Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Virtual Meeting
Cyswllt: Natalie Lloyd Jones E-bost: NatalieLloydJones@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Elin Walker Jones ac Kevin Morris Jones. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. COFNODION: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2021 fel rhai cywir (ynghlwm). COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 28ain Ionawr,
2021 fel
rhai cywir. Rhannodd
y Cadeirydd ymateb a
dderbyniwyd gan yr AS Ken Skates. Nododd y llythyr
y bydd penderfyniad ynghylch dyfodol y
rhaglen Arfor yn
cael ei wneud wedi iddynt dderbyn gwerthusiad o’r rhaglen bresennol. |
|
CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG 2019 - 2023: CYFRANIAD ADRAN YMGYNGHORIAETH PDF 472 KB Ystyried yr
adroddiad. Penderfyniad: a) Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. b) Dymuno’n dda i’r adran yn eu hymgais barhaol i hyrwyddo
defnydd y Gymraeg ymhellach ymysg eu staff. COFNODION: a. Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. b. Dymuno’n
dda i’r adran yn eu hymgais barhaol i hyrwyddo defnydd y Gymraeg ymhellach
ymysg eu staff. Cyflwynodd y Pennaeth Adran YGC ei
adroddiad yn amlygu’r camau a gymerwyd o fewn
yr adran er mwyn hybu’r Gymraeg ymysg staff. Cododd
y pwyntiau pwysig fel a ganlyn; · Nododd
bod yr adran wedi profi llwyddiant drwy gydweithio gyda’r Swyddogion Iaith er
mwyn eu rhoi ar ben ffordd gyda’u hymdrechion. · Eglurodd
bod staff wedi cwblhau Hunan-asesiadau
iaith i’w clymu i fewn i’r
drefn ac o ganlyniad wedi sylweddoli ba pwyslais sydd ar ddefnyddio’r
iaith. · Ategodd
bod canran uchel o staff di-gymraeg yn yr adran o gymharu ag adrannau eraill o
fewn y Cyngor. · Rhannodd
bod 92% o aelodau staff yn cwrdd â gofynion eu swydd ond eglurodd ei bod wedi
cymryd peth amser i gymryd fan hyn drwy wersi a dulliau eraill. · Nododd
bod y cynllun cyfeillion
wedi helpu i sicrhau bod defnydd iaith yn
cael ei hyrwyddo yn naturiol ymysg siaradwyr Cymraeg. · Rhannodd
enghraifft o un swyddog a ymunodd yn ystod y cyfnod clo gan
nodi bod Swyddog arall yn ei chefnogi i
gychwyn sgyrsiau yn y Gymraeg. · Eglurodd
mai asgwrn cefn y llwyddiant yw gwersi Cymraeg drwy Teams a
drwy’r bartneriaeth â’r Brifysgol - nododd bod hyn ar y cyd efo cyswllt
rheolaidd gyda swyddogion Iaith. · Rhoddodd
bwyslais ar yr aelodau staff canlynol; Alex Jones,
Nansi John ac Owain Angus Duncan sydd
wedi llwydo â’u hymdrechion ac
o ganlyniad i hynny wedi
ennill gwobr goffa Dafydd Orwig. · Nododd
o 2014 ymlaen bod staff yn mynd i gyfweliadau a chyfarfodydd mewn perthynas â
chymwysterau proffesiynol ac yn Defnyddio’r Gymraeg Rhoddwyd
cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth,
codwyd y sylwadau canlynol:- · Gofynnodd aelod
beth yw polisi penodi’r adran er mwyn sicrhau penodi staff
sy’n siarad Cymraeg. Ategodd y byddai’n werthfawr bod mewn sefyllfa lle gall y
Cyngor ysgogi mwy o siaradwyr Cymraeg i
ddilyn gyrfaoedd technegol ac arbenigol er mwyn osgoi’r
trafferthion penodi. · Diolchodd
yr aelod am y cyflwyniad ac yn ychwanegol at y Swyddogion Iaith am weithio’n ddiwyd
ym mhob adran. · Gofynnodd a
oedd cyfle
i ddylanwadu ar y rhan ddeiliad a chontractwyr allanol
i ddefnyddio Cymraeg pan maent yn delio a’r adran YGC. · Holodd
aelod faint o staff sy’n gweithio o fewn yr adran er mwyn gosod cyd-destun i’r
ffigyrau oedd wedi cwblhau’r hunanasesiad. · Awgrymodd aelod
y dylai’r
Cyngor weld
yr elw buan o’r cydweithio sydd wedi bod
rhwng y Cyngor a’r system addysg leol i hyrwyddo pynciau STEM ymysg disgyblion
lleol. · Mynegodd
aelod bod yr adroddiad yma
yn dod gan adran sy’n wynebu llawer mwy o
heriau nag eraill i benodi siaradwyr Cymraeg
oherwydd y sgiliau penodol sydd angen. · Ategodd
at hyn gan ofyn ba ymdrech sy’n
cael ei wneud i gyrraedd y gweithlu arbenigol
ar draws Gymru at ddibenion penodi. · Holodd aelod sut mae’r adran yn sicrhau defnydd o dermau ... view the full COFNODION text for item 5. |
|
CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG 2019 - 2023: CYFRANIAD ADRAN ECONOMI A CHYMUNED PDF 461 KB Ystyried yr
adroddiad. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. COFNODION: Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cyflwynodd y Pennaeth Adran Economi a Chymuned ei
hadroddiad gan nodi’r ymatebion a phrif bwyntiau o ran hyrwyddo’r iaith Gymraeg
o fewn yr adran. Ategodd bod yr adran Economi a Chymuned mewn sefyllfa wahanol
i adran fel yr YGC gan fod rhan fwyaf o’r staff yn gallu’r Gymraeg ac yn ei
ddefnyddio oherwydd natur eu gwaith. Cychwynnodd
gan bwysleisio bod 97% o staff yr adran wedi cyrraedd y dynodiad iaith
ddisgwyliedig. Ategodd bod mwy o waith i wneud ymysg staff sydd wedi bod yn yr
adran am amser hir ac yn gallu’r Gymraeg ond ddim yn ei ddefnyddio. Nododd nad
oedd heriau recriwtio a bod staff newydd ieuengach yn tueddu i ddefnyddio’u
Cymraeg yn naturiol. Cyfeiriodd
at yr adroddiad sy’n cynnwys dolenni perthnasol ar gyfer mwy o wybodaeth
ynghylch hyrwyddo’r iaith. Tynnodd sylw at y prif bwyntiau fel a ganlyn; · Bod
gan yr adran gobeithion y byddai modd cyllido
dilyniant i gynllun Arfor os
bydd arian ar gael. · Fuodd
cynllun i gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg i fusnesau sy’n anghyfarwydd a
diwylliant Cymreig yn un llwyddiannus er mwyn hybu’r Gymraeg o fewn y sector
Twristiaeth. · Ymfalchïodd
yn y gwasanaeth llyfrgelloedd lle mae 100% o
staff yn siaradwyr Cymraeg ac
yn ei ddefnyddio’n naturiol. Fel
gweithwyr yn y gymuned, cydnabuwyd bod
ganddynt rôl ychwanegol fel
hyrwyddwyr iaith ymysg llyfrgellwyr. Rhannodd lythyr gan un o drigolion sy’n
defnyddio’r gwasanaeth ac wedi ymddiddori yn yr iaith o ganlyniad
i’r ymdrechion gan y staff. · O
ran cytundebau gyda chwmnïau allanol, nododd mai’r gwasanaeth hamdden oedd yr
her fwyaf iddynt er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg, yn arbennig mewn ardaloedd llai
Cymreig yn y Sir. · Eglurodd
bod hyn wedi ei ddatrys yn rhannol wrth i gwmni Byw’n Iach gymryd yr awenau.
Sicrhaodd bod y cwmni yn glynu at bolisi iaith y Cyngor fel rhan o’u contract · Nododd
bod rhwystrau mewn rhai achosion, er enghraifft rhagwelir bydd diffyg Cymraeg
mewn cyfarfodydd gyda Llywodraeth Prydain er mwyn trafod cyllid, gan na fydd
Llywodraeth Cymru’n gyfrifol dros ddyrannu hwn. Rhoddwyd
cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion canlynol:- · Mynegodd
aelod ei thristwch na fydd Llywodraeth Cymru’n gyfrifol am ddyrannu cyllid i
raglenni newydd ac ategodd y byddai effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg. · Croesawu
twristiaeth gynaliadwy - gwerthu lle fel cyrchfan yn negyddol, neu ormodedd yn
dinistrio beth mae’r bobl yn dod i’w cael. · Ymfalchïodd
bod newid pwyslais ar y math o dwristiaeth sy’n fuddiol i ardal fel Gwynedd sef
y math cynaliadwy. · Cytunodd
aelod bod angen i gwmni Byw’n Iach ymrwymo i hyrwyddo’r
Gymraeg ymysg eu staff. Gofynnodd sut mae hyn yn cael
ei fesur a herio gan yr adran. · Gofynnodd aelod am fwy o wybodaeth ynghylch y gwahaniaeth fydd rhwng delio a grantiau o Lundain yn hytrach o Gaerdydd a faint o ddylanwad fydd gan y Cyngor i fynnu defnydd o’r Gymraeg. Ategodd bod eisoes enghraifft gyda’r Bwrdd Uchelgais Economaidd sy’n cael ei arwain fwy gan San Steffan ac mae’n ... view the full COFNODION text for item 6. |
|
POLISI TROSGLWYDDO IAITH YN Y CARTREF LLYWODRAETH CYMRU PDF 361 KB Ystyried yr
adroddiad. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. COFNODION: Derbyn yr
adroddiad gan nodi’r
sylwadau a dderbyniwyd. Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Iaith gwybodaeth ynghylch polisi
trosglwyddo iaith yn y cartref gan Lywodraeth Cymru. Ategodd y buodd
ymgynghoriad ar ddechrau’r flwyddyn ddiwethaf cyn y cyfnod clo cyntaf, ac o
ganlyniad i hyn nad yw’r polisi wedi dod o flaen y pwyllgor fel dogfen ddrafft. Eglurodd
prif ddiben y polisi sef ffocysu ar drosglwyddo iaith o fewn y cartref yn unig
a chynnig arweiniad er mwyn galluogi rhieni a gofalwyr i gyflwyno’r
Gymraeg i’w plant yn y cartref. Croesawodd yr Ymgynghorydd Iaith y ddogfen gan
egluro ei fod yn manylu ar faes allweddol, sef annog rhieni sydd wedi dysgu
Cymraeg eu hunain o fewn y system addysg i drosglwyddo’r iaith ar yr aelwyd
gyda’u plant hwy. Eglurodd
bod ambell i ddatblygiad ymhellach angen gan gynnwys; · Datblygu
gwell dealltwriaeth ar ymarferion iaith a rhesymau siaradwyr dros beidio
trosglwyddo. · Amseru’r
cyhoeddiad sef cyn cyhoeddiad canlyniadau’r cyfrifiad diweddaraf sydd â data
defnyddiol ynghylch yr iaith Gymraeg · Diffyg
ystyriaeth i effaith y pandemig Covid-19 ar arferion
iaith tra bu’r ysgolion ar gau. · Diffyg
manylder gydag ambell i gam o fewn y polisi a sut i’w gwireddu. · Ei
bod yn anwybyddu teuluoedd lle mae’r Gymraeg yn iaith naturiol. · Elfennau
sut i ysbrydoli plant i ddefnyddio eu Cymraeg ac ail gynnau’r sgiliau drwy
gefnogi’r teulu cyfan. Rhoddwyd
cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion canlynol:- · Cytunodd
aelodau bod diffyg manylder o fewn y polisi a bod angen enghreifftiau cyfredol
o sut y bwriedir gweithredu’r camau. · Ategodd
aelod bod tystiolaeth yn ymddangos mewn ysgolion bod effaith negyddol sy’n
deillio o ddefnydd gormodol o sgriniau dros y cyfnod clo wedi newid arferion
iaith. Ategodd bod hyn yn cynnwys plant yn siarad Saesneg â’u brodyr a
chwiorydd. · Rhoddodd
un aelod sylw bod pwyslais yr adroddiad ar ardaloedd lle mae plant yn ennill eu
Cymraeg drwy'r system addysg ond yn peidio â throsglwyddo’r Gymraeg ar yr
aelwyd gyda’u plant hwy yn y dyfodol. Ategodd mai rheswm dros hyn yw gan mai
Saesneg yw eu mamiaith. · Mynegodd
aelod nad oedd pwyslais ar broblemau sydd fan
hyn mewn
ardal lle mae Cymraeg yn iaith naturiol o fewn y cartref i’r mwyafrif · Ategodd
aelod at hyn gan nodi nad oes sicrwydd beth fydd effaith tymor hir y cyfnodau
clo ar yr iaith gan fod arferion plant wedi newid. |