Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Natalie Lloyd Jones 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I
dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Gareth Thomas, Llyr B. Jones (Pennaeth
Cynorthwyol Economi a Chymuned), Cynghorydd Bob Tyrrell
(Cyngor Cymuned Aberdyfi), Will Stockford (Harbwrfeistr
Aberdyfi). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. COFNODION: Dim i’w nodi. |
|
a)
Cadarnhau cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 2ail Fawrth 2021 fel rhai cywir b)
Materion yn codi COFNODION: a.
Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod
y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 2ail o Fawrth, 2021, fel rhai cywir. b.
Nid oedd unrhyw faterion yn codi o’r
cofnodion |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 286 KB I
ystyried yr adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (1) Penderfynwyd nodi a derbyn yr adroddiad. (2) Ymateb i bapur ymgynghori’r Adran
Drafnidiaeth “Strengthening enforcement of the dangerous use of recreational and
personal watercraft” bod y pwyllgor hwn yn ffafrio opsiwn 3, sef llunio
deddfwriaeth dan adran 112 o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003
i ymestyn darpariaethau perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau
perthnasol, i gynnwys badau dŵr hamdden a phersonol. COFNODION: Rhoddwyd diweddariad ar faterion rheolaethol
yr harbwr gan y Uwch Swyddog Harbyrau. Nododd y prif
bwyntiau fel a ganlyn: -
Bod 76 o gychod ar angorfeydd o
gymharu â 47 yn 2020. Ategodd yn gyffredinol, bod harbyrau
Gwynedd wedi gweld cynnydd yn nifer y cychod ar angorfeydd. -
Tybiwyd bod y cynnydd o ganlyniad i ryddhad rheoliadau
Covid-19 yn ogystal â’r parhad o’r rhwystrau i deithio dramor. -
Rhannwyd bod y drefn cofrestru ar-lein ar gyfer cychod
pŵer a jetskis wedi bod yn llwyddiant -
Crynhowyd y cyfanswm cofrestriadau 1,308 a chyfanswm ar
gyfer cofrestriadau Cychod Dwr Personol (jestskis)
1,302. -
Nododd bod y Pwyllgor yn ymwybodol bod y gwasanaeth yn
cydymffurfio â’r cod diogelwch morwrol, ac ategodd i aelodau eu hysbysu
ynghylch unrhyw sylwadau. Cyflwynwyd diweddariad ar faterion staffio
fel a ganlyn: -
Nododd nad yw’r lefel staffio wedi newid ers yr adroddiad
diwethaf ac ategodd bod y gwasanaeth yn medru galw staff o Borthmadog
neu Abermaw os oes angen yn codi. -
Penodwyd 2 warden traeth i gynorthwyo gyda goruchwylio
rheolaeth ar brif draeth Aberdyfi ac ategwyd yn ôl adborth gan drigolion bod
hyn wedi bod yn llwyddiant. -
Mewn perthynas â materion Pwyllgor, mynegwyd balchder yn
y gefnogaeth sydd i’r Pwyllgor hwn, a rhannwyd bod sedd wag ar hyn o bryd.
Dywedodd bod cais wedi dod gan y mudiad bad achub i lenwi’r sedd, a gofynnwyd
am gefnogaeth yr aelodau i sicrhau bod y sedd yn cael ei lenwi erbyn y cyfarfod
nesaf yn y Gwanwyn. Cyflwynwyd materion ariannol gan Reolwr
Morwrol, aethpwyd ati i egluro’r sefyllfa ariannol yr Harbwr gan nodi’r
gyllideb, gwariant a gwir wariant ac egluro unrhyw gôr neu danwariant i’r
aelodau. Aethpwyd ati i drafod y ddogfen ar
ymgynghoriad cryfhau gorfodaeth ar ddefnydd peryglus cychod pleser a badau dwr
personol. Eglurodd bod dyddiad cau'r ymgynghoriad wedi bod, fodd bynnag mae
llythyr wedi ei hysgrifennu i’r Adran Drafnidiaeth yn Llundain yn nodi dyddiad
y pwyllgor hwn ac yn egluro y bydd sylwadau Cyngor Gwynedd yn cael eu rhannu yn
dilyn y Pwyllgor. Adroddwyd bod 4 opsiwn ynghlwm a’r ymgynghoriad gyda’r un ffafriol i
ddiwygio’r ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 i ymestyn
darpariaethau perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau perthnasol, i
gynnwys badau dŵr hamdden a phersonol. Eglurodd bod y Pwyllgorau harbyrau eraill, eisoes wedi penderfynu cefnogi’r opsiwn
yma. Ategodd nad oed rhaid dilyn y dewis hwn a gofynnwyd am farn yr Aelodau. Yn ystod y drafodaeth cafwyd y sylwadau isod
gan aelodau: -
Mynegwyd balchder o weld bod niferoedd y cychod yn uwch
gan i fod yn dda iawn i’r gwasanaeth o ran cyllid ychwanegol. -
Gofynnwyd am gywirdeb gyda niferoedd gan fod y copi
Saesneg yn wahanol i’r un Gymraeg o ran nifer cofrestriadau. -
Rhoddwyd sylw am gwt y wardeniaid traeth a gofynnwyd a
yw’n bosib gosod rhywbeth mwy gweddus i’r ardal. - Nodwyd bod y staff wedi wynebu tymor prysur iawn a diolchwyd i’r holl staff a oedd ar gael o gwmpas yr harbwr. ... view the full COFNODION text for item 4. |
|
ADRODDIAD YR HARBWRFEISTR PDF 119 KB I ystyried
adroddiad yr Harbwrfeistr. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Harbwrfeistr Cynorthwyol yn nodi’r prif bwyntiau ar y
materion gweithredol fel a ganlyn: -
Gyda materion mordwyo nododd bod y sianel yn newid yn
gyson ac yn cael ei fonitro drwy gydol y tymor fel bod modd rhoi rhybuddion i forwyr -
Eglurwyd bod ‘Trinity House’ wedi bod i archwilio a nodwyd bod contractwyr lleol
wedi cwblhau’r gwaith cynnal a chadw fel yr ofynnwyd ar y cynorthwyon mordwyo. -
Mewn perthynas â materion gweithredol, nododd bod diwedd
ar y cyfyngiadau Covid wedi arwain at Haf brysur iawn
ond bod y wardeniaid ychwanegol wedi bod o gymorth mawr. -
Ychwanegodd bod y mwyafrif o ymwelwyr wedi bod yn
barchus, fodd bynnag cofnodwyd ambell i brofiad amharchus. Nododd yn ychwanegol
bod cynnydd mewn sbwriel yn cael ei adael o amgylch yr harbwr a’r traeth. -
Eglurodd bod cynnydd aruthrol mewn SUP’s
(StandUp Paddleboards) ar y
traeth, llwyddodd y warden i gynghori defnyddwyr ar ddiogelwch y môr ag i
gadw’r sianel yn glir. -
Aethpwyd ati i
egluro’r holl waith cynnal a chadw sydd wedi bod megis gyda’r cytiau a’r bad
patrolio. Ychwanegodd y Rheolwr Morwrol y canlynol: -
Bod recriwtio i swyddi tymhorol yn heriol a gofynnwyd i’r
aelodau hysbysebu unrhyw swyddi o fewn eu wardiau neu gymunedau. -
O ganlyniad i gamdriniaeth eiriol, mae’r gwasanaeth wedi
buddsoddi mewn camerâu Teledu Cylch Gyfyng i staff wisgo. -
Er mwyn ymdrin â sbwriel, y rhan fwyaf o ganlyniad i
ymwelwyr yn dal crancod, nododd bydd angen cydweithio efo siopau lleol sy’n
gwerthu’r offer yn ogystal â lleoli biniau ar gyfer plastig o amgylch yr
harbwr. -
Eglurodd sefyllfa wal y cei gan nodi ei fod yn deall
rhwystredigaeth y Pwyllgor wrth i hyn fod yn bwnc trafod ers blynyddoedd. Fodd
bynnag, nododd bod y gwaith wedi ei hail dendro a bod y ceisiadau yn cael eu
hasesu gan yr adran YGC. -
Ychwanegodd y byddai’r cyfathrebu gyda’r aelodau wedi’r penderfyniad
gael ei wneud ar enillydd y contract. Cafwyd y wybodaeth isod ynghylch sefyllfa
Ynys Picnic gan gynrychiolydd Outward Bound Trust: -
Nodwyd erbyn y pwyllgor nesaf bydd bont yn ei le neu ar y
ffordd. Diolchwyd i Network Rail
am eu cefnogaeth tra bod y gwaith yn digwydd. -
Eglurodd bod partneriaid lleol a Chyngor Gwynedd yn
asesu’r sylfaen ym mis Tachwedd ac yna bydd broses o dynnu’r hen strwythur a’i
ddisodli gydag un newydd. -
Mewn perthynas â chostau, nododd y Rheolwr Morwrol bod
costau dur er enghraifft wedi cynyddu yn sylweddol a gobeithiwyd bod y tendr
ffurfiol yn dod o fewn y gyllideb. Yn ystod y drafodaeth, cafwyd y sylwadau
isod gan aelodau: -
Holwyd os oedd cost i’r gwasanaeth harbyrau
i ddelio efo sgerbydau anifeiliaid sy’n cael eu golchi mewn gan y môr. - Mynegwyd bod llawer o bethau positif wedi bod yn yr ardal dros yr haf ond am y sbwriel. Ategwyd aelodau bod angen cychwyn sgwrs efo siopau ac awgrymwyd system benthyca offer fel eu bod yn dychwelyd ... view the full COFNODION text for item 5. |
|
MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL I
ystyried materion ar gais yr Aelodau. COFNODION: Holwyd aelod ynghylch
hylendid dŵr yn yr afon a beth yw’r diweddariad gyda’r llygredd i’r afon Ddyfi. Nodwyd aelod bod tywod ar y stryd fawr yn
broblem a chyfeiriwyd at y Pwyllgor blaenorol pan drafodwyd hyn a phenderfynwyd
peidio ymyrryd gan nad oedd arian o fewn y gyllideb. Ategodd aelod bod hyn yn peri anawsterau i’r
bad achub gan fod tywod ar y llithrfa. Mewn ymateb i’r
materion, nododd y Rheolwr Morwrol y pwyntiau canlynol: - Aberdyfi yn cyrraedd
y gofynion angenrheidiol o
ran hylendid dwr yn ôl Llywodraeth
Cymru. - Ychwanegodd os oes risg
i ansawdd dwr ymdrochi, bod y Gwasanaeth yn derbyn rhybuddion
gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac yna’n hysbysebu’r rhybuddion. - Nododd os oes unrhyw
bryderon llygredd yn dod o lefydd
penodol, y dylid hysbysebu CNC ar frys fel bod modd
i swyddogion archwilio unrhyw honiad. - Mewn perthynas â’r tywod,
cydymdeimlwyd gyda’r broblem ond nododd
nad oes gan
y Gwasanaeth arian i lanhau llithrfa yn rheolaidd a gofynnwyd i’r bad achub rhoi rhaglen
mewn lle i sicrhau bod y lithrfa’n glir. |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF Nodi bydd cyfarfod nesaf y Pwyllgor yn cael ei gynnal 22ain o Fawrth
2022. COFNODION: Cadarnhawyd bod y
cyfarfod nesaf ar y 22ain o Fawrth, 2022. |