Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2023-2024.

Penderfyniad:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn yn gadeirydd y Pwyllgor Iaith ar gyfer y flwyddyn 2023/24.

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn yn gadeirydd y Pwyllgor Iaith ar gyfer y flwyddyn 2023/24.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2023-2024.

Penderfyniad:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Llio Elenid Owen yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Iaith am y flwyddyn 2023/24.

 

Cofnod:

 

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Llio Elenid Owen yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Iaith am y flwyddyn 2023/24.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am amseboldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Eirwyn Williams a Menna Baines.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

6.

COFNODION pdf eicon PDF 317 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 24 Ebrill 2023 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2023 fel rhai cywir.

 

7.

POLISI IAITH A GWEITHGAREDDAU HYBU'R GYMRAEG - ADRODDIAD ADRAN OEDOLION, IECHYD A LLESIANT pdf eicon PDF 476 KB

Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith, a sut yr ydym yn mynd ati i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn ein gwaith.

 

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Uwch Reolwr Busnes, Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a thynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod systemau technolegol yn cael eu diweddaru i gyd-fynd ag anghenion trigolion y Sir. Rhannwyd esiampl o ddiweddaru technoleg Teleofal, sy’n cysylltu unigolion â chanolfannau galwadau i dderbyn cymorth, wrth iddynt bwyso botwm ar freichled neu pendant penodol. Nodwyd bod dros 1500 o bobl yn defnyddio’r offer yma yng Ngwynedd ar hyn o bryd.

 

Manylwyd bod y gwasanaeth hwn wedi cael ei ddarparu drwy gyfrwng Saesneg yn hanesyddol, ond bod yr Adran yn awyddus i gynnig y ddarpariaeth hon drwy gyfrwng y Gymraeg ac mewn tafodiaith leol Gwynedd. Eglurwyd bod yr adran yn ceisio sicrhau’r datblygiad hwn drwy uwchraddio’r holl offer i fod yn ddigidol erbyn 2025 ac i gomisiynu cwmnïau i gynorthwyo datblygiad y gofynion ieithyddol.

 

Adroddwyd bod grŵp ‘ Mwy na Geiriau’ wedi cael ei sefydlu ers blwyddyn ac yn cael ei gadeirio gan Gyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd. Eglurwyd bod y grŵp yn gosod mesuriadau perfformiad i’r Adran er mwyn derbyn cadarnhad eu bod  yn  cyrraedd eu targedau ieithyddol.

 

Esboniwyd bod ymchwiliadau ar system ddigidol y gwasanaeth gofal (WCCIS) yn cael eu cwblhau er mwyn gweld faint o unigolion sy’n dymuno derbyn gofal drwy gyfrwng y Gymraeg a faint o weithwyr cymdeithasol yr Adran sy’n gallu cynnig y gwasanaeth hwnnw’n Gymraeg. Dengys hyn a yw’r Adran yn cyrraedd gofynion trigolion sy’n derbyn gofal ai peidio. Cadarnhawyd bod mwyafrif helaeth y gweithwyr cymdeithasol yn llwyddo i ddarparu’r gwasanaeth yn Gymraeg.

 

Atgoffwyd yr aelodau bod gwasanaethau yn cael eu cynnig i unigolion yn Gymraeg a bod staff yn darparu y cynnig rhagweithiol. Nodwyd bod angen i’r cleifion wneud cais am ofal drwy gyfrwng Saesneg os ydynt yn dymuno hynny. Cadarnhawyd byddai’r Adran yn atgoffa’r gweithwyr o’r trefniant hynl.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Mewn ymateb i gwestiwn eglurwyd bod yr Adran yncydweithio gyda nifer o asiantaethau a chyrff allanol a bod pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn un o flaenoriaethau’r holl bartneriaid un ogystal â a darparu gofal i unigolion yn yr iaith sydd fwyaf cyfforddus iddynt .

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

8.

POLISI IAITH A GWEITHGAREDDAU HYBU'R GYMRAEG - ADRAN PLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD pdf eicon PDF 447 KB

Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith, a sut yr ydym yn mynd ati i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn ein gwaith.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd a thynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

·       Cadarnhawyd bod y Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar yn cydweithio gydag aelodau CWLWM (5 sefydliad arweinio cenedlaethol gofal plant yng Nghymru) i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws lleoliadau gofal plant yng Ngwynedd.

·       Eglurwyd bod Cynllun ‘Croesi’r Bont’ yn parhau gan y Mudiad Meithrin er mwyn trochi’r Gymraeg o fewn y cylchoedd a dosbarthiadau meithrin.

·       Nodwyd bod Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar yn cynnig grantiau o £100 i warchodwyd plant preifat newydd di-gymraeg i helpu prynu adnoddau Cymraeg.

·       Esboniwyd bod yr adran yn darparu cymorth i rieni ddysgu Cymraeg drwy sesiynau ‘clwb cwtch’ ar lein y Mudiad Meithrin a hefyd drwy gynnal cyrsiau ‘Friends’ drwy gyfrwng y Gymraeg gyda chymorth Tîm Cefnogi Teulu Tîm Trothwy a Gwasanaethau Ieuenctid.

·       Sicrhawyd bod anghenion ieithyddol yn ffactor wrth benderfynu ar faterion megis cynnwys pecynnau gofal a’r gefnogaeth i blant bregus, lleoliadau gofal a maethu/mabwysiadu. Eglurwyd bod angen i rai plant o dan ofal yr Adran cael eu symud i ardal all-sirol oherwydd materion diogelwch ond cadarnhawyd bod Gweithwyr Cymdeithasol yn parhau i gyfarch anghenion ieithyddol y plentyn drwy ymweliadau ac adnoddau.

·       Adroddwyd bod 55 o ddarparwyr Addysg Feithrin yng Ngwynedd yn derbyn cefnogaeth Athrawes Blynyddoedd Cynnar gan yr Adran. Eglurwyd eu bod yn darparu addysg feithrin cyfrwng Cymraeg am 10 awr y wythnos i blant 3 oed er mwyn eu trochi yn yr iaith a chyflwyno’r iaith iddynt fel iaith addysgu.

·       Esboniwyd bod rhwydwaith o weithwyr Cymorth Ieuenctid y Gwasanaeth Ieuenctid yn darparu cyfleon dysgu anffurfiol ac achrediadau i bobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg. Eglurwyd bod hyn yn llwyddo i bontio gweithgareddau’r ysgol â rhai cymdeithasol megis Gwobr Dug Caeredin, ble mae holl elfennau’r wobr ar gael yn y Gymraeg drwy Ap newydd.

·       Cadarnhawyd bod holl ddeunyddiau’r rhaglen ‘Amddiffyn Plant yn Effeithiol’ wedi cael eu datblygu’n Gymraeg a Saesneg ar gyfer defnydd rhanbarthol a chenedlaethol.

·       Rhannwyd bod grŵp o ofalwyr maeth o Wynedd wedi creu fideo fel rhan o ymgyrch maethu cenedlaethol Maethu Cymru. Nodwyd bod y fideo yn cael ei chyflwyno’n Gymraeg gydag is-deitlau Saesneg ac yn cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol yn aml i ddenu pobl i feddwl am faethu.

·       Esboniwyd bod yr Adran wedi arwain ar sefydlu Fframwaith Gweithgareddau a Chwarae i blant, pobl ifanc a theuluoedd ar draws Gwynedd. Manylwyd bod 24 o ddarparwyr gweithgareddau wedi cael eu cymeradwy ar y fframwaith er mwyn darparu cyfleoedd chwarae drwy gyfrwng y Gymraeg.

·       Ymfalchïwyd bod dros 50 o sefydliadau lleol wedi dod yn ynghyd i gynnid gweithgareddau llesiant i bobl ifanc yn ddiweddar fel rhan o Ŵyl Llesiant Ieuenctid Gwynedd.

·       Nodwyd bod yr Adran wedi bod yn cydweithio gyda Thîm Llesiant y Cyngor i ddatblygu Ap ‘Ai Di’ er mwyn darparu ffordd hwylus i ofalwyr ifanc gadw cyswllt gyda’u hysgol, ac i’w ddefnyddio yn gymunedol er mwyn cael gostyngiadau ar weithgareddau a gwasanaethau. Eglurwyd bod yr ap hwn wedi derbyn canmoliaeth genedlaethol yn ddiweddar gan ei fod yn cyrraedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD AR WEITHREDIAD Y SAFONAU IAITH pdf eicon PDF 355 KB

Cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol draft i’r Aelodau er mwyn iddynt  argymell i’r Aelod Cabinet gymeradwyo cyhoeddi’r Adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

·       Argymhellwyd i’r Aelod Cabinet gyhoeddi’r adroddiad erbyn y terfyn amser (30 Mehefin 2023).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Iaith a thynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod gofyniad statudol i gyhoeddi adroddiad blynyddol ar gydymffurfiaeth â’r safonau ieithyddol yn unol ag Adran 44 Deddf Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Nodwyd bod angen cyhoeddi’r adroddiad hon erbyn 30 Mehefin 2023.

 

Adroddwyd bod y ffigyrau isod wedi cael eu cynnwys o fewn yr adroddiad:

·       Bod 99.4% o staff y Cyngor cyfan yn meddu ar ryw fath o sgiliau yn y Gymraeg.

·       Bod 93% o staff y Cyngor yn cyrraedd lefel Sylfaen neu uwch, ac felly yn gallu siarad Cymraeg.

·       Bod 833 o hysbysebion swyddi wedi eu cyhoeddi yn ystod y flwyddyn lle'r oedd sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol.

·       Bod  Polisi Iaith newydd wedi ei gyhoeddi, gyda pholisïau atodol.

·       Bod camau penodol i wella cydymffurfiaeth wrth ymgynghori ar benderfyniadau polisi.

·       Bod adolygiad o systemau TG wedi ei gychwyn i sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda’r Polisi o ran arddel enwau Cymraeg, a’r Safonau o ran ymateb i ohebiaeth yn Gymraeg neu ddwyieithog.

 

Amlygwyd rhai o’r heriau y bydd yr Uned Iaith a Chraffu yn rhoi sylw iddynt yn ystod y flwyddyn nesaf er mwyn gwella’r ddarpariaeth ddwyieithog a’r cynnig rhagweithiol Cymraeg. Nodwyd bod yr heriau hyn yn cynnwys:

·       Codi ymwybyddiaeth staff am union ofynion y safonau iaith. Ystyriwyd bod angen i’r Cyngor bod yn  rhannu’r wybodaeth hyn gyda staff mewn ffyrdd creadigol er mwyn cadarnhau fod pawb yn ymwybodol o’r gofynion.

·       Bod lleihad bychan dros y blynyddoedd diwethaf ar y nifer o staff sy’n dewis cwblhau cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg. Pwysleisiwyd bod yr uned yn bwriadu cynnal trafodaethau gyda Thîm Dysgu a Datblygu er mwyn edrych i weld sut gallent fod o gymorth.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

·       Cadarnhawyd nad oedd unrhyw swydd wedi cael ei hysbysebu gan y Cyngor nad oedd yn nodi’r sgiliau ieithyddol oedd yn angenrheidiol i gyflawni’r swydd. Eglurwyd bod gofynion dynodiad iaith yn amrywio o hysbyseb i hysbyseb, yn unol â gofynion y rolau a gyflawnwyd o fewn y swyddi.

·       Eglurwyd bod unigolion ar lefel Sylfaen Cymraeg yn hyderus i siarad yr iaith ac yn gallu cyfathrebu’n effeithiol. Eglurwyd bod rhai swyddi’n chwilio am unigolion sy’n meddu â sgiliau Uwch, ond bod hyn yn amrywio gyda’r rôl. Atgoffwyd yr aelodau bod gan y Cyngor weithdrefn effeithiol er mwyn cefnogi gweithwyr sy’n dysgu’r iaith a bod y trefniant hwn yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu sgiliau ieithyddol unrhyw aelod o staff sydd angen cymorth.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD

 

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

·       Argymhellwyd i’r Aelod Cabinet gyhoeddi’r adroddiad erbyn y terfyn amser (30 Mehefin 2023).

 

10.

CANLYNIADAU YMGYNGHORI STRATEGAETH IAITH GWYNEDD 2023 pdf eicon PDF 345 KB

Cyflwyno canlyniadau a cychwynol yr ymgynghoriad gan y gwasanaeth Ymchwil a Dadansoddeg, a gwahodd sylwadau gan yr aelodau am ymateb posib yr Uned Iaith a Chraffu wrth lunio’r strategaeth derfynol..

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad, a’r wybodaeth a gyflwynwyd yn Atodiad 1, gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Iaith. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd bod Safonau’r Gymraeg (Mesur y Gymraeg)(Cymru) 2011 yn gosod gofynion ar y Cyngor i lunio strategaeth 5 mlynedd sydd yn nodi sut y maent yn bwriadu mynd ati i hyrwyddo a hybu defnydd o’r Gymraeg o fewn y Sir. Nodwyd bod angen i’r Cyngor egluro sut mae’r gweithredoedd hyn am gyfrannu at amcanion cenedlaethol Cymraeg 2050 i gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg.

 

Eglurwyd bod cyfnod y strategaeth hybu bresennol yn dod i ben ym mis Hydref 2023. Nodwyd bod y cyfnod adolygu wedi cychwyn ar ddechrau 2023 a chynhaliwyd sesiynau trafod gydag aelodau Cabinet, y Pwyllgor Iaith a Fforwm Iaith Gwynedd er mwyn derbyn mewnbwn, cyn cynnal cyfnod ymgynghori ar y strategaeth ddrafft rhwng 17 Ebrill a 21 Mai 2023.

 

Adroddwyd bod 159 o ymatebion electronig ac un llythyr o ymatebiad wedi cyrraedd y gwasanaeth. Manylwyd bod trawstoriad da o bob rhan o’r Sir, gyda’r rhan fwyaf o ymatebwyr yn unigolion rhwng 35 a 74 oed. Cadarnhawyd mai dim ond 3 ymatebiad oedd gan bobl o dan 34 oed a phwysleisiwyd bydd y gwasanaeth yn ystyried yn ofalus sut maent yn casglu barn y garfan yma o’r gymuned yn y dyfodol.

 

Esboniwyd bod 72.3% o’r ymatebwyr yn cytuno gyda’r bwriad i ganolbwyntio ar gynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.R oedd hyn yn thema cyffredin mewn nifer o ymatebion er mwyn galluogi pobl i fagu hyder wrth siarad Cymraeg.

 

Cadarnhawyd y bydd ystyriaeth yn cael ei roi i newidiadau neu addasiadau i’r strategaeth derfynol er mwyn ymateb i rai o’r sylwadau yn yr ymgynghoriad. Manylwyd bydd drafft terfynol yn cael ei rannu ag adrannau mewnol er mwyn gallu adnabod ffrydiau gwaith fydd yn ateb yr amcanion ac yn creu rhaglen waith cychwynnol.

 

Rhannwyd y bwriedir cyflwyno drafft terfynol y strategaeth i’r Cabinet ym mis Hydref 2023.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y mater canlynol:

 

·       Nodwyd bod ymatebion i’r ymgynghoriaeth yn isel fwy na thebyg oherwydd bod gan y Cyngor nifer o ymgynghoriadau ar y gweill yr un pryd. Cytunwyd bod angen ystyried dulliau newydd i rannu gwybodaeth er mwyn i’r adborth a dderbynnir fod yn adlewyrchiad teg o farn y cyhoedd ond cydnabuwyd bod heriau yn wynebu cynnal ymgynghoriaethau ar hyn o bryd – megis heriau cyfryngau cymdeithasol a heriau i dderbyn ymatebion gan drawstoriad o oedrannau gwahanol.

·       Cadarnhawyd nad yw’r gwasanaeth wedi ymchwilio hyd yma, i effeithiau Dealltwriaeth Artiffisial (Artificial Intelligence - AI) ar yr iaith Gymraeg yn y dyfodol. Pwysleisiwyd bod y dechnoleg hon wedi datblygu’n gyflym a bydd gwaith ymchwil yn cael ei wneud iddo yn ystod cyfnod y strategaeth hon.

·       Pwysleisiwyd bod dyletswydd ar y Cyngor i roi ystyriaeth i holl ymatebion yr ymgynghoriaeth. Cytunwyd mai lleiafrif o’r ymatebion oedd yn negyddol ond nodwyd bod rhaid i swyddogion fod yn ymwybodol o’r sylwadau hyn wrth fynd ymlaen i lunio drafft terfynol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad, a’r wybodaeth  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.