyddio
technoleg sy’n galluogi defnydd rhwydd o’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
Eglurwyd nad oedd pob sefydliad allanol yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y
pryd ar gyfer cyfarfodydd rhithiol gyda rhai yn amharod i ddefnyddio Zoom oherwydd pryderon diogelwch. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan Aelodau: ·
Ei bod
yn ofynnol ar gyrff cyhoeddus yn Gymru i ddarparu cyfleoedd Cyfieithu mewn
cyfarfodydd - bod darpariaeth ar gael i wneud hyn - angen tynnu sylw’r
Comisiynydd Iaith at y broblem ·
Awgrym
i gynnal cwis i hybu cyfleodd i ymarfer siarad Cymraeg ·
Byddai’n
fuddiol derbyn gwybodaeth am y nifer sydd wedi mynychu / cyfranogi digwyddiadau
ar-lein. ·
Rhoi pwysau ac ymgyrchu ar Microsoft i roi adnodd
cyfieithu ar y pryd i mewn i Teams (sydd yn cael ei
ffafrio gan Gynghorau eraill) ·
Y
Gymraeg yn datblygu fel cyfrwng cyfoes, modern mewn technoleg ac yn cael ei
ddefnyddio ymysg yr ifanc - angen manteisio ar hyn ·
Angen sicrwydd
bod y gwasanaeth ‘Tracio ac Olrhain’ ar gael yn y Gymraeg Mewn ymateb i’r sylwadau, amlygwyd bod y
Comisiynydd Iaith yn ymwybodol o’r rhwystrau ynglŷn â darparu cyfleoedd
Cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd. Amlygwyd bod is -grŵp cenedlaethol
wedi ei sefydlu i geisio datrysiadau. Ategwyd bod Cyngor Gwynedd yn rhannu ymarfer
da gyda Chynghorau a Phartneriaethau i wella’r ddarpariaeth os nad ydynt yn
cael defnyddio zoom. Cynigwyd rhoi diweddariad ar
waith yr is-grŵp yn y cyfarfod nesaf Mewn ymateb i gadw momentwm gyda gwersi Cymraeg, nodwyd bod ‘Cynllun
Cymraeg i Gefnogi’ wedi ei sefydlu sydd yn llwyddiannus iawn. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynlluniau sirol Arfor a pharhad ymrwymiad y Llywodraeth i’r cynllun, adroddwyd bod y misoedd diwethaf mewn gwirionedd wedi bod yn gyfnod prysur iawn i’r cynllun gyda’r cynlluniau yn cael eu haddasu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
SAFONAU'R GYMRAEG A PHOLISI IAITH Y CYNGOR PDF 313 KB I ystyried yr
adroddiad Penderfyniad: Derbyn
yr adroddiad Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan yr Ymgynghorydd Iaith yn rhoi diweddariad bras
ar y gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo dros y misoedd diwethaf yng
nghyd-destun y Safonau Iaith a’r dyletswyddau adrodd. Amlygwyd bod y Gwasanaeth
yn gyffredinol, yn parhau i lwyddo i gydymffurfio gyda gofynion y Safonau, ond
bod rhai meysydd o bryder yn codi, gyda themâu pendant yn amlygu eu hunain sydd
yn gosod meysydd gwaith penodol.
Adroddwyd bod y Gwasanaeth wedi bod yn rhagweithiol wrth gysylltu gyda’r
Comisiynydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i drafod pryderon ynghyd a’r
rhwystrau wrth gomisiynu systemau ac apiau allanol.
Ategwyd bod cynnal sgyrsiau agored yn datblygu dealltwriaeth a chydweithio da
sydd yn cael effaith bositif wrth geisio dylanwadu ar gyrff allanol sydd ar
brydiau yn anwybodus am statws yr iaith a gofynion y Safonau yng Nghymru -
enghraifft o hyn yw’r templed asesiad effaith. Cyfeiriwyd at yr heriau ynghyd a’r meysydd datblygol gan dynnu sylw at
yr adroddiad sgiliau sydd yn mynegi bod canran gallu'r Gymraeg o fewn y Cyngor
yn ‘uchel iawn’ gyda 99.1% yn cyrraedd gofynion y swydd. Tynnwyd sylw pellach
at Adroddiad Sicrwydd Comisiynydd Gymraeg 2019-20 - Cau’r Bwlch ac y byddai’r
adroddiad yn cael ei rannu gyda’r Aelodau drwy e-bost. Amlygwyd bod bwriad
adolygu’r Polisi Iaith ym mis Ionawr gan nad oedd rhai cymalau yn ddigon cadarn
mewn rhai meysydd. Nodwyd y byddai’r gwaith yn cael ei rannu i ddau gategori -
newidiadau gweinyddol, sydd yn golygu man newidiadau i olygu geiriad, er mwyn
gwneud gofynion yn fwy eglur, a newidiadau mawr / egwyddor sydd yn golygu’r
angen i drafod a chael cytundeb i weithredu rhai cyd-destunau. Adroddwyd y byddai
eitem yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf ar ddiwygiadau posib i’r Polisi. Diolchwyd am yr adroddiad Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau
canlynol gan Aelodau: ·
Bod angen
cyflwyno delwedd Gymreig ar draws y Cyngor ·
Cais am adroddiad
cwynion iaith - holiadur halenu wedi ei anfon allan i weithwyr Adran Priffyrdd yn
uniaith Saesneg ·
Bod defnydd o
gyfryngau cymdeithasol yn cael effaith ar y blynyddoedd cynnar - awgrym i
ymchwilio i mewn i hyn Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chael ‘default’
Cymraeg ar wefannau cymdeithasol adroddwyd bod gwaith ymchwil ar ddefnydd y
cyhoedd o’r wefan yn cael i wneud gyda thîm y we a’r uned gyfathrebu. Ategodd y
r Aelod Cabinet bod hyn yn her dechnegol, ond bod nifer yr ymwelwyr i’r wefan
sydd yn defnyddio Cymraeg yn galonogol. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â thempled asesu effaith nodwyd bod
pob penderfyniad Cabinet yn gofyn am asesiad cydraddoldeb gydag iaith yn cael
ei gynnwys fel un elfen o’r asesiad hwn. Nodwyd bod Swyddfa’r Comisiynydd yn
datblygu canllawiau fyddai’n edrych yn benodol ar rai meysydd i sicrhau
cydymffurfiaeth. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chyfeiriad medrusrwydd iaith a dyletswydd y sefydliad i gyrraedd y safon gyda chyfleoedd ar gael i hyrwyddo dysgu Cymraeg os nad yw’n ofynnol i’r swydd, nodwyd bod y safon yn cyrraedd ac yn pasio'r gofynion ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |