Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Ffion Elain Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2023/24.

Penderfyniad:

Etholwyd y Cynghorydd Robert Dewi Owen fel Cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar gyfer y flwyddyn 2023/24.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Dewi Owen yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2023/24.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2023/24.

Penderfyniad:

Etholwyd y Cynghorydd John Pughe fel Is-gadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar gyfer y flwyddyn 2023/24.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd John Pughe yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2023/24.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Gwilym Jones (Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog) a Guy Shaw (Clwb Rhwyfo Aberdyfi).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 251 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar y 21ain o Fawrth 2023, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r cyfarfod hwn, a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2023, fel rhai cywir.

 

 

7.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 203 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod, a gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a gofyn cwestiynau.

 

Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben Mawrth 2024.

 

Angorfeydd a Chofrestru Cychod

 

·        Esboniwyd bod 73 o gychod wedi bod ar angorfeydd blynyddol yn harbwr Aberdyfi yn 2023 a bod hyn yn gynnydd o un cwch o’i gymharu â’r nifer yn 2022. Gobeithir y bydd y cynnydd yma’n parhau yn 2024 ond bod y sefyllfa economaidd gyffredinol ac yn benodol, yr argyfwng costau byw presennol, yn parhau i fod yn ffactor wrth geisio denu cwsmeriaid i’r harbwr.

·        Nodwyd bod y mwyafrif o aelodau’r cyhoedd sy’n dymuno lansio cychod pŵer i ddyfroedd arfordir Gwynedd bellach yn cofrestru eu cychod pŵer ar lein drwy wefan Cyngor Gwynedd a bod 1269 o gychod pŵer a 1240 o fadau dŵr personol wedi’u cofrestru yng Ngwynedd y tymor hwn.

 

Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd

 

·        Eglurwyd bod y Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd (PMSC) yn amlinellu’r safon genedlaethol ar gyfer pob agwedd o ddiogelwch morol porthladdoedd ac mai ei nod yw gwella diogelwch i bawb sy’n defnyddio neu’n gweithio yn amgylchedd morol porthladdoedd.

·        Nodwyd bod y Gwasanaeth yn adolygu’r Cod yn rheolaidd ar gyfer yr harbyrau sydd o dan ei awdurdodaeth er mwyn sicrhau bod cydymffurfiaeth lawn gyda gofynion presennol y Cod.

·        Atgoffwyd ei bod hi’n hanfodol, fel rhan o’r broses adolygu, bod y Gwasanaeth yn derbyn sylwadau a barn Aelodau’r Pwyllgor Ymgynghorol am ba mor addas yw’r Cod Diogelwch Morol.

 

·        Cyfeiriwyd at ddigwyddiad ar yr aber ym mis Mawrth oedd yn ymwneud â thri bad dŵr personol a chwch pŵer. Cadarnhawyd bod y Gwasanaeth yn cydweithio gyda'r heddlu ar yr ymchwiliad i amgylchiadau’r digwyddiad a bod hyn mewn perthynas â throseddau posib a ddatgelwyd o dan ddeddfwriaeth a ddaeth i rym yn ddiweddar, y Merchant Shipping (Watercraft) Order 2023.

·        Mynegwyd pryder am unigolion sy’n mynd allan ar y dŵr heb dystysgrif na hyfforddiant priodol. Holwyd a oes modd i’r harbwr feistr ofyn i weld tystiolaeth o dystysgrif pobl cyn gadael iddynt fynd ar y dŵr?

o   Mewn ymateb, eglurwyd nad oes gan yr Harbwrfeistr unrhyw bŵer statudol i orfodi pobl i ddangos eu tystysgrif na’u dogfennau yswiriant.

o   Nodwyd bod nifer o bobl yn mynychu hyfforddiant a bod y swyddogion yn swyddfa’r Harbwr yn rhagweithiol wrth annog pobl i fynd ar gyrsiau hyfforddi a bod cynnydd wedi’i weld yn y nifer o bobl sy’n mynd ar gyrsiau hyfforddi.

·        Mewn ymateb i gwestiwn a oedd yn holi a oedd modd cael y pwerau statudol angenrheidiol i allu gorfodi gweld tystysgrifau, eglurwyd bod y pwerau ar gyfer hyn wedi’u lleoli yn San Steffan.

o   Serch hyn, eglurwyd bod rheoliadau newydd wedi’u cyflwyno a bod ‘jet ski’ bellach yn disgyn o dan y diffiniad o ‘fad’ neu ‘gwch’. Nodwyd bod hyn yn gam i’r cyfeiriad cywir.

o   Esboniwyd bod gan y Cyngor reoliadau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL

Ystyried y materion canlynol a godwyd gan aelodau’r pwyllgor ymgynghorol:

 

·        Y cynllun rheoli ar gyfer symud tywod o lithrfa’r harbwr

·        Diweddariad ar gyflwr pen y llithrfa

 

Cofnod:

Y cynllun rheoli ar gyfer symud tywod o lithrfa’r harbwr

 

·        Mynegwyd pryder am y tywod sy’n ymgasglu ar lithrfa’r harbwr a nodwyd bod rhai trigolion yn bryderus y gallai hyn arwain at godiad yn lefel y dŵr fel y byddai’n mynd mewn i eiddo. Nodwyd y dylid ystyried dulliau o symud y tywod cyn i’r broblem waethygu ac arwain at broblemau yn y pentref.

·        O ran y cynllun rheoli, eglurwyd y byddai angen iddo fod yn gost effeithiol fel y gellir ei wneud yn rheolaidd. Nodwyd bod angen bod yn wyliadwrus hefyd nad yw’r tywod sy’n cael ei olchi ffwrdd yn ymgasglu ymhellach i lawr y sianel a chreu banciau tywod.

·        Diolchwyd am waith aelodau’r Clwb Hwylio oedd wedi bod yn treialu defnyddio pwmp er mwyn cael gwared â’r tywod. Nodwyd bod hyn i weld yn gweithio o’r lluniau.

·        Nodwyd y byddai’n fuddiol cael cydweithrediad rhwng y Gwasanaeth a’r rhanddeiliaid ar y mater ac y byddai cyfarfod yn cael ei drefnu er mwyn trafod y manteision a’r pryderon sy’n gysylltiedig â’r mater.

·        Eglurwyd efallai y byddai angen trafodaeth ehangach gyda swyddogion yr Adran Priffyrdd er mwyn gweld beth yw’r datrysiad hirdymor.

 

 

Diweddariad ar gyflwr pen y lithrfa

 

·        Codwyd pryderon am y step a’r tywod sydd wedi ymgasglu ar waelod y llithrfa a nodwyd bod y bad achub yn cael trafferthion lansio ar lanw isel ac y gallai hyn arwain at oedi yn eu hamser ymateb a difrodi’r cwch.

·        Eglurwyd bod nifer o opsiynau wedi’u trafod i roi strwythur i waelod y llithrfa er mwyn hwyluso lansio’r bad achub a bod y Cyngor wedi trefnu i arbenigwyr ddod i roi ei farn ar y ffordd orau ymlaen. Nodwyd bod y Cyngor yn gobeithio derbyn adroddiad ganddo yn yr wythnosau nesaf er mwyn gweld yr opsiynau posib.

 

 

Y Llwybr Cyhoeddus

 

·        Mynegwyd pryder am effaith erydiad arfordirol ar y llwybr cyhoeddus sy’n rhedeg o’r fynwent, ar draws y clwb golff i’r traeth a nodwyd nad oes posib defnyddio’r steps oedd wedi’u gosod ychydig flynyddoedd yn ôl bellach. Nodwyd bod angen gweithredu cyn i’r mor erydu’r tir ymhellach.

·        Cynigwyd y gallai rhai o aelodau’r Pwyllgor drefnu cyfarfod gyda’r swyddogion er mwyn mynd i weld y sefyllfa a cheisio dod o hyd i ddatrysiad.

 

9.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar 12fed o Fawrth 2024.

 

Cofnod:

Cadarnhawyd bod y cyfarfod nesaf ar y 12fed o Fawrth 2024.