Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan Mr Richard Parry Hughes (Aelod Pwyllgor Cymuned). |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Datganodd y Cadeirydd, Mr Hywel
Eifion Jones, fuddiant personol
yn eitem 6 – Adolygiad o’r Fframwaith Safonau Moesegol i Gymru
– Ymgynghoriad Llywodraeth
Cymru, oherwydd ei fod yn aelod lleyg
ar Banel Dyfarnu Cymru, a
bod cyfeiriad at y panel yn yr
adroddiad. Nid oedd o’r
farn ei fod
yn fuddiant oedd yn rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y dyddiadau a nodir isod fel rhai cywir:- ·
13 Chwefror, 2023; ·
18 Ebrill, 2023 (Cyfarfod Arbennig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Chwefror,
2023 ynghyd â’r Cyfarfod Arbennig a gynhaliwyd ar 18 Ebrill, 2023 fel rhai
cywir, yn amodol ar y cywiriad isod:- Cofnodion Cyfarfod
Arbennig 18 Ebrill, 2023 Eitem 3 – Cŵyn o Dorri’r Cod Ymddygiad a gyfeiriwyd at y
Pwyllgor Safonau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Cywiro brawddeg
gyntaf paragraff 6 i ddarllen:- “Ystyriodd y
Pwyllgor adroddiad ysgrifenedig ymchwiliad yr Ombwdsmon, y dogfennau pellach a
gyflwynwyd ymlaen llaw gan yr Aelod a’r Ombwdsmon yn unol â threfn
cyn-wrandawiad y Pwyllgor, a’r dystiolaeth gan yr Awdurdod yn cadarnhau nad
oedd darpariaeth gyfieithu ar gael pan dderbyniwyd yr e-byst gan yr Aelod.” |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo’r
adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad i gŵyn yn erbyn y Cynghorydd Louise
Hughes o Gyngor Gwynedd, gan nodi mân newid golygyddol, a’i anfon at y Swyddog Monitro,
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Y Cynghorydd Hughes a’r achwynydd, yn
unol â gofynion y Rheoliadau. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn manylu ar
ganlyniad ymchwiliad i gŵyn yn erbyn y Cynghorydd Louise Hughes o Gyngor
Gwynedd, yn unol â darpariaethau Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol
(Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 (fel y’u
diwygiwyd). Ymhellach i
gynnwys yr adroddiad, cadarnhawyd bod y Cynghorydd Louise Hughes wedi cyflwyno
llythyr o ymddiheuriad i’r achwynydd erbyn hyn a bod y cyfnod atal wedi dod i
ben. Gan gyfeirio at yr
Hysbysiad o Benderfyniad y Pwyllgor Safonau (oedd ynghlwm fel atodiad i’r
adroddiad), nodwyd bod angen cywiro brawddeg gyntaf paragraff 6 i ddarllen:- “Ystyriodd y
Pwyllgor adroddiad ysgrifenedig ymchwiliad yr Ombwdsmon, y dogfennau pellach a
gyflwynwyd ymlaen llaw gan yr Aelod a’r Ombwdsmon yn unol â threfn
cyn-wrandawiad y Pwyllgor, a’r dystiolaeth gan yr Awdurdod yn cadarnhau nad
oedd darpariaeth gyfieithu ar gael pan dderbyniwyd yr e-byst gan yr Aelod.” Diolchodd y
Cadeirydd i bawb o’r aelodau am eu mewnbwn ar y diwrnod, ac i’r Rheolwr
Priodoldeb ac Etholiadau a’r Swyddog Gwasanaethau Democratiaeth a’r swyddogion
i gyd am eu holl waith yn ystod y broses o drefnu a chynnal y gwrandawiad. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r
adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad i gŵyn yn erbyn y Cynghorydd Louise
Hughes o Gyngor Gwynedd, gan nodi mân newid golygyddol, a’i anfon at y Swyddog
Monitro, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Y Cynghorydd Hughes a’r
achwynydd, yn unol â gofynion y Rheoliadau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD O'R FFRAMWAITH SAFONAU MOESEGOL I GYMRU - YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU PDF 290 KB Cyflwyno
adroddiad y Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r
ymatebion drafft i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar yr Adolygiad o’r
Fframwaith Safonau Moesegol i Gymru (yn Atodiad 2 i’r adroddiad), er caniatáu
eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru, gyda’r ychwanegiad a nodir isod:-
Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y Pwyllgor i ystyried
a dod i farn ar ymatebion i’r Ymgynghoriad ar argymhellion yr Adolygiad
Annibynnol o’r Fframwaith Safonau Moesegol (adroddiad Richard Penn) er caniatáu eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Gofynnwyd yn benodol am farn yr aelodau ar yr ymatebion drafft canlynol:- C4. Ydych
chi’n cefnogi’r newidiadau arfaethedig i’r weithdrefn caniatâd i apelio a amlinellir
yn yr argymhelliad hwn? Os nad ydych, pa
opsiynau eraill fyddech chi’n eu hawgrymu? Ydym. Sylwadau: Mae’n ymddangos yn briodol y dylai'r Ombwdsman allu
gwneud sylwadau ar geisiadau am ganiatâd i apelio ac y dylai'r broses ganiatáu
amser i wneud sylwadau. Dylid fod gofyn
penodol hefyd i hysbysu Swyddog Monitro perthnasol yn syth hefyd fod apêl wedi
ei derbyn gan fod bodolaeth apêl yn ganolog i gychwyn cyfnod atal neu beidio. C13. Hysbysebu am aelodau annibynnol o'r pwyllgorau
safonau: Ydych chi’n cytuno y dylid dileu’r gofyn i hysbysebu swyddi gwag ar
gyfer aelodau annibynnol ar bwyllgorau safonau mewn papurau newydd? Ydym. Sylwadau: Mae
costau hysbysebion o'r fath yn uchel a dengys profiad anecdotaidd fod y rhan
fwyaf o ymgeiswyr yn dod trwy sianeli eraill megis gwefannau neu rwydweithiau
presennol Aelodau Unigol. Mae'n bwysicach sicrhau bod ymgeiswyr cymwys o
amrediad eang o gefndiroedd yn cael eu denu i'r rôl ac felly dylai LlC gyflwyno canllawiau ar recriwtio cynhwysol. C14a.
Cyn-weithwyr cyngor yn eistedd fel
aelodau annibynnol o bwyllgorau safonau: Ydych chi’n cytuno y dylid dileu’r gwaharddiad
gydol oes ar gyn- weithwyr cyngor rhag bod yn aelodau annibynnol o bwyllgor
safonau eu cyflogwr blaenorol? Nac ydym. Cryfder y Pwyllgor Safonau ar hyn o bryd yw
bod yn rhaid iddynt gynnwys mwyafrif o Aelodau Annibynnol y gellid dweud heb
amheuaeth eu bod yn wirioneddol annibynnol ac yn amhleidiol. C14b.
Os ydych chi, beth, yn eich barn chi,
fyddai’n gyfnod gras addas rhwng cyflogaeth a phenodi i bwyllgor safonau, ac a
ddylai hyn fod yr un fath ar gyfer holl weithwyr cynghorau, neu’n hirach ar
gyfer y rheini a oedd gynt mewn swyddi â chyfyngiadau statudol neu wleidyddol? Ni ddylai
swyddogion sydd wedi'u cyfyngu'n wleidyddol fedru gwasanaethu fel Aelodau
Annibynnol. O ran swyddogion eraill, mae'r safbwynt hwnnw'n fwy cynnil ond
awgrymir nad ddylid caniatáu hyn. Os, er gwaethaf y farn hon, yw LlC yn dymuno caniatáu iddynt fod yn gymwys yna mae angen
i'r cyfnod gras ar gyfer cyn-weithwyr fod yn hir i leihau'r canfyddiad fod y
cyn-weithiwr dal yn cael ei effeithio oherwydd ei gysylltiad blaenorol â'r
cyngor. Dylid gosod y cyfnod gras yn gyfnod penodol o megis 5 mlynedd neu
gellid bod yn hyblyg ar sail hyd eu gwasanaeth (lluosog) gyda neu heb leiafswm. C16. Pwyllgorau safonau – galw tystion a
sancsiynau: A ddylai pwyllgorau safonau gael y pŵer i alw tystion? Dylai. Sylwadau: Mae'r un ystyriaethau a gyflwynwyd yn yr ymateb i Gwestiwn 5 yn berthnasol fan hyn. Heb ei bwerau i ymdrin â dirmyg, byddai angen modd o orfodaeth ar y mecanwaith i gyflwyno gwŷs, megis efallai'r pŵer i geisio am warant ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
HUNAN ASESIAD A RHAGLEN WAITH PDF 235 KB Cyflwyno adroddiad
y Swyddog Monitro. Penderfyniad: (a) Mabwysiadu’r
canlynol fel hunanasesiad y Pwyllgor Safonau o’i berfformiad yn 2022/23.
(b) Cymeradwyo’r rhaglen waith a
ganlyn ar gyfer 2023/24:- 26 Mehefin, 2023 Adroddiad Blynyddol Honiadau yn erbyn Aelodau Llyfr Achosion yr Ombwdsmon Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Ymateb i Adroddiad Penn 6 Tachwedd, 2023 Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch Cofrestr Datgan Buddiant Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon Honiadau yn erbyn Aelodau Adolygu Gweithrediad Protocol Arweinyddion Grwpiau
Gwleidyddol Adolygu Trefniadau Datrysiad Mewnol Derbyn Adroddiad o Fforwm Safonau Cymru Adroddiad ar y Trefniadau ar gyfer delio gyda chyfathrebu wedi ... view the full Penderfyniad text for item 7. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i:- ·
gynnal hunan asesiad o waith ac allbynnau’r pwyllgor
yn ystod 2022/23, ac:- ·
ystyried rhaglen waith ddrafft ar gyfer 2023/24. PENDERFYNWYD (a)
Mabwysiadu’r canlynol fel hunan
asesiad y Pwyllgor Safonau o’i berfformiad yn 2022/23.
(b)
Cymeradwyo’r
rhaglen waith a ganlyn ar gyfer 2023/24:- 26 Mehefin, 2023 Adroddiad Blynyddol Honiadau yn erbyn Aelodau Llyfr Achosion yr Ombwdsmon Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Ymateb i Adroddiad Penn 6 Tachwedd, 2023 Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch Cofrestr Datgan Buddiant Adroddiad Blynyddol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2022-23 PDF 235 KB Cyflwyno
adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2022-23 i’w gyflwyno i’r Cyngor llawn ar
6 Gorffennaf, 2023, yn amodol ar wneud mân addasiadau i fywgraffiadau’r
aelodau. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn amgáu drafft
o adroddiad blynyddol y pwyllgor ar gyfer 2022/23. Gwahoddwyd sylwadau a chymeradwyaeth y
pwyllgor i’r ddogfen. Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr adroddiad eleni, am y tro cyntaf, yn
cyfeirio at y ddyletswydd newydd i arweinyddion grwpiau gwleidyddol gymryd
elfen o gyfrifoldeb dros hyrwyddo ymddygiad da a chydweithredu â’r Pwyllgor
Safonau. Nodwyd:- ·
Ei bod yn ddyddiau cynnar o ran y drefn yma, ond bod
gwaith wedi digwydd o ran annog aelodau i gymryd rhan mewn hyfforddiant Cod
Ymddygiad ynghyd â sefydlu’r drefn a chytuno ar brotocol ar gyfer gweithredu’r
ddyletswydd newydd i’r dyfodol. ·
Bod angen symud ymlaen i wneud gwaith pellach ar y
ddyletswydd ac i ddatblygu’r drefn gyfathrebu o gwmpas hyn yn fwy helaeth fel
mae’r trefniadau yn symud yn eu blaenau. ·
Bod
elfen o’r drefn yn adweithiol i amgylchiadau sy’n codi o gwmpas materion
ymddygiad aelodau. Byddai’n rhaid cadw
llygaid ar y sefyllfa yma, a phetai sefyllfa’n codi, roedd y Protocol yn gosod
trefn glir ar gyfer mynd at yr Arweinyddion i drafod unrhyw bryderon penodol
sy’n codi. Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Swyddog Monitro ei fod yn fodlon
bod yr arweinyddion wedi cydymffurfio â’u dyletswyddau newydd yn ystod y
flwyddyn a bod sail i symud ymlaen dros y flwyddyn nesaf i adeiladu ar y gwaith
yma. Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod bwriad i gynnal cyfarfodydd lled
reolaidd gyda’r arweinyddion. Nodwyd
hefyd bod bwriad i drefnu cyfarfod anffurfiol rhwng holl aelodau’r Pwyllgor
Safonau, yr Arweinyddion a’r Prif Weithredwr, o bosib’, i drafod y ddyletswydd
newydd ar lefel ymarferol a’r ffordd orau ymlaen. Pwysleisiwyd nad oedd bwriad i drafod achosion
unigol. Gofynnwyd i’r Swyddog Monitro fwrw ymlaen i drefnu’r cyfarfod a thrafod y
rhaglen gyda’r Cadeirydd. PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiad
Blynyddol y Pwyllgor Safonau 2022-23 i’w gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 6
Gorffennaf, 2023, yn amodol ar wneud mân addasiadau i fywgraffiadau’r aelodau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
HONIADAU YN ERBYN AELODAU PDF 246 KB Cyflwyno
adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau. Penderfyniad: Nodi’r wybodaeth. Cofnod: Cyflwynwyd -
adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn cyflwyno gwybodaeth am
benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau. PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth. |