Lleoliad: Y Ganolfan, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9LU. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301
Nodyn: glyndaobrien@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
oddi wrth Y Cynghorwyr Dylan Bullard, Anne Lloyd Jones, Gethin
Williams, Owain Williams (Cyngor Gwynedd), Mr Tudur Williams (Pennaeth Ysgol Ardudwy),
Yr Heddwas Rob Newman (Heddlu Trafnidiaeth Prydain), Liz Saville Roberts (AS Dwyfor/Meirionnydd),
Yr Arglwydd Dafydd Elis
Thomas (Aelod Cynulliad Dwyfor/Meirionnydd), Cyng. Delwyn Evans (Grŵp Mynediad Meirionnydd), Mr Alun Wyn Evans (Cynrychiolydd Meirionnydd Unllais
Cymru), Ann Elias (GMW) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod
oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS I ystyried unrhyw fater sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Nid oedd y Cadeirydd wedi derbyn unrhyw faterion brys. |
|
I gadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2017. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Cyflwynwyd: Cofnodion cyfarfod
y gynhadledd a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2017. Penderfynwyd: Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion.
|
|
ADRODDIAD GAN NETWORK RAIL I dderbyn adroddiad gan Mr Samuel Hadley, Network Rail. Cofnod: Croesawyd Mr Sam
Hadley, Rheolwr Materion Cyhoeddus Llwybrau Cymru, i'r cyfarfod ac fe adroddodd
ar y materion isod: (a)
Tywydd eithafol - tynnwyd sylw at y cyfnod adfer arbennig
o sydyn wedi'r tywydd garw a gafwyd ar draws Cymru'r wythnos ddiwethaf, ac ar
ben hyn bu'n rhaid tynnu'r fflyd 175/1758 i ffwrdd dros dro oherwydd niwed i
olwynion. Roedd timau Network Rail a
Threnau Arriva Cymru wedi gweithio'n arwrol o Fôn i Fynwy yn mynd i'r afael
gydag ystod o effeithiau’r tywydd - o luwchfeydd 8 troedfedd o uchder i bibonwy
enfawr ar dwnnel Ffestiniog a phwyntiau a signalau wedi rhewi ar draws y
rhwydwaith. Rhoddwyd teyrnged
arbennig i'r timau trac ac i ffwrdd o'r trac, oedd yn gweithio o Ddepo
Machynlleth. Roeddent wedi gweithio yn
ddiflino ar ddydd Iau / dydd Gwener ac yna wedyn dros y penwythnos yn
archwilio'r pwyntiau, yn profi'r llwybr ac yn helpu i glirio'r llwybr mynediad
i Orsaf Machynlleth ac mewn mannau eraill. Nodwyd ymhellach
fod 25 o goed wedi cwympo ar y llwybr rhwng Cyffordd Dyfi a Phwllheli yn
unig. Derbyniodd Network Rail ymateb
ardderchog gan y cyhoedd yn ystod y tywydd garw. Talodd swyddogion
ac aelodau'r Gynhadledd deyrnged arbennig gan ddiolch i staff rheng-flaen am eu
hymdrechion anhygoel a'u gwaith caled dan amgylchiadau anodd iawn. (b)
Cynllun Busnes Strategol
Tynnwyd sylw’r aelodau at y ffaith fod
Network Rail wedi cyhoeddi ei gynllun busnes strategol cyntaf ar gyfer llwybr
datganoledig Cymru a'r Gororau mis diwethaf. Roedd hon yn ddogfen allweddol o
ran ariannu ar gyfer y cyfnod contract nesaf.
Roedd yn canolbwyntio yn gyfan gwbl ar weithrediadau, cynnal a chadw ac
adnewyddu - y rheilffordd 'sefydlog' gan y bydd gwelliannau yn awr yn cael eu
hystyried ar wahân. O ran diddordeb
lleol, nid oedd y cynllun yn cynnwys ailwampio £20m+ i Draphont Abermaw, fel
rhan o'r cyfanswm ariannu o £1.3b.
Dyma'r tro cyntaf y bydd Llwybr datganoledig Cymru yn derbyn ei setliad
ariannol ei hun wedi'i reoleiddio a chred Network Rail ei fod wedi datblygu
cynllun cryf. Yn ddiweddar, cwblhawyd
yr olaf o'r cyfarfodydd ffurfiol gyda'r rheoleiddiwr, Swyddfa Rheilffyrdd a
Ffyrdd, a hyderir y bydd setliad llawn y bid a gyflwynwyd yn cael ei dderbyn
fel rhan o'r cynllun. Roedd hefyd wedi
bod yn bwysig cael cefnogaeth gref Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru oedd
â rhan agos yn natblygiad y cynllun uchod.
Trwy sefyll gyda'r gweithwyr allweddol a'r rhanddeiliaid cred Network
Rail fod ganddynt setliad ardderchog i Gymru a'r Gororau. Anfonwyd copi o’r
crynodeb at y Swyddog Cefnogi Aelodau a bydd hithau yn ei thro yn anfon copi
ymlaen at aelodau'r Pwyllgor. (c)
Diweddariad ar
brosiectau lleol allweddol ·
Roedd gorsaf Penhelyg
wedi bod ar gau am nifer o fisoedd i alluogi Network Rail i ail-adeiladu'r holl
blatfform. Nodwyd fod y gwaith yn mynd
rhagddo'n dda iawn ac yn ôl yr amserlen, fel y gallai'r orsaf ail-agor ar y 1af
o Ebrill. · Gorsaf Tywyn - Darperir cynllun i wella'r platfform gan fod rhan o'r hen blatfform pren sydd wedi breuo wedi ei gau i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ADRODDIAD GAN TRENAU ARRIVA CYMRU CYF. I dderbyn adroddiad gan Mr Ben Davies, Trenau Arriva Cymru. Cofnod: Estynnodd y Cadeirydd groeso i Mr Ben Davies, Trenau Arriva Cymru, i gyflwyno
ei adroddiad ar weithgareddau Trenau Arriva Cymru hyd yma. Dywedodd Mr Davies erbyn hyn mai dim ond dau
gwmni oedd yn ymgeisio i
redeg y gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru o 2018. O ran y mesur perfformiad
cyhoeddus, nodwyd fod Trenau Arriva Cymru yn chweched
allan o 26 yn y DU oedd yn golygu
fod trenau ar amser. Roedd trafodaethau'n mynd rhagddynt gyda bysiau Traws-Cymru er mwyn trefnu
gwell cysylltiadau gyda'r trenau. Yn ogystal, roedd Mr Davies mewn cysylltiad gyda swyddogion CADW am y cynigion dau docyn
am bris un i deithwyr oedd yn ymweld
â'r ardal. I gloi, dywedodd Mr
Davies fod y canopi ar Orsaf y Borth
wedi ei drwsio
ac wedi ei osod yn ei
le yn ystod y deuddydd diwethaf. Penderfynwyd - Derbyn
a nodi’r adroddiad a diolch i Mr Ben Davies am ei adroddiad. |
|
ADRODDIAD SWYDDOG PARTNERIAETH RHEILFFORDD Y CAMBRIAN I dderbyn adroddiad gan Swyddog Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian. Cofnod: Estynnodd y Cadeirydd groeso i Claire
Williams, Swyddog Parterniaeth Rheilffyrdd y Cambrian, i'w chyfarfod cyntaf o'r
pwyllgor hwn. Amlinellodd y gweithgareddau wnaed ers y
cyfarfod blaenorol sef: (a)
Gwella
cysylltiadau gyda chymunedau lleol a'u rheilffordd Roedd
gwaith cymunedol ac ymgysylltu yn parhau gyda Threnau Arriva Cymru a Network
Rail. Yn ddiweddar, cynhaliwyd cystadleuaeth diogelwch croesfannau rheilffordd
gydag Ysgol Maenofferen, Blaenau Ffestiniog, Ysgol y Traeth, Abermaw ac Ysgol
Tan y Castell, Harlech, fel rhan o'r bartneriaeth gyda Network Rail i newid
ffordd o feddwl pobl ifanc am bwysigrwydd croesfannau rheilffordd ac i ddangos
iddynt y peryglon o beidio eu defnyddio'n gywir. (b) Gwelliannau
parhaus a datblygiad gwasanaethau rheilffordd a seilwaith presennol Cynhelir
cyfarfodydd rhanddeiliaid allweddol bob mis i ddatblygu Bow Street, gyda
chadeirydd SARLC hefyd yn mynychu'r cyfarfodydd hyn. Yn ddiweddar, gofynnwyd i Swyddog
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian gan Lywodraeth Cymru a Network Rail i
arwain elfen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y prosiect. Byddai'r cynlluniau yn mynd allan i
ymgynghoriad cyn bo hir ac ar hyn o bryd roeddent yn gweithio gyda nifer
sylweddol o grwpiau anabledd a chydraddoldeb i sicrhau nad oes gan y cynlluniau
effaith andwyol ar ddefnyddwyr gwasanaeth.
(c) Cynhyrchu
amserlen benodol i lein leol Mae amserlen boced Rhagfyr 2017 - Mai 2018 wedi ei
chynhyrchu a'i dosbarthu i'r Canolfannau Croeso perthnasol, gorsafoedd a mannau
gwerthu perthnasol eraill. Bydd Swyddog
Rheilffyrdd Partneriaeth y Cambrian hefyd yn gweithio'n agos gyda TAC ar unrhyw
newidiadau i amserlen Mai 2018 - Rhagfyr 2018.
(d) Arolygon
Roedd Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn falch
o gael gweithio gyda Phwyllgor Cyswllt Rheilffordd Amwythig i Aberystwyth gan
gomisiynu arolwg a gynhaliwyd yng ngwanwyn 2017 fel rhan o'r grant gan
Lywodraeth Cymru. Mae'r arolygon yn
dilyn llwyddiant arolygon 2013 a 2015 a olygodd well gwasanaethau ar Leiniau'r
Cambrian. Cyflwynwyd canlyniadau'r
arolwg i Gareth Evans, Economegydd Rheilffyrdd Llywodraeth Cymru ynghyd â
swyddogion eraill LlC, gan y Pwyllgor ar Dachwedd 17eg 2017 mewn cyfarfod ym
Mharc Cathays. Wedyn fe rannwyd yr
wybodaeth yma i'r rhai fyddai'n gwneud bid am y fasnachfraint fel gwybodaeth
gefnogol ar gyfer eu bid olaf, yr oedd yn rhaid ei gyflwyno i LlC a Thrafnidiaeth
Cymru. (e) Ymgyrch
Hyrwyddo 2018/19 Roedd y SDRh hefyd wedi cytuno gyda'r bartneriaeth er mwyn gwneud y defnydd gorau o thema 'Blwyddyn y Môr 2018' Croeso Cymru, y byddai'n syniad da estyn gwahoddiad i dendro i greu a rheoli ymgyrch cyfryngau cymdeithasol Blwyddyn y Môr ynghyd â pharhau i reoli a chynnal gwefan newydd 'Cymru ar Gledrau'. Anfonwyd y gwahoddiad ym mis Rhagfyr er mwyn derbyn ymateb erbyn canol Ionawr. Dyfarnwyd y contract i Equinox Communications yng Nghaerdydd, sydd eisoes wedi dechrau gwneud newidiadau sylweddol a gwella'r wefan a'r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, gyda'r wefan newydd http://www.walesonrails.com a ddylai fynd yn 'fyw' yng nghanol mis Mawrth yn barod ar gyfer y Pasg. Cafodd yr aelodau gyfle ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CWESTIYNAU FFURFIOL PDF 223 KB I dderbyn ymateb I’r cwestiynau amgaeedig a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Roedd cwestiynau ysgrifenedig ffurfiol wedi eu cyflwyno
gan amryw o Gynghorau Cymuned a chafwyd yr atebion
isod: (a)
Cyngor Tref Cricieth
- A oes diweddariad ar gael arwyddion
i'r stesion drên yng Nghriccieth?
Roedd y Cydlynydd Trafnidiaeth Cyhoeddus wedi gwneud ymholiadau ac wedi anfon e-bost
at y Swyddog Cefnogi
Aelodau yn nodi mai Cyngor Gwynedd oedd berchen y tir, ond oherwydd
diffyg lle parcio a gan nad
oedd y ffordd yn addas i
nifer o gerbydau, nid oedd yr
Adran Draffig yn awyddus i
gyfeirio cerbydau yno. Er hynny,
byddent yn barod i ystyried
mwy o arwyddion i gerddwyr. Os oedd Cyngor y Dref
yn dymuno trafod y mater ymhellach, gellid gwneud cais
er sylw Dylan Wynn Jones, Rheolwr Traffig. (b)
Cyngor Cymuned Llanbedr - Dim ond holi pryd
bydd y gwaith o osod barrier ar draws y ffordd Crossing Talwrn Bach yn cael ei
wneud. Deallwn fod y gwaith
i fod i'w
wneud eleni yn 2018. Adroddodd Mr Sam Hadley nad oedd unrhyw
newyddion da am yr uchod. Y bwriad oedd dechrau
ar y gwaith yn 2018, ond yn
anffodus gan fod Carillion Construction wedi mynd i drafferthion
ariannol, byddai'n rhaid i Network Rail fynd drwy'r broses o ail-dendro'r gwaith ac felly rhagdybiwyd mai yn 2019 y gwneir y gwaith. Penderfynwyd: Diolch am y cwestiynau
ac am yr atebion ffafriol a gafwyd gan y swyddogion. |