Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2024-2025.

Penderfyniad:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Menna Baines yn gadeirydd y Pwyllgor Iaith ar gyfer y flwyddyn 2024/25.

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Menna Baines yn gadeirydd y Pwyllgor Iaith ar gyfer y flwyddyn 2024/25.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2024-2025.

Penderfyniad:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Meryl Roberts yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Iaith am y flwyddyn 2024/25.

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Meryl Roberts yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Iaith am y flwyddyn 2024/25.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Gwynfor Owen a Nia Haf Lewis (Ymgynghorydd Iaith).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

6.

COFNODION pdf eicon PDF 132 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnoi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Ebrilll, 2024 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Ebrill 2024 fel rhai cywir.

 

7.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG - Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL pdf eicon PDF 218 KB

I gyflwyno gwybodaeth am gyfraniad y Gwasanaethau Cymdeithasol i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Reolwr Busnes a Phennaeth Cynorthwyol Adnoddau. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol gan nodi bod yr Adroddiad yn cwmpasu gwaith yr Adran Blant a Chefnogi Teuluoedd yn ogystal â’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant:

 

Esboniwyd bod yr Adroddiad yn cwmpasu gwaith y ddwy adran am y tro cyntaf oherwydd bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cyhoeddus yn arwain ar brosiect ‘Mwy na geiriau’ o fewn y maes Gofal.

 

Adroddwyd ar ddatblygiad Academi Gofal i geisio ymdopi â heriau recriwtio mae’r maes Gofal wedi bod yn ei wynebu yn ddiweddar. Manylwyd bod trafferthion recriwtio yn effeithio Awdurdodau Lleol ar hyd y wlad gyda heriau penodol mewn rhai meysydd ac ardaloedd daearyddol. Pwysleisiwyd mai nod yr Academi yw cynorthwyo unigolion i ddatblygu eu hunain ac amlygu llwybr gyrfaol clir o fewn y maes gofal. Esboniwyd y gobeithir cyrraedd y targedau hyn drwy gynnig cefnogaeth a hyfforddiant er mwyn sicrhau bod unigolion yn cymhwyso i fod yn ofalwyr drwy gyfrwng y Gymraeg boed ar gyfer swyddi Therapyddion Galwedigaethol, Rheolwr Cartref neu unrhyw agwedd arall o’r maes gofal. Mynegwyd balchder ar ddatblygiad y cynllun hwn gan nad yw hyfforddiant Cymraeg ar gael ym mhob agwedd o’r maes, megis prentisiaethau, ar hyn o bryd. Esboniwyd bod yr academi yn bodoli’n rhithiol ar hyn o bryd ond gobeithir cael lleoliad penodol yn y dyfodol.

 

Cydnabuwyd bod trafferthion recriwtio yn her sy’n wynebu’r ddwy Adran gan nodi bod y broblem yn dwysau wrth ymdrechu i benodi swyddi mwy arbenigol sydd gyda’r  sgiliau ieithyddol angenrheidiol. Tynnwyd sylw bod her benodol i’w gael yn y maes gofal cartref a gofal preswyl nyrsio oherwydd nid oes modd recriwtio digon sydyn i gyfarch y gofyn am y gwasanaethau. Pwysleisiwyd bod adrannau yn sicrhau eu bod yn parhau i roi hyfforddiant a chefnogaeth i holl weithwyr sydd angen cymorth gyda’r iaith Gymraeg ac yn nodi bod llenwi swyddi gwag a datrys yr heriau recriwtio yn flaenoriaeth iddynt. Sicrhawyd bod darparwyr gofal yn cael cefnogaeth y Cyngor er mwyn sicrhau bod gweithwyr yn cael amser penodol o fewn oriau gwaith er mwyn meithrin eu sgiliau Cymraeg. Er hyn, cydnabuwyd bod y trefniant hwn yn ddibynnol ar y darparwyr hynny yn gweithredu yn ôl y gofyn.

 

Ymhelaethwyd bod yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd wedi cael peth llwyddiant gydag ymgyrchoedd recriwtio yn ddiweddar ond cydnabuwyd bod heriau dal i’w gweld yn ardal Meirionnydd. Nodwyd mai her arall yw sicrhau lleoliadau preswyl Cymraeg i blant sy’n dymuno hynny gan fod yr holl leoliadau preswyl yn eiddo i’r sector breifat ar hyn o bryd. Pwysleisiwyd bod gan y Cyngor gynlluniau i ddatblygu lleoliadau preswyl mewnol. Cydnabuwyd bod yr adran yn dilyn prosesau recriwtio’r Cynngor ac yn ystyried ymgeiswyr gyda sgiiau ieithyddol is os yw’r swydd yn cael ei hysbysebu am y drydedd gwaith. Os oes rhywun gyda sgiiau ieithyddol is na’r gofyn yn cael cynnig y swydd sicrheir bod rhaglen hyfforddiant Cymraeg yn cael ei weithredu ar ddechrau cyflogaeth yr unigolyn. Pwysleisiodd y ddwy adran eu bod yn ymdrechu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD AR WEITHREDIAD Y SAFONAU IAITH pdf eicon PDF 185 KB

Cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol draft i’r Aelodau er mwyn iddynt argymell i’r Aelod Cabinet gymeradwyo cyhoeddu’r Adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

·       Argymell i’r Aelod Cabinet gyhoeddi’r adroddiad erbyn terfyn amser, 30 Mehefin 2024.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu a thynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Adroddwyd bod yr adroddiad yn darparu gwybodaeth ffeithiol sy’n ofynnol i’r Cyngor ei gyhoeddi yn unol â gofynion y Safonau Iaith dan Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

 

Nodwyd bod y Safonau yn gosod rhai gofynion penodol ar gyfer adrodd blynyddol gan bwysleisio’r disgwyliad i gadarnhau:

 

·        Nifer y cwynion a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn

·       Niferoedd staff sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg ar ddiwedd y flwyddyn

·       Nifer yr aelodau o staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a gynigwyd gan y Cyngor drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod y flwyddyn

·       Nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a hysbysebwyd gan y Cyngor a nodwyd sgiliau Cymraeg fel sgil hanfodol i’r rôl.

 

Darparwyd crynodeb o’r adroddiad gan gadarnhau bod 98.9% o staff y Cyngor cyfan yn meddu ar ryw fath o sgiliau yn y Gymraeg. Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg bod lefel dynodiad swydd isaf yn y Gymraeg yn nodi ei fod yn ofynnol i unigolion allu cyfarch ac ateb cwestiynau syml ar lafar, gan gadarnhau mai dyma beth mae’r ffigwr hwn yn ei adlewyrchu. Nodwyd hefyd bod 92% o staff y Cyngor yn cyrraedd dynodiad iaith eu swydd.

 

Aethpwyd ymlaen i gadarnhau bod 850 o hysbysebion swyddi wedi eu cyhoeddi yn ystod y flwyddyn gyda sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol i’r rôl.

 

Tynnwyd sylw bod 22 aelod o staff wedi cwblhau hyfforddiant mynediad, sef yr hyfforddiant iaith lefel cychwynnol. Nodwyd bod 6 unigolyn wedi mynd ymlaen i gwblhau hyfforddiant sylfaen yn ogystal â chwech unigolyn wedi cwblhau’r lefel canolradd. Pwysleisiwyd nad yw hyn yn arwydd nad yw unigolion yn parhau gyda’u hyfforddiant ond yn hytrach, ei fod yn adlewyrchu’r  ffaith bod dynodiadau swydd yn amrywio ac nid oes rhaid i bawb sydd yn mynychu hyfforddiant mynediad barhau i’r lefelau uwch. Er hyn, nodwyd bod croeso iddynt wneud hynny os oes ganddynt ddiddordeb i wella eu sgiliau ieithyddol. Yn yr un modd, mynegwyd balchder bod niferoedd yr unigolion sydd yn dangos diddordeb mewn derbyn hyfforddiant gloywi iaith ar gynnydd.

 

Cyfeiriwyd ar wybodaeth ychwanegol a welir yn yr adroddiad am ddatblygiadau yn ystod y flwyddyn i wella cydymffurfiaeth gyda’r Safonau iaith gan gynnwys:

 

·       Camau penodol i hyrwyddo’r Polisi Iaith newydd a fabwysiadwyd yn 2022.

·       Gwybodaeth am y Strategaeth Iaith newydd a gyhoeddwyd ar ddiwedd 2023 sy’n nodi gweledigaeth y Cyngor o gynyddu defnydd y Gymraeg ar draws y sir.

·       Gwybodaeth am waith fforwm mewnol Mwy Na Geiriau

·       Prosiect Recriwtio Gweithlu Dwyieithog.

 

Eglurwyd nad oes cyfeiriad at Fenter Iaith Gwynedd yn yr adroddiad oherwydd eu bod yn gweithio gyda chymunedau Gwynedd yn hytrach na manylu ar ddefnydd a chydymffurfiaeth o’r Safonau Iaith.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

·       Argymell i’r Aelod Cabinet gyhoeddi’r adroddiad erbyn terfyn amser, 30 Mehefin 2024.

 

9.

PROSIECT ENWAU LLEOEDD CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 1 MB

I gyflwyno gwybodaeth ar gynnydd Prosiect Enwu Lleoedd Cyngor Gwynedd.

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

·       Argymell a chefnogi’r Aelod Cabinet i geisio canfod adnoddau i ymestyn cyfnod y prosiect er mwyn sicrhau datblygiad a pharhad i’r gwasanaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog Prosiect Hybu a Hyrwyddo’r Gymraeg a thynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd i’r prosiect cael ei sefydlu yn 2021 yn sgil pryderon cynyddol dros nifer o flynyddoedd bod enwau Cymraeg yn cael eu colli. Nodwyd mai un o brif ddatblygiadau'r prosiect yw’r Map Enwau Lleoedd Cyngor Gwynedd. Eglurwyd ei fod yn nodi enwau lleol ar lefydd o fewn y sir, megis caeau, lonydd, adeiladau, ardaloedd ac afonydd sydd yn cael eu defnyddio ar lafar ond ddim wedi cael eu cofnodi mewn mapiau swyddogol. Manylwyd bod y map yn parhau i gael ei boblogi gydag enwau newydd yn dilyn gweithdai mewn 15 ysgol gynradd ac 1 ysgol uwchradd. Anogwyd unigolion gyda gwybodaeth gywir am enwau lleol Cymraeg yn eu hardal i gysylltu gyda’r Swyddog er mwyn poblogi’r map hyd yn oed yn fanylach.

 

Tynnwyd sylw at nifer o brosiectau sydd ar y gweill er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd enwau lleoedd a’r cyfoeth hanesyddol, ieithyddol a diwylliannol maen nhw’n eu cynnwys. Ymhelaethwyd bod y Swyddog yn cyhoeddi erthyglau ‘Yr Enw a’r Hanes’ yn fewnol i staff y Cyngor er mwyn nodi hanes enw lle ac o fewn y Sir. Mynegwyd balchder mai dyma’r dudalen sydd yn cael y nifer mwyaf o ymwelwyr o holl dudalennau’r Fewnrwyd.

 

Adroddwyd bod y prosiect wedi bod yn weithgar iawn dros wythnos Eisteddfod Genedlaethol 2023 ym Moduan.  Nodwyd bod y Swyddog yn aelod o banel trafod cenedlaethol yng nghwmni Jeremy Miles AS (Gweinidog y Gymraeg) a Dr Dylan Foster Evans (Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru) er mwyn parhau sgyrsiau ar bolisïau a threfniadau cyfreithiol yn y maes hwn. Cyfeiriwyd hefyd at sgwrs a gynhaliwyd yn y Babell Lên ar enwau lleol. Mynegwyd balchder bod y sgwrs hon a gynhaliwyd gan y Swyddog wedi cael ei ddarlledu ar S4C fel rhan o raglen goreuon yr ŵyl.  Ychwanegwyd bod y Swyddog wedi bod yn trafod y mater ar BBC Radio Cymru wrth gael cytundeb am 4 mis i drafod enwau ac acenion lleol.

 

Cyfeiriwyd at gais a ddaeth gerbron y prosiect i geisio sicrhau bod enwau Cymraeg yn unig yn cael eu rhoi ar arwyddion stryd. Pwysleisiwyd i’r Swyddog ymchwilio mewn i’r broses o adnewyddu’r holl arwyddion gan gadarnhau y byddai hyn yn rhy gostus i’w weithredu. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod y prosiect wedi mabwysiadu prosiect amgen. Manylwyd mai un o brif amcanion y prosiect yma yw gosod arwyddion newydd ar gyfer lleoliadau ac ardaloedd, megis Twthill (Caernarfon), Lôn Rocar (Llandygai) a Lôn Groes (Pistyll), ble nad oes arwyddion presennol. Ystyriwyd bydd hyn yn gwneud y Gymraeg yn fwy gweledol yn y sir.

 

Soniwyd am brosiectau ychwanegol sy’n ffocysu ar osod arwyddion megis:

·       Codi arwyddion yn nodi’r hen enwau Cymraeg ar rai o strydoedd Caernarfon (mewn cydweithrediad â Chymdeithas Ddinesig Caernarfon)

·       Gosod arwyddion Cymraeg yn unig yn Nhrefor yn sgil nifer o arwyddion coll

·       Gosod arwyddion wrth gyrraedd hen gantrefi/cymunedau ar ffyrdd ‘A’ yn y Sir yn dilyn diddordeb y cyhoedd o weld arwyddion ‘Llŷn’ ac ‘Eifionydd’ ar gyfer yr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.