Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr Gwynfor Owen, Hefin
Underwood, Wendy Cleaver a Beca Brown. Derbyniwyd ymddiheuriad hefyd gan Llywela
Haf Owain (Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu) a Llio Mai Dafydd (Swyddog Dysgu
a Datblygu’r Iaith Gymraeg). |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy/n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: |
|
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 09 Chwefror fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 09 Chwefror 2026 fel rhai cywir. |
|
|
I ystyried
yr adroddiad. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn
ystod y drafodaeth. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr Adran Economi a
Chymuned. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol: Adroddwyd bod holl bolisïau a chynlluniau strategol yr Adran
yn cyfrannu at amcanion y Strategaeth Iaith, megis Strategaeth Datblygu
Economaidd Gwynedd sydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Tynnwyd sylw
penodol at bolisïau eraill megis Fframwaith Adfywio Ardal Ni, Cynllun Economi
Ymweld Cynaliadwy, Cynllun Rheoli Safle Treftadaeth y Byd: Tirlun Llechi Cymru
yn ogystal â Chynllun Diwylliant Gwynedd sydd ar ffurf drafft ar hyn o bryd. Atgoffwyd bod yr Adran yn arwain ar nifer o brosiectau sydd
yn rhan o Gynllun y Cyngor gan bwysleisio bod ystyriaeth i’r iaith Gymraeg yn
ganolog iddynt oll. Amlygwyd mai’r prosiectau hynny yw: ·
Gwynedd Llewyrchus o Hyrwyddo
ein diwylliant ac economi ymweld gynaliadwy o Adfywio
cymunedau a chanol trefi o Creu’r
amgylchiadau gorau posibl yng Ngwynedd i fusnesau a mentrau cymunedol ffynnu, a
chefnogi pobl Gwynedd mewn i waith. ·
Gwynedd Ofalgar o Cefnogi
Llesiant Pobl Cadarnhawyd bod asesiadau ieithyddol yn cael eu cyflawni pan
mae’r adran yn gweithredu ar gynlluniau a gweithdrefnau mawr, gan gydnabod bod
lle i wella er mwyn asesu i ba raddau maent yn llwyddo i wneud hynny gyda
phrosiectau llai. Pwysleisiwyd bod hyn yn drafodaeth reolaidd o fewn tîm
rheoli’r Adran er mwyn sicrhau bod mwy o asesiadau ieithyddol yn cael eu
cyflawni ar brosiectau llai i’r dyfodol. Yn sgil natur amrywiol ac eang yr Adran, eglurwyd bod pob
rheolwr oddi fewn i’r Adran wedi cyflwyno diweddariad ar sut mae eu
gwasanaethau yn gweithredu i gyfrannu tuag at amcanion y strategaeth iaith.
Tynnwyd sylw at rai meysydd penodol megis Gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd a
Neuadd Dwyfor sydd yn chwarae rhan allweddol i gefnogi pobl i ddysgu Cymraeg,
cael mynediad at adnoddau a gwybodaeth Cymraeg tra hefyd yn dysgu am
ddiwylliant, treftadaeth a chynnig gweithgareddau. Yn yr un modd, eglurwyd bod
prosiect ‘LleCHI Lle Ni: Ein Safle Treftadaeth y Byd, Ein Balchder, Ein
Dyfodol’ yn hybu’r Gymraeg yn gymunedol tra hefyd yn ffocysu ar bedair egwyddor
gref i hyrwyddo’r Gymraeg. Ymhelaethwyd drwy gyfeirio at y Gwasanaeth Twristiaeth,
Marchnata a Digwyddiadau sydd wedi bod yn cyhoeddi erthyglau sydd yn hyrwyddo
rhinweddau arbennig ein hardal, yr iaith Gymraeg a diwylliant lleol, fel rhan o
brosiect Diwyllesiant. Yn debyg, cadarnhawyd bod cyllideb ar gyfer rhaglen
ARFOR bellach wedi dod i ben ond mae’r Adran yn gweithio i ddosbarthu pecynnau
a grëwyd yn ystod cyfnod y rhaglen, a’u hyrwyddo er mwyn sicrhau bod pobl ifanc
yn parhau i dderbyn anogaeth i ddychwelyd i’r rhanbarth i weithio tra hefyd yn
hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg. Eglurwyd bod gwasanaethau’r Adran wedi amlygu cyfleoedd
i godi statws y Gymraeg a sicrhau ei bod
yn cael ei ddefnyddio. Rhannwyd enghraifft benodol o hyn drwy gyfeirio at
gynlluniau’r Gwasanaeth Morwrol i: Annog a chefnogi staff i siarad a gohebu yn
y Gymraeg; darparu cyfleoedd hyffordd i staff wella dysgu’r iaith gan hefyd
sicrhau bod llwyddiannau yn cael eu dathlu; a gwella cynnwys dwyieithog yr
harbyrau a thraethau’r Sir. Amlygwyd bod heriau wedi’i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
I ystyried
yr adroddiad. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn
ystod y drafodaeth. Cofnod: Adroddwyd bod y
Gwasanaethau Cyfreithiol yn gyfrifol am briodoldeb (gan gynnwys rôl Swyddog
Monitro, gwasanaethau cyfreithiol, Tîm Etholiadau a Chofrestru Etholiadol yn
ogystal â Chefnogaeth Crwner.) Tynnwyd sylw at waith rhanbarthol mae’r
Gwasanaeth wedi bod yn ei gyflawni yn y blynyddoedd diwethaf, drwy ddarparu
cefnogaeth i GwE, y Cynllun Twf a Chyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd
(CBC). Cydnabuwyd bod
gofynion cyfreithiol ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd wedi cynyddu
yn sylweddol, ac er mwyn ymdopi gyda’r gwaith hynny mae’r CBC wedi ffurfio tîm
cyfreithiol annibynnol, gyda Gwasanaethau Cyfreithiol Cyngor Gwynedd bellach
wedi tynnu’n ôl o’r bartneriaeth. Pwysleisiwyd bod Gwasanaethau Democratiaeth a
Chyllid yn parhau i gefnogi’r CBC. Ymfalchïwyd bod presenoldeb yn y broses o
ddatblygu gweithdrefnau a systemau CBC wrth iddo gael ei ffurfio, yn hanfodol
er mwyn sicrhau dwyieithrwydd a bod y Gymraeg yn derbyn sylw cyfartal, gan fod
arferion da wedi cael eu harddangos a’u gweithredu. Eglurwyd bod y Tîm
Etholiadol yn hyrwyddo’r Gymraeg ac yn mynnu bod dwyieithrwydd yn cael ei
sicrhau ar bob achlysur. Rhannwyd enghreifftiau o bwysigrwydd dwyieithrwydd
megis ar ddogfennaeth, hyfforddiant, a pan mae canlyniadau etholiadol yn cael
eu cyhoeddi ar lafar. Mynegwyd balchder bod y Tîm Etholiadol yn llwyddo i
hyrwyddo’r iaith yn llwyddiannus a bod y gwaith yn treiddio i sicrhau bod
systemau dwyieithog y Comisiwn Etholiadol bellach yn safonol. Pwysleisiwyd bod
lle i wella gan amlygu bod y Tîm Etholiadol yn pwysleisio nad yw darpariaeth
uniaith Saesneg o ddogfennaeth na hyfforddiant yn dderbyniol. Diolchwyd i’r
Crwner, sydd yn gweithio ar lefel genedlaethol a hefyd yn hyrwyddo’r Gymraeg
drwy ei gwaith. Eglurwyd nad yw Gwasanaeth Crwneriaid Gwynedd a Môn wedi cael
ei ymgorffori i gorff rhanbarthol ar draws Gogledd Cymru oherwydd y pwyslais
ieithyddol sydd yn cael ei roi gan y Crwner yn yr ardal hon, gan nodi bod hyn
yn adlewyrchiad o bwysigrwydd yr iaith i’r Gwasanaeth. Mynegwyd balchder bod y gwaith hwn yn gallu
dylanwadu ar ardaloedd Crwneriaid eraill drwy sicrhau bod dogfennaeth ar gael
i’w defnyddio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mynegwyd balchder
bod y Gwasanaethau Cyfreithiol bellach yn gallu cyflawni holl elfennau o’i
ddyletswyddau yn ddwyieithog, megis agweddau mwyaf technegol o’r gwaith,
darparu cytundebau a thrawsgrifiadau achosion llys ar gyfer gwaith yng Ngwynedd
ac yn rhanbarthol ar draws Gogledd Cymru. Atgoffwyd nad oedd hyn yn bosib yn y
blynyddoedd diwethaf oherwydd bod cyfreithwyr dros dro (locum) wedi bod yn cael
eu penodi er mwyn cynorthwyo gyda gwaith rhanbarthol, ble roedd yr angen am
arbenigedd penodol yn trechu’r angen am sicrhau bod yr unigolion hynny yn
medru’r Gymraeg. Cydnabuwyd bod y Gwasanaeth Cyfreithiol wedi profi heriau
recriwtio yn y blynyddoedd diwethaf, ond pwysleisiwyd bod anghenion recriwtio
bellach wedi lleddfu a bod y Gwasanaeth
yn llwyddo i ddenu staff profiadol ac sydd yn meddu â sgiliau’r Gymraeg pan mae
unrhyw drosiant staff yn codi, gan ymfalchïo fod y gweithlu yn frwdfrydig a
gweithgar iawn. Ystyriwyd bod yr heriau ieithyddol sydd yn wynebu’r gwasanaeth yn gyffelyb ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |