Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan Y Cynghorydd Gareth
Thomas (Aelod Cabinet Economi a Chymuned),
Cynghorydd Bob Tyrrell (Cyngor Cymuned Aberdyfi), Al
Crisp (Outward Bound Wales), Josh Cooper (RNLI Aberdyfi) ac Arthur Francis
Jones (Uwch Swyddog Harbyrau) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Diweddariad ar
brosiectau Wal y Cei a Phont Bryn Llestair (Picnic Island Bridge) Wal Cei Aberdyfi Croesawyd Owain
Griffiths (Prif Beiriannydd Ymgynghoriaeth Gwynedd)
i’r cyfarfod i roi diweddariad ar brosiect wal y cei. Adroddwyd, wedi derbyn tri
chais am y gwaith bod yr Uned, wedi dilyn proses o asesu’r ceisiadau, yn y
broses o gynnig y gwaith i gwmni sydd yn arbenigo fel Contractwr Morol o fewn
Peirianneg Sifil o’r enw Teignmouth Maritime Services Ltd (TMS) o Ddyfnaint.
Derbyniwyd bod y
broses wedi bod yn un hir, ond bellach bod llythyr gan Lywodraeth Cymru wedi ei
dderbyn yn cadarnhau telerau'r grant ynghyd ag arian cyfatebol gan Gyngor
Gwynedd i dalu am y gwaith. Amlygwyd mai’r cam nesaf fydd gosod rhaglen
ddiwygiedig a thrafod cyfnod yr achos busnes yn llawn gyda’r cwmni. Nodwyd nad
oedd dyddiad pendant ar gyfer dechrau’r gwaith, ond unwaith y daw rhaglen
ddiwygiedig i law, byddai’r wybodaeth yn cael ei rhyddhau. Cadarnhawyd bod yr
arian yn ddiogel a bod y cwmni eisoes wedi ymweld â’r safle ac wedi cyfarfod
rhai rhandaliad. Ategwyd mai dymuniad YGC oedd sefydlu un grŵp i
ymgysylltu gyda’r gymuned fydd yn cyfarfod yn rhithiol unwaith y mis i drafod
materion yn ymwneud â’r prosiect - y bwriad yw cynnal y cyfarfod cyntaf yn
ystod mis Ebrill. Yn dilyn y
drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau; ·
Bod y newyddion yn bositif
ac i’w groesawu ·
Doeth fyddai cael Clerc Cyngor Cymuned Aberdyfi yn
aelod o’r grŵp cymunedol ·
Dylid llunio
rhaglen waith a pharatoi ar gyfer
cyfnod cyn gweithredu – posib trefnu storfeydd, symud offer a pharatoi mynediad – awgrym amser o ryw 6 wythnos ·
Bydd angen ystyried effaith y gwaith ar yr economi leol
- y gwaith yn debygol o gael ei weithredu yn
ystod cyfnod prysur / gwyliau ysgol. Os yw’r
arian yn ei le onid gwell
fyddai oedi fel y bydd llai
o darfu ac effaith ar y gymuned? ·
Bod prisiau offer,
dur, tanwydd ac adnoddau yn codi ·
Bydd loriau
trwm yn cario
dur yn amharu ar symudiadau yn
y dref – angen paratoi ar gyfer
hyn Mewn ymateb i sylw
ynglŷn ag oedi’r gwaith, ystyriwyd mai gwell fyddai gweithredu mor fuan â
phosib gan y byddai dechrau ar y gwaith yn ystod misoedd yr Hydref yn agored i
risgiau tywydd garw a chynnydd mewn costau adnoddau. Ategwyd bod pryderon
eisoes yn bodoli ynglŷn â phryniant offer (sheet
piles) ar gyfer creu sylfaen - dyma’r mater fydd yn
pennu dechrau’r gwaith. Sicrhawyd bod y pryderon yn cael eu hystyried, ond
doeth fyddai parhau ac ymdrin ag unrhyw faterion wrth iddynt godi. Phont Bryn Llestair
(Picnic Island Bridge) Amlygodd Mr Barry Davies (Rheolwr Gwasanaeth Morwrol), er yr oediad, bod bwriad cwblhau'r gwaith yn 2022. Nodwyd bod y gwaith yn cael ei ariannu drwy gyfraniadau gan Cyngor Gwyendd, Outward Bound Wales, FLAG a Network Rail, ond bellach bod costau dur wedi cynnydd yn sylweddol ac felly y gyllideb yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd 2il o Dachwedd 2021 fel rhai cywir
Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar Dachwedd 2il 2021, fel rhai
cywir. Nid oedd unrhyw faterion yn codi o’r
cofnodion |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 108 KB I ystyried adroddiad yr Uwch
Swyddog Harbwr Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi yr
adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiadau isod, a gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a
gofyn cwestiynau. a)
Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno i’r pwyllgor ar
faterion yr harbwr ar gyfer y flwyddyn
a ddaw i ben Mawrth 2022. Yn absenoldeb yr
Uwch Swyddog Harbyrau nododd Rheolwr Gwasanaeth
Morwrol mai braf oedd cyhoeddi blwyddyn lwyddiannus gyda chynnydd yn nifer
ymwelwyr a chwsmeriaid yn adlewyrchu llacio graddol cyfyngiadau covid a rhwystrau teithio tramor. Tynnwyd sylw at y
materion canlynol: Angorfeydd a chofrestru cychod Adroddwyd y
byddai’r gwasanaeth cofrestru a thalu ar lein yn agor i gwsmeriaid gofrestru eu
llestr drwy wefan y Cyngor ar y 31ain o Fawrth 2022. Adroddwyd bod y drefn a
gyflwynwyd Mawrth 2021 wedi bod yn llwyddiannus iawn a gwelwyd am y tro cyntaf
restr aros am angorfeydd yn Harbwr Pwllheli. Côd Diogelwch Morol Porthladdoedd Nodwyd bod y
Gwasanaeth yn adolygu’r Côd Diogelwch Morol yn
rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio’n llawn gyda’r
safonau diogelwch yn harbyrau Gwynedd - bydd
archwiliad allanol o’r côd yn cael ei gynnal gan
unigolyn dynodedig. Ategwyd bod datganiad cydymffurfiaeth wedi ei arwyddo ac
wedi ei gyflwyno i’r Asiantaeth Gwylwyr y Glannau. Amlygwyd pryderon difrifol
ynglŷn â chyflwr y cei yn Aberdyfi (dim o ran ei strwythur ond y risg
uchel i ddefnyddwyr eraill). Er bod gwybodaeth ac arwyddion yn ymddangos ar y
cei yn amlygu risgiau a phryderon i ddiogelwch y cyhoedd, rhaid gwneud mwy ac
mae yn anorfod bod yr Uned Morwrol yn gweithredu ar frys i sicrhau diogelwch y
safle. Nodwyd bod y risg o beidio clirio / cadw offer pysgotwyr wedi ei gyfarch
drwy greu lle cadw offer yn y compownd a derbyniwyd
bod angen sicrhau cydweithrediad gan y pysgotwyr i flaenoriaethu diogelwch y
cyhoedd. Ategwyd, pan fydd y gwaith clirio yn dechrau ar gyfer wal y cei, bydd
yr offer yn cael ei symud yn barhaol i’r compownd. Anogwyd yr Aelodau
i gyflwyno sylwadau rheolaidd ar addasrwydd y Côd
Diogelwch Morol Materion Staffio Canmolwyd yr holl
staff (harbwr a thraeth) am eu gwasanaeth drwy gydol y pandemig
i sicrhau diogelwch yr harbwr a’r traeth gan gydymffurfio yn llawn gyda
chanllawiau Llywodraeth Cymru. Nodwyd bod 2 swydd barhaol yn Harbwr Aberdyfi
gyda bwriad o gyflogi 2 swydd dymhorol yno a 3 yn Nhywyn. Ategwyd, bod ymateb
i’r swyddi wedi bod yn siomedig iawn ond braf oedd cael adrodd bod Mr George
Watson yn dychwelyd - un a phrofiad yn y maes, yn arweinydd tîm cryf ac yn
gyfathrebwr da. Materion Ariannol Amlygwyd y
tebygolrwydd y byddai ffioedd a thaliadau arfaethedig ar gyfer Harbwr Aberdyfi,
ynghyd a ffioedd lansio cychod pŵer a chychod personol am 2022/23, yn codi
yn unol â chyfradd chwyddiant. Diolchwyd am yr
adroddiad. Braf oedd adrodd bod y sefyllfa ariannol yn bositif ac er mai bychan
yw’r incwm, bod cyfraniad yr Harbwr a thraeth Aberdyfi yn werthfawr i’r economi
leol. (b) Adroddiad yr Harbwr Feistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL I ystyried materion a dderbyniwyd Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF I nodi bydd cyfarfod
nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi yn cael ei
gynnal 25ain o Hydref 2022 Cofnod: Cadarnhawyd bod y cyfarfod nesaf ar y 25ain o
Hydref 2022. |