Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2022/23 Penderfyniad: Cofnod: PENDERFYNWYD ETHOL Y CYNGHORYDD ERYL JONES-WILLIAMS YN GADEIRYDD AR
GYFER 2022/23 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2022/23 Penderfyniad: To Ethol Cynghorydd Dewi Owen yn
Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2022/23 Cofnod: PENDERFYNWYD ETHOL Y
CYNGHORYDD DEWI OWEN YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2022/23 |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Louise Hughes (Cyngor Gwynedd), Cyng.
Elin Hywel (Cyngor Gwynedd), Cyng. Dafydd Meurig (Aelod Cabinet
Amgylchedd - Cyngor Gwynedd), Liz Saville
Roberts (AS Dwyfor Meirionnydd), Mabon ap Gwynfor (AS Dwyfor
Meirionnydd), Claire Williams (Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian), Stuart Williams (Rheilffordd Tal-y-llyn),
Chris Wilson (Cyngor Sir Ceredigion) a David Thorp
(Ysgol Uwchradd Tywyn) Amlygodd y Cadeirydd bod y Cynghorodd Louise Hughes wedi derbyn
triniaeth yn ddiweddar a dymunwyd gwellhad buan iddi. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant
personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o
fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
DERBYN DIWEDDARIAD GAN Y GWASANAETHAU ·
Network
Rail ·
Trafnidiaeth Cymru ·
Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig Cofnod: NETWORK RAIL Croesawyd Richard Griffiths (Pennaeth Cyfathrebu Network
Rail ar gyfer Cymru a'r Gorllewin) a Sara Crombie
(Rheolwr Cyfathrebu Network Rail)
i’r cyfarfod Diweddariad ar uwchraddio
traphont Abermaw Cyflwynwyd lluniau a ffeithiau allweddol ar waith a gwblhawyd ar y
draphont hyd yma. Nodwyd bod y gwaith wedi bod yn heriol ac yn ffisegol anodd
i’r gweithwyr oherwydd amodau gwaith yn ymwneud a’r tywydd a bod y bont hefyd
mewn cyflwr llawer gwaeth nag a ystyriwyd ar y dechrau. Adroddwyd mai’r bwriad
gwreiddiol oedd cau'r draphont am un cyfnod rhwng Medi a Rhagfyr 2022, ond i
leihau'r effaith ar wasanaethau rheilffyrdd, y gymuned a'r economi leol
penderfynwyd cau’r lein am ddau gyfnod byrrach fel bod modd ailagor y
rheilffordd ar gyfer hanner tymor yr ysgol a chyfnod y Nadolig. Caewyd y rheilffordd rhwng Machynlleth a Pwllheli am bum wythnos o nos
Sul, 11 Medi tan ddydd Sadwrn, 15 Hydref gan ailagor am bedair wythnos i gynnwys hanner tymor. Yr ail gyfnod cau oedd
o nos Sul, 13 Tachwedd gyda bwriad o ailagor dydd Sadwrn, 10 Rhagfyr ar gyfer
cyfnod y Nadolig. Ategwyd nad oedd dyddiau gweithio ar y draphont yn ystod 2023
wedi eu cadarnhau. Diweddariad ar draphont
Aberdyfi, Y Bwthyn a Leri Yn ogystal â'r gwaith yn Abermaw, adroddwyd bod gwaith atgyweirio hefyd
yn cael ei wneud i Draphontydd Dyfi, Leri a’r Bwthyn. Adroddwyd bod cyflwr
gwael i draphont Aberdyfi – angen adnewyddu’r strwythur yn llawn. Cyflwynwyd
lluniau i arddangos cyflwr y pren a’r gwaith dur. Ategwyd bod gwaith adnewyddu trac yn cael ei gwblhau yn Nhywyn, a bod Network Rail yn cymryd pob
mantais posib o wneud gwaith cynnal a chadw tra bod y rheilffordd wedi cau.
Nodwyd bod gwaith ar gyfer 2023 yn cael ei drefnu ar y cyd gyda Trafnidiaeth Cymru a’r Gwasanaeth Cludo
Nwyddau. Diolchwyd am y diweddariad. Nododd y Cadeirydd bod y Pwyllgor yn
gwerthfawrogi’r buddsoddiad. Sylwadau a materion eraill a godwyd yn ystod y drafodaeth: ·
Bod y gwaith adnewyddu traciau yn
Nhywyn yn dod yn ei flaen yn dda ·
Bod problemau gyda thrafnidiaeth
i’r ysgolion yn ystod y cyfnod cau wedi ei datrys ·
Diolch i gydweithio da rhwng
asiantaethau ar gael gosod pont newydd dros y rheilffordd yn Aberdyfi ·
Da gweld arian yn cael ei
fuddsoddi a gwaith yn cael ei gwblhau ar hyd y rheilffordd. ·
Diolch i’r swyddogion lleol am eu
gwaith o godi ymwybyddiaeth at ddiogelwch y rheilffordd Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chroesfan rheilffordd Harlech ac a
fu unrhyw ostyngiad mewn tresmasu ers yr ymgyrch a gynhaliwyd yn gynharach yn y
flwyddyn, nodwyd nad oedd asesiadau risg wedi ei wneud ar groesfannau penodol
ond bod ymgyrch codi ymwybyddiaeth wedi ei wneud gyda’r cyhoedd ac mewn
ysgolion. Nodwyd y byddai modd cyfeirio gwybodaeth am ddiogelwch Croesfan
Harlech yn uniongyrchol at y Cynghorydd Owen. TRAFNIDIAETH CYMRU Croesawyd Gail Jones, Trafnidiaeth Cymru i’r cyfarfod i gyflwyno
diweddariad ar weithgareddau Trafnidiaeth Cymru. Amlygwyd bod y gwaith o osod diffibrilwyr achub bywyd yng ngorsafoedd rheilffordd Trafnidiaeth Cymru wedi ei gwblhau a bod rhaglen ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
DYFODOL PWYLLGOR ARFORDIR Y CAMBRIAN PDF 227 KB Trafod cynnig gan Bwyllgor
Cyswllt Rheilffordd yr Amwythig ac Aberystwyth (SARLC) i
gyfuno Pwyllgorau SARLC a Chynhadledd yr Arfordir Cofnod: Derbyniwyd cynnig gan Pwyllgor Cyswllt Rheilffyrdd Amwythig Aberystwyth (SARLC) yn argymell trefniant bod Pwyllgor Rheilffordd Arfordir y Cambrian yn ymuno gyda SARLC a sefydlu un grŵp o dan ymbarél Cymdeithas Cynghorau Lleol Gogledd a Chanolbarth Cymru. Yng nghofnodion y Pwyllgor SARLC a gynhaliwyd 04/11/22, nodwyd bod y mater wedi ei drafod mewn manylder gydag adroddiad yn cynnwys y rhesymeg a’r argymhelliad yn llawn - cynigwyd yr argymhelliad gan Cyng Trevor Roberts ac eiliwyd gan Angus Eikhoff - roedd y bleidlais yn unfrydol o blaid y cynnig.
Sylwadau a materion eraill a godwyd yn ystod y
drafodaeth: ·
Gweld pwrpas dros ymuno fel modd o
osgoi colli allan ar drafodaethau ·
Derbyn parhau ar wahân ond pryder
ynglŷn a galw swyddogion i ddau gyfarfod ·
Bod Pwyllgor y Cambrian
yn trafod materion lleol – buasai hyn yn cael ei golli mewn fforwm fwy ·
Pwyllgor y Cambrian
yn gweithio yn dda - yn cyfarfod dwywaith y flwyddyn gyda Swyddogion Network Rail a Thrafnidiaeth
Cymru yn mynychu bob tro ·
Cynrychiolaeth o’r Cambrian mewn cyfarfodydd SARLC – derbyn gwybodaeth briodol ·
Nad oedd Trafnidiaeth Cymru wedi
datgan cefnogaeth i uno’r ddau bwyllgor Cynigiwyd
ac eiliwyd cadw at y trefniadau presennol gan sicrhau cyswllt agos gyda SARLC |
|
I dderbyn ymateb i gwestiynau ffurfiol a dderbyniwyd Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyngor Tref Abermaw Cwestiwn: “Bydd y trenau newydd yn lleihau capasiti a
nifer y toiledau. Dywedodd Trafnidiaeth Cymru wrthym i ddechrau y byddem yn
cael trenau 3 cherbyd a fyddai’n cynyddu capasiti.
Ymddengys erbyn hyn mai dim ond 2 gerbyd fydd ar y trenau newydd gyda chapasiti llai ar lein sydd eisoes yn brysur iawn ac yn
orlawn yn y prif dymor. A all Trafnidiaeth Cymru gadarnhau mai 3 cherbyd fydd
ar y trenau newydd?” Ateb: Bydd Trafnidiaeth Cymru yn defnyddio 3 cherbyd yn ôl yr angen. Nododd GJ
nad oedd wedi cael gwybod am unrhyw beth gwahanol, ond wedi anfon e-bost i
wirio hyn. Cwestiwn: Nid yw'r drysau mynediad o'r swyddfa docynnau a'r lle aros i'r platfform
yn agor yn awtomatig mwyach. Adroddwyd am hyn 3 blynedd yn ôl a sawl gwaith ers
hynny ac nid oes dim wedi'i wneud i'w drwsio. Mae hyn yn gwneud mynediad i'r
platfform yn anodd oherwydd yn y gaeaf nid yw'n bosibl gadael y drysau ar agor.
Mae'n gwneud i aros yn yr ardal dan do yn amhosibl - gwell gan lawer o
ddefnyddwyr hŷn y rheilffordd eistedd dan do wrth aros i'r trên gyrraedd.
Os yw'r drysau ar agor yn barhaol mae'r man aros a'r swyddfa docynnau yn mynd
yn oer iawn, ac ar ddiwrnodau gwyntog mae'r holl wybodaeth yn chwythu o gwmpas
Allwch chi roi gwybod i ni pryd fydd y drysau'n cael eu trwsio? Ateb: Cais wedi ei wneud am archwiliad cynnal a chadw i atgyweirio’r drws ond
os na ellid ei drwsio bydd rhaid cael drws newydd. A fydd biniau newydd ar y platfform (tua'r Gogledd) yn cael eu newid?
Mae'r biniau ar y platfform tua'r De yn fach ac mae'r un ger y brif fynedfa
wedi'i symud. Oes modd edrych ar fwy o finiau? Sylw wedi ei dderbyn Cyngor
Cymuned Llanbedr Cwestiwn: Deallwn bydd Gorsaf Talwrn Bach yn cael ei
uwchraddio yn y gwanwyn, be yn union fydd y gwelliannau yma.? Cais am fanylion / syniadau o’r hyn
sydd ei angen
mewn perthynas ag uwchraddio'r orsaf Cwestiwn Pryd fydd y trenau newydd ar
waith? Ateb Bydd y trenau newydd ar waith yn 2023 Cwestiwn A oes yna unrhyw adborth
am waith y gwirfoddolwyr sydd wedi mabwysiadu'r
orsaf yma yn Llanbedr? Mae sawl archwiliad wedi ei gynnal hyd
yma. Ateb: Derbyniwyd diweddariad gan Rheilffyrdd Cymunedol Bod mabwysiadwyr yr orsaf yn ymwybodol bod
cyllid ar gael i osod cyfarwyddiadau o waith celf yn yr orsaf. Ar hyn o bryd mae cyllideb i
argraffu unrhyw ddyluniad ac os gellid darparu'r gwaith celf ynghyd â manylion
y cyflenwr, gall yr anfoneb gael ei thalu. Ategwyd bod rheolwr yr orsaf wedi
cytuno i adfywio’r lloches bresennol gyda chefnogaeth ei dîm yn y gwanwyn. Bydd cynhadledd gwirfoddolwyr y Cambrian yn
cael ei gynnal ym mis Chwefror 2023 (dyddiad a lleoliad i’w cadarnhau). Cyswllt: Sian.jones@tfw.rail ar
gael i gynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau ynghylch mabwysiadu gorsaf. Cynghorydd (Tref) Trevor
Roberts Cwestiwn: Pam na chafodd amserlenni gwasanaeth y rheilffordd eu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |