Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Virtual Meeting

Cyswllt: Jasmine Jones  01286 679667

Eitemau
Rhif eitem

1.

CROESO

2.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2026 / 2027.

Cofnod:

Bu i’r Cyng. Gwynfor Owen gael ei ethol yn Gadeirydd ar gyfer 2026/27.

 

3.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2026 / 2027.

Cofnod:

Bu i Gwion Owens (Pennaeth Ffederasiwn Cefn Coch a Thalsarnau) gael ei ethol yn Is-gadeirydd ar gyfer 2026/27.

 

4.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:

 

·       Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr)

·       Cynghorydd Dewi Jones (Aelod Cabinet Addysg)

·       Cynghorydd Ioan Thomas (Ysgol y Gelli a Ysgol Syr Hugh Owen)

·       Mrs Donna Roberts (Ysgol Hafod Lon)

·       Mr Eifion Roberts (Ysgol Godre’r Berwyn)

·       Ms Rhian Parry Jones (Ysgol Dyffryn Nantlle)

·       Ms Jano Owen (Ysgol Bro Idris)

·       Ms Nia Puw (Ysgol Llanrug)

·       Mr Dylan Jones (Ysgol Brynrefail)

·       Mr Aled Williams (Ysgol Ardudwy)

 

5.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 150 KB

I gadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 17/02/25.

 

(Copi wedi'i atodi)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Fforwm a gynhaliwyd ar 17/02/26 fel rhai cywir.

 

7.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

I drafod unrhyw faterion sy’n codi o’r cofnodion nad ydynt yn ymddangos ar

y Rhaglen.

Cofnod:

None to note.

 

8.

BALANSAU YSGOLION 31/03/2026

I’w gyflwyno gan Kathy Wyn Bell (Cyfrifydd Grŵp – Ysgolion).

 

Adroddiad i ddilyn

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad llafar gan y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion. Tywyswyd yr aelodau drwy dablau balansau ysgolion o Fawrth 2017 i Fawrth 2026, gan dynnu sylw’n benodol at:-

·       Bod cynnydd sylweddol ym malansau ysgolion yn ystod 2021/22, yn ystod cyfnod COVID, o ganlyniad i’r arian ychwanegol a ddychwelwyd a’r cyfnodau y bu ysgolion ar gau am gyfnod, gan arwain at leihad sylweddol mewn costau.

·       Bod lleihad ym malansau 2023/2024, gan gyfeirio at grant hwyr yn 2024 a ddangoswyd ym malans 2025.

·       Bod, o’r 94 ysgol yn y sir, 7 ysgol gynradd a 3 ysgol uwchradd mewn diffyg.

·       Bod lleihad sylweddol o 2025 i 2026 yn y sector uwchradd o ran cyllid.

·       Bod ysgolion yn y broses o osod cyllidebau ac y bydd hyn yn amlygu tebygolrwydd lefel y balansau erbyn diwedd Mawrth 2027.

·       Bod disgwyl i lefel y balansau leihau gan fod amryw o ysgolion yn cwtogi staff ar gyfer Medi o ganlyniad i gytundebau dros dro nad ydynt yn cael eu hymestyn.

·       Bod lefel y balansau yn agosáu at y lefel o 5%, sef canran sy’n cael ei gweld fel lefel resymol i ysgolion ei chael.

·       Amlygwyd bod balansau ysgolion yn genedlaethol wedi disgyn o £64.9m yn 2025 i £11.3m yn 2026 ac, allan o 1,444 o ysgolion yn genedlaethol, roedd 497 ysgol mewn diffyg yn ystod 2026.

·       Bod y sir yn wynebu lleihad yn nifer y disgyblion yn y dyfodol, a fydd yn arwain at fwy o ddefnydd o falansau hyd nes bod ysgolion yn pwyso a mesur pa mor hir y gallant gynnal y lefelau presennol wrth symud ymlaen.

·       Bod holiaduron balansau wedi eu hanfon allan at ysgolion, gyda disgwyliad i unrhyw ysgol sydd â mwy na 5% o falansau adrodd i’r awdurdod ar ei bwriadau a pha ddefnydd y mae’n ei wneud o’r arian.

·       Bod gan yr awdurdod hawl, mewn achosion penodol, i gyfarwyddo ysgolion sut i ddefnyddio eu balansau a thynnu arian yn ôl os nad yw’n hapus â sut mae’r arian yn cael ei ddefnyddio. Cadarnhawyd, ers i’r hawliau hyn ddod i rym, nad yw’r pŵer erioed wedi gorfod cael ei ddefnyddio o fewn y sir.

·       Bod bwriad i’r Adrannau Cyllid ac Addysg weithio ar y cyd ag ysgolion i sicrhau’r defnydd gorau posibl o’r arian sydd ar gael.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

Cwestiynwyd a oedd un ysgol mewn dyled yn bwydo i mewn i’r ffigurau ac yn gwneud i gyfanswm y balansau edrych yn llai. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod y ffigurau’n adrodd ar y sefyllfa net ac felly bod ysgolion mewn dyled yn cael effaith ar y ffigurau net hyn.

Mynegwyd pryder ynghylch y duedd a’r newid yn nemograffeg y sir a phwysleisiwyd yr angen i ysgolion ymateb i’r patrwm hwn wrth symud ymlaen ac wrth gynllunio’r gweithlu. Mewn ymateb, nodwyd mai hon oedd y drydedd flwyddyn lle gwelwyd nifer y genedigaethau yng Ngwynedd o dan fil, ac felly bod y patrwm yn glir ac yn codi pryder.

Tanlinellwyd, er bod y cyllid wedi lleihau ers COVID,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

FFORMIWLA CYLLIDO YSGOLION UWCHRADD

I’w gyflwyno gan Gwern ap Rhisiart (Pennaeth Addysg).

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad llafar gan y Pennaeth Addysg. Nodwyd bod sawl pennaeth wedi mynegi’r farn bod angen adolygu dyraniad y sector uwchradd a bod angen mwy o eglurder ynghylch y fformiwla ei hun. Mynegwyd diddordeb mewn deall a oedd ysgolion y sir yn gwneud y defnydd gorau o’r cyllid yr oeddent yn ei gael, a oedd y rheolau cyllido yn gadarn o ran ein hysgolion, a sut yr oedd y cyrff llywodraethu yn cael mewnbwn i’r trefniadau. I’r diben hwn, cadarnhawyd bod Eifion Jones wedi ei gomisiynu i wneud darn o waith penodol o fewn y sector uwchradd. Nodwyd bod Eifion Jones wedi ymweld â phob ysgol uwchradd o fewn y sir, siarad â phob pennaeth a chynrychiolaeth o’r tîm busnes, gan edrych ar drefniadau’r ysgolion ac, y tu hwnt i’r ysgolion, gwneud gwaith yn edrych ar y fformiwla gyllido ei hun er mwyn dod i gasgliad ynghylch a oedd yn adlewyrchiad teg o’r hinsawdd bresennol a sefyllfa niferoedd presennol y plant mewn ysgolion.

Cadarnhawyd, o’r argraffiadau cychwynnol o’r gwaith, bod gwaith i’w wneud i fireinio’r fformiwla a bod angen edrych ar agweddau penodol mewn mwy o fanylder, er enghraifft ysgolion â mwy na 900 o ddisgyblion ac elfennau carfannau iaith. Awgrymwyd ei bod yn briodol i’r Fforwm ofyn i Eifion Jones ddod i roi adroddiad ar ei ganfyddiadau yn y cyfarfod nesaf. Gobeithiwyd y byddai’r Adran mewn sefyllfa i adrodd a’r hyn y bwriedid ei wneud wrth symud ymlaen o ganlyniad i argymhellion adroddiad Eifion Jones. Cadarnhawyd y byddai Eifion Jones yn adrodd yn ôl i’r Adran cyn diwedd tymor yr haf, gyda’r bwriad, yn dilyn hyn, o gyfarfod â phob pennaeth uwchradd i sicrhau bod eglurder ynghylch y gwaith yn cael ei raeadru iddynt ac i’r cyrff llywodraethu maes o law.

Mynegwyd bwriad i greu system addysg o fewn Gwynedd sy’n sicrhau cyfundrefn deg i bawb, a nodwyd mai dyma’r bwriad y tu ôl i’r fformiwla, er mwyn sicrhau ei bod yn deg i bob ysgol, waeth beth fo’i maint. Mynegwyd bwriad i ymladd dros arian ychwanegol i sicrhau nad oedd neb yn colli o ganlyniad i’r newidiadau yn y fformiwla ac i sicrhau bod unrhyw fath o annhegwch o fewn y fformiwla yn cael ei unioni.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

Mynegwyd pryder y byddai unrhyw newidiadau yn y fformiwla yn arwain at rai ysgolion yn colli arian, yn enwedig yn y sector cynradd. Mewn ymateb, nodwyd bod y gwaith yn edrych yn benodol ar y sector uwchradd ar hyn o bryd, gyda’r posibilrwydd o ehangu’r gwaith i’r cynradd yn y dyfodol. Cadarnhawyd nad oedd bwriad i dynnu arian o’r sector cynradd i ariannu’r uwchradd fel rhan o’r gwaith. Mynegwyd gobaith y byddai posibilrwydd o ddenu mwy o fuddsoddiad i’r sector uwchradd er mwyn osgoi bod unrhyw ysgol yn colli o ganlyniad i’r gwaith hwn.

Cwestiynwyd ai’r ysgolion llai sy’n creu’r problemau o fewn y fformiwla gyllido. Mewn ymateb, nodwyd bod hyn yn wir i ryw raddau ond ei fod yn esboniad rhy  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

CYTUNDEBAU LEFEL GWASANAETH

I’w gyflwyno gan Debbie Anne Jones (Pennaeth Cynorthwyol – Gwasanaethau Addysg).

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad llafar gan y Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Addysg. Nodwyd, ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, fod nifer o gytundebau lefel gwasanaeth tair blynedd yn dod i ben ac felly maent wedi eu diweddaru a’u cylchredeg i ysgolion, yn cynnwys gwasanaeth clerigol, adnoddau dynol, cynnal tiroedd, archifau ac amgueddfeydd, rheoli banc a’r gwasanaeth cyflogau a chontractau.

Cadarnhawyd bod yr Adran yn parhau i weithio ar rai cytundebau gwasanaeth gyda’r Adran Eiddo, Cyllid, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu. Ynglŷn â’r sector uwchradd, nodwyd bod nifer o drafodaethau wedi mynd rhagddynt ynglŷn ag eiddo, gyda gobaith o apwyntio swyddog cleient eiddo ar gyfer y sector uwchradd a fydd yn hwyluso’r broses. Nodwyd bod sawl cytundeb yn parhau nad oes angen ei ddiweddaru, megis y Ganolfan Busnes Addysg, sydd â chytundeb gwasanaeth pum mlynedd. Nodwyd y bydd cytundebau gwasanaeth arlwyo a glanhau yn debygol o gael eu diweddaru yn y cyfnod presennol, pan fydd adnoddau’n caniatáu.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

Nodwyd ymwybyddiaeth o amryw ysgolion wedi mynd i drafferthion yn y gorffennol wrth optio allan o gytundebau lefel gwasanaeth. Cwestiynwyd a oedd y rhan fwyaf o ysgolion y sir yn derbyn y cytundebau lefel gwasanaeth. Mewn ymateb, nodwyd bod y rhan fwyaf o’r ysgolion yn prynu i mewn i’r cytundebau lefel gwasanaeth yn gyffredinol, gyda’r amrywiaeth fwyaf amlwg yn bodoli o fewn cynnal tiroedd.

Nodwyd bod 80% o gyllideb addysg yn mynd i ysgolion, gyda 20% yn mynd i wasanaethau canolog, gyda’r cytundebau lefel gwasanaeth yn cael eu talu amdanynt o gyllidebau ysgolion. Cwestiynwyd a oedd gwaith yn cael ei wneud ar y cytundebau lefel gwasanaeth i sicrhau eu bod yn rhoi gwerth am arian ac yn lleihau gwaith ar gyfer ysgolion. Mewn ymateb, nodwyd bod y cytundebau a’u costau yn cael eu hadolygu pan fydd y cytundebau’n dod i ben ac angen eu hadnewyddu, a bod unrhyw arbedion posibl a newidiadau i sicrhau effeithlonrwydd yn cael eu gwneud pan fo hynny’n bosibl.

 

11.

EITEMAU RHAGLEN WAITH

Cofnod:

Tywyswyd yr aelodau drwy’r rhaglen waith ar gyfer y Fforwm Cyllideb Ysgolion ar gyfer cyfnod 2026/27 gan y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion, gan nodi’r eitemau canlynol ar gyfer y cyfarfodydd i ddod:

Tymor y Gwanwyn: Strategaeth Ariannol / Cyllideb, Fformiwla Cyllido, Cynllun Ariannu Ysgolion, Cytundebau Lefel Gwasanaeth, Unrhyw fater cyllidol arall sy’n effeithio ar ysgolion.

Tymor yr Haf: Ethol Cadeirydd / Is-Gadeirydd, Cyfrifon Terfynol / Balansau Ysgolion, Grantiau Ysgolion, Fformiwla Cyllido, Cynllun Ariannu Ysgolion, Cytundebau Lefel Gwasanaeth, Unrhyw fater cyllidol arall sy’n effeithio ar ysgolion.

Tymor yr Hydref: Rhagolygon Cyllidol 3 blynedd, Fformiwla Cyllido, Cynllun Ariannu Ysgolion, Cytundebau Lefel Gwasanaeth, Unrhyw fater cyllidol arall sy’n effeithio ar ysgolion.

Mynegwyd parodrwydd i ychwanegu eitemau i’r rhaglen waith wrth iddynt godi neu fel y dymunai Aelodau’r Fforwm.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

Croesawyd y rhaglen waith ac, yn benodol, y bwriad i gynnal cyfarfod yn y gwanwyn cyn i’r gyllideb gael ei chymeradwyo gan y Cyngor.

Pwysleisiwyd yr angen i warchod ysgolion bychain, a’i bod yn gamarweiniol nodi bod ysgolion â chwymp mewn niferoedd angen llai o arian, i’r gwrthwyneb, mae’n rhaid rhoi mwy o gyllid er mwyn sicrhau bod lefelau staffio yn cael eu cynnal. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod yr elfen hon yn cael ei chadw mewn cof a’i chyfarch drwy’r broses warchodaeth ac wrth redeg y rhagolygon cyllid. Mynegwyd pryder ynghylch y cwymp yn nifer y disgyblion, yn enwedig yn y sector uwchradd, gan gytuno bod ymatebion cyllidol yn llawer mwy cymhleth na chwtogi cyllideb wrth i niferoedd ostwng, gan fod angen sicrhau maint dosbarthiadau hyfyw o fewn ysgolion.

Pwysleisiwyd yr angen i edrych ar sefyllfa pob ysgol yn unigol fel bod Cynghorwyr yn gwybod faint o doriadau y mae ysgolion yn gorfod eu gwneud, gan nodi’r farn nad oedd Cynghorwyr ar hyn o bryd yn ymwybodol o ba mor dynn oedd cyllidebau ysgolion unigol. Mewn ymateb, cytunwyd bod rhagweld sefyllfaoedd ysgolion unigol yn bwysig, gan nodi bod sefyllfa pob ysgol yn unigryw.

Nodwyd bod Estyn a Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau adroddiadau’n ddiweddar ynghylch cyllidebau ysgolion, sy’n cynnwys negeseuon o ran arfer da ac argymhellion. Awgrymwyd bod y Fforwm yn ystyried yr adroddiadau hyn mewn cyfarfod i ddod. Mewn ymateb, cytunwyd i drefnu hyn ar gyfer cyfarfod yn ystod y cyfnod.

 

12.

UNRHYW FATER ARALL

Cofnod:

Codwyd mater lleol ynglŷn â chais grant yn nalgylch Ysgol Syr Hugh Owen. Cwestiynwyd pam nad oedd y cais wedi ei ariannu’n llawn er bod tanwariant o fewn yr Adran Addysg. Mewn ymateb, mynegwyd parodrwydd i ddod ag adroddiad gerbron y Fforwm i esbonio sut mae’r strwythur yn cael ei ariannu yn ei gyfanrwydd. Nodwyd bod y tanwariant y cyfeiriwyd ato yn deillio o swyddi gweigion. Nodwyd bod yr arian tanwariant hwn wedi ei gynnig fel arian grant i hyrwyddo cydweithio, sef un flaenoriaeth ar gyfer gwella ysgolion gan Lywodraeth Cymru. Cadarnhawyd bod sawl cais am yr arian wedi ei gyflwyno, ac felly nad oedd modd darparu’r holl arian y gofynnwyd amdano ym mhob cais grant.

Mynegwyd sylw bod dwy ysgol wedi codi’r pwynt bod y cyllidebau wedi eu derbyn yn hwyr iawn eleni, ac er tegwch gofynnwyd am y wybodaeth yn gynharach er mwyn caniatáu iddynt baratoi’n briodol, gan fod angen i unrhyw athro a oedd i gael ei ddiswyddo wybod erbyn 31 Awst. Mewn ymateb, nodwyd bod y dyraniad yn cael ei rannu cyn diwedd mis Mawrth bob blwyddyn. Nodwyd bod llawer o’r gwaith paratoi yn cael ei wneud ar sail y rhagolygon sy’n cael eu creu yn ystod tymor yr Hydref, ac yn ystod y misoedd sy’n arwain at y Cyngor yn gosod y gyllideb yn derfynol. Cadarnhawyd bod cyllidebau drafft yn cael eu rhedeg drwodd yn gynharach gydag ysgolion a adnabuwyd fel rhai sy’n wynebu heriau, gyda’r broses gormodedd yn dechrau’n ffurfiol ym mis Ionawr.

Gofynnwyd am ddiweddariad ynglŷn â’r £550,000 sydd wedi cyrraedd y Llywodraeth ar gyfer ‘ALN Consequentials’. Mewn ymateb, nodwyd mai’r ddealltwriaeth oedd nad oedd dim o’r arian hwn yn mynd i gyrraedd Addysg, gyda blaenoriaethau eraill wedi eu hadnabod ar gyfer yr arian hwn, megis iechyd. Nodwyd bod trafodaethau pellach i’w cael ynglŷn â’r arian ac efallai y byddai peth o’r arian yn rhan o’r penderfyniadau ynghylch y gyllideb. Cadarnhawyd bod lobïo yn parhau ynglŷn â’r arian hwn.