Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Ffion Elain Evans
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd ar gyfer
2023/24. Penderfyniad: Etholwyd y Cynghorydd Robert Dewi Owen fel Cadeirydd
Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar gyfer y flwyddyn 2023/24. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Dewi Owen yn Gadeirydd y Pwyllgor
ar gyfer y flwyddyn 2023/24. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer
2023/24. Penderfyniad: Etholwyd y Cynghorydd John Pughe fel Is-gadeirydd
Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar gyfer y flwyddyn 2023/24. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd John Pughe yn Is-gadeirydd y
Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2023/24. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd
Gwilym Jones (Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog) a Guy
Shaw (Clwb Rhwyfo Aberdyfi). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor
hwn, a gynhaliwyd ar y 21ain o Fawrth
2023, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion
y cyfarfod blaenorol o’r cyfarfod hwn, a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2023, fel rhai
cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 203 KB Cyflwyno
adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodi a derbyn yr
adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiadau isod, a gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a
gofyn cwestiynau. Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno i’r pwyllgor ar faterion
yr harbwr ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben Mawrth 2024. Angorfeydd a Chofrestru Cychod ·
Esboniwyd bod 73 o gychod
wedi bod ar angorfeydd blynyddol yn harbwr Aberdyfi yn 2023 a bod hyn yn
gynnydd o un cwch o’i gymharu â’r
nifer yn 2022. Gobeithir y bydd y cynnydd yma’n parhau yn 2024 ond bod y
sefyllfa economaidd gyffredinol ac yn benodol, yr argyfwng costau byw
presennol, yn parhau i fod yn ffactor wrth geisio denu cwsmeriaid i’r harbwr. ·
Nodwyd bod y mwyafrif o aelodau’r cyhoedd sy’n
dymuno lansio cychod pŵer i ddyfroedd arfordir Gwynedd bellach yn
cofrestru eu cychod pŵer ar lein drwy wefan Cyngor Gwynedd a bod 1269 o gychod pŵer a 1240 o fadau dŵr personol wedi’u
cofrestru yng Ngwynedd y tymor hwn. Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd ·
Eglurwyd bod y Cod Diogelwch Morol
Porthladdoedd (PMSC) yn amlinellu’r safon genedlaethol ar gyfer pob agwedd o
ddiogelwch morol porthladdoedd ac mai ei nod yw gwella diogelwch i bawb sy’n
defnyddio neu’n gweithio yn amgylchedd morol porthladdoedd. ·
Nodwyd
bod y Gwasanaeth yn adolygu’r Cod yn rheolaidd ar gyfer yr harbyrau
sydd o dan ei awdurdodaeth er mwyn sicrhau bod cydymffurfiaeth lawn gyda
gofynion presennol y Cod. ·
Atgoffwyd ei bod hi’n hanfodol, fel rhan o’r
broses adolygu, bod y Gwasanaeth yn derbyn sylwadau a barn Aelodau’r Pwyllgor
Ymgynghorol am ba mor addas yw’r Cod Diogelwch Morol. ·
Cyfeiriwyd at ddigwyddiad ar yr aber ym mis
Mawrth oedd yn ymwneud â
thri bad dŵr
personol a chwch pŵer. Cadarnhawyd bod y Gwasanaeth yn cydweithio gyda'r
heddlu ar yr ymchwiliad i amgylchiadau’r digwyddiad a bod hyn mewn perthynas â throseddau posib a ddatgelwyd o dan
ddeddfwriaeth a ddaeth i rym yn ddiweddar, y Merchant Shipping (Watercraft) Order 2023. ·
Mynegwyd
pryder am unigolion sy’n mynd allan ar y dŵr heb dystysgrif na
hyfforddiant priodol. Holwyd a oes modd i’r harbwr feistr ofyn i weld
tystiolaeth o dystysgrif pobl cyn gadael iddynt fynd ar y dŵr? o
Mewn
ymateb, eglurwyd nad oes gan yr Harbwrfeistr unrhyw
bŵer statudol i orfodi pobl i ddangos eu tystysgrif na’u dogfennau
yswiriant. o
Nodwyd bod nifer o bobl yn mynychu
hyfforddiant a bod y swyddogion yn swyddfa’r Harbwr yn rhagweithiol wrth annog
pobl i fynd ar gyrsiau hyfforddi a bod cynnydd wedi’i weld yn y nifer o bobl
sy’n mynd ar gyrsiau hyfforddi. ·
Mewn ymateb i gwestiwn a oedd yn holi a oedd
modd cael y pwerau statudol angenrheidiol i allu gorfodi gweld tystysgrifau,
eglurwyd bod y pwerau ar gyfer hyn wedi’u lleoli yn San Steffan. o
Serch hyn, eglurwyd bod rheoliadau newydd
wedi’u cyflwyno a bod ‘jet ski’ bellach yn disgyn o
dan y diffiniad o ‘fad’ neu ‘gwch’. Nodwyd bod hyn yn gam i’r cyfeiriad cywir. o Esboniwyd bod gan y Cyngor reoliadau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL Ystyried
y materion canlynol a godwyd gan aelodau’r
pwyllgor ymgynghorol: ·
Y
cynllun rheoli ar gyfer symud
tywod o lithrfa’r harbwr ·
Diweddariad ar gyflwr pen y llithrfa Cofnod: Y cynllun rheoli ar gyfer symud tywod o
lithrfa’r harbwr ·
Mynegwyd
pryder am y tywod sy’n ymgasglu ar lithrfa’r harbwr a nodwyd bod rhai trigolion
yn bryderus y gallai hyn arwain at godiad yn lefel y dŵr fel y byddai’n
mynd mewn i eiddo. Nodwyd y dylid ystyried dulliau o symud y tywod cyn i’r
broblem waethygu ac arwain at broblemau yn y pentref. ·
O ran y cynllun rheoli, eglurwyd y byddai
angen iddo fod yn gost effeithiol fel y gellir ei wneud yn rheolaidd. Nodwyd
bod angen bod yn wyliadwrus hefyd nad yw’r tywod sy’n cael ei olchi ffwrdd yn
ymgasglu ymhellach i lawr y sianel a chreu banciau tywod. ·
Diolchwyd
am waith aelodau’r Clwb Hwylio oedd wedi bod yn treialu defnyddio pwmp er mwyn
cael gwared â’r tywod. Nodwyd bod hyn i weld yn gweithio o’r lluniau. ·
Nodwyd y byddai’n fuddiol cael cydweithrediad
rhwng y Gwasanaeth a’r rhanddeiliaid ar y mater ac y byddai cyfarfod yn cael ei
drefnu er mwyn trafod y manteision a’r pryderon sy’n gysylltiedig â’r mater. ·
Eglurwyd efallai y byddai angen trafodaeth
ehangach gyda swyddogion yr Adran Priffyrdd er mwyn gweld beth yw’r datrysiad
hirdymor. Diweddariad ar gyflwr
pen y lithrfa ·
Codwyd pryderon am y step a’r tywod sydd wedi
ymgasglu ar waelod y llithrfa a nodwyd bod y bad achub yn cael trafferthion
lansio ar lanw isel ac y gallai hyn arwain at oedi yn eu hamser ymateb a
difrodi’r cwch. ·
Eglurwyd bod nifer o opsiynau wedi’u trafod i
roi strwythur i waelod y llithrfa er mwyn hwyluso lansio’r bad achub a bod y
Cyngor wedi trefnu i arbenigwyr ddod i roi ei farn ar y ffordd orau ymlaen.
Nodwyd bod y Cyngor yn gobeithio derbyn adroddiad ganddo yn yr wythnosau nesaf
er mwyn gweld yr opsiynau posib. Y Llwybr Cyhoeddus ·
Mynegwyd pryder am effaith erydiad arfordirol
ar y llwybr cyhoeddus sy’n rhedeg o’r fynwent, ar draws y clwb golff i’r traeth
a nodwyd nad oes posib defnyddio’r steps oedd wedi’u
gosod ychydig flynyddoedd yn ôl bellach. Nodwyd bod angen gweithredu cyn i’r
mor erydu’r tir ymhellach. ·
Cynigwyd y gallai rhai o aelodau’r Pwyllgor
drefnu cyfarfod gyda’r swyddogion er mwyn mynd i weld y sefyllfa a cheisio dod
o hyd i ddatrysiad. |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar 12fed o Fawrth 2024. Cofnod: Cadarnhawyd bod y cyfarfod nesaf ar y 12fed o Fawrth 2024. |