Lleoliad: Y Ganolfan, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9LU. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sion Owen
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
ETHOL CADEIRYDD Cofnod: Etholwyd y Cynghorydd
Eryl Jones-Williams yn Gadeirydd ar gyfer 2019-20. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ETHOL IS-GADEIRYDD Cofnod: Etholwyd Delwyn Evans
yn Is-gadeirydd ar gyfer 2019-20. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Liz Saville Roberts (AS Dwyfor Meirionnydd), Mrs Claire Williams
(Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian), Cyng. Annwen Hughes, (Cyngor Gwynedd) Cyng. Freya Bentham (Cyngor Gwynedd) Trefor Jones (Cynrychiolydd Dwyfor Unllais Cymru), Ann Elias (GMW) Mr Stuart Williams (Rheilffordd Talyllyn) Chris Wilson |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS I ystyried
unrhyw faterion sydd yn faterion brys yn nhyb y cadeirydd. Cofnod: Nid oedd y Cadeirydd wedi derbyn unrhyw faterion brys. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
I derbyn
cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2018 Cofnod: Cyflwynwyd: Cofnodion cyfarfod y
gynhadledd a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2018.
Penderfynwyd: Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD GAN NETWORK RAIL I dderbyn
adroddiad gan Sam Hadley, Network Rail. Cofnod: Croesawyd Sam Hadley, Rheolwr Materion Cyhoeddus Llwybrau Cymru, i'r
cyfarfod ac fe adroddodd ar y materion isod: o
Fod Perfformiad ar y
rheilffyrdd heb fod yn ddigon da dros yr haf, gyda phroblem ysbeidiol wedi ei
chanfod gyda’r system signalau oedd bellach wedi ei datrys. o
Mynegodd bosibilrwydd o gynnal
ymweliad i grŵp bychan er mwyn gweld y ganolfan signalau ym Machynlleth,
neu drefnu cyflwyniad ar gyfer cyfarfod y Gynhadledd yn y dyfodol. o
‘Roedd tywydd garw hefyd
wedi bod yn broblem, gyda phroblemau
mewn ardaloedd eraill wedi cael
effaith ar wasanaethau Rheilffordd Arfordir y Cambrian. Cydnabu rwystredigaeth defnyddwyr y rheilffordd, gan nodi fod Network Rail yn monitro mannau
problemus yn ofalus, gan weithio
ar ddatrysiadau hirdymor. o
‘Fod trefniadau monitro
perfformiad bellach yn monitro yn fwy manwl gan ganolbwyntio ar amseroedd
cyrraedd gorsafoedd unigol yn hytrach na dechrau a gorffen taith. o
‘Roed y newid yma wedi arwain
at wneud newidiadau bychain yn lleol er mwyn gwella effeithlonrwydd. o
Fod model busnes newydd wedi
ei ddatblygu, gan ennill mwy o hyblygrwydd er mwyn targedu gwariant yn y mannau
oedd ei angen. o
Fod gwelliannau a wnaethpwyd
yn dilyn Hydref 2018 wedi dwyn ffrwyth, gan arwain at lai o ddifrod i olwynion
a chadw mwy o gerbydau yn weithredol. Golyga hynny yn ei dro na fyddai cerbydau
yn cael eu tynnu oddi ar Reilffordd y Cambrian a’u
dargyfeirio i liniaru prinder mewn ardaloedd eraill. o
Fod Adolygiad Williams yn
debygol o adrodd wedi’r etholiad, gyda rhagdybiaeth o newidiadau sylweddol i’r
rheilffyrdd. o
Wal y Friog - Fod swyddog o Network Rail wedi bod i gyfarfod y gymuned,
bod cynlluniau wedi eu datblygu ar
y cyd gyda’r Cyngor i wneud y gwaith.
Nad oedd
dyddiad wedi ei osod eto. o
Croesfan Talwrn Bach - ‘Roedd gwaith wedi ei
gynllunio ar gyfer blwyddyn 3 o’r cyfnod ariannu
presennol, sef 2021-22. ‘Roedd hefyd angen
cynnal cydweithio gyda thirfeddianwyr lleol. o
Pont Afon Artro - Dangoswyd lluniau o’r gwaith,
oedd wedi achosi cau'r lein
dros dro. Nododd fod nifer
uchel o bontydd pren ar Reilffordd
Arfordir y Cambrian, a bod Network Rail yn defnyddio’r gwaith cynnal a chadw er mwyn
datblygu technegau i’w defnyddio ar
Bont Abermaw. o
Ymddiheuro bod gwybodaeth wedi
ei yrru yn uniaith Saesneg i fudd-ddeiliaid yn ddiweddar, a bu iddo ymddiheuro
gan fynegi syndod ei fod wedi digwydd mewn ardal mor Gymreig. Cwestiynau a sylwadau’n
codi o’r drafodaeth: o
O ran Pont Artro, oni fyddai
wedi bod yn fuddiol i wneud gwaith ar bontydd Tŷ Gwyn a Llandanwg ar yr un
pryd? Mewn ymateb nododd Sam Hadley fod hynny’n awgrym synhwyrol, a’i fod yn tybio bod
rheswm synhwyrol dros wneud y gwaith ar y bont yma’n unig. ‘Roedd Network Rail wedi gweld wrth
wneud gwaith ar lein Dyffryn Conwy ei fod yn gost effeithiol gwneud nifer o
ddarnau o waith cynnal a chadw ar yr un pryd ar ran o’r lein. o Sut ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD GAN TRAFNIDIAETH CYMRU. I dderbyn
adroddiad gan, Lowri Joyce Trafnidiaeth Cymru Cofnod: Estynnodd y Cadeirydd groeso i Lowri Joyce,
Trafnidiaeth Cymru, i gyflwyno ei hun ac adrodd ar weithgareddau Trafnidiaeth
Cymru hyd yma ac fe adroddodd ar y materion isod: o Ei bod wedi ei phenio i Drafnidiaeth Cymru yn
Ebrill 2019, wedi blynyddoedd o weithio yn y diwydiant Niwclear. o
Fod llwybr wedi ei ailagor er mwyn galluogi trenau i
deithio o Wrecsam i Lerpwl yn uniongyrchol. o
Fod Trafnidiaeth Cymru yn edrych ar gynyddu capasiti, gan gynnwys dychwelyd trenau yn cael eu tynnu gan
injan. o
Fod cynllun ‘delay repay’ wedi dechrau oedd yn ad-dalu tocynnau os oedd trên
15 munud neu fwy yn hwyr. o
Fod bwriad i weithio’n agos gyda chymunedau er mwyn
gwella cydweithio cymunedol ac annog trigolion i helpu. o
Fod perfformiad bellach yn cael ei fesur yn wahanol, ac
yn fwy manwl. o
Fod 120 o swyddi newydd bellach, gyda chynrychiolaeth
gref o’r Gogledd fyddai’n eirioli er mwyn
gwella’r ddarpariaeth. o
Eu bod wedi dysgu o brofiad defnyddwyr gyda’r newid yn y
tocynnau teithio am ddim. Ni fyddai unrhyw deithiwr yn cael eu troi ymaith wedi
i’r tocynnau newydd ddod yn weithredol felly nid oed angen i ddeiliaid
trwyddedau bryderu. o
Fod gwaith da wedi ei wneud mewn partneriaeth gyda’r
Cyngor wrth fynd i lyfrgelloedd er mwyn cynorthwyo trigolion gyda cheisiadau am
docyn newydd. o
‘Roedd
cynllun gwerth £195 miliwn wedi ei
lansio er mwyn rhoi gwell
profiad i gwsmeriaid, gan gynnwys gosod CCTV, cysylltedd diwifr, cysgodfan a man cadw beic ym mhob
gorsaf. o
Byddai’r cynllun yn dechrau yng ngorsafoedd
Machynlleth a Chyffordd Dyfi ar Reilffordd
y Cambrian, gyda gorsaf Machynlleth hefyd yn dod yn orsaf beilot
fel gorsaf dementia cyfeillgar. o
Fod bwriad i edrych ar adeiladau segur er mwyn annog eu
defnyddio. Cwestiynau a sylwadau’n
codi o’r drafodaeth: o
Pan fo bysus yn cymryd lle trenau, fod bws rhy fach wedi
cael ei ddarparu, gan olygu fod teithwyr yn cael eu gadael ar ôl, yn enwedig
rhai gyda beiciau a chadeiriau olwyn. o
Fod darparu digon o le ar gyfer beiciau
yn bwysig gan fod galw
amlwg am y ddarpariaeth ar drenau Rheilffordd
Arfordir y Cambrian. Y gobaith
oedd y byddai’r lle angenrheidiol wedi ei ddarparu
ar y cerbydau newydd fyddai’n cael eu darparu. Mewn ymateb nododd Lowri Joyce
fod Trafnidiaeth Cymru yn ymwybodol o broblemau gyda’r bysus, a byddai ymdrech
yn cael ei wneud er mwyn lleddfu’r problemau i’r dyfodol. o
Nodwyd bod dim digon o amser
er mwyn trosglwyddo
o’r trên i fws er
mwyn parhau a thaith ar brydiau,
yn ogystal â thyllau yn y ddarpariaeth
mewn mannau eraill. Mewn ymateb nododd Lowri Joyce fod ymdrech yn cael
ei wneud er mwyn integreiddio’r
gwasanaethau cludiant yn well, a bod croeso i fudd-ddeiliaid i gysylltu â hi gyda phroblemau. o Tra bod glanhau
gorsafoedd yn cael ei groesawu, pam fod cwmni tramor wedi ei gytundebu i wneud
y gwaith? Mewn ymateb nodwyd mai cwmni ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD HEDDLU TRAFNIDIAETH BRYDEINIG I dderbyn
adroddiad gan gynrychiolydd o’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Cofnod: Estynnodd y Cadeirydd groeso i PC Andy Greaves o’r Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig. Nododd fod Rheilffordd y Cambrian yn un o’r
llwybrau mwyaf diogel ar system Trafnidiaeth Cymru. Yr unig adegau ble’r oedd problemau yn codi oedd pan fyddai trenau yn cael
eu gohirio yn ddirybudd, ond ‘roedd yn ymwybodol bod ymdrechion ar waith er
mwyn datrys problemau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU FFURFIOL PDF 741 KB I dderbyn ymateb i’r cwestiynnau sydd wedi eu
cynnwys yma a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf. Cofnod: Roedd cwestiynau
ysgrifenedig ffurfiol wedi eu cyflwyno gan amryw o Gynghorau Cymuned a chafwyd
yr atebion isod:
|