Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Natalie Lloyd Jones E-bost: NatalieLloydJones@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan y Cynghorydd Eirwyn Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Bu i’r Cynghorydd Aled
Lloyd Evans ddatgan buddiant ar eitem 5 gan ei fod yn aelod o bwyllgor Menter y Plu. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 12 o Dachwedd 2020 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 12fed o Dachwedd,
2020 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR GYNLLUN ARFOR PDF 430 KB I roi
diweddariad i’r pwyllgor ar gynllun Arfor. Awdur: Annwen
Davies. Penderfyniad: -
Derbyn yr adroddiad. -
Ysgrifennu at Lywodraeth
Cymru a Chabinet Cyngor Gwynedd i fynegi cefnogaeth a dymuniadau’r pwyllgor i
weld parhad y cynllun Arfor wedi Mawrth 2021. Cofnod: PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad ac fel cam pellach ysgrifennu
at Lywodraeth Cymru a Chabinet Cyngor Gwynedd i fynegi cefnogaeth a
dymuniadau’r pwyllgor i weld parhad cynllun Arfor
wedi Mawrth 2021. Cyflwynodd y Rheolwr Rhaglen Datblygu Gwynedd Wledig ei
hadroddiad yn diweddaru’r pwyllgor ar raglen Arfor.
Eglurodd bod y rhaglen, a oedd â’r
nod o hybu
pobl i gychwyn a thyfu eu busnesau yn lleol, yn dod i ben eleni. O ganlyniad,
awgrymodd ei bod
yn amserol tynnu sylw’r aelodau
at y llwyddiannau a heriau a wynebwyd.
Amlygodd y prif bwyntiau canlynol ystod ei chyflwyniad:- ·
Nododd bod y rhaglen yn
dod i ben fis Mawrth 2021 ac
o ganlyniad y byddent yn
treulio’r cyfnod nesaf yn sicrhau
gwariant. ·
Tynnodd sylw at bedwar
prosiect llwyddiannus ddaeth yn sgil
y rhaglen a’r cyllid. Yn gyntaf
trafododd ‘Ffiws’, sef
gofod gwneud ar y stryd fawr ym Mhorthmadog sy’n
cynnig defnydd i fusnesau lleol o beiriannu megis argraffydd 3D. ·
Cyfeiriodd at un achos
o lwyddiant lle daeth busnes i ddefnyddio’r offer gan symud
ymlaen i brynu offer o’r math eu hunain er mwyn datblygu eu busnes ymhellach. ·
Soniodd am y prosiect
‘Llwyddo’n Lleol’ a ddigwyddodd ar
y cyd rhwng Gwynedd a Môn a oedd yn galw am syniadau busnes pobl ifanc lleol.
Bwriad y prosiect oedd
hyrwyddo’r syniad i bobl ifanc leol aros yng Ngwynedd gan ddangos
iddynt y posibiliadau busnes sydd ar gael. ·
Eglurodd bod diddordeb
mawr wedi
bod, gyda
10
unigolyn ifanc yn manteisio ar y cyfle. Wedi
derbyn cymorth y prosiect, nododd bod oddeutu 80%
wedi symud ymlaen i ddatblygu busnes. ·
Rhoddodd drosolwg o ‘Her
Cymunedau Mentrus’ sef her oedd yn ymateb i’r economi leol wrth greu swyddi.
Ymhelaethodd ar rai
o’r prosiectau fu’n elwa megis gofod gweithio yn Henblas a Menter y Plu. ·
Pwysleisiodd y Rheolwr
Rhaglen Datblygu Gwynedd Wledig mai nifer
isel o fusnesau oedd wedi dewis
gohirio eu cynlluniau oherwydd y cyfnod argyfwng Covid-19.
Dengys hyn bod y busnesau wedi manteisio ar y cyfle i ddatblygu eu
busnesau er gwaethaf y
cyfnod clo. ·
Ar derfyn y rhaglen,
mynegodd nad oedd yn sicr beth oedd y cam nesaf er mwyn sicrhau cyfleoedd i fwy
o fusnesau ddatblygu yn lleol. Rhoddwyd
cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, nodwyd
y canlynol:- ·
Diolchwyd i’r Rheolwr
Rhaglen Datblygu Gwynedd Wledig am
yr adroddiad a nododd aelod
ei brwdfrydedd
dros Arfor. ·
Mynegwyd siom
nad oes parhad i’r
rhaglen a chynigwyd bod
angen pwyso ar y Llywodraeth yn wleidyddol i gefnogi parhad
y rhaglen. ·
Cytunwyd â’r cynnig a
nodwyd y dylai’r pwyllgor hysbysu’r Cabinet o hyn. Mewn
ymateb i rai o’r sylwadau a’r cwestiynau, nododd y Rheolwr
Rhaglen Datblygu Gwynedd Wledig y
pwyntiau isod:- · Nodwyd y bydd modd datgan nifer y swyddi sydd wedi eu creu wedi i’r gwaith monitro gael ei gwblhau. Dywedodd mai’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ADOLYGIAD BLYNYDDOL CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG PDF 321 KB I gyflwyno Adroddiad Adolygu Blynyddol
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) i’r pwyllgor. Awdur: Debbie Anne Williams
Jones. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad. Cofnod: PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad. Rhoddodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Addysg ragymadrodd i’r
adroddiad gan dynnu sylw at y cyfnod heriol a wynebodd yr
ysgolion dros y cyfnodau clo. Mewn perthynas â’r Gymraeg mewn ysgolion, nododd
bod heriau i ddod wrth i blant fethu ar
fod yn rhan o awyrgylch Gymreig o’r ysgol a’r dosbarth. Rhoddodd y Rheolwr
Gwasanaethau
Corfforaethol Addysg drosolwg o’r adroddiad blynyddol
ar weithrediad yr adran. Ategodd
mai ffocws yr adroddiad y tro hwn
oedd ar weithdrefnau ac nid ar ddata. Eglurodd
bod cynnwys yr adroddiad yn cwmpasu’r dulliau a ddefnyddiwyd
er mwyn ymdopi a’r newidiadau i addysg. Nododd bod y canolfannau iaith wedi
wynebu heriau o barhau i gynnig profiad
Cymreig i’r plant, fodd bynnag bachwyd ar y cyfle i arloesi drwy ddefnyddio
sesiynau dysgu byw. Nododd yn ychwanegol bod y dulliau yma'n sicrhau bod y
Gymraeg yn cyrraedd cartrefi’r dysgwyr er mwyn cynnal eu sgiliau iaith. Yn
ogystal â chefnogi dysgwyr, nododd bod gan y
Cynllun Strategaeth Gymraeg Mewn Addysg flaenoriaeth
arall, sef
i gefnogi gweithlu hyderus yn y Gymraeg. Ategodd
y Pennaeth
Addysg bod sicrhau
defnydd y Gymraeg yn un o brif heriau ysgolion
wrth ddychwelyd gan nodi elfen o bryder bod hyn yn dirywio. Parhaodd
i drafod adolygiad thematig Estyn gan bwysleisio bod gweithdrefnau Gwynedd wedi
eu cydnabod fel enghraifft o arfer dda. Cyfeiriodd yn
uniongyrchol at ddulliau arloesol y canolfannau iaith o ddarparu addysg dros y
cyfnod clo a bod hyn yn cael ei adnabod fel cryfder yn genedlaethol. Rhoddwyd
cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion canlynol:- · Llongyfarchwyd yr
adran ar y dulliau arloesol a ddefnyddir sy’n
cael eu cydnabod
fel arfer da, a phwysleisiwyd bod mwy o bwysau nag erioed ar yr iaith Gymraeg
wrth i addysgu o bell barhau. · Gofynnwyd
a fydd camau i asesu’r niwed sydd wedi bod ar ddefnydd yr iaith Gymraeg ag i
ddiwallu’r anghenion ychwanegol fydd angen wrth ddychwelyd i’r ysgol. · Mynegwyd bod
yr awdurdod yn amlwg wedi
cymryd camau gwerthfawr i
amddiffyn y Gymraeg mewn sefyllfa anodd. · Atgoffwyd
yr aelodau o’u
rolau pwysig
fel llywodraethwyr ysgol a’u dylanwad hwy ar ymdrechion i gynnal y Gymraeg o
fewn y dosbarth a thu hwnt. Mewn
ymateb i rai o’r sylwadau a’r cwestiynau uchod, nododd y Rheolwr
Gwasanaethau
Corfforaethol Addysg :- · Ei
fod yn galonogol i glywed aelodau etholedig
yn gwerthfawrogi a nodi’r gwaith amddiffyn iaith
sydd yn digwydd mewn ysgolion a chanolfannau iaith yng Ngwynedd. · Bwriedir
sefydlu gwaelodlin i asesu’r sefyllfa iaith wedi i’r holl
ddysgwyr ddychwelyd i’r
dosbarth. · Ategodd
y Pennaeth Addysg y gofynnwyd
i’r Adran Addysg arwain ar ddarn o waith ymchwil trawsadrannol gyda
phartneriaid megis GwE,
Mudiad Meithrin, y Gwasanaeth Iechyd a chanolfannau Addysg Bellach. Ategodd mai
bwriad y gwaith fydd adnabod meysydd lle bo gagendor lles wedi ymddangos yn
sgil Covid-19. · Nododd mai un ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
I hysbusu’r
pwyllgor am unrhyw gwyion. Awdur:
Gwenllian Williams. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad. Cofnod: PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad. Cyflwynodd yr
Ymgynghorydd Iaith ei hadroddiad
ar y wybodaeth ddiweddaraf am
gwynion ac enghreifftiau o lwyddiant ac
arfer dda wrth hybu defnydd o’r Gymraeg yng
ngwasanaethau’r Cyngor. Amlygodd y
prif bwyntiau
canlynol yn ystod
ei chyflwyniad:- · Nododd
bod yr amgylchiadau presennol wedi ei gwneud
yn anodd cynnal rhai gwasanaethau megis cyfarfodydd
a phwyllgorau rhithiol o ganlyniad i ddiffyg cyfleuster cyfieithu ar Teams.
Fodd bynnag, erbyn hyn mae’r Cyngor yn defnyddio Zoom er
mwyn darparu cyfieithu ar y pryd. · Eglurodd
bod y cyfnod presennol wedi hwyluso datblygiad sgiliau staff, er enghraifft
gwelwyd cynnydd yn y niferoedd o staff sy’n dysgu Cymraeg a manteisio ar
gyrsiau hyfforddiant. · Rhoddodd
gyfeiriad uniongyrchol at staff Byw’n Iach, sydd
wedi bod yn anodd eu cyrraedd o ran datblygu sgiliau yn y gorffennol. · O
ran cwynion am gydymffurfiaeth efo’r Safonau,
nododd nad oedd cwynion ffurfiol i adrodd
arnynt, ond bod ambell
ymholiad wedi eu derbyn lle
cafodd y mater ei
ddatrys yn sydyn heb gyfeiriad pellach. · O
ran polisi iaith, nododd bod dwy gŵyn
wedi eu derbyn,
un a gafodd ei datrys yn sydyn ac un ychydig yn fwy
cymhleth oherwydd mai gwraidd y gwyn oedd argaeledd
dewis iaith ar ddyfais dechnolegol. Rhoddwyd
cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau ar
yr adroddiad. Gan
nad oedd amser yn caniatáu rhoi ystyriaeth lawn i’r adroddiad, gwahoddwyd yr
aelodau i gysylltu â’r uned Iaith
gydag unrhyw gwestiynau neu sylwadau pellach. |