Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau
am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd
Gareth Thomas (Aelod Cabinet Datblygu’r Economi), Cynghorydd Brian Woolley
(Cyngor Cymuned Arthog), Mr John Johnson (Cymdeithas Bysgota Abermaw a Bae
Ceredigion), Cynghorydd Matthew Harris (Grŵp Gwella Cyrchfannau Abermaw)
ac Arthur Francis Jones (Uwch Swyddog Harbyrau). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o
fuddiant personol. Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 19eg o Hydref 2021 fel rhai cywir. Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y
Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2021. Materion yn codi o’r cofnodion: ·
Nofio Awyr Agored – Nodwyd bod y Bartneriaeth Awyr Agored wedi awgrymu
y dylid cysylltu â chwmni ‘Swim Wales’ i drafod datblygiadau nofio awyr agored
yn yr Harbwr. Eglurwyd y bydd datblygiadau yn cael eu rhannu efo’r Harbwr Feistr
neu efo’r Rheolwr Morwrol. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 199 KB I ystyried a) adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau b)
adroddiad yr Harbwrfeistr c) astudiaeth Posibilrwydd Carthu Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi a derbyn yr
adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiadau isod a gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a
gofyn cwestiynau. a) Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno i’r pwyllgor ar faterion yr
harbwr ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref 2021 a mis Mawrth 2022. Cyn cychwyn nodwyd
bod yr Uwch Swyddog Harbyrau yn anfon ei ddymuniadau gorau i’r Pwyllgor.
Gobeithiai fod yn ôl yn ei waith cyn diwedd mis Mai. Dymuna’r Pwyllgor anfon eu
dymuniadau a gwellhad buan at Arthur. Tynnwyd sylw at y
materion canlynol: Angorfeydd Abermaw a Chofrestru Cychod Adroddwyd bod y ceisiadau i gyd wedi
cael eu hanfon i’r cyn-gwsmeriaid a bod rhai eisoes wedi dychwelyd. Bydd y
system Cofrestru Cychod Pŵer a Badau Dŵr Personol ar lein yn cael ei
lansio wythnos yma. Nodwyd bod oedi efo’r system o gadarnhau angorfa ar lein yn
yr holl harbyrau; ychwanegwyd bod y system yn prysur ddatblygu a bydd yn mynd
yn fyw ym mis Mawrth 2023. Cod Diogelwch
Morwrol Porthladdoedd Nodwyd bod archwiliadau wedi eu cynnal
gan Asiantaeth Gwylwyr y Glannau a bod statws cod diogelwch Gwynedd wedi ei
gadarnhau. Eglurwyd bod datganiad wedi ei arwyddo gan yr Aelod Cabinet Economi
a Chymuned wedi ei anfon i’r asiantaeth i gadarnhau cydymffurfiaeth â’r cod.
Bydd y cod diogelwch harbyrau yn parhau i gael ei adolygu yn rheolaidd.
Pwysleisiwyd bod y tîm harbyrau yn dibynnu ar fewnbwn aelodau’r Pwyllgor gan
nodi ei bod yn bwysig dod a materion sy’n ymwneud â diogelwch yr harbwr i sylw
Swyddogion. Holiwyd beth oedd canlyniad yr ymgynghoriad
Cenedlaethol ynglŷn â jet-sgi. Nodwyd bod sylwadau cynhwysfawr wedi eu
cyflwyno i’r Llywodraeth. Rhagwelir y bydd ymateb gan y Llywodraeth tua canol y
flwyddyn a bydd y sylwadau hyn ar gael i aelodau’r Pwyllgor. Ychwanegwyd bod
croeso i aelodau’r Pwyllgor dderbyn copi o ymateb y Cyngor i’r ymgynghoriad os
ydynt yn dymuno. Adroddwyd na fydd digwyddiad y ‘Black
Rock Blast’ yn digwydd eleni ychwaith oherwydd Cofid. Gobeithiwyd ei gynnal y
flwyddyn nesaf. Nodwyd bod y digwyddiad hwn wedi rhoi platfform cadarn i dynnu
sylw at ymddygiad da yn ymwneud a chychod pŵer a jet-sgis. Gwnaethpwyd sylw am gwynion gafodd eu
derbyn ynglŷn â jet-sgis ble deliodd y Rheolwr Morwrol yn gyflym â’r
cwynion, roedd y Cynghorwyr yn hapus iawn efo’r canlyniad. Anogwyd y Cynghorwyr
i gysylltu â’r tîm harbyrau cyn gynted ag y bo modd os ydynt yn derbyn cwynion
er mwyn gallu ymateb a delio efo’r sefyllfa yn syth. Ychwanegwyd nad oedd nifer
fawr o gwynion wedi eu derbyn a bod llawer o’r cwynion yn ymwneud â diffyg
dealltwriaeth o reoliadau. Gobeithiwyd y bydd Heddwas yn mynychu gwahanol
harbyrau dros gyfnod yr Haf ac yn mynd allan o gwmpas yr arfordir. Nodwyd bod
ail afael yn y cydweithio oedd yn arfer bodoli efo Heddweision yn gam positif. Materion Staffio Adroddwyd y bydd yr Harbwr Feistr presennol yn gadael ei swydd ar y 1af Ebrill. Bydd angen edrych ar benodi Harbwr Feistr newydd i Abermaw gan gydnabod y bydd yn her ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL Cofnod: Ramp yn Fairbourne Gwnaethpwyd cais gan grŵp cymunedol am arian
ar gyfer gosod ramp i alluogi preswylwyr ac ymwelwyr Fairbourne i allu cael
mynediad i’r traeth. Nodwyd ei bod yn annheg nad oedd mynediad yn bodoli.
Ychwanegwyd bod y Cyngor Cymuned yn ceisio dod o hyd i arian; bydd angen o
gwmpas £50,000 i gyllido’r gost. Nododd y Rheolwr Morwrol ei fod wedi cael
trafodaethau efo Clerc Cyngor Cymuned Arthog am y ramp. Adroddodd y bydd angen
i unrhyw beth gaiff ei ychwanegu yn Fairbourne fod yn gadarn a pheidio ag yn
amharu ar y llif arfordirol a’i bod yn bwysig cael y trefniadau a’r hawliau
priodol mewn lle. Nodwyd y byddai angen trwydded forol am ei fod o dan y marc
dŵr llanw uchel cymedrig felly mae’n debyg y byddai’r gost yn llawer fwy
na £50,000. Ychwanegodd ei fod yn gobeithio cyfarfod efo Cyfoeth Naturiol Cymru
ar ôl y Pasg i drafod eu gofynion ar y safle. Eglurodd y Rheolwr
Morwrol ymhellach ei fod wedi cyflwyno datganiad o ddiddordeb ar gyfer grantiau
arfordirol ond nad oes capasiti i’w ddatblygu ar hyn o bryd. Nododd ei fod yn
deall y rhwystredigaeth ac yn gobeithio cael trafodaeth bellach efo’r Cyngor
Cymuned yn fuan. Llecynnau yn y compownd a rheoli parcio yn y
compownd. Cyfeiriwyd ar y
pwyntiau oedd wedi eu codi gan gynrychiolydd Cyngor Tref Abermaw mewn e-bost
blaenorol. Nododd y Rheolwr Morwrol nad oedd ganddo ateb pendant i’r cwestiynau
am yr uchod. Ychwanegodd y bydd oedi ar y cynlluniau oedd mewn lle oherwydd y
bydd Harbwr Feistr newydd yn cael ei benodi a bydd angen caniatáu amser iddyn
nhw setlo yn y rôl felly nid oes rhaglen bendant ar hyn o bryd. Cofnodion Holiwyd pwy sy’n
derbyn copi o gofnodion y cyfarfodydd ac os ydynt yn cael trafodaeth bellach yn
unrhyw le. Adroddwyd bod y cofnodion yn cael eu rhannu efo’r Aelod Cabinet
Economi a Chymuned. Dymuna’r Pwyllgor ddiolch i’r Aelod Cabinet presennol am ei
gefnogaeth dros y blynyddoedd. Ychwanegwyd nad oes trafodaeth bellach yn y
Cabinet o ganlyniad i gofnodion y Pwyllgor hwn ond bydd y tîm morwrol yn dod a
materion pwysig ger bron y Tîm Arweinyddiaeth a’r Cabinet pe bai angen. Ras 10km Abermaw Cymerodd
gynrychiolydd y Pwyllgor Ras y Tri Copa y cyfle i sôn am y
digwyddiad uchod fydd yn cael ei gynnal ar y 9fed o Orffennaf ac am y gwaith
parhaus i allu cynnal y digwyddiad. Nodwyd ei fod yn ddigwyddiad mawr i Abermaw
gyda gwaith paratoi mewn lle ers blynyddoedd. Ychwanegodd y bydd angen gofyn
caniatâd i glirio wal gefn maes parcio’r Clwb Hwylio gan bod llawer o dywod
wedi pentyrru yno. Diolchwyd am waith cynrychiolydd y Pwyllgor Ras y
Tri Copa a gobeithiwyd y bydd y diwrnod yn llwyddiant.
Cymerodd y Cadeirydd y cyfle i ddiolch i aelodau’r Pwyllgor, staff y Cyngor a staff yr harbwr am eu gwaith a’r gefnogaeth dros y blynyddoedd gan mai hwn fydd ei gyfarfod olaf. Dymunodd yn dda i bawb at y dyfodol. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF Cofnod: 8 Tachwedd 2022. |