Lleoliad: Zoom - I gael mynediad cyhoeddus i’r cyfarfod, cysylltwch â ni.
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Penderfyniad: Cynghorydd
Elin Walker Jones Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan y Cynghorydd Elin Walker Jones Cadeiriwyd
y cyfarfod gan yr Is-gadeirydd y Cynghorydd Judith
Humphreys gan fod y Cadeirydd, y Cynghorydd Alwyn
Gruffydd yn profi problemau technegol. |
|||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Penderfyniad: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant
personol. |
|||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Penderfyniad: Ni godwyd unrhyw faterion
brys. Cofnod: Dim i’w nodi |
|||
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2021 fel rhai cywir (ynghlwm). Penderfyniad: Fe nodwyd y
cofnodion fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar y 19 Hydref 2021 fel rhai cywir yn ddarostyngedig ar gynnwys y
Cyng. Eric M Jones yn bresennol yn y cyfarfod. |
|||
CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG : ADRAN ADDYSG PDF 490 KB Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran Addysg i
weithrediad y Polisi Iaith a Chynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Addysg, y Cynghorydd Cemlyn Williams yn manylu ar gyfraniad yr Adran Addysg i
weithrediad y Polisi Iaith a Chynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd. Manteisiodd
ar y cyfle i amlygu rhai o uchafbwyntiau'r Adran Addysg ynghyd a rhai heriau
maent yn wynebu i’r dyfodol. Tynnwyd sylw at ‘Cyfundrefn Addysg Drochi
tuag at 2032 a thu hwnt’ a'r buddsoddiad o £1.1 miliwn o arian cyfalaf addysg
Gymraeg Llywodraeth Cymru i sefydlu safleoedd addysg drochi o’r newydd yn Tywyn
a Bangor, ynghyd â gwella’r cyfleusterau presennol ym Mhorthmadog. Cyfeiriwyd
at y strategaeth ddysgu digidol arloesol ac uchelgeisiol sydd yn anelu i
ddarparu gliniaduron a/neu ddyfeisiadau digidol i holl ddisgyblion ac athrawon
y sir gan sicrhau mynediad didrafferth at waith yn yr ysgol ac yn y cartref.
Ategodd y Pennaeth Addysg mai’r gobaith yw ffurfweddu’r dyfeisiadau yn y
Gymraeg fyddai’n galluogi’r plant i gyfathrebu gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau
yn y Gymraeg a’u hannog i ddefnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol. Yng nghyd-destun rhai o’r heriau, amlygwyd
pryder bod safon yr iaith a sgiliau iaith cymdeithasol wedi dirywio mewn rhai
ardaloedd yn ystod y pandemig. Ystyriwyd hynny yn
anochel efallai, oherwydd bod llai o gyswllt rhwng disgyblion a’u hathrawon /cymorthyddion, er ymgais cyson gan ysgolion i gadw
cysylltiad gyda disgyblion i geisio adennill tir. Cyfeiriwyd at yr her o
recriwtio staff gyda chymwysterau addas i alluogi darparu gwasanaeth a/neu
ddysgu drwy’r Gymraeg, a hefyd at brinder therapyddion iaith a seicolegwyr
addysg sydd, er yn bryder cenedlaethol, i’w weld yn waeth yng Ngwynedd oherwydd
yr angen am wasanaeth dwyieithog. Ategwyd bod trafodaethau cyson gyda
Llywodraeth Cymru i geisio lliniaru’r broblem. Diolchwyd am
yr adroddiad Rhoddwyd cyfle
i aelodau’r pwyllgor holi cwestiynau a derbyniwyd ymatebion i‘r cwestiynnau hynny gan y Swyddogion
Addysg A fyddai modd gweithredu yn rhyngweithiol
drwy geisio newid trywydd gyrfa staff dysgu, (drwy ariannu cynlluniau hyfforddi
perthnasol) i fod yn seicolegwyr addysg? Yr Adran Addysg wedi bod yn rhyngweithiol yn
lleol mewn ymgais i recriwtio seicolegwyr addysg. Cynigion bwrsariaeth wedi bod
yn llwyddiannus. Cynnig arall yw ceisio ennyn diddordeb drwy ddarpariaeth ôl 16
gan dargedu agweddau o brentisiaethau yn y maes. Cyfeiriwyd at
y ffaith bod canran defnydd o’r Gymraeg fel iaith gyntaf yn y cyfnod sylfaen
yng Ngwynedd yn uwch nag unrhyw sir arall yng Nghymru, ond bod cwymp i’w weld
ar ddiwedd bl 9. Holwyd a yw’r cwymp yn un
cyffredinol ar draws y Sir neu a yw’n benodol i rai lleoliadau yn unig? Ymddengys pan fydd disgyblion yn dewis eu pynciau TGAU a llwybr gyrfa ar ddiwedd Bl9 bod nifer helaeth yn dewis pynciau drwy’r Saesneg. Er nad oedd tystiolaeth i roi sylwedd i’r farn, bod y sefyllfa er hynny yn bodoli. Nodwyd bod ysgolion, gyda chefnogaeth yr Adran Addysg, yn hyrwyddo’r Gymraeg ac yn annog disgyblion i barhau gydag addysg Gymraeg. Nodwyd bod yr Adran Addysg yn cydweithio gyda Chanolfan Bedwyr ym Mangor i geisio sicrhau bod hyfforddiant ac adnoddau digidol Cymraeg ar gael i hwyluso mynediad i athrawon a disgyblion ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|||
CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG : CEFNOGAETH GORFFORAETHOL PDF 625 KB Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran Cefnogaeth
Gorfforaethol i weithrediad y Polisi Iaith a Chynllun Hybu’r Gymraeg yng
Ngwynedd Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Nia
Jeffreys, Aelod Cabinet dros Cefnogaeth Gorfforaethol. Nodwyd fod y Gymraeg yn
un o brif flaenoriaethau’r Adran a tynnwyd sylw at rai o brif brosiectau’r
Adran (Prosiect Prentisiaethau, Prosiect Enwau Llefydd Cynhenid, Hysbysebu
Swyddi a Datblygiad Hunaniaith) ynghyd a’r gwaith
cefndirol sydd wedi ei wneud gan y Tîm Caffael. Eglurwyd fod gwaith blaenllaw
wedi ei wneud yn y maes Cydraddoldeb i ddatblygu templed asesu effaith
integredig sydd yn gosod ystyriaethau ieithyddol o fewn asesiadau effaith
Cydraddoldeb, a bod y datblygiad yma wedi cael ei fabwysiadu gan weddill y 5
awdurdod yng Ngogledd Cymru. Llongyfarchwyd y gwaith yma. Eglurwyd fod yr adran
yn blaenoriaethu recriwtio mwy o staff dwyieithog, yn enwedig yn yr adran
gyfreithiol. Ategodd
Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol fod holl staff yr Adran yn gweithio drwy
gyfrwng y Gymraeg. Nododd bod yr Uned Iaith yn rhan o’r Adran ac yn dilyn
penderfyniad y Cabinet, bod bwriad penodi Pen Swyddog Iaith i arwain Hunaniaith a’i ddatblygu i fod yn endid annibynnol tu hwnt
i’r Cyngor i’r dyfodol. Eglurwyd bod y
Cynllun Cadw’r Budd yn Lleol wedi ei ddatblygu i gynnwys ‘gwerth cymdeithasol’
fel rhan o’r ystyriaethau i gontractau busnesau. O ganlyniad, nodwyd fod
datblygu sgiliau Cymraeg yn cael ei gynnwys mewn contractau rhwng y Cyngor a
chwmnïau allanol. Ym maes Hysbysebu Swyddi, nodwyd fod gwaith
wedi ei wneud ar y cyd gyda’r Comisiynydd Iaith i allu derbyn ffurflenni DBS yn
y Gymraeg (yn hytrach nag yn uniaith Saesneg) ynghyd a gwaith cyffelyb i annog
derbyn tystysgrifau uniaith Gymraeg yng Nghymru yn ogystal â derbyn
tystysgrifau dwyieithog os yn cofrestru yn Lloegr. Pwysleisiwyd
fod yr holl brentisiaethau sy’n ymuno a’r Cyngor yn cytuno i fuddsoddi yn y
Gymraeg. Mynegwyd
gwerthfawrogiad i’r gwaith cyfieithu rhithiol sy’n cael ei wneud dros Zoom. Eglurwyd ei bod yn ofynnol i’r Cyngor ddefnyddio Zoom i gael y gwasanaeth cyfieithu, er mai TEAMS ydi’r
adnodd ffurfiol sy’n cael ei ddefnyddio gan y Cyngor i gyfathrebu yn rhithiol
yn ddyddiol. Mae’r Uned Gyfieithu bellach wedi llwyddo i addasu a hyfforddi i
ddarparu’r gwasanaeth ar-lein ar ZOOM. Nodwyd fod y
Cyngor wedi bod yn cyd-weithio gyda’r corff IOSH i ddefnyddio eu hadnoddau mewn
sesiynau hyfforddi staff, yn benodol o fewn y maes Iechyd a Diogelwch. Dywedwyd mai yn Saesneg yr oedd yr adnoddau i gyd yn cael eu derbyn yn
hanesyddol, ond bod y Cyngor wedi pwyso i gael caniatâd i gyfieithu’r adnoddau
er mwyn sicrhau bod ein staff yn gallu cwblhau’r gwaith yn Gymraeg. Atgoffwyd yr
aelodau fod yr Adran yn parhau i rannu Tip Cymraeg y mis i’r staff gael atgoffau
eu hunain o reolau gramadegol amrywiol yn y Gymraeg a bod caniatáu gwasanaethau
drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn un o brif flaenoriaethau ‘Cynllunio’r
gweithlu’ Tynnwyd sylw at hysbyseb gan Brifysgol Bangor am fyfyriwr i gyflawni ymchwil PhD mewn defnydd y cyhoedd o wasanaethau Cymraeg mewn sefydliad cyhoeddus. Eglurwyd y bydd Cyngor Gwynedd yn cydweithio ar y prosiect ac y bydd y dystiolaeth ymchwil yn cael ei gasglu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|||
CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG : ADRAN TAI AC EIDDO PDF 566 KB Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran Tai ac Eiddo i
weithrediad y Polisi Iaith a Chynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y
Pennaeth Tai ac Eiddo a eglurodd yn fras bod yr Adran yn cynnwys cymysgedd o
wasanaethau rheng flaen sy’n golygu ymdrin â nifer o gwsmeriaid a budd-ddeiliad
sydd, yn eu tro, angen gwasanaeth dwyieithog a pharch tuag at eu dewis o iaith
(tu hwnt i Gymraeg a Saesneg mewn rhai sefyllfaoedd) Amlygwyd bod yr Adran yn rhoi
blaenoriaeth i gydymffurfio gyda Pholisi Iaith y Cyngor ac yn eu gallu i gynnig
gwasanaeth Cymraeg i’w defnyddwyr gwasanaeth boed yn fewnol neu yn allanol.
Adroddwyd, yn ôl yr Adroddiad Chwarterol Dynodiadau Iaith ddiweddaraf bod 95% o
staff yr Adran yn cyrraedd neu efo sgiliau y tu hwnt i Ddynodiadau Iaith ei
swyddi, sydd ychydig yn uwch na chyfartaledd Y Cyngor o 92%. Wrth drafod rhai o
uchafbwyntiau’r Adran nodwyd mewn nifer o’r prosiectau bod yr Adran yn ceisio
cadw pobl yn eu cartrefi, yn lleol a thrwy weithredu hyn yn atgyfnerthu'r
Gymraeg yn y cymunedau hynny. Tynnwyd sylw hefyd at ddefnydd o’r Iaith mewn
Contractau Adeiladu - er mai Saesneg a ddefnyddir i gael mynediad i’r farchnad
ehangach, mae cymalau yn y cytundebau yn nodi y dylai unrhyw arwyddion, byrddau
gwybodaeth neu gylchlythyrau fod yn ddwyieithog ac na chaniateir arwyddion
uniaith Saesneg. Petai ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o brosiect, eglurwyd y
byddai disgwyl i'r contractwyr ei gynnal yn y Gymraeg / dwyieithog neu os nad
yw hynny’n bosib, darparu cynrychiolwyr sydd yn siarad Cymraeg neu gyfieithydd.
Cyfeiriwyd hefyd at yr angen i dendrau gwerth uchel ddarparu Ymateb Buddion
Cymdeithasol. Nodwyd bod staff wedi mynychu
cyrsiau gloywi iaith gyda mwy wedi eu trefnu i’r dyfodol a bod bwriad datblygu
rhagor o hyfforddiant penodol yn y Gymraeg yn y maes Tai (rhan fwyaf o’r
hyfforddiant yn digwydd yn y Saesneg). Er nad yw hynny yn rhwystro nac yn atal eu
gallu i weithredu, y brif nod yw cyflwyno’r hyfforddiant yn Gymraeg neu’n
ddwyieithog. Diolchwyd am yr adroddiad Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn
cwestiynau a chynnig sylwadau. A oes bwriad gan yr Adran Tai i
adeiladu tai cymunedol eu hunain neu brynu stoc tai teras mewn ardaloedd trefol
er mwyn eu tynnu oddi ar y farchnad /sefyllfa tai rhent preifat sydd yn arwain
at ddefnydd Air B&B neu dai amlbreswyliaeth? Yr Adran yn canolbwyntio ar dai marchnad agored a thai gwag, ond erbyn
hyn yn edrych i brynu tai teras at ddefnydd pobl leol. Er bod bwriad prynu tai,
y farchnad dai ar hyn o bryd yn ‘boeth’ a’r Adran wedi gorfod gosod mesurau yn
eu lle i ymateb yn gyflym i’r farchnad. Ategwyd bod diddordeb wedi ei amlygu
mewn nifer o dai ar werth, gydag un wedi ei brynu hyd yma. PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. |
|||
YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU : CYNLLUN TAI CYMUNEDAU CYMRAEG PDF 365 KB Cyflwyno papurau’r Ymgynghoriad a gwahodd sylwadau gan yr
aelodau ar gynnwys y ddogfen. Bydd yr Uned Iaith yn llunio ymateb i’r ymgynghoriad
ar sail y sylwadau a dderbynnir. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn
yr adroddiad gan ofyn i’r Uned Iaith lunio ymateb i’r ymgynghoriad ar sail y
sylwadau a dderbyniwyd gan yr Aelodau. Cofnod: Cyflwynwyd dogfennau gan yr Ymgynghorydd Iaith ynghylch ymgynghoriad Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg Llywodraeth Cymru er gwybodaeth. Eglurwyd bod yr ymgynghoriad cynnig camau i geisio
mynd i’r afael â’r sefyllfa
dai presennol ac yn deillio o ganfyddiadau
adroddiad Simon Brookes yn
2021. Nodwyd bod cyfle i’r Pwyllgor roi
sylwadau fyddai’n cael eu hychwanegu
at ymateb yr Uned Iaith i’r Ymgynghoriad. Amlygwyd pryderon,
Sylwadau yn
codi o’r drafodaeth ddilynol:
|
|||
YMCHWIL TAI NEWYDD YNG NGWYNEDD PDF 324 KB Cyflwyno canlyniadau’r gwaith ymchwil er gwybodaeth i’r
aelodau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: ·
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau ·
Cyfeirio cais gan aelodau’r Pwyllgor at yr Aelod
Cabinet perthnasol i ystyried diweddaru’r wybodaeth yn dyfodol Cofnod:
|