Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Mabon ap Gwynfor (AS Dwyfor Meirionnydd),
Llio Hughes (Rheolwr Swyddfa Plaid Cymru – Senedd Cymru), Ann Elias (Cyngor Sir
Ceredigion), Cyng. Trevor Roberts (Rheilffordd Aberystwyth/Amwythig), Clare
Williams (Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian) a
David Thorp (Ysgol Uwchradd Tywyn) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Ni
dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd 18 Tachwedd 2022 fel rhai cywir |
|
DERBYN DIWEDDARIAD GAN Y GWASANAETHAU ·
Network
Rail ·
Trafnidiaeth Cymru ·
Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig Cofnod: NETWORK RAIL Croesawyd Ben Perkins (Rheolwr Prosiect), Gareth Yates (Rheolwr
Prosiect) a Sara Crombie (Rheolwr Cyfathrebu Network Rail) i’r cyfarfod Diweddariad ar uwchraddio
traphont Abermaw Cyflwynwyd lluniau a ffeithiau allweddol ar y gwaith ar y draphont gan
nodi bod y gwaith pren bellach wedi ei gwblhau ar gwaith dur ar ddechrau.
Nodwyd na fydd dim newid i ddyluniad y bont wreiddiol - strwythurau dur newydd
yn cael eu hadeiladu gan gwmni o Doncaster fydd yn cael eu cludo fesul darn
i Abermaw ar ddechrau’r Haf. Bydd y bont
yn cau rhwng 01-09-23 a 25-11-23 i gwblhau’r gwaith (gan fanteisio ar gwblhau
gwaith atgyweirio ychwanegol ar y rheilffordd tra wedi cau) Diweddariad ar draphont
Aberdyfi Adroddwyd, fel traphont Abermaw bod angen adnewyddu’r strwythur yn llawn
a’r gwaith yn cael ei gwblhau mewn dwy ran i osgoi aflonyddwch amgylcheddol. Bydd y bont yn cau
rhwng 01-09-23 a 31-10-23. Diolchwyd am y diweddariad a gwerthfawrogwyd y buddsoddiad yn lleol. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â galluogi mynediad at waith traphont
Aberdyfi, nodwyd bod cynllun mynediad at y safle wedi cael ei gymeradwyo. Bydd
y mynediad o ochr Ceredigion i’r aber gyda thrafodaethau eisoes wedi eu cynnal
gyda thirfeddianwyr . Mewn ymateb i sylw pellach ynglŷn ag ail gyfeirio
Llwybr yr Arfordir i fynd dros y bont yn hytrach na dros y mynyddoedd, nodwyd
nad oedd hyn yn bosib oherwydd bod y bont yn rhy gul. Mewn ymateb i siom bod y rheilffordd yn cau ar ddechrau mis Medi a hynny
yn effeithio ar ddigwyddiadau sydd wedi eu trefnu yn lleol yn ystod y cyfnod
yma, nodwyd, er yn derbyn yr effaith ar
y tymor gwyliau a digwyddiadau lleol bod rhaid sicrhau balans gyda mynediad
ecolegol a’r angen am gyfnod amser o 12 wythnos i wneud y gwaith (amodau caeth
ar draphont Dyfi oherwydd gwyddau sydd yn cael eu gwarchod). Mewn ymateb i sylw ynglŷn a darpariaeth bysiau yn ystod y cyfnod
cau, nodwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Trafnidiaeth Cymru. Unwaith
bydd trefniadau wedi eu cadarnhau bydd modd rhannu’r wybodaeth. Mewn ymateb,
nodwyd bod angen sicrhau gwasanaeth bysiau digonol ar gyfer digwyddiadau lleol
e.e., Gŵyl Gwrw Harlech Angen trefnu cyfarfod gyda’ Trafnidiaeth Cymru i drafod darpariaeth
bysiau digonol. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r amserlen, gan dderbyn bod y
gwaith yn heriol ac amodau tywydd yn cael effaith, nodwyd bod y tywydd wedi’i
raglennu i mewn i’r amserlen a bod gwaith o adeiladu’r gwaith dur yn datblygu
yn dda. Ategwyd, bydd y bont yn cael ei chludo mewn darnau ar gefn lori i safle
Morfa Madog ddiwedd Mai gydag ymarferiad o adeiladu’r bont wedi ei gynnal yn
Doncaster cyn hynny. Cadarnhawyd nad oeddynt yn edrych ar gau’r bont wedi mis
Tachwedd. Awgrymwyd cynnal ymweliad safle fel bod modd i’r Aelodau weld y
gwaith. Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn â goblygiadau cludo’r gwaith dur yn ystod tymor gwyliau, nodwyd y bydd y gwaith cludo yn golygu rhyddhau rhybudd cludiant a’r cwmni cludo yn gwneud ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
I dderbyn ymateb i gwestiynau ffurfiol a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf: ·
Cyngor
Cymuned Llangylennin ·
Cyngor
Cymuned Llanbedr ·
Cyngor
Tref Criccieth ·
R
Goodhew (Cymdeithas Teithwyr Amwythig-Aberystwyth) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyngor
Cymuned Llangelynnin Cwestiwn i Network
Rail NR): Hoffai Cyngor Cymuned Llangelynnin
ofyn y cwestiwn i NR ac unrhyw barti perthnasol arall ynghylch pryd y gall
gwaith ddechrau ar Allt Friog Hill A493 parthed y wal ffin /rhwystr damwain,
gan fod hyn wedi'i amserlennu i gychwyn yn Chwarter 1 o 2023, (rydym bron ar
ddiwedd y cyfnod erbyn hyn) Mae rheolaeth traffig wedi bod ar waith ers cryn
amser bellach a dim arwydd o unrhyw waith wedi ei wneud. Ategodd Y Cynghorydd Louise Hughes (Aelod Lleol) bod y
sefyllfa wedi bod yn destun pryder i’r ardal ers bron i 10 mlynedd ac er bod
trafodaethau ac asesiadau yn cael eu cwblhau, nid yw’r gwaith wedi dechrau. Ateb: NR yn dal yn ymrwymedig i wneud y gwaith atgyweirio i'r wal ar
Allt Friog Fodd bynnag, bod rhai datblygiadau dros yr wythnosau diwethaf wedi newid elfennau o’r gwaith roeddynt yn
bwriadu ei wneud. Daeth i’r amlwg, wrth edrych trwy hen ddogfennau, fod llythyr
yn dyddio’n ôl i 1976 yn nodi y bydd NR yn parhau i gynnal a chadw’r wal
derfyn, ond bod y rhwystr damwain ar yr A493
yn eiddo i Cyngor Gwynedd a’r Cyngor felly yn gyfrifol am ei gynnal.
Ategwyd bod Tîm Eiddo NR wedi cysylltu â
Steffan Jones, Pennaeth Priffyrdd Cyngor Gwynedd, i geisio trafod y mater. Er
na fydd hyn yn effeithio cynlluniau NR i atgyweirio’r wal, bydd yn newid sgôp y
gwaith ac felly byddent ond yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar yr asedau sydd o
fewn eu perchnogaeth. O ran y broses, nodwyd bod NR wrthi yn cwblhau dyluniadau ac yn
adolygu'r costau. Wedi sicrhau cyllid digonol i gyflawni'r prosiect bydd angen
gosod amserlen i gwblhau’r gwaith. Awgrymwyd cynnal galwad Teams neu Zoom gyda chynrychiolwyr o ardal Friog - Cyngor Cymuned
Llangelynnin, Cyngor Cymuned Arthog ac Aelodau’r wardiau priodol i drafod yn
fanylach gyda Thîm Asedau NR Nododd y Cynghorydd Dafydd Meurig
(Aelod Cabinet Amgylchedd) y buasai’n cysylltu gyda Phennaeth Priffyrdd,
Peirianneg a YGC am ddiweddariad o safbwynt y Cyngor. Nododd Y Cyng. Louise Hughes y byddai’n croesawu gwahoddiad i gyfarfod
Teams / Zoom i drafod ymhellach ac o’i dymuniad i gael ei
chynnwys mewn unrhyw ohebiaeth pellach. Roedd hefyd yn awyddus i wahodd Aelod
Cabinet Amgylchedd ac Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg a YGC am ymweliad
safle. Cyngor
Cymuned Llanbedr Cwestiwn: Hoffwn wybod os a phryd
fydd Gorsaf Drên Llanbedr yn cael ei adnewyddu.
Diolchwn fod yr orsaf wedi cael
ei phaentio yn ddiweddar. Ateb Trafnidiaeth Cymru (TC): Nid oes unrhyw ddiweddariad mewn perthynas
â gwella cyfleusterau gorsaf Llanbedr. Mae'r holl orsafoedd wedi'u cynnwys mewn
Cynllun Integredig a bod bwriad ymweld i gwblhau gwaith ail-frandio, arwyddion
a gwelliannau i asedau gorsafoedd h.y. seddi, llochesi ac ati. Fodd bynnag, nid
oes cyllid wedi’i ddyrannu ar hyn o bryd i symud ymlaen ar hyn. Mewn ymateb, nododd yr Aelod Lleol, gyda Llywodraeth Cymru wedi gwrthod
ffordd osgoi i Lanbedr, bod angen uwchraddio a gwella
cyfleusterau gorsaf Llanbedr. Cwestiwn: Rydym fel Cyngor ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |