Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Louise Hughes, y Cynghorydd Robert Williams (Cyngor Tref Abermaw), Robert Aeron Williams (Grŵp Gwella Cyrchfannau Abermaw (BRIG)) a’r Cynghorydd June Jones (Cynrychiolydd Pwyllgor Harbwr Porthmadog).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Nododd y Cadeirydd, y Cynghorydd Rob Triggs, y bydd ei fab sy’n gweithio fel Harbwfeistr Cynorthwyol yn cyflwyno rhan o eitem 4, Adroddiad yr Harbwrfeistr yn absenoldeb yr Harbwrfeistr. Yn sgil hyn penderfynwyd y byddai’r Is-gadeirydd, y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Cadeirio’r rhan hon o’r eitem.

Nid oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod.

 

 

3.

COFNODION pdf eicon PDF 126 KB

I gadarnhau cofnodion Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw a gynhaliwyd ar 24ain Hydref, 2023.

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2023, fel rhai cywir.

4.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 107 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a gofyn cwestiynau.

 

a)       Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref 2023 a mis Mawrth 2024.

Tynnwyd sylw at y materion canlynol:

 

Angorfeydd a Chofrestru Cychod

Nodwyd y bydd yr Harbwrfeistr yn cynnal archwiliad o’r afon cyn cyfnod y Pasg i wirio lleoliad y cymhorthion mordwyo a phenderfynu ble i osod angorfeydd ymwelwyr yn yr harbwr. Adroddwyd bod angen i gwsmeriaid sy’n dymuno cael angorfa yn yr harbwr neu gofrestru eu  badau pŵer gwblhau’r broses ar lein drwy wefan Cyngor Gwynedd.

 

Cod Diogelwch Morwrol Porthladdoedd

Nodwyd bod y Cod Diogelwch Morwrol Porthladdoedd yn cael ei adolygu’n rheolaidd gan y gwasanaeth a’u bod yn parhau i gydymffurfio â’r Cod.

 

Materion Staffio

Adroddwyd bod yr Harbwrfeistr a’r Harbwrfeistr Cynorthwyol yn parhau i weithio o swyddfa harbwr Abermaw. Yn ychwanegol, mae’r gwasanaeth wedi penodi Nicola Salt fel Swyddog Traeth llawn amser; bydd y Swyddog Traeth wedi ei lleoli yn harbwr Abermaw ac yn gweithio ar yr arfordir rhwng Abermaw ac Aberdyfi. Nodwyd bod Math Roberts wedi ei benodi yn y Gogledd a bydd yn gweithio ar hyd yr arfordir yn ardal Porthmadog.

 

Materion Ariannol

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol at y tabl yn yr adroddiad sy’n crynhoi’r sefyllfa ariannol ac wedi ei gategoreiddio i bump prif pennawd. Nodwyd bod y ffigyrau yn seiliedig ar adolygiad cyllidol a gafwyd efo’r cyfrifwyr ym mis Tachwedd ac yn proffwydo’r gwariant o Dachwedd tan ddiwedd Mawrth 2024.

 

Manylwyd ar y penawdau gan nodi bod y categori Gweithwyr yn ymgorffori cyflogau staff yn bennaf. Rhagwelir gorwariant o ychydig dros £3,500 yn y categori hwn yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Eglurwyd bod hyn yn bennaf oherwydd taliadau goramser i staff oedd wedi gorfod gweithio oriau ychwanegol o ganlyniad i faterion yn codi megis digwyddiadau brys. 

 

Nodwyd bod y pennawd Eiddo yn ymwneud â chostau cyffredinol cynnal a chadw yr adeilad a’r tir o gwmpas yr harbwr. Manylwyd bod ychydig o orwariant yma. Cafwyd drysau newydd ar y storfa disel a ffenest newydd ar adeilad yr harbwr yn ogystal â chostau ychwanegol eraill. Nodwyd nad yw hyn yn anarferol o ystyried bod adeiladau yn mynd yn hŷn a bod angen eu cynnal. 

 

Soniwyd am y pennawd Trafnidiaeth gan gadarnhau nad yw’r pennawd hwn yn cynnwys costau yn ymwneud a’r cerbyd morwrol. Cyfeiria’r pennawd yma yn benodol at gwch patrôl yr harbwr sef y Powercat a’r tanwydd i’r gwch; nodwyd bod tanwariant yma o £500.

 

Nodwyd bod gorwariant o bron £12,000 o dan y pennawd Gwasanaethau a Cyflenwadau oherwydd costau sylweddol yn ystod y flwyddyn o ganlyniad i’r gwasanaeth brynu dau gymhorthydd mordwyo newydd ar gyfer yr harbwr. Yn ychwanegol bu i’r gwasanaeth orfod prynu goleuadau, offer a chadwyni i fynd efo’r ddau gymhorthydd mordwyo, yn ogystal a thalu contractwr i’w gosod.

 

Rhagwelir gwariant gwirioneddol o £8,194 o orwariant ar ôl tynnu cyfraniad o gronfeydd ac yr incwm. Nodwyd bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL

I ystyried materion ar gais yr Aelodau.

Cofnod:

Hysbysfwrdd

Roedd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol wedi derbyn cwestiwn gan Gynghorydd Arthog a Llangelynnin yn holi ynghylch y ddau hysbysfwrdd pren oedd yn arfer bodoli ar y llwybr troed yn y Friog. Gofynnwyd pam eu bod nhw wedi cael eu tynnu oddi ar y llwybr ac os oes bwriad i’w ailosod a phryd.

 

Nododd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol bod yr hysbysfyrddau wedi cael eu tynnu fel rhan o waith cynnal a chadw’r gwasanaeth. Eglurodd bod bwriad i’w peintio ond roedd y ddau yma wedi dirywio credwyd nad oedd pwrpas eu trwsio. Adroddwyd bod bwriad i greu rhai newydd a bod y cais wedi ei wneud ond fod y gwneuthurwr yn rhedeg yn hwyr. Ychwanegodd bod bwriad gwreiddiol i’w hailosod erbyn y Pasg ond bellach gobeithir y byddent yn ôl fyny yn eu safle priodol erbyn cyfnod Sulgwyn.

 

Cwch yn y Friog

Yr ail gwestiwn gan Gynghorydd Arthog a Llangelynnin oedd ynglŷn â llongddrylliad y cwch bach ym Mhwynt Penrhyn. Mynegwyd pryder bod y cwch yn parhau i fod yno er gwaethaf amryw o gwynion. Gofynnwyd a  oedd bwriad i gael gwared ohoni.

 

Ategodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol fod y sefyllfa yma yn parhau ers tro a bod y gwasanaeth wedi bod yn cyfathrebu gyda pherchennog y cwch. Nodwyd bod y gwasanaeth wedi rhoi amryw o gyfleoedd i’r perchennog wneud trefniadau i symud y cwch, ond yn anffodus nid oedd y perchennog wedi cymryd y camau priodol. Derbyniwyd bod yr Aelod Lleol yn cael cwynion a bod y sefyllfa ynghylch y gwch ‘Lady Anne’ yn rhwystredig gan ei bod yn edrych yn flêr iawn ar y safle. Er nad oedd llygredd i’r dŵr, cydnabuwyd bod llawer o sylwadau negyddol wedi ei derbyn amdani.

 

 

Adroddwyd fod staff yr harbwr wedi rhoi rhybudd ar y cwch ers diwedd wythnos diwethaf a bod y gwasanaeth efo’r pwerau i symud y cwch o dan y ddeddf berthnasol. Eglurwyd bod gan y perchennog 30 diwrnod i wneud trefniadau i symud y cwch, fel arall bydd yr awdurdod harbwr yn gwneud trefniadau gyda chontractwr lleol i’w symud. Nodwyd bod costau sylweddol ynghlwm a hyn ond gobeithir cael ad-daliad yn ôl gan berchennog y cwch maes o law.

 

Gofynnwyd i staff yr harbwr adael i aelodau’r Pwyllgor wybod pe bai diweddariad ac os bydd rhaid defnyddio contractwr. Credwyd bod gan y Cyngor y pwerau cyfreithiol i gael yr ad-daliad pe bai angen. Gofynnwyd i’r gwasanaeth ddiweddaru’r Cadeirydd a’i bod yn bwysig rhannu unrhyw ddatblygiad.

 

Aelodaeth

Nodwyd na fydd yr Aelod Cyfetholedig John Johnson yn cynrychioli Cymdeithas Pysgota Bae Ceredigion ar y Pwyllgor bellach. Yn ychwanegol ni fydd yr Aelod Cyfetholedig Martin Parouty yn parhau ar y Pwyllgor ychwaith am ei fod wedi gadael Grŵp Defnyddwyr Harbwr Abermaw, sydd ers hynny wedi dod i ben. Credwyd bod angen sgwrs am sut i wella niferoedd y Pwyllgor. Cytunwyd i’r Cadeirydd, fel yr Aelod Lleol, gael trafodaeth efo’r Rheolwr Gwasanaeth Morwrol a’r Uwch Swyddog Harbyrau gan fod rhai o aelodau hanesyddol y Pwyllgor bellach wedi gadael. Cydnabuwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar 22ain Hydref, 2024.

Cofnod:

22 Hydref 2024.