Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679256
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer 2023-2024. Penderfyniad: Penderfynwyd
ethol y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn yn gadeirydd y Pwyllgor Iaith ar gyfer y
flwyddyn 2023/24. Cofnod: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd
Elfed Wyn ap Elwyn yn gadeirydd y Pwyllgor Iaith ar gyfer y flwyddyn 2023/24. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2023-2024. Penderfyniad: Penderfynwyd
ethol y Cynghorydd Llio Elenid Owen yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Iaith am y
flwyddyn 2023/24. Cofnod: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd
Llio Elenid Owen yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Iaith am y flwyddyn 2023/24. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn ymddiheuriadau am amseboldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Eirwyn Williams a Menna
Baines. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd 24 Ebrill 2023 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2023 fel rhai cywir. |
|
Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith,
a sut yr ydym yn mynd ati i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn ein gwaith. Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Uwch Reolwr Busnes, Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a thynnwyd sylw’n
fras at y prif bwyntiau canlynol: Eglurwyd bod systemau technolegol
yn cael eu diweddaru i gyd-fynd ag anghenion trigolion y Sir. Rhannwyd esiampl
o ddiweddaru technoleg Teleofal, sy’n cysylltu
unigolion â chanolfannau galwadau i dderbyn cymorth, wrth iddynt bwyso botwm ar
freichled neu pendant penodol. Nodwyd bod dros 1500 o bobl yn defnyddio’r offer
yma yng Ngwynedd ar hyn o bryd. Manylwyd bod y
gwasanaeth hwn wedi cael ei ddarparu drwy gyfrwng Saesneg yn hanesyddol, ond
bod yr Adran yn awyddus i gynnig y ddarpariaeth hon drwy gyfrwng y Gymraeg ac
mewn tafodiaith leol Gwynedd. Eglurwyd bod yr adran yn ceisio sicrhau’r
datblygiad hwn drwy uwchraddio’r holl offer i fod yn ddigidol erbyn 2025 ac i
gomisiynu cwmnïau i gynorthwyo datblygiad y gofynion ieithyddol. Adroddwyd bod grŵp
‘ Mwy na Geiriau’ wedi cael ei sefydlu ers blwyddyn ac yn cael ei gadeirio gan
Gyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd. Eglurwyd bod y
grŵp yn gosod mesuriadau perfformiad i’r Adran er mwyn derbyn cadarnhad eu
bod yn
cyrraedd eu targedau ieithyddol. Esboniwyd bod ymchwiliadau
ar system ddigidol y gwasanaeth gofal (WCCIS) yn cael eu cwblhau er mwyn gweld
faint o unigolion sy’n dymuno derbyn gofal drwy gyfrwng y Gymraeg a faint o
weithwyr cymdeithasol yr Adran sy’n gallu cynnig y gwasanaeth hwnnw’n Gymraeg.
Dengys hyn a yw’r Adran yn cyrraedd gofynion trigolion sy’n derbyn gofal ai
peidio. Cadarnhawyd bod mwyafrif helaeth y gweithwyr cymdeithasol yn llwyddo i
ddarparu’r gwasanaeth yn Gymraeg. Atgoffwyd yr aelodau bod
gwasanaethau yn cael eu cynnig i unigolion yn Gymraeg a bod staff yn darparu y
cynnig rhagweithiol. Nodwyd bod angen i’r cleifion wneud cais am ofal drwy
gyfrwng Saesneg os ydynt yn dymuno hynny. Cadarnhawyd byddai’r Adran yn
atgoffa’r gweithwyr o’r trefniant hynl. Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Mewn ymateb i gwestiwn eglurwyd bod
yr Adran yncydweithio gyda nifer o asiantaethau a
chyrff allanol a bod pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod yr iaith
Gymraeg yn un o flaenoriaethau’r holl bartneriaid un ogystal â a darparu gofal
i unigolion yn yr iaith sydd fwyaf cyfforddus iddynt . Diolchwyd am yr adroddiad. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. |
|
POLISI IAITH A GWEITHGAREDDAU HYBU'R GYMRAEG - ADRAN PLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD PDF 447 KB Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith, a sut yr ydym yn mynd ati i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn ein gwaith. Penderfyniad: Cofnod: ·
Cadarnhawyd bod y
Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar yn cydweithio gydag aelodau CWLWM (5 sefydliad
arweinio cenedlaethol gofal plant yng Nghymru) i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar
draws lleoliadau gofal plant yng Ngwynedd. ·
Eglurwyd bod Cynllun
‘Croesi’r Bont’ yn parhau gan y Mudiad Meithrin er mwyn trochi’r Gymraeg o fewn
y cylchoedd a dosbarthiadau meithrin. ·
Nodwyd bod Gwasanaeth Blynyddoedd
Cynnar yn cynnig grantiau o £100 i warchodwyd plant preifat newydd di-gymraeg i
helpu prynu adnoddau Cymraeg. ·
Esboniwyd bod yr adran
yn darparu cymorth i rieni ddysgu Cymraeg drwy sesiynau ‘clwb cwtch’ ar lein y Mudiad Meithrin a hefyd drwy gynnal
cyrsiau ‘Friends’ drwy gyfrwng y Gymraeg gyda
chymorth Tîm Cefnogi Teulu Tîm Trothwy a Gwasanaethau Ieuenctid. ·
Sicrhawyd bod anghenion
ieithyddol yn ffactor wrth benderfynu ar faterion megis cynnwys pecynnau gofal
a’r gefnogaeth i blant bregus, lleoliadau gofal a maethu/mabwysiadu. Eglurwyd
bod angen i rai plant o dan ofal yr Adran cael eu symud i ardal all-sirol
oherwydd materion diogelwch ond cadarnhawyd bod Gweithwyr Cymdeithasol yn
parhau i gyfarch anghenion ieithyddol y plentyn drwy ymweliadau ac adnoddau. ·
Adroddwyd bod 55 o
ddarparwyr Addysg Feithrin yng Ngwynedd yn derbyn cefnogaeth Athrawes
Blynyddoedd Cynnar gan yr Adran. Eglurwyd eu bod yn darparu addysg feithrin
cyfrwng Cymraeg am 10 awr y wythnos i blant 3 oed er mwyn eu trochi yn yr iaith
a chyflwyno’r iaith iddynt fel iaith addysgu. ·
Esboniwyd bod rhwydwaith
o weithwyr Cymorth Ieuenctid y Gwasanaeth Ieuenctid yn darparu cyfleon dysgu
anffurfiol ac achrediadau i bobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg. Eglurwyd bod hyn
yn llwyddo i bontio gweithgareddau’r ysgol â rhai cymdeithasol megis Gwobr Dug
Caeredin, ble mae holl elfennau’r wobr ar gael yn y Gymraeg drwy Ap newydd. ·
Cadarnhawyd
bod holl ddeunyddiau’r rhaglen ‘Amddiffyn Plant yn Effeithiol’ wedi cael eu
datblygu’n Gymraeg a Saesneg ar gyfer defnydd rhanbarthol a chenedlaethol. ·
Rhannwyd bod grŵp o
ofalwyr maeth o Wynedd wedi creu fideo fel rhan o ymgyrch maethu cenedlaethol
Maethu Cymru. Nodwyd bod y fideo yn cael ei chyflwyno’n Gymraeg gydag
is-deitlau Saesneg ac yn cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol yn aml i
ddenu pobl i feddwl am faethu. ·
Esboniwyd bod yr Adran
wedi arwain ar sefydlu Fframwaith Gweithgareddau a Chwarae i blant, pobl ifanc
a theuluoedd ar draws Gwynedd. Manylwyd bod 24 o ddarparwyr gweithgareddau wedi
cael eu cymeradwy ar y fframwaith er mwyn darparu cyfleoedd chwarae drwy
gyfrwng y Gymraeg. ·
Ymfalchïwyd bod dros 50
o sefydliadau lleol wedi dod yn ynghyd i gynnid gweithgareddau llesiant i bobl
ifanc yn ddiweddar fel rhan o Ŵyl Llesiant Ieuenctid Gwynedd. · Nodwyd bod yr Adran wedi bod yn cydweithio gyda Thîm Llesiant y Cyngor i ddatblygu Ap ‘Ai Di’ er mwyn darparu ffordd hwylus i ofalwyr ifanc gadw cyswllt gyda’u hysgol, ac i’w ddefnyddio yn gymunedol er mwyn cael gostyngiadau ar weithgareddau a gwasanaethau. Eglurwyd bod yr ap hwn wedi derbyn canmoliaeth genedlaethol yn ddiweddar gan ei fod yn cyrraedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD AR WEITHREDIAD Y SAFONAU IAITH PDF 355 KB Cyflwyno’r
Adroddiad Blynyddol draft i’r Aelodau er mwyn iddynt argymell i’r Aelod Cabinet gymeradwyo
cyhoeddi’r Adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: · Derbyn yr
adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. · Argymhellwyd i’r
Aelod Cabinet gyhoeddi’r adroddiad erbyn y terfyn amser (30 Mehefin 2023). Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan yr Ymgynghorydd Iaith a thynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau
canlynol: Eglurwyd bod
gofyniad statudol i gyhoeddi adroddiad blynyddol ar gydymffurfiaeth â’r safonau
ieithyddol yn unol ag Adran 44 Deddf Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Nodwyd bod
angen cyhoeddi’r adroddiad hon erbyn 30 Mehefin 2023. Adroddwyd bod y
ffigyrau isod wedi cael eu cynnwys o fewn yr adroddiad: · Bod 99.4% o staff y Cyngor cyfan yn
meddu ar ryw fath o sgiliau yn y Gymraeg. · Bod 93% o staff y
Cyngor yn cyrraedd lefel Sylfaen neu uwch, ac felly yn gallu siarad Cymraeg. · Bod 833 o hysbysebion swyddi wedi eu
cyhoeddi yn ystod y flwyddyn lle'r oedd sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol. · Bod
Polisi Iaith newydd wedi ei gyhoeddi, gyda pholisïau atodol. · Bod camau penodol
i wella cydymffurfiaeth wrth ymgynghori ar benderfyniadau polisi. · Bod adolygiad o
systemau TG wedi ei gychwyn i sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda’r Polisi o
ran arddel enwau Cymraeg, a’r Safonau o ran ymateb i ohebiaeth yn Gymraeg neu
ddwyieithog. Amlygwyd rhai o’r
heriau y bydd yr Uned Iaith a Chraffu yn rhoi sylw iddynt yn ystod y flwyddyn
nesaf er mwyn gwella’r ddarpariaeth ddwyieithog a’r cynnig rhagweithiol
Cymraeg. Nodwyd bod yr heriau hyn yn cynnwys: · Codi ymwybyddiaeth
staff am union ofynion y safonau iaith. Ystyriwyd bod angen i’r Cyngor bod
yn rhannu’r wybodaeth hyn gyda staff
mewn ffyrdd creadigol er mwyn cadarnhau fod pawb yn ymwybodol o’r gofynion. · Bod lleihad bychan dros y blynyddoedd
diwethaf ar y nifer o staff sy’n dewis cwblhau cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Pwysleisiwyd bod yr uned yn bwriadu cynnal trafodaethau gyda Thîm Dysgu a
Datblygu er mwyn edrych i weld sut gallent fod o gymorth. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod
y drafodaeth, codwyd y materion canlynol: ·
Cadarnhawyd nad oedd unrhyw swydd wedi cael ei hysbysebu gan y Cyngor
nad oedd yn nodi’r sgiliau ieithyddol oedd yn angenrheidiol i gyflawni’r swydd.
Eglurwyd bod gofynion dynodiad iaith yn amrywio o hysbyseb i hysbyseb, yn unol
â gofynion y rolau a gyflawnwyd o fewn y swyddi. ·
Eglurwyd bod unigolion ar lefel Sylfaen Cymraeg yn hyderus i siarad yr
iaith ac yn gallu cyfathrebu’n effeithiol. Eglurwyd bod rhai swyddi’n chwilio
am unigolion sy’n meddu â sgiliau Uwch, ond bod hyn yn amrywio gyda’r rôl.
Atgoffwyd yr aelodau bod gan y Cyngor weithdrefn effeithiol er mwyn cefnogi
gweithwyr sy’n dysgu’r iaith a bod y trefniant hwn yn cael ei ddefnyddio i
ddatblygu sgiliau ieithyddol unrhyw aelod o staff sydd angen cymorth. Diolchwyd am yr
adroddiad PENDERFYNWYD · Derbyn yr
adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. ·
Argymhellwyd i’r Aelod Cabinet gyhoeddi’r adroddiad
erbyn y terfyn amser (30 Mehefin 2023). |
|
CANLYNIADAU YMGYNGHORI STRATEGAETH IAITH GWYNEDD 2023 PDF 345 KB Cyflwyno
canlyniadau a cychwynol yr ymgynghoriad gan y gwasanaeth Ymchwil a Dadansoddeg,
a gwahodd sylwadau gan yr aelodau am ymateb posib yr Uned Iaith a Chraffu wrth
lunio’r strategaeth derfynol.. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr
adroddiad, a’r wybodaeth a gyflwynwyd yn Atodiad 1, gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Iaith.
Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol: Atgoffwyd bod Safonau’r Gymraeg (Mesur y
Gymraeg)(Cymru) 2011 yn gosod gofynion ar y Cyngor i lunio strategaeth 5
mlynedd sydd yn nodi sut y maent yn bwriadu mynd ati i hyrwyddo a hybu defnydd
o’r Gymraeg o fewn y Sir. Nodwyd bod angen i’r Cyngor egluro sut mae’r
gweithredoedd hyn am gyfrannu at amcanion cenedlaethol Cymraeg 2050 i gynyddu
nifer siaradwyr Cymraeg. Eglurwyd bod cyfnod y strategaeth hybu
bresennol yn dod i ben ym mis Hydref 2023. Nodwyd bod y cyfnod adolygu wedi
cychwyn ar ddechrau 2023 a chynhaliwyd sesiynau trafod gydag aelodau Cabinet, y
Pwyllgor Iaith a Fforwm Iaith Gwynedd er mwyn derbyn mewnbwn, cyn cynnal cyfnod
ymgynghori ar y strategaeth ddrafft rhwng 17 Ebrill a 21 Mai 2023. Adroddwyd bod 159 o
ymatebion electronig ac un llythyr o ymatebiad wedi cyrraedd y gwasanaeth.
Manylwyd bod trawstoriad da o bob rhan o’r Sir, gyda’r rhan fwyaf o ymatebwyr
yn unigolion rhwng 35 a 74 oed. Cadarnhawyd mai dim ond 3 ymatebiad oedd gan
bobl o dan 34 oed a phwysleisiwyd bydd y gwasanaeth yn ystyried yn ofalus sut
maent yn casglu barn y garfan yma o’r gymuned yn y dyfodol. Esboniwyd bod 72.3% o’r ymatebwyr yn cytuno
gyda’r bwriad i ganolbwyntio ar gynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.R oedd hyn yn thema cyffredin mewn nifer o
ymatebion er mwyn galluogi pobl i fagu hyder wrth siarad Cymraeg. Cadarnhawyd y bydd
ystyriaeth yn cael ei roi i newidiadau neu addasiadau i’r strategaeth derfynol
er mwyn ymateb i rai o’r sylwadau yn yr ymgynghoriad. Manylwyd bydd drafft
terfynol yn cael ei rannu ag adrannau mewnol er mwyn gallu adnabod ffrydiau
gwaith fydd yn ateb yr amcanion ac yn creu rhaglen waith cychwynnol. Rhannwyd y bwriedir cyflwyno drafft terfynol
y strategaeth i’r Cabinet ym mis Hydref 2023. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y mater canlynol: · Nodwyd bod ymatebion i’r ymgynghoriaeth yn isel
fwy na thebyg oherwydd bod gan y Cyngor nifer o ymgynghoriadau ar y gweill yr
un pryd. Cytunwyd bod angen ystyried dulliau newydd i rannu gwybodaeth er mwyn
i’r adborth a dderbynnir fod yn adlewyrchiad teg o farn y cyhoedd ond
cydnabuwyd bod heriau yn wynebu cynnal ymgynghoriaethau
ar hyn o bryd – megis heriau cyfryngau cymdeithasol a heriau i dderbyn ymatebion
gan drawstoriad o oedrannau gwahanol. · Cadarnhawyd nad yw’r gwasanaeth wedi ymchwilio hyd yma, i effeithiau
Dealltwriaeth Artiffisial (Artificial Intelligence - AI) ar yr iaith Gymraeg yn y dyfodol.
Pwysleisiwyd bod y dechnoleg hon wedi datblygu’n gyflym a bydd gwaith ymchwil
yn cael ei wneud iddo yn ystod cyfnod y strategaeth hon. · Pwysleisiwyd bod dyletswydd ar y Cyngor i roi ystyriaeth i holl
ymatebion yr ymgynghoriaeth. Cytunwyd mai lleiafrif
o’r ymatebion oedd yn negyddol ond nodwyd bod rhaid i swyddogion fod yn
ymwybodol o’r sylwadau hyn wrth fynd ymlaen i lunio drafft terfynol. Diolchwyd am yr adroddiad. PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad, a’r wybodaeth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |