Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan Mr Richard Parry Hughes, Aelod Pwyllgor Cymunedol. |
||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. COFNODION: Datganodd Mr Hywel
Eifion Jones fuddiant personol yn eitem 6 ar y rhaglen – Ymgynghoriad Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – Canllawiau Drafft Newydd ar y Cod Ymddygiad ar
gyfer Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Tref a Chymuned, oherwydd ei fod yn
aelod o Banel Dyfarnu Cymru, a bod cyfeiriad at y panel yn yr adroddiad. Nid oedd o’r farn
ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitem. |
||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. COFNODION: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
||||||||||||||||||||||||
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol
o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd, 2020 fel rhai cywir (ynghlwm). COFNODION: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9
Tachwedd, 2020 fel rhai cywir. |
||||||||||||||||||||||||
HUNAN ASESIAD A RHAGLEN WAITH PDF 226 KB Cyflwyno adroddiad
y Swyddog Monitro (ynghlwm). Penderfyniad: (a) Mabwysiadu’r canlynol fel hunan asesiad
y pwyllgor o’i berfformiad yn 2019/20, gan nodi bod amgylchiadau y tu allan i
reolaeth y Pwyllgor Safonau wedi golygu na fu’n bosib’ gweithredu sawl cam y
tro hwn:- (b) Cymeradwyo’r
rhaglen waith a ganlyn ar gyfer 2021/22:- Mehefin, 2021 Adroddiad Blynyddol Honiadau yn erbyn Aelodau Llyfr Achosion yr Ombwdsmon Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 Hyfforddiant yn gyffredinol Tachwedd, 2021 Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch Cofrestr Datgan Buddiant Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon Honiadau yn erbyn Aelodau Gwrthdrawiadau Buddiannau a phartneriaid y tu allan
i Lywodraeth Leol Paratoi ar gyfer Etholiad Mai 2022 o safbwynt y Cod
Ymddygiad Chwefror, 2022 Adroddiad Blynyddol y Panel Dyfarnu Honiadau yn erbyn Aelodau COFNODION: Cyflwynwyd –
adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i:- ·
gynnal hunan asesiad o waith ac allbynnau’r
pwyllgor yn ystod 2019/20; ac ·
ystyried rhaglen waith ddrafft ar gyfer
2021/22. Pwysleisiwyd, er
bod y tabl hunanasesiad yn Atodiad 1 i’r adroddiad wedi’i seilio ar
amgylchiadau arferol, bod y sefyllfa Covid wedi cael ardrawiad sylweddol ar y
gallu i gyflawni’r swyddogaethau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Er, yn dechnegol, bod nifer o’r swyddogaethau
yn disgyn o fewn Categori 4, nid oedd hynny’n adlewyrchiad llwyr o’r sefyllfa,
ac roedd yn bwysig nodi mai’r argyfwng oedd wedi gorfodi’r Pwyllgor Safonau i’r
sefyllfa yma, yn hytrach nag unrhyw ddiffyg gweithredu ar ei ran. Gofynnwyd beth
oedd barn y Swyddog Monitro ynglŷn ag effeithiolrwydd yr Ombwdsmon o
safbwynt penderfynu i ymchwilio i gwynion ai peidio. Mewn ymateb, eglurwyd bod effeithiolrwydd yr
Ombwdsmon yn anodd ei fesur, ond y gallai’r pwyllgor fonitro sut mae’r
gyfundrefn yn gweithio wrth drafod adroddiadau blynyddol a llythyrau chwarterol
yr Ombwdsmon. Mewn ymateb i gwestiwn
pellach ynglŷn â herio penderfyniadau’r Ombwdsmon, eglurwyd nad oedd
hynny’n digwydd gam amlaf, oni bai bod yn rywbeth penodol iawn, neu rywbeth
wedi’i gamddeall neu ei gamddehongli, neu angen fwy o wybodaeth. Awgrymwyd y gallai’r pwyllgor drafod ychydig
mwy ar hyn o dan eitem 6 ar y rhaglen. Nodwyd y byddai’n
fuddiol darparu canllawiau ar y Cod Ymddygiad ar gyfer grwpiau sy’n dewis
ymgeiswyr ar gyfer Etholiad 2022, fel bod pobl sy’n rhoi eu henwau ymlaen yn
ymwybodol o’r ymrwymiadau sy’n deillio o fod yn gynghorydd. Mewn ymateb, awgrymwyd y byddai’n fuddiol
adrodd i’r pwyllgor ym mis Tachwedd ar y paratoadau ar gyfer Etholiad Mai 2022
o safbwynt codi ymwybyddiaeth o ofynion y Cod Ymddygiad ymhlith darpar
ymgeiswyr ac aelodau presennol. Nodwyd ei bod yn
amserol i gymryd trosolwg o’r trefniadau hyfforddiant yn gyffredinol, ac
awgrymwyd cyflwyno adroddiad ar hynny i gyfarfod mis Mehefin o’r pwyllgor. Nodwyd hefyd, pan fyddai amgylchiadau’n
caniatáu, y bwriedid ail afael yn y cwrs peilot i gynghorau cymuned ar y Cod
Ymddygiad ar sail rithiol, ac adrodd yn ôl ar hynny. PENDERFYNWYD (a) Mabwysiadu’r
canlynol fel hunan asesiad y pwyllgor o’i berfformiad yn 2019/20, gan nodi bod
amgylchiadau y tu allan i reolaeth y Pwyllgor Safonau wedi golygu na fu’n
bosib’ gweithredu sawl cam y tro hwn:-
|