Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Louise Hughes, y Cynghorydd
Robert Williams (Cyngor Tref Abermaw), Robert Aeron Williams (Grŵp Gwella Cyrchfannau Abermaw (BRIG)) a’r Cynghorydd June Jones (Cynrychiolydd Pwyllgor
Harbwr Porthmadog). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Nododd y Cadeirydd, y Cynghorydd Rob Triggs, y bydd ei
fab sy’n gweithio fel Harbwfeistr Cynorthwyol yn
cyflwyno rhan o eitem 4, Adroddiad yr Harbwrfeistr yn
absenoldeb yr Harbwrfeistr. Yn sgil hyn penderfynwyd
y byddai’r Is-gadeirydd, y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Cadeirio’r rhan
hon o’r eitem. Nid oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni
adawodd y cyfarfod. |
|
I gadarnhau cofnodion Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw a
gynhaliwyd ar 24ain Hydref, 2023. Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2023, fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 107 KB Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodi a derbyn yr
adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiadau isod a gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a
gofyn cwestiynau. a) Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau
yn rhoi diweddariad cryno i’r pwyllgor ar
faterion yr harbwr ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref 2023 a mis Mawrth 2024. Tynnwyd sylw at y
materion canlynol: Angorfeydd a Chofrestru Cychod Nodwyd y bydd yr Harbwrfeistr
yn cynnal archwiliad o’r afon cyn cyfnod y Pasg i wirio lleoliad y cymhorthion
mordwyo a phenderfynu ble i osod angorfeydd ymwelwyr yn yr harbwr. Adroddwyd
bod angen i gwsmeriaid sy’n dymuno cael angorfa yn yr harbwr neu gofrestru
eu badau pŵer gwblhau’r broses ar
lein drwy wefan Cyngor Gwynedd. Cod Diogelwch
Morwrol Porthladdoedd Nodwyd bod y Cod Diogelwch Morwrol
Porthladdoedd yn cael ei adolygu’n rheolaidd gan y gwasanaeth a’u bod yn parhau
i gydymffurfio â’r Cod. Materion Staffio Adroddwyd bod yr Harbwrfeistr
a’r Harbwrfeistr Cynorthwyol yn parhau i weithio o
swyddfa harbwr Abermaw. Yn ychwanegol, mae’r gwasanaeth wedi penodi Nicola Salt fel Swyddog Traeth llawn amser; bydd y Swyddog Traeth
wedi ei lleoli yn harbwr Abermaw ac yn gweithio ar yr arfordir rhwng Abermaw ac
Aberdyfi. Nodwyd bod Math Roberts wedi ei benodi yn y Gogledd a bydd yn
gweithio ar hyd yr arfordir yn ardal Porthmadog. Materion Ariannol Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol
at y tabl yn yr adroddiad sy’n crynhoi’r sefyllfa ariannol ac wedi ei
gategoreiddio i bump prif pennawd. Nodwyd bod y ffigyrau yn seiliedig ar
adolygiad cyllidol a gafwyd efo’r cyfrifwyr ym mis Tachwedd ac yn proffwydo’r
gwariant o Dachwedd tan ddiwedd Mawrth 2024. Manylwyd ar y penawdau gan nodi bod y
categori Gweithwyr yn ymgorffori cyflogau staff yn bennaf. Rhagwelir gorwariant
o ychydig dros £3,500 yn y categori hwn yn y flwyddyn ariannol gyfredol.
Eglurwyd bod hyn yn bennaf oherwydd taliadau goramser i staff oedd wedi gorfod
gweithio oriau ychwanegol o ganlyniad i faterion yn codi megis digwyddiadau
brys. Nodwyd bod y pennawd Eiddo yn ymwneud â
chostau cyffredinol cynnal a chadw yr adeilad a’r tir o gwmpas yr harbwr.
Manylwyd bod ychydig o orwariant yma. Cafwyd drysau newydd ar y storfa disel a
ffenest newydd ar adeilad yr harbwr yn ogystal â chostau ychwanegol eraill.
Nodwyd nad yw hyn yn anarferol o ystyried bod adeiladau yn mynd yn hŷn a
bod angen eu cynnal. Soniwyd am y pennawd Trafnidiaeth gan
gadarnhau nad yw’r pennawd hwn yn cynnwys costau yn ymwneud a’r cerbyd morwrol.
Cyfeiria’r pennawd yma yn benodol at gwch patrôl yr harbwr sef y Powercat a’r tanwydd i’r gwch; nodwyd bod tanwariant yma o
£500. Nodwyd bod gorwariant o bron £12,000 o
dan y pennawd Gwasanaethau a Cyflenwadau oherwydd costau sylweddol yn ystod y
flwyddyn o ganlyniad i’r gwasanaeth brynu dau gymhorthydd mordwyo newydd ar
gyfer yr harbwr. Yn ychwanegol bu i’r gwasanaeth orfod prynu goleuadau, offer a
chadwyni i fynd efo’r ddau gymhorthydd mordwyo, yn ogystal a thalu contractwr
i’w gosod. Rhagwelir gwariant gwirioneddol o £8,194 o orwariant ar ôl tynnu cyfraniad o gronfeydd ac yr incwm. Nodwyd bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL I ystyried materion ar gais yr Aelodau. Cofnod: Hysbysfwrdd Nododd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol bod yr hysbysfyrddau wedi cael eu tynnu fel
rhan o waith cynnal a
chadw’r gwasanaeth. Eglurodd bod bwriad i’w peintio ond roedd y ddau yma wedi
dirywio credwyd nad oedd pwrpas eu trwsio. Adroddwyd bod bwriad i greu rhai
newydd a bod y cais wedi ei wneud ond fod y gwneuthurwr yn rhedeg yn hwyr.
Ychwanegodd bod bwriad gwreiddiol i’w hailosod erbyn y Pasg ond bellach
gobeithir y byddent yn ôl fyny yn eu safle priodol erbyn cyfnod Sulgwyn. Cwch yn y Friog Yr ail gwestiwn
gan Gynghorydd Arthog a Llangelynnin oedd ynglŷn â llongddrylliad y cwch bach ym
Mhwynt Penrhyn. Mynegwyd pryder bod y cwch yn parhau i fod yno er gwaethaf
amryw o gwynion. Gofynnwyd a oedd bwriad
i gael gwared ohoni. Ategodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol
fod y sefyllfa yma yn parhau ers tro a bod y gwasanaeth wedi bod yn cyfathrebu
gyda pherchennog y cwch. Nodwyd bod y gwasanaeth wedi rhoi amryw o gyfleoedd
i’r perchennog wneud trefniadau i symud y cwch, ond yn anffodus nid oedd y
perchennog wedi cymryd y camau priodol. Derbyniwyd bod yr Aelod Lleol yn cael
cwynion a bod y sefyllfa ynghylch y gwch ‘Lady Anne’
yn rhwystredig gan ei bod yn edrych yn flêr iawn ar y safle. Er nad oedd
llygredd i’r dŵr, cydnabuwyd bod llawer o sylwadau negyddol wedi ei derbyn
amdani. Adroddwyd fod staff yr harbwr wedi rhoi
rhybudd ar y cwch ers diwedd wythnos diwethaf a bod y gwasanaeth efo’r pwerau i
symud y cwch o dan y ddeddf berthnasol. Eglurwyd bod gan y perchennog 30
diwrnod i wneud trefniadau i symud y cwch, fel arall bydd yr awdurdod harbwr yn
gwneud trefniadau gyda chontractwr lleol i’w symud. Nodwyd bod costau sylweddol
ynghlwm a hyn ond gobeithir cael ad-daliad yn ôl gan berchennog y cwch maes o
law. Gofynnwyd i staff
yr harbwr adael i aelodau’r Pwyllgor wybod pe bai diweddariad ac os bydd rhaid
defnyddio contractwr. Credwyd bod gan y Cyngor y pwerau cyfreithiol i gael yr
ad-daliad pe bai angen. Gofynnwyd i’r gwasanaeth ddiweddaru’r Cadeirydd a’i bod
yn bwysig rhannu unrhyw ddatblygiad. Aelodaeth Nodwyd na fydd yr Aelod Cyfetholedig John Johnson yn cynrychioli Cymdeithas Pysgota Bae Ceredigion ar y Pwyllgor bellach. Yn ychwanegol ni fydd yr Aelod Cyfetholedig Martin Parouty yn parhau ar y Pwyllgor ychwaith am ei fod wedi gadael Grŵp Defnyddwyr Harbwr Abermaw, sydd ers hynny wedi dod i ben. Credwyd bod angen sgwrs am sut i wella niferoedd y Pwyllgor. Cytunwyd i’r Cadeirydd, fel yr Aelod Lleol, gael trafodaeth efo’r Rheolwr Gwasanaeth Morwrol a’r Uwch Swyddog Harbyrau gan fod rhai o aelodau hanesyddol y Pwyllgor bellach wedi gadael. Cydnabuwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Ymgynghorol
Harbwr Abermaw ar 22ain Hydref, 2024. Cofnod: 22 Hydref 2024. |